Wednesday, July 30, 2014

Cost dynol ymgyrch yr IDF yn Gaza


Dwi wedi meddwl yn ofalus cyn cyhoeddi'r  blogiad yma - yn rhannol oherwydd y fy mod yn gwybod y byddaf yn cael fy meirniadu - er fy mod yn gyfarwydd a hynny bellach.

Mae dau reswm pwysicach.  Yn gyntaf oherwydd fy mod yn ddrwg dybus pan mae dioddefaint yn cael ei ddefnyddio i bwrpas gwleidyddol - yn arbennig felly dioddefaint plant.  Mae'n hawdd i un ochr dynnu sylw at ddioddefaint felly ar ei hochr ei hun, tra'n anwybyddu dioddefaint yr ochr arall.

Er enghraifft yn ystod rhyfel Gogledd Iwerddon byddai Gweriniaethwyr yn tynnu sylw at farwolaethau Julie Livingstone ym Melfast neu'r tri phlentyn Quinn yn Antrim, roedd marwolaeth Jonathan Ball yn Warrington neu Michelle Baird ar y Shankhill yn cael eu defnyddio gan y cyfryngau Prydeinig.  I raddau roedd y ddwy ochr yn euog o ragrith - er mai ychydig iawn o blant a laddwyd yng Ngogledd Iwerddon mewn gwirionedd - roedd y gwahanol garfannau yn ceisio osgoi lladd plant.

Mae'r sefyllfa yn wahanol yma.  Mae yna anghymuseredd llwyr o ran y lladd a natur y lladd - prin iawn, iawn ydi'r sifiliaid Israelaidd a leddir - heb son am blant.  Ar ben hynny mae byddin Israel (yr IDF) yn ymosod ar dargedau yn ddyddiol pan maent yn gwybod bod risg uchel iawn o gymryd bywydau sifiliaid.

Mae'r ail yn ymwneud a diwylliant.  Dydi hi ddim yn arferol yn ein diwylliant ni i ddangos cyrff marw - yn arbennig felly cyrff pobl sydd wedi eu lladd mewn amgylchiadau treisgar.  Y rheswm a roir am hyn gan amlaf ydi ei bod yn bwysig amddiffyn urddas y sawl a laddwyd - er fy mod yn meddwl bod pethau yn fwy cymhleth na hynny mewn gwirionedd.  Ochr arall y geiniog honno ydi mai'r hyn sy'n dwyn urddas mewn gwirionedd ydi lladd person yn gyhoeddus trwy ddefnyddio arfau rhyfel sydd wedi eu cynllunio i ddifa tanciau a chwalu adeiladau.  Mae cuddio canlyniadau hynny yn saniteiddio rhyfel a felly yn ei gwneud yn fwy derbyniol i ladd sifiliaid.  Dydi'r hyn sy'n digwydd yn Gaza ar hyn o bryd ddim yn haeddu cael ei guddio na'i saniteiddio.

Dwi'n cyhoeddi'r delweddau isod i bwrpas dangos canlyniadau gweithredoedd gwlad mae'r DU ar dermau da efo hi, a sy'n anfon  allforion gwerth £8bn o arfau yn flynyddol iddi hi.  Mae yna lawer o ddelweddau hynod o anymunol ar y We na fyddwn eisiau eu cyhoeddi - dwi wedi cadw at y rheolau canlynol - rhaid i'r cyrff fod yn gyfan, heb eu llosgi na'u rhwygo a heb arwyddion sylweddol o hylifau dynol.  











Tuesday, July 29, 2014

A thair sedd sydd o ddiddordeb i'r Blaid

Reit mi wnawn ni ddechrau efo Arfon.  Mae'n siwr y dyliwn i ddatgan diddordeb yma - dwi'n eistedd ar bwyllgorymgyrch Hywel Williams ar hyn o bryd.



Mae Arfon yn etholaeth newydd - daeth i fodolaeth (ar lefel San Steffan) yn 2010 ac fe'i henillwyd mewn gornest eithaf agos gan Blaid Cymru.  Petai'r etholaeth wedi bodol cyn hynny mae'n debyg y byddai Llafur wedi ennill yn 2005, 2001 ac o bosibl yn 1997.  Gellir rhannu'r etholaeth yn bedwar - Caernarfon, Bangor, Dyffryn Ogwen a Gwyrfai.  Roedd Gwyrfai a Chaernarfon yn hen etholaeth Caernarfon, tra bod Dyffryn Ogwen a Bangor yng Nghonwy.  Ar lefel San Steffan mae'r Blaid yn dominyddu yn wleidyddol yng Ngwyrfai, mae'n gryfach na'r un blaid arall yn Nyffryn Ogwen a Chaernarfon, ond mae Llafur ymhell o flaen neb arall ym Mangor.  Ar pob lefel arall (Ewrop, lleol, a Chynulliad) mae'r Blaid yn gyfforddus ar y blaen ym mhob rhan o'r etholaeth.  

Yn ol Ladbrokes mae'r Blaid a Llafur ar 5/6 yr un - sy'n golygu bod yr etholaeth yn 'rhy agos i'w galw' - a defnyddio termenoleg y cwmni.  'Dwi'n anghytuno - 'dwi'n meddwl y bydd y Blaid yn ennill - er fy mod yn derbyn bod y bleidlais yn debygol o fod yn agos - byddwn yn disgwyl mwyafrif o 5% i 10% i'r Blaid.  Y rheswm sylfaenol am fy optimistiaeth ydi tan berfformiad Llafur yn yr etholaeth ers 2010.  Cawsant etholiadau lleol gwael iawn, etholiadau Ewrop gwael iawn a syrthiodd eu pleidlais yn yr etholiad Cynulliad - yn gwbl groes i'r patrwm cenedlaethol.  Mae proffeil Hywel yn lleol yn llawer uwch nag un yr ymgeisydd Llafur.  

Mae'r sedd wrth gwrs wedi ei thargedu gan Lafur - ac maent yn taflu adnoddau i geisio ei hennill.  Maen nhw'n siwr o wella'n sylweddol ar eu perfformiadau gwan yn 2011,  2012 a 2014 - yn bennaf oherwydd bod mwy o'u cefnogwyr yn dod allan i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol - ond dwi ddim yn meddwl y byddant yn cipio'r sedd.  Does yna ddim dwi wedi ei weld mewn ffigyrau canfasio na pholio preifat sy'n rhoi unrhyw le i gredu bod unrhyw fomentwm o gwbl y tu ol i ymgyrch Llafur.   Mae'r 5/6 ar y Blaid yn bris da - a 'dwi wedi manteisio ar y pris hwnnw.  

Mae yna bethau sy'n gyffredin rhwng Arfon ac Ynys Mon - niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, tref fawr Saesneg o ran iaith (Caergybi a Bangor), pocedi o dlodi sylweddol, canolfannau o gefnogaeth hanesyddol i'r Blaid (perfedd dir Mon a phentrefi mawr Gwyrfai).  Ond ceir gwahaniaethau arwyddocaol hefyd - mae Arfon yn llawer mwy trefol gyda lwmp da o'i phoblogaeth yn byw mewn pentrefi ol ddiwydiannol.  Dydi'r diwydiant amaethyddol ddim yn bwysig yn Arfon.  O ganlyniad mae ceidwadiaeth gwleidyddol yn gryfach ym Mon nag ydyw yn Arfon. 




