Thursday, September 30, 2004

Mwy o lwyddiant eleni, gobeithio.

'Dwi ar fin mynd allan i chwarae sboncen.

Dwi wedi chwarae i dim Caernarfon ers ugain mlynedd bellach, a'r llynedd oedd fy mlwyddyn lleiaf llwyddiannus o ddigon. Fedar eleni ddim bod fawr gwaeth siawns?

Wednesday, September 29, 2004

Cafodd Fflorida rybudd têg

etholiad 2000
manylion llawn


Mae hi'n glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn yn ol y Beibl, ond ymddengys mai ond ar yr anghyfiawn y bydd hi'n chwythu.

Fel mae'r map yn dangos o ddiwedd taith corwyntoedd diweddar yn Fflorida - siroedd a bleidleisiodd i Bush yn unig a effeithwyd. Yn wir aeth Charlie ymlaen i Georgia(Bush), ac aeth Frances i Georgia a South Carolina (Bush a Bush).

Duw a wyr beth ddigwydd os byddant yn ddigon ffol i bleidleisio tros Bush y tro hwn. Cawsant eu rhybuddio!

Tuesday, September 28, 2004

Nhw a ni - pam y gwahaniaeth?

Hanes y marina yn gwneud i mi feddwl am ddigwyddiad pan aeth y Mrs a'i modryb am wyliau i Ddulyn yn gynharach eleni (mae'r ddwy o dras Gwyddelig). Tra'n cael eu tywys o gwmpas Carchar Kilmanham dechreuodd y grwp edrych ar rhywbeth wedi ei ysgrifennu mewn Gwyddelig. Gofynodd y fodryb i Lynne os oedd o'n debyg i'r Gymraeg. 'Anhebyg iawn' meddai Nacw.

'I disagree' meddai Sais oedd yn yr un grwp, 'They're very similar'
'So you speak Welsh' meddai Lynne, wedi synnu braidd.
'No' meddai'r Sais.
'Irish then?'
'No', meddai yntau, 'But I'd be fine given six months'.

Hyd yn oed wedi'r cyfaddefiad bach yma (ei fod yn cymharu dwy iaith nad oedd yn gallu eu siarad, efo'i gilydd) roedd yn dal yn benderfynol o ennill y ddadl.

'If you look carefully enough, you'll find that they're much the same' meddai'r awdurdod ieithyddol.

Byddem yn mynd ymhell iawn gydag un degfed o bowldrwydd y rhain.

Marina Pwllheli

Cyngor Gwynedd wedi penderfynu gohirio'r penderfyniad hwn.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3690000/newsid_3697600/3697680.stm

'Dydi'r syniad o gael 300 cwch yn ychwanegol ym Marina Pwllheli ddim am apelio fawr at rhywun sy'n byw ar Ffordd y Gogledd, Caernarfon. Eisoes mae afon ddi ddiwedd o geir yn llifo (bympar wrth fympar) tua'r gorllewin pob nos Wener yn yr haf, ac yna'n dychwelyd tua'r dwyrain.

Gallai pethau fod yn waeth am wn i. Gallwn fod yn byw ochrau Pwllheli. Mae'n amhosibl parcio yno dros yr haf y dyddiau hyn.

Monday, September 27, 2004

Problemau alcohol ymhlith yr ifanc

Mae'n ymddangos bod y llywodraeth yn poeni yn ofnadwy am or- yfed ymhlith yr ifanc. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn meddwl eu bod yn gwneud mor a mynydd o bethau nes i mi ddod ar draws y llun trist hwn yng ngwefan Cymdeithas yr Iaith. Mae'r hen fyd 'ma'n gyflym fynd a'i ben iddo. Daeth yr amser am ddeffroad crefyddol arall!


Meddwyn


Dadl olaf maes-e?

O diar, dim i'w wneud heno wedi diflaniad di symwth maes-e. Felly waeth i mi siarad yma efo fi fy hun ddim.

Dadl olaf y maes (efallai) oedd un am ddilysrwydd polau piniwn yn yr UDA. Pe bai'r maes ar ei thraed o hyd byddwn wedi gosod y wefan yma:

http://polipundit.com/index.php?p=4176

Mae canoedd o bolau wedi eu cymryd tros yr ymgyrch, ond ymddengys bod methodoleg rhai ohonynt yn wan, tra bo eraill yn anobeithiol. Maent oll yn gwneud pres i'r sawl sy'n eu cynnal.