Monday, January 31, 2005

John Elias, Maenceinion a Rasio Ceffylau

Newydd ddod ar draws y llun hwn o fy hen, hen, hen daid John Elias



Gwendid Pabyddol fel rheol ydi honni bod 'arwyr' crefyddol yn gallu gwneud gwyrthiau, ond ymddengys bod edmygwyr John Elias yn meddwl ei fod o'n un am wneud gwyrthiau, wele:

Whitsuntide, 1830, whilst attending the preaching service at Manchester, his attention was drawn to the races and sports held annually in the town in Whit-week. Being always opposed to such things, and believing them to be detrimental to the morality and religious interests of the community, the matter weighed heavily upon his mind all through the week. At the services he prayed with intense earnestness for divine interposition. The morning of the great day of the races was beautiful, the sky clear and cloudless, giving every indication of good weather.

Awaiting the great event on the course, there were from 100,000 to 150,000 people. John Elias was at the time in his room wrestling with God in prayer. Some of the brethren in another part of the house were anxiously awaiting developments. One of them, who secretly listened at the door of the chamber, returned to his companions exclaiming,--"There's Elias praying and we shall see that it will be necessary for Ahab to prepare his chariot and flee."

In half-an-hour or so the clouds began to gather, the sky became dark and threatening, so much so that at 11 a.m. candles had to be lighted. Then suddenly the rain descended, as if the windows of heaven had been opened, the crowds dispersed in search of a shelter, and the races were suspended for the day.


O bob 'gwyrth' i'w chyflawni penderfynodd y dyn ddifetha rasus ceffylau Maenceinion. 'Rwan petai gen i y gallu i gyflawni un gwyrth yn ystod fy mywyd, ni fyddwn yn ei wastraffu ar ddifetha rasus ceffylau Maenceinion. Byddwn yn ei ddefnyddio at bwrpas mwy teilwng o lawer. Difetha'r Henley Boat Race , y Brecon Jazz Festival, Ascot neu'r Open Air Shakespeare Productions yn Dyffryn Gardens er enghraifft.

Saturday, January 29, 2005

Pam bod y Cymoedd mewn cariad efo Llafur?

Rhwng 1997 a 2002 aeth GDP (y pen) y Deyrnas Gyfunol o 103.5% i 107.7% o GDP o bymtheg gwlad yr EU cyn iddi dderbyn aelodau newydd. Yn ystod yr un cyfnod aeth GDP cymharol Cymru i lawr o 83% i 82.4%. Aeth GDP cymharol Cymoedd y De a Gorllewin Cymru i lawr o 72.8% i 69%.

Bydd Llafur yn ennill pob sedd yn y Cymoedd a'r rhan fwyaf o rai'r Gorllewin ym mis Mai.

Ddim yn bwysig iawn efallai.

'Dwi'n gwybod mai barn un gohebydd papur newydd ydi hwn, ond mae yna rhywbeth digon nodweddiadol amdano. Dim un son am Gymru yn holl hanes Prydain. "Dim o'n ol, ond ol y neidar ar y ddol" fel dywed yr hen bennill.

Mae'n erthygl digon difyr wedi dweud hynny.

Saturday, January 22, 2005

Pam mor bwysig ydan "ni" iddyn "nhw".

Mae’n debyg ein bod ni fel Cymry Cymraeg efo’r tueddiad o weld ein hunain fel canolbwynt y Byd. Mae hyn yn naturiol ddigon am wn i. Yn wir, mae llawer ohonom sy’n genedlaetholwyr yn tueddu i ddiffinio ein gwleidyddiaeth mewn termau Cymru vs Lloegr – mae rhai ohonom yn wir yn gweld cynllwyn gan y llywodraeth i ddifa’r Gymraeg tu hwnt i pob cornel.

Cyn i mi fynd ymlaen cymrwch gip ar y rhain:

Yma
yma
yma
yma
ac yma

Allbwn o Gyfrifiad 2001 ar gyfer un Awdurdod Lleol (y mwyaf o ran poblogaeth, mae’n rhaid cyfaddef) – Llundain ydynt. Mae’r ffigyrau’n drawiadol. Mae 1,565,856 o bobl sy’n byw yno wedi eu geni y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae 377,048 arall wedi eu geni mewn gwledydd ag eithrio Prydain y tu mewn i’r UE (Gwyddelod ydi llawer o’r rhain), Mae 607,083 yn Fwslemiaid o ran crefydd. Mae 291,977 yn Hindwiaid, a 104,230 yn Siciaid. Mae’r ffigyrau uchod oll yn debygol o fod yn tan gyfrifiadau sylweddol – nid pawb o bell ffordd o gymunedau lleiafrifol sy’n mynd i lenwi ffurflen gyfrifiad.

I ddychwelyd at yr hanner miliwn ohonom sy’n siarad y Gymraeg yng Nghymru (mae’n debyg bod tua 100,000 arall y tu allan i’r wlad). Mae yna tua’r un faint ohonom na sydd o Fwslemiaid yn byw yn Llundain yn unig. Rydym ni’n bell o San Steffan, nid oes unrhyw oblygiadau i ni o ran ffurfio polisi tramor, rydym, at ein gilydd, yn byw yng nghefn gwlad neu mewn man drefi a phentrefi lle mae lefelau tor cyfraith yn isel, nid ydym yn ffactor etholiadol mewn mwy na llond dwrn o etholaethau, rydym wedi intergreiddio’n rhannol i’r gyfundrefn Brydeinig ers canrifoedd.

Tybed os ydi’r rhan fwyaf o weinidogion y llywodraeth hyd yn oed yn gwybod am ein bodolaeth?

Sunday, January 16, 2005

Y blog mwyaf diflas erioed. Y PDs yn 07.

‘Dwi’n sylweddoli mai hwn ydi’r eitem ryfeddaf i ymddangos ar flog Cymraeg erioed – dadansoddiad o obeithion etholiadol plaid fach Wyddelig nad oes prin neb yng Nghymru(ond Guto Bebb) wedi clywed amdano. Ceisiaf wneud un neu ddau o rai callach am wleidyddiaeth Cymru, Lloegr a’r Alban tros yr wythnosau nesaf.

Ceir peth o hanes y blaid yma

Prif nodweddion y blaid yw eu bod yn ryddfrydol (yn yr ystyr ‘liberal’) ac yn adain dde di gyfaddawd mewn materion economaidd. Er mai plaid fach ydi hi – ac un sy’n tueddu i fynd yn llai ac yn llai o etholiad i etholiad, mewn termau canran y bleidlais.– bu’n hynod o ddylanwadol. Bu mewn tair clymblaid efo FF – ac er eu bod yn llai o lawer na FF maent yn fwy ideolegol o lawer – ennill ac ymarfer grym ydi prif flaenoriaeth FF. O ganlyniad (a benthyg idiom Saesneg) mae’r gynffon ideolegol wedi ysgwyd y ci. Gall hawlio o leiaf rhan o’r clod am y ‘wyrth’ economaidd ddigwyddodd yn y Weriniaeth yn y ddegawd diwethaf.

Roedd yr etholiad diwethaf yn 2002 yn fuddugoliaeth iddynt – cawsant 8 (o gymharu a 4 yn 97) aelod – er i’w canran o’r bleidlais gwympo (i tua 4%). Mae rheswm syml am hyn. Pan ei bod yn amlwg na all FG ennill grym, mae llawer o’u cefnogwyr, mewn etholaethau lle gall y PDs lwyddo, yn pleidleisio i’r PDs yn y gobaith y byddynt yn ‘cadw trefn’ ar FF. Cafodd FG cryn lwyddiant yn yr etholaethau lleol eleni, felly ni fydd y ffactor yma yn weithredol. Gallant i gyd, ag eithro’r arweinydd Mary Harney (Dublin Mid West) –golli eu seddau.

‘Reit – golwg sydyn ar eu rhagolygon.

Mary Harney – Dublin Mid West – saff – yn enwedig gan bod Mid West yn cael aelod ychwanegol yn yr etholiad nesaf.

Fiona O’Malley – Dun Laoghaire – tebygol o golli ei sedd. Llwyddodd FG i golli dwy sedd (allan o 2) yma yn 2001. Bydd un os nad y ddwy yn dod yn ol. O’Malley fydd yn dioddef os ydi un yn mynd, a FF os aiff dwy. Mae hi hefyd yn berfformiwr cyhoeddus gwirioneddol wael.

Michael McDowell – Dublin South East – ‘Bear Pit’ gwleidyddol. Rhywle arall sy’n draddodiadol gryf i FG a lle na lwyddwyd i gael aelod o’r blaen. Bydd FG yn eu holau, a bydd hyn yn gwasgu ar bleidlais McDowell. Hefyd bydd rhywbeth sy’n ymdebygu i ryfel yn mynd rhagddo yn wardiau dosbarth gweithiol yr etholaeth rhwng Llafur, FF a SF. Bydd pleidlais uchel yma’n ddrwg iddo. Nid oes ganddo record o gael ei ail ethol mewn etholiad. Mewn perygl gwirioneddol.

Liz O’Donnell - Dublin South – perfformiad gwael yn yr etholiadau lleol, ac ond crafu sedd yng nghadarnle O’Donnell yn Terenure/Rathfarnam. Serch hynny mae O’Donnell yn wleidydd da, yn boblogaidd yn bersonol – ac yn ddel. Byddwn yn disgwyl iddi gael ei hail ethol.

Noel Grealish – Galway West – Gwneud yn eithaf yn yr etholiadau lleol, ond wedi ennill y tro o’r blaen gyda thachtegau anarferol iawn sydd ddim yn gweithio’n aml. Serch hynny, mae ganddynt hanes o gael eu hethol yn rheolaidd yma, ac er y bydd pwysau arnynt, byddwn yn disgwyl i Graelish gael ei ddychwelyd. 'Roedd pethau ar chwal o'r blaen wedi ymadawiad di symwth Bobby Molloy.

Tom Parlon – Laois – Offaly. Pleidlais Tom ydi un y PDs yma, nid un eu hunain. Mae’n ffigwr chwedlonol ymysg ffermwyr y wlad. Serch hynny mae’r etholaeth yma draddodiadol yn un clasurol FF / FG a byddwn yn disgwyl i adfywiad FG fod yn ormod i hyd yn oed Tom Parlon yma.

Tim O’Malley – Limerick East – Mae’r sedd dan bwysau yma, ac er i’r blaid gadw eu pleidlais yng nghefn gwlad yn yr etholiad lleol, maent angen cefnogaeth drefol yma, a methwyd a sicrhau hynny. Byddant yn colli’r sedd i rhywun o’r ddinas – Llafur, neu yn fwy tebygol annibynnol. Mae annibynnwyr hynod gryf yn y ddinas.

Mae Sexton – Longford Roscommon – roedd yn sioc