Mae Ladbrokes yn ystyried Llafur yn fferfrynnau gweddol glir.  Y rheswm tebygol am hyn ydi bod y sawl sy'n betio yn edrych ar yr etholaeth trwy brism polau 'cenedlaethol'.  O edrych ar bethau felly mae'n rhesymol disgwyl y bydd pleidlais Llafur yn cynyddu.  Ond mae gan Gogledd Orllewin Cymru yn gyffredinol ac Ynys Mon yn benodol hen hanes o fynd eu ffordd eu hunain mewn etholiadau.  Roedd etholiad Cynulliad 2011 yn siomedig i Lafur, roedd etholiadau cyngor 2013 yn siomedig iawn,  felly hefyd is etholiad Ynys Mon y flwyddyn honno ac etholiad Ewrop eleni.  Dydi'r llong  ddim yn un hapus - bu cecru mewnol - yn arbennig felly ym mherfedd - dir Llafur ar Ynys Cybi.  Mae eu cynghorydd mwyaf poblogaidd wedi gadael.  Ar ben hynny does yna'r un sedd wedi ei chanfasio mor drylwyr gan y Blaid mewn blynyddoedd diweddar - gan roi dealltwriaeth glir iawn iddi o leoliad ei chefnogaeth.

Dydi hyn ddim yn golygu bod y Blaid yn ffefryn i ennill - mae etholiadau San Steffan yn haws na'r gweddill i Lafur ac yn anos i'r Blaid, mae gan Albert Owen bleidlais bersonol, ac mae Ynys Mon yn enwog o amharod i gael gwared o ddeilydd sedd.  Ond o gynnal ymgyrch frwdfrydig a phwrpasol tros yr hydref - ymgyrch sy'n cynnal naratif sy'n apelio at gyfran dda o'r ddwy draen o'r sawl a bleidleisiodd yn 2010 na bleidleisiodd tros Albert Owen - does yna ddim rheswm pam na all y Blaid fod yn gystadleuol iawn.  Dwi ddim yn meddwl bod y sawl sydd wedi rhoi pres ar Lafur ar 1/4 wedi cymryd hanes etholiadol ol 2010 i ystyriaeth, a dwi ddim yn meddwl bod yna gyfiawnhad tros y prisiau yna.  Mi fedrwch chi gael 3/1 ar y Blaid gan Ladbrokes gyda llaw.  

A daw hyn a ni at Geredigion.  Fel rydym wedi son eisoes, mae'r sawl sy'n betio efo Ladbrokes yn ystyried y Blaid yn fwy tebygol o ennill Ceredigion nag Ynys Mon.  Dydi hanes etholiadol ol 2010 heb fod mor ddrwg i'r Lib Dems yng Ngheredigion nag oedd i Lafur yn Ynys Mon.  Cawsant etholiad Cynulliad da, a 'doedd eu hymdrech leol yn 2012 ddim mor siomedig ag un Llafur yn Ynys Mon y flwyddyn ganlynol - ond roedd eu canlyniad yn etholiad Ewrop yn arbennig o sal.  Ac wrth gwrs roedd eu mwyafrif yn 2010 yn sylweddol iawn.  Mae Mark Williams hefyd yn ymddangos i fod yn boblogaidd yn lleol.  

Adlewyrchiad o'r ffigyrau polio ehangach ydi ffigyrau Ladbrokes unwaith eto.  

Serch hynny mae yna arwyddion da i'r Blaid - hanes cymharol ddiweddar o fod ag Aelod Seneddol, ymgeisydd adnabyddus sydd a'r gallu i apelio y tu hwnt i gefnogwyr naturiol y Blaid, peirianwaith lleol, gwynt etholiadol sylweddol yn erbyn eu prif wrthwynebwyr.  Mae gogwydd o bron i 11% yn un sylweddol - ond mae'r polio cyfredol yn awgrymu y bydd llawer o etholaethau yn gweld symudiadau cyn gryfed a hynny - os nad cryfach yn erbyn y Lib Dems y flwyddyn nesaf.  Mae'r brifysgol hefyd yn ffactor yma wrth gwrs - ac mae'n debygol y bydd hynny'n effeithio yn negyddol ar y Lib Dems.

Fel yn achos Ynys Mon gallai ymgyrch effeithiol tros gyfnod a naratif sy'n apelio at garfannau ehangach na chefnogwyr traddodiadol y Blaid wneud hon yn etholaeth gystadleuol iawn.  Dydi'r 7/4 mae Ladbrokes yn ei gynnig ar y Blaid ddim mor atyniadol a 4/1 Ynys Mon  - ond mae'n fet sydd werth ei hystyried.  







Llythyr Leanne Wood i Carwyn Jones ynglyn a Gaza

Annwyl Brif Weinidog

Mae'n siwr y byddwch yn rhannu fy nhristwch dwfn, pryder a dicter ynglŷn â'r sefyllfa sydd wedi bod yn datblygu dros yr wythnosau diwethaf yn Llain Gaza. Mae'r trais yn dwysáu. Bu erchyllterau. Yn sgil bomio ysgol y Cenhedloedd Unedig ddoe yn Beit Hanoun bu ymosodiadau bellach ar bedair canolfan Cenhedloedd Unedig.

Mae'r cosbi ar y cyd parhaol yma nid yn unig yn anghyfiawn ond hefyd yn arwain at ddicter, rhwystredigaeth a chasineb pellach ymysg y Palestiniaid, sydd yn garcharorion de facto.

Nid yw er budd unrhyw bobl mewn unrhyw wlad i'r gwrthdaro hwn barhau ac fe fydd yn parhau,  gan nad oes unrhyw ateb milwrol, er gwaethaf y ffaith bod gallu milwrol y ddwy ochr yn gwbl anghyfartal. Mae'n rhaid i drafodaethau gael eu cynnal a ni fyddant yn digwydd heb bwysau rhyngwladol cryf.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i chwarae ei rhan. Mae gan bobl Cymru gysylltiadau niferus â'r Palestiniaid ac mae gan lawer o sefydiadau a grwpiau yng Nghymru ddiddordebau dyngarol hir dymor  yn y rhanbarth ac yn dymuno gweld ateb heddychlon a theg.
Pwysaf arnoch, ar ran pobl Cymru, i wneud sylwadau cryf i'r Prif Weinidog i ddod â gwerthiant arfau i Israel i ben, i godi'r gwarchae a gweithio dros sefydlu cadoediad ar unwaith. Byddwn hefyd yn eich annog chi i gyhoeddi datganiad tebyg i'r un a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban yr wythnos diwethaf.

Yn gywir
Leanne Wood

Sunday, July 27, 2014

Dwy sedd ymylol Lib Dem

Blogiad arall ydi hwn sy'n edrych ar y seddau ymylol yng Nghymru -fel mae'r rheiny yn cael eu diffinio gan Ladbrokes.

Mae polau Ashcroft yn rhoi syniad i ni o beth sy'n digwydd yn seddi ymylol Lib Dem hefyd.  Roedd y polio diweddaraf ar gyfer y rhai Lib Dem / Llafur yn awgrymu bod pleidlais y Lib Demsyn tua hanneru tra bod un Llafur yn cynyddu tua 11%.  Mae hyn yn awgrymu mai ychydig iawn o obaith sydd gan y Lib Dems yn yr etholaeth - hyd yn oed os ydynt yn perswadio niferoedd sylweddol o Doriaid i fotio'n dactegol trostynt.  


Sedd ymylol Lib Dem / Tori ydi Brycheiniog a Maesyfed.  Mae pol diweddaraf Ashcroft ar seddi felly yn awgrymu y bydd y Toriaid yn syrthio 8% o'u pleidlais ac y bydd y Lib Dems yn syrthio 16%. Byddai hyn yn rhoi pethau yn agos iawn yma.  Does yna ddim llawer o bleidleisiau Llafur i fynd ar eu holau i'r Lib Dems ac mae'n debyg y bydd rhywfaint o'r bleidlais UKIP yn ffeindio ei ffordd yn ol at y Toriaid - er i UKIP berfformio'n dda yma yn etholiadau Ewrop.  Mae'r canlyniad yma'n debygol o fod yn agos - does yna ddim pwynt rhoi 2/5 yn Ladbrokes ar y Lib Dems - ond mae'r 7/4 ar y Toriaid werth meddwl amdano.  

Saturday, July 26, 2014

Y seddi ymylol Tori / Llafur

Reit - mi wnawn ni gychwyn efo'r seddi sy'n ymylol rhwng Llafur a'r Toriaid lle mae Llafur yn ail. Wnawn ni ddim edrych ar Gogledd Caerdydd - bach iawn oedd mwyafrif y Toriaid o'r blaen ac mae pob etholiad ers 2010 yn awgrymu y bydd y Toriaid yn colli yma.  Mae Gogledd Caerdydd yn gyfoethog - ond mae yna lawer iawn o weithwyr sector cyhoeddus yn byw yno.

Am y gweddill mae pethau'n fwy cymhleth.  I bwrpas yr ymarferiad yma dwi'n defnyddio polau Ashcroft.  Mae yna le i boeni ychydig am y polau hyn oherwydd eu bod yn symud o gwmpas yn sylweddol - ond ar ystyr arall maent yn fwy cysact na'r rhan fwyaf o bolau yn yr ystyr eu bod yn edrych ar gwahanol fath o etholaethau yn benodol.  Mae'r stori sydd gan polau Ashcroft i'w dweud am seddi ymylol ztoriaid / Llafur yn weddol glir.  Mae Llafur wedi aros lle maen nhw, mae'r Toriaid wedi syrthio 9%, mae'r Lib Dems wedi colli 3/4 eu pleidlais bron ac mae UKIP  i fyny'n sylweddol iawn.  Mae hyn yn cyfieithu  i ogwydd o 4.5% o'r Toriaid i Lafur yn y math yma o sedd.  Yn anffodus dydi polau Ashcroft ddim yn caniatau i ni ddod i gasgliadau ystyrlon am berfformiad tebygol y Blaid. 

Fy nheimlad i ydi y bydd rhan o'r bleidlais UKIP yn dod yn ol adref mewn seddi lle nad ydynt yn gystadleuol, ond na fydd y Lib Dems yn cael eu pleidlais yn ol.  Mi fydd y Lib Dems ac UKIP yn canolbwyntio eu hynni i gyd ar seddi y gallant eu hennill - neu eu cadw yn achos y Lib Dems. Dydi pleidleisio tactegol i Lafur yn erbyn y Toriaid ddim am fod yn cymaint o ffactor y tro hwn nag a fu chwaith - mae'r Lib Dems sy'n gwneud hynny eisoes wedi newid corlan.

Ta waeth - Aberconwy yn gyntaf.  Mae'r 11.3% o fwyafrif yn edrych yn ddigon i'r Toriaid -  ond mae yna ddwy broblem - pleidlais uchel UKIP yng Nghonwy yn etholiad Ewrop a'r 5.7k pleidlais Lib Dem.  Mewn etholaeth fel Aberconwy (yn wahanol i Ferthyr dyweder) mae'n debyg y bydd UKIP yn cymryd mwy o bleidleisiau Toriaidd na Llafur - ac mae pleidlais UKIP yn siwr o fod yn uwch nag oedd o'r blaen.  Hefyd mae yna o bosibl 3,000 i 3,500 o bleidleisiau Lib Dem ar gael.  O safbwynt mwy cadarnhaol i'r Toriaid mae yna ddwy blaid yn cystadlu am y bleidlais Lib Dem Chwith - mae Plaid Cymru yn weddol gryf yma.  Er nad ydi pleidleisiau Lib Dem yn hawdd i'r Blaid eu cael - mae cefnogaeth y Lib Dems yn Seisnig iawn - bydd Dafydd Meurig yn siwr o gymryd rhai.  Dwi hefyd yn disgwyl i ymgyrch y Blaid yn yr etholaeth fod yn fwy trylwyr na'r un ddiwethaf a dylai'r bleidlais gynyddu.  Mi fyddwn i'n meddwl felly bod y Toriaid yn debygol o ennill yma - ond fyddwn i ddim yn cyffwrdd a'r 1/2 mae Ladbrokes yn ei gynnig ar hynny.



O safbwynt canrannol mae sedd Alun Cairns ychydig yn nes, ac mae o fewn cyrraedd y gogwydd 4.5% mae Llafur ei angen.  Mae'n debyg y bydd yna hyd at 5,000 o bleidleisiau Lib Dem i ymladd trostynt, ac roedd perfformiad UKIP eleni yn dda yn yr ardal - er i'r Toriaid berfformio'n well na Llafur.  Os ydi Llafur wirioneddol eisiau ennill y sedd yma gallant wneud hynny - does dim rhaid iddyn nhw drafferthu yng Ngorllewin Caerdydd a De Caerdydd y tro hwn, nag yng Ngorllewin Casnewydd nag ym Mhen y Bont.  Ond o dystiolaeth etholiad Ewrop does gan y Blaid Lafur Gymreig fawr o grap ar strategaeth etholiadol, a fyddwn i ddim yn synnu petaent yn llwyddo i gyfeirio eu hadnoddau yn effeithiol.  Mi fyddwn i'n rhoi hon yn 50%/50% rhwng Llafur a'r Toriaid.  Mae'r 11/8 mae Ladbrokes yn ei gynnig ar Lafur yn bris rhesymol.


Daw hyn a ni at y ddwy sedd Sir Benfro.  Wnaeth UKIP ddim cystal yn Sir Benfro na Chaerfyrddin nag yng Nghonwy na Bro Morgannwg - roeddynt yn ail a Llafur yn drydydd. Mae'r nifer o bleidleisiau Lib Dem fydd ar gael hefyd yn gymharol isel a does yna ddim llawer o siap wedi bod ar Lafur ar lawr gwlad ers talwm.  Mi fyddwn i'n rhyfeddu pe byddai Preseli Penfro yn newid dwylo - yn arbennig yn sgil dyrchafiad Stephen Crabb a'r ffaith bod ei helyntion treuliau yn cilio i'r gorffennol.  Fyddwn i ddim yn trafferthu efo'r 3/1 sy'n cael ei gynnig ar Lafur.   Bydd pethau'n nes yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro - ac mae o fewn cyrraedd gogwydd 4.5% Ashcroft.  Ond mi fyddwn i'n disgwyl i'r Toriaid gadw'r sedd - yn arbennig felly a chymryd na fydd enw Nick Ainger ar y papur pleidleisio.  Mi fyddai'n haws gen i roi pres ar y Toriaid (4/7) yma nag arnynt yn Aberconwy a Bro Morgannwg. 




Friday, July 25, 2014

Gwell hwyr na hwyrach

Gorff 24, 2014

Llaf 356 (39.4%; -30.0%)
Anninynnol 276 (30.6%; +30.6%)
Plaid Cymru 228 (25.2%; -5.3%)
TUSC 23 (2.5%; +2.5%)
Toriaid 20 (2.2%; +2.2%)

Mwyafrif 80


Etholiad 2015 a'r polau piniwn

Cip brysiog ar y sefyllfa gyffredinol yn gyntaf.  Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad ydi'r polau confensiynol yn rhoi gwybodaeth gysact i ni.

Er enghraifft petai pol YouGov heddiw yn cael ei wireddu ar ddiwrnod etholiad, a phe bai yna ogwydd unffurf tros y DU i gyd byddai Llafur yn ennill Bro Morgannwg, Arfon, Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd, tra byddai'r Toriaid yn cipio Brycheiniog a Maesyfed.

Ond petai pol TBS dydd Mawrth yn gywir yna byddai Llafur yn cipio Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Preseli Penfro, Aberconwy, Bro Morgannog, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd tra byddai'r Toriaid yn cymryd Brycheiniog a Maesyfed.

Byddai'r YouGov yn ddigon derbyniol i'r Toriaid, yng Nghymru ond byddai'r TBS yn drychineb.  Byddai'r cyntaf yn wael i'r Blaid, byddai'r ail yn iawn.  Byddai'r ddau yn wael i'r Lib Dems.

Mi fyddwn i'n mynd ymlaen maes o law i edrych ar wahanol fathau o seddi ymylol yng Nghymru, ac edrych os oes yna batrwm cyffredinol.  Ond un pwynt bach cyn hynny - pwynt y byddwn yn dod yn ol ato.  Mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith bod hen batrwm etholiadol yn bodoli yng Nghymru sy'n caniatau i Lafur adeiladu cefnogaeth yn gyflym iawn pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan.  Roedd yn edrych fel petai'r patrwm hwnnw yn cael ei ail adrodd hyd 2012 - ond ers hynny mae cefnogaeth Llafur wedi syrthio yn y polau Cymreig, maent wedi cael dwy etholiad hynod siomedig yn Ynys Mon, ac etholiad Ewrop siomedig.

Mae yna achosion hawdd i'w harwenwi am hyn - achosion fydd ddim yn diflanu cyn 2015.  Ond mae'n bosibl mai stori Etholiad Cyffredinol 2015 yng Nghymru fydd tan berfformiad arall gan Lafur - ynghyd a diflaniad y Lib Dems wrth gwrs.




Thursday, July 24, 2014

Betio gwleidyddol ac etholaethau Cymreig

Mae na un neu ddau wedi gofyn i mi wneud rhywbeth ar y darogan etholiadol sydd wedi ei seilio ar brisiau betio ar flog Ladbrokes.  Dwi methu postio linc yr eiliad hon oherwydd fy mod i ffwrdd ac yn gweithio efo 3G Vodafone.  Dydi'r system diogelwch ddim yn caniatau i mi gael mynediad i unrhyw beth i'w wneud efo betio. Mi ro i linc pan ga i hyd i fynediad WiFi.

Gweler yma

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn - mae'n bosibl i brisiau betio fod yn fwy cywir na pholau piniwn mewn etholaethau unigol. Gan bod pobl yn mentro eu pres eu hunain wrth fetio maen nhw'n meddwl am y peth cyn betio.

 Yn ychwanegol - ac yn bwysicach efallai - mesur patrymau 'cenedlaethol' mae polau piniwn. Mae betio ar etholaeth yn fwy lleol - a felly cysact o lawer. Dwi'n meddwl bod edrych ar farchnadoedd betio yn ffordd rhesymol o gywir o ddarogan canlyniadau etholiad - ond dim ond tua'r diwedd pan mae swmiau sylweddol o bres wedi ei fetio - ac felly wedi gyrru'r prisiau. Mae'r prisiau sydd gennym ar hyn o bryd yn rhai sydd wedi eu gyrru gan fetio cymharol ysgafn - felly maen nhw'n llai defnyddiol na fyddan nhw mewn chwe neu saith mis.

 Mi fyddwn i hefyd yn nodi mai'r ffordd o wneud pres ar fetio gwleidyddol ydi betio yn erbyn barn y marchnadoedd betio - ac mae'n sicr yn bosibl gwneud pres felly - os ydi dyn yn gwybod yr hyn mae yn ei wneud.

Beth bynnag - dyma screenshot dwi wedi ei chymryd yn gynharach o ran o'r blogiad.  Mi ddof yn ol ambell waith tros y diwrnod neu ddau nesaf - pan fydda i'n cael munud neu ddau i fi fy hun - i drafod pa mor realistig ydi'r darogan isod mewn gwirionedd.

Wednesday, July 23, 2014

Cystadleuaeth cam resymu 'cyffredinoli brysiog'

Mae un o gyfranwyr anhysbys y blogiad diweddaraf yn cyhuddo Guto Bebb o Suppressio Veri - celu'r gwir.

Dwi'n tueddu i fod ychydig yn fwy caredig - mae'n well gen i gredu mai cam resymu yn hytrach na chelu'r gwir oedd Guto yn ei ymateb i'r blogiadau diweddar a'r trydar gwreiddiol.  Petai'r rhesymu yn gywir wrth gwrs byddai bron iawn i bawb sy'n beirniadu ymddygiad Israel ar Lain Gaza yn agored i awgrymiadau o wrth Semitiaeth oherwydd rhyw weithred gwrth Semitaidd neu'i gilydd yn y gorffennol yn ei wlad / gwlad.

Camgymeriad rhesymu ydi cyffredinoli brysiog.  Mae'n gweithio rhywbeth fel hyn - Mae Wil yn mynd i fyw i Lundain.  Ar ei noswaith gyntaf yn Llundain mae'n gweld dwy wiwer wen.  Mae'n mynd adref a 'sgwennu ebost i'w fam ac yn nodi bod wiwerod Llundain yn wyn.  Y diwrnod wedyn mae'n sylwi bod pob wiwer arall mae'n ei gweld yn llwyd ac mae felly'n casglu iddo gam resymu.

Rwan dyma'r camgymeriad rhesymu mae Guto Bebb yn euog ohono yn ei gyfraniadau diweddar i'r blog yma, ac wrth drydar.  Mae'n priodoli hanes o wrth Semitiaeth yn yr Iwerddon ar sail boicot ynysig o fusnesau Iddewig yn ninas Limerick yn 1904, ac mae'n cyffredinoli i raddau lloerig ar sail hynny. Mae rhai o gyfranwyr anhysbys y blog yma wedi cynhyrchu camgymeriadau rhesymu tebyg - i bwrpas dychan am wn i.  Dyma nhw
 Mae Jimmy Savile yn Sais. Mae jimmy Safil yn pido. Felly mae Saeson yn pidos. Id
Anonymous said...
Anonymous said...

Mae Jimmy Savile yn Sais. Mae jimmy Safil yn pido. Felly mae Saeson yn pidos. 
Anonymous said...
Mae Steven Crabb yn aelod seneddol Toriaidd. Mae Steven Crabb wedi fflipio ei dy er mwyn godro pres gan y trethdalwr. Felly mae aelodau seneddol Toriaidd yn fflipio eu tai er mwyn godro'r trethdalwr.

Os oes yna rhywun efo cyfraniadau tebyg gadewch eich cyfraniad yn nhudalen sylwadau'r blogiad yma.  Potel o Shingle Peak (gwyn) neu Black Stump (coch) i'r cyfraniad gorau i ddod i law erbyn hanner dydd, wythnos i heddiw.












Tuesday, July 22, 2014

Guto Bebb, y Toriaid a gwrth Semitiaeth

Un o'r anghytundebau bach fydd yn dod i'r wyneb o bryd i'w gilydd  rhwng Blogmenai ag aelod seneddol Aberconwy sydd gen i heddiw.

Rwan ar un olwg mae Guto'n gywir.  Mae yna hanes o wrth Semitiaeth yn yr Iwerddon.   Mae'n debyg bod Guto wedi ymgyfarwyddo ei hun a thri llyfr ar Foicot Limerick yn 1904 - cyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at niweidio eiddo Iddewig a boicotio eu siopau.  Cafwyd gwrthdystiadau gwrth Iddewig yn Nhredegar saith neu wyth mlynedd yn ddiweddarach gyda llaw.

Ond mae yna hanes o wrth Semitiaeth ym mhob rhan bron o'r byd Cristnogol - mae cred wedi bodoli yn Ewrop o leiaf ers yr Oesoedd Canol cynnar ei bod yn briodol cosbi'r Iddewon yn dorfol  am groeshoelio Crist.

Arweiniodd y gred yma at drychinebau gymunedau Iddewig di rif.  Cafodd Iddewon Ewrop eu herlid yn ystod y Croesgadau - yn arbennig felly yn Ffrainc a'r Almaen.  Yn y ganrif ddilynol cafodd Iddewon Sbaen,  Lloegr, Ffrainc ac Awstria eu hel o'u cartrefi a'u gwledydd.  Cafodd yr Iddewon y bai am y Pla Du yn rhannau o Ewrop a'u herlid oherwydd hynny.  Yn niwedd y 19C cafodd llawer o Iddewon Ewrop eu hel i getos a dyfeiswyd trethi arbennig ar eu cyfer.  Cafwyd cyfres hir o bogroms gwrth Iddewig yn Rwsia pan laddwyd nifer sylweddol o Iddewon rhwng 1880 ac 1917.  Mae hanes Iddewiaeth yn Ewrop yn 30au a 40au y ganrif ddiwethaf yn adnabyddus a wna i ddim mynd i fanylu ymhellach ynglyn a'r erchylldra yna.

 Yn y cyd destun Ewropiaidd ehangach mae gwrth Semitiaeth Gwyddelig (a Chymreig) yn weddol ddi ddim - os cwbl anerbyniol.  Felly pam bod Guto yn dewis Iwerddon - un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle na chafodd yr un Iddew ei ladd oherwydd ei grefydd - i'w harenwi'n benodol fel gwlad gwrth Semitig? A pham mae o'n trafferthu darllen tri llyfr am foicot ar ddigwyddiad cyfyng, na arweiniodd at farwolaethau ac a gafodd ei gondemnio gan yr awdurdodau seciwlar ac eglwysig?  A pham ei fod yn defnyddio'r term 'pogrom' pan nad ydi'r awdurdodau Israelaidd nag Iddewon Limerick yn fodlon defnyddio'r term yng nghyswllt Boicot Limerick?  Mae'n weddol gyffredin i bardduo gwrthwynebwyr gwleidyddol efo'r tag 'gwrth semitaidd' neu 'ffasgaidd', er mai'r Chwith gwleidyddol sy'n euog o hynny gan amlaf.  Ond mae'n dra anarferol i ddefnyddio'r term i bardduo cenedl gyfan.  Felly pam gwneud hynny yma? Guto ei hun sy'n gwybod yr ateb i honna wrth gwrs.

Ta waeth - petai Guto yn chwilio gallai ddod o hyd i lawer o ddyfyniadau gwrth Semitaidd gan Wyddelod o pob perswad gwleidyddol yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Mae'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny yn achos Saunders Lewis, ac am wn i ei fod yn gyfarwydd a'r llond dwrn o ddyfyniadau gwrth Semitaidd roedd yn gyfrifol amdanynt.  Ond gallai fod wedi darganfod llawer, llawer mwy o sylwadau gwrth Semitaidd a wnaethwyd gan aelodau o'r prif bleidiau Prydeinig - rhai'r Dde, y Canol ac yn wir y Chwith.  Nid y Blaid Doriaidd oedd yr unig bechaduriaid yn hyn o beth - ond does yna ddim dwywaith bod llawer o'i haelodau yn y blynyddoedd cyn RhB2 yn arddel credoau cwbl wrth Semitaidd.

Dwi ddim yn meddwl gyda llaw bod y rhan fwyaf o'r bobl hyn yn bwriadu peri unrhyw niwed i Iddewon - roedd gwrth Iddewiaeth di hid yn rhan o idiom y cyfnod.

 Un ffordd o ddangos natur disgwrs wleidyddol yr oes ydi edrych ar y wasg.  Heddiw mae'r Daily Mail yn pedlera casineb tuag at Fwslemiaid a mewnfudwyr eraill.  Dim ond Iddewon oedd ar gael i bwrpas myllio senophobaidd cyn y Rhyfel, felly Iddewon oedd yn ei chael hi gan y papur a'i berchenog boncyrs - Viscount Rothemere.







A chyn ein bod ni wrthi waeth i ni gynnwys llun bach del o Rothemere efo'i arwr.  


Nid llun o dim pel droed yr Almaen a geir isod, ond llun o dim pel droed Lloegr yn ol yn 1938.  Rwan dwi'n siwr nad oedd y rhan fwyaf o aelodau'r tim efo daliadau Natsiaidd, ond roeddynt yn ymddwyn yn y ffordd ryfedd yma oherwydd bod y Swyddfa Dramor wedi gofyn iddynt wneud hynny.  Roeddynt yn chwarae gem yn erbyn yr Almaen, ac roedd y Swyddfa Dramor eisiau iddynt ddangos parch at Ganghellor yr Almaen.  Y Blaid Doriaidd oedd mewn grym, ac roedd yr erledigaeth o Iddewon yn yr Almaen wedi hen, hen ddechrau.


A dyna ydi'r ffaith wrth gwrs - o pob prif blaid yn y blynyddoedd cyn y rhyfel roedd gwrth Semitiaeth a chydymdeimlad at y Dde eithafol yn Ewrop yn nodweddu'r Blaid Doriaidd yn annad yr un blaid arall.  Tua'r un pryd a Boicot Limerick ffurfwyd mudiad yn nwyrain Llundain o'r enw The British Brothers League.  Er nad oedd y mudiad yn wrth Semitaidd ar y cychwyn, datblygodd i fod yn fudiad gwrth Iddewig yn weddol gyflym.  Roedd o leiaf dau aelod seneddol Toriaidd yn rhan o'r mudiad - Major Evans-Gordon a Howard Vincent.  Roedd G.K Chesterton ac Arthur Conan Doyle yn gefnogwyr gyda llaw.

Roedd ymateb Prydain i'r pogroms yn Rwsia yn datw poeth gwleidyddol yn ystod y cyfnod 1890 - 1906.  Roedd y Toriaid eisiau gwahardd yr Iddewon oedd yn cael eu herlid yn Rwsia rhag cael lloches ym Mhrydain, tra bod y Rhyddfrydwyr yn ystyried gwaharddiad o'r fath yn anfoesol.  Yn y diwedd llwyddodd y Toriaid i weithredu'r Aliens Act yn 1905 - darn o ddeddfwriaeth oedd yn gwahardd pobl nad oedd a ffordd o gynnal eu hunain (fel pobl oedd yn dianc rhag pogroms er enghraifft) yn llwyr.  Gellir cael blas o'r ymgyrch i ffurfio'r ddeddf gan y wasg Asgell Dde o'r sylw hwn yng ngholofn golygyddol oedd yn argymell yr Aliens Act y Manchester Evening Chroniclethat the dirty, destitute, diseased, verminous and criminal foreigner who dumps himself on our soil and rates simultaneously, shall be forbidden to land

Y peth rhyfedd ydi bod gwrth Semitiaeth yn gymaint o ran o fyd olwg Toriaid yn y cyfnod cyn y rhyfel nes bod hyd yn oed arwyr Zionistiaidd Toriaidd yn aml yn wrth Semitaidd.  Winston Churchill er enghraifft:

The part played in the creation of Bolshevism and in the actual bringing about of the Russian Revolution by these international and for the most part atheistic Jews ... is certainly a very great one; it probably outweighs all others. With the notable exception of Lenin, the majority of the leading figures are Jews. Moreover, the principal inspiration and driving power comes from Jewish leaders ... The same evil prominence was obtained by Jews in (Hungary and Germany, especially Bavaria).

Although in all these countries there are many non-Jews every whit as bad as the worst of the Jewish revolutionaries, the part played by the latter in proportion to their numbers in the population is astonishing. The fact that in many cases Jewish interests and Jewish places of worship are excepted by the Bolsheviks from their universal hostility has tended more and more to associate the Jewish race in Russia with the villainies which are now being perpetrated


Yn anhygoel i'r sylwebydd cyfoes  mae'n ymddangos bod Arthur Balflour - awdur Datganiad Balflour - dogfen a ddaeth i fod yn un o gonglfeini'r ymdrech i sefydlu gwladwriaeth Iddewig - yn wrth Semitaidd ei hun.  Un o'r prif resymau pam roedd am sefydlu gwladwriaeth Iddewig oedd i gael gwared o Iddewon o Brydain.

 If [Zionism] succeeds, it will do a great spiritual and material work for the Jews, but not for them alone. For as I read its meaning it is, among other things, a serious endeavour to mitigate the age-long miseries created for western civilisation by the presence in its midst of a Body which it too long regarded as alien and even hostile, but which it was equally unable to expel or absorb. Surely, for this if for no other reason, it should receive our support.

Rwan 'dwi'n sylweddoli bod ychydig o beryg i mi syrthio i'r trap y syrthiodd Guto iddo - barnu oes o'r blaen efo safonau oes fy hun a dod i gasgliadau ysgubol a hysteraidd sy'n ymwneud a'r presenol  - er fy mod wrth gwrs yn tynnu sylw at bolisi cyhoeddus y Toriaid a'u harweinyddiaeth yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf - yn hytrach na thynnu sylw at foicot ynysig  does fawr neb wedi clywed amdano - ac yn defnyddio hynny i bardduo cenedl gyfan.  Ond y ffaith syml amdani ydi bod amwyster hyd heddiw yn y Blaid Doriaidd am y pwnc yma. 

 Y grwp mae'r Toriaid yn perthyn iddo yn senedd Ewrop ydi'r ECR.  Mae'r grwp yn un  - ahem - 'dewr'.  Dydyn nhw heb gael trafferth derbyn  aelodau o blaid Pwylaidd sydd wedi cysylltu eu hunain efo'r offeiriad gwrth Semitaidd - Tadeusz Rydzyk, mae un o aelodau'r blaid honno yn gwadu i nifer fawr o Iddewon gael eu lladd gan y Natsiaid.  Derbyniodd y grwp hefyd gynrychiolwyr Latfiaidd sydd a  hanes o drefnu gorymdeithiau i gofio Waffen-SS Latfia.  Yn wir mae Michal Kaminski - sydd wedi arwain y grwp - efo hanes o wisgo symbolau Natsiaidd a dadlau na ddylai Gwlad Pwyl ymddiheuro am bogrom (gwrth Iddewig) Jedwabne ym 1941.

Rwan, dydi hi ddim yn bosibl i Guto effeithio ar foicot Limerick ym 1904 ag eithrio i'w godi a'i chwyddo i bwrpas pardduo Gwyddelod.  Dydi hi ddim chwaith yn bosibl iddo atal Saunders Lewis rhag yngan llond dwrn o sylwadau gwrth Iddewig yn y tri degau, ag eithrio i bwrpas parddup Plaid Cymru.  Dydi hi ddim hyd yn oed yn bosibl iddo effeithio ar wrth Semitiaeth rhemp ei blaid ei hun yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.  Ond gallai'n hawdd roi pwysau ar ei blaid  i beidio a chyngrheirio efo elfennau gwrth Semitaidd ar y funud hon.  Onid yw'n fodlon gwneud hynny gallwn gymryd nad ydi'r tantro am wrth Semitiaeth yn ddim mwy na gorchest ac ymgais i sgorio pwyntiau rhad yn erbyn gwledydd a phleidiau nad yw yn ei hoffi.  Mae hynny'n sarhad ar y miliynau trwy'r oesoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrth Semitiaeth.  





Monday, July 21, 2014

Mr Bebb a 'gwrth Semitiaeth' y Gwyddelod

Dwi ddim yn meddwl bod neb yn amau bod Guto Bebb yn goblyn o foi gwybodus, ond mae'n debyg nad oes fawr neb yn gwybod ei fod hyd yn oed yn gyfarwydd a fersiynau o hanes sydd erioed wedi digwydd - gwrth Semitiaeth hanesyddol yn yr Iwerddon yn yr achos yma.

Mae yna hanes o wrth Semitiaeth yn Lloegr wrth gwrs - cafodd 300 eu lladd yn 1279, a chafodd y gweddill eu hestraddodi y flwyddyn ganlynol.  Ni chaethant ddod yn ol nes i Cromwell eu gwahodd yn ol yn 1655.

Mae cymuned fechan o Iddewon wedi byw yn yr Iwerddon am fil o flynyddoedd, ac wedi bod yn wrthrych llai o wrth Semitiaeth na'r un gymuned arall yn Ewrop bron - er bod achosion felly wedi bod - roedd digwyddiad yn Limerick yn nau ddegau'r ganrif ddiwethaf er enghraifft.


Roedd gwrth Semitiaeth yn gyffredin mewn cymdeithas yn Ewrop trwy'r canrifoedd wrth gwrs - ac roedd hynny yn wir  am y feddylfryd Seisnig - fel mae'r dyfyniad yma gan George Orwell yn ei awgrymu.

There has been a perceptible anti-Semitic strain in English literature from Chaucer onwards, and without even getting up from this table to consult a book I can think of passages which if written now would be stigmatised as anti-Semitism, in the works of Shakespeare, Smollett, Thackeray, Bernard Shaw, H. G. Wells, T. S. Eliot, Aldous Huxley and various others. Offhand, the only English writers I can think of who, before the days of Hitler, made a definite effort to stick up for Jews are Dickens and Charles Reade. And however little the average intellectual may have agreed with the opinions of Belloc and Chesterton, he did not acutely disapprove of them. Chesterton's endless tirades against Jews, which he thrust into stories and essays upon the flimsiest pretexts, never got him into trouble — indeed Chesterton was one of the most generally respected figures in English literary life.

Rhaid wrth dderyn glan i ganu

Nodiadau ar yr ymateb i drychineb MH17

Cyn dechrau ar hon 'dwi'n rhyw gymryd yn ganiataol nad oes angen i mi fynd trwy'r rigmarol o gondemnio saethu Boeing 777 (MH17 - 17/7)  i lawr., gan ladd 295 o bobl.  Mae'n weddol sicr i'r awyren gael ei saethu i lawr gan bobl sydd yn gefnogol i Rwsia, a phobl oedd wedi derbyn arfau distrywgar a soffistigedig iawn o Rwsia a hynny yn absenoldeb hyfforddiant priodol.  Sefyllfa sy'n rhwym o achosi trychineb yn hwyr neu'n hwyrach.

Pan mae pethau fel hyn yn digwydd gwneir defnydd gwleidyddol ohonynt yn amlach na pheidio - ac mae'r ffordd y bydd y cyfryngau yn delio efo'r digwyddiadau yn cael ei yrru gan wleidyddiaeth yn hytrach na'r digwyddiad ei hun.  Er enghraifft pan saethwyd Airbus o Iran i lawr gan daflegryn a saethwyd oddi ar fwrdd yr USS Vincennes (Flight 655 3/7/88) uwchben Iran, gan achosi marwolaeth 290 o bobl - 66 ohonynt yn blant - ni chafwyd cor o bapurau newydd Prydeinig yn galw am sancsiynau yn erbyn yr UDA.  Roedd yr ymdriniaeth cyfryngol yn pwysleisio mai damwain drychinebus oedd y digwyddiad - damwain oedd wedi ei hachosi i raddau helaeth gan densiynau milwrol yn ardal y Gwlff ar y pryd.

Roedd yr ymateb cyfryngol (yn y Gorllewin) yn dra gwahanol bum mlynedd ynghynt pan saethwyd awyren sifil o Corea i lawr gan lu awyr yr Undeb Sofietaidd uwchben canolfannau milwrol yn Sakahlin ( KAL-007 1/9/83).  Lladdwyd 269 o bobl yn y digwyddiad hwnnw.  Roedd yr awyren wedi crwydro gannoedd o filltiroedd oddi ar ei llwybr, ac wedi bod yn ddigon anffodus i grwydro uwchben rhai o'r camolfannau milwrol mwyaf sensitif yn yr Undeb Sofietaidd.  Mae'n debyg na fyddai taflegrau Cruise a Pershing wedi eu lleoli y flwyddyn honno yng Ngorllewin yr Almaen oni bai am y digwyddiad a'r ymateb cyfryngol iddo.  Mae yna hefyd le i gredu bod y tapiau a gyflwynwyd i UN gan weinyddiaeth Ronald Reagan  wedi eu haddasu i bwrpas gwneud i'r digwyddiad ymddangos yn llai o ddamwain nag oedd mewn gwirionedd.

Gyda llaw mae yna nifer o drychinebau eraill wedi digwydd o ganlyniad i luoedd milwrol yn saethu awerynnau sifil i lawr - gan gynnwys awyren Rwsiaidd yn cael ei saethu i lawr gan luoedd yr Iwcrain (Siberian Airlines 1812, (8/10/01).  Lladdwyd 66 o bonl - Isreiliaid o dras Rwsiaidd yn bennaf.

Y brif stori arall ar hyn o bryd ydi ymyraeth Israel yn Llain Gaza.  Mae Israel - wrth gwrs - yn anwybyddu cyfraith rhyngwladol yn barhaus oherwydd eu bod yn setlo rhannau o Lannau Gorllewinol yr Iorddonen.  Mae Israel hefyd yn gweithredu yn anghyfreithlon ar hyn o bryd yn Llain Gaza, ac mae'r gweithredu anghyfreithlon hwnnw eisoes wedi arwain at farwolaeth mwy o sifiliaid nag a laddwyd ar MH17.   Mae cyfraith rhyngwladol yn datgan yn glir bod  cosbi sifiliaid am rhywbeth nad ydynt yn gyfrifol amdano yn anghyfreithlon.  Disgwylir hefyd i fyddinoedd wahaniaethu'n glir rhwng targedau sifilaidd a milwrol yn ogystal a gweithredu mewn ffordd sy'n  gyfrannol.  Ond peidiwch a disgwyl gweld y cyfryngau yn galw am roi arweinyddiaeth Israel o flaen eu gwell yn yr Hague fel y digwyddodd i arweinyddiaeth yr hen Iwgoslafia.

Ac felly mae pethau wedi bod erioed wrth gwrs - neu o leiaf ers sefydlu cyfundrefnau democrataidd.  Mae digwyddiadau lle lleddir niferoedd uchel o bobl yn ennyn ymateb chwyrn gan y cyhoedd, ac mae'n hawdd gwneud defnydd o'r ymateb hwnnw i gyfiawnhau newid polisi na fyddai'n dderbyniol fel arall.  Wedi'r cwbl defnyddwyd cyflafan 9/11 i gyfiawnhau rhyfel Irac - rhywbeth a arweiniodd at lawer iawn mwy o farwolaethau na a hoswyd gan ddigwyddiadau  9/11 - er nad oedd cysylltiad o unrhyw fath rhwng gweinyddiaeth Irac a'r digwyddiad hwnnw.

Yn anffodus mae yna lawer o wleidyddiaeth ynghlwm a'r ffordd y byddwn yn cael ein llywio i ymateb i drychinebau sy'n cael eu hachosi gan weithgaredd milwrol - a dydi'r digwyddiadau sy'n dominyddu'r newyddion ar hyn o bryd ddim yn eithriadau.




Saturday, July 19, 2014

Darlith John Bwlchllan yng Nghlwb Canol Dre - Iwerddon a Chymru

Dwi newydd dreulio awr yn gwrando ar John Davies, Bwlchllan yn traddodi araith yng Nghlwb Canol Dre ar y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng Cymru a'r Iwerddon yn y 19C.

Dwi'n gwneud cam a John i grisialu ei thesis i ychydig frawddegau, ond mi wna i hynny beth bynnag.  Roedd John yn tynnu sylw at y ffaith bod tebygrwydd rhwng bywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru ac Iwerddon yn ystod y cyfnod - roedd y niferoedd o siaradwyr Cymraeg a Gwyddelig yn debyg, roedd y canrannau nad oeddynt yn aelodau o'r Eglwys Anglicanaidd yn debyg, roedd tebygrwydd rhwng patrymau perchnogaeth tir a gwleidyddiaeth gwledig, ac roedd yna debygrwydd mewn gwleidyddiaeth ehangach.

Roedd serch hynny hefyd yn tynnu sylw at wahaniaethau mwy arwyddocaol - gan awgrymu bod llawer o'r hyn sy'n ymddanos yn debyg mewn gwirionedd yn arwynebol.  Roedd llai o lawer o bobl Cymru yn gweithio ar y tir, roedd y Gymraeg ar gynnydd tra bod y Wyddeleg ar y ffordd i lawr, roedd yr Eglwys Babyddol yn sefydliad cryf rhyngwladol , yn wahanol i'r enwadau cecrys Cymreig, ac roedd gan yr Iwerddon lawer iawn o ddylanwad rhyngwladol oherwydd bod cymaint o Wyddelod yn symud dramor yn hytrach nag i rannau eraill o'u gwlad eu hunain.

Mae'r hyn ddigwyddodd yn 20C wedi ei gysylltu a hyn oll wrth gwrs - aeth y ddwy wlad i gyfeiriadau cwbl wahanol yn y ganrif honno wrth gwrs.

Cododd Dafydd Wigley gwestiwn y newyn ar y diwedd, a chytunodd John bod y chwerder a achoswyd yn sgil hynny wedi bod yn ffactor yn y ffaith i Iwerddon dorri oddi wrth y DU yn negawdau cynnar yr 20C.

Rwan, dwi'n siwr bod dadansoddiad John at ei gilydd yn gywir, ond un gwahaniaeth na dynnodd sylw ato oedd y ffaith bod syniadaethau genedlaetholgar cryf eisoes yn bodoli yn yr Iwerddon, tra nad oedd hynny'n wir yng Nghymru.  Ymhellach roedd un o'r syniadaethau hynny - yr un a orfu yn y diwedd - wedi ei gwreiddio yn nhraddodiad gweriniaethol ehangach Ewrop.

Roedd Henry Grattan wedi arwain mudiad gwleidyddol genedlaetholgar  yn y 1780au, roedd Wolfe Tone wedi arwain mudiad felly yn y 1790au, ac felly Robert Emmet a James Concoran yn yr 1890au. Wedyn daeth Young Ireland i fodolaeth yn yr 1830au,  Roedd elfen filwrol i'r rhan fwyaf o'r mudiadau hyn - ac roedd gwrthryfela milwrol yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig hefyd yn eu nodweddu.  Roedd dylanwad ideoleg y Chwyldro Ffrengig hefyd yn gryf arnynt.

Doedd yna ddim traddodiad ideolegol felly yng Nghymru.  Oherwydd diffyg syniadaethau cynhenid a chenedlaetholgar, syrthiodd Cymru i mewn i batrwm gwleidyddol ehangach y DU yn negawdau cynnar y 20C.  Wnaeth hynny ddim digwydd yn yr Iwerddon oherwydd bod fframwaith syniadaethol cynhenid mewn lle - ffaith oedd yn caniatau i'r wlad gymryd llwybr gwleidyddol amgen ganrif a mwy wedi sefydlu'r fframwaith honno.

Rwan, dwi ddim yn amau bod John yn gwbl gywir i dynnu sylw at wahaniaethau gwaelodol rhwng Cymru ac Iwerddon yn 19C, ond mi fyddwn yn dadlau bod methiant Cymru i ddatblygu ymateb deallusol cynhenid i'r hyn ddigwyddodd yn Ewrop yn niwedd yr 18C yn un o'r prif ffactorau sy'n egluro pam nad  ydym wedi datblygu gwleidyddiaeth aeddfed ein hunain hyd heddiw.

Thursday, July 17, 2014

Mwy o fusnesu gan Gymry ym materion mewnol yr Alban

Llongyfarchiadau i Ian Rush, Tanni Gray Thompson a Gareth Edwards am efelychu 'r Pab, Obama ac Arlywydd China yn ogystal a Charwyn Jones a Leighton Andrews wrth gwrs, yn eu hymdrechion i fusnesu ym materion mewnol yr Alban a cheisio dwyn perswad ar ei phobl i beidio a phleidleisio i fod yn gyfrifol am eu penderfyniadau cenedlaethol eu hunain - fel  pobl y rhan fwyaf o wledydd eraill.

Mae dadl Gareth - y dylai gwledydd y DU fod yn unedig fel y Llewod - dipyn bach yn boncyrs hyd yn oed i foi sydd wedi chwarae gormod o rygbi.  Mae'r Llewod yn tynnu ar chwaraewyr o ddwy wladwriaeth a phedair gwlad wahanol.  Dydi natur aml wladwriaethol y tim rygbi arbennig yma ddim yn amharu ar ei undod - ddim mwy nag ydi natur aml wladwriaethol tim rygbi Iwerddon yn effeithio ar ei undod yntau.


Wednesday, July 16, 2014

Mwy o wario anferth ar goridor yr M4

Hmm - biliwn i anfon yr M4 o gwmpas Casnewydd.
£200m i adeiladu'r morglawdd yn y Bae.
£1.8bn o bres cyhoeddus wedi ei wario cyn y flwyddyn 2000 yn unig  i ddatblygu'r Bae yng Nghaerdydd.
£850m i drydaneiddio ac ymestyn y rheilffordd i Abertawe.
£52m i brynu Maes Awyr Caerdydd.


Dwi ddim eisiau swnio'n blwyfol - ond mae yna Gymru y tu hwnt i goridor yr M4.

Dadansoddiad treiddgar arall gan y Daily Mail