Wednesday, October 06, 2004

Capel Cymraeg yn Nulyn

Ymysg papurau Cyfarfod Misol Henaduriaeth Mon mae yna nifer o bapurau ynglyn a chapel nad oedd ar yr ynys o gwbl - Capel Cymraeg Talbot Street yn Nulyn yng nghanol y ddinas. Cynhelid y gwasanaethau oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma'r unig gapel i'r Methodistiaid Calfinaidd ei gael yn Iwerddon erioed yn ol pob son.

Agorwyd y capel yn 1838, mae'n debyg i ymateb i ofynion llongwyr. Cyn hynny arferid cynnal gwasanaethau ar fwrdd llongau. 'Roedd digon o gymuned Gymraeg ei hiaith yn Nulyn i gynnal y capel hyd Rhagfyr 1939 - 'doedd hi ddim yn saff gyrru gweinidogion tros y dwr yn ystod y rhyfel. Ni ail agorwyd y lle ac fe'i gwerthwyd ym 1944. Ers hynny mae wedi bod yn siop esgidiau ac yn neuadd snwcer.

Mae'n rhyfedd fel mae darnau bach o'r Gymru Gymraeg yn ymddangos mewn lleoedd mwyaf anisgwyl.

No comments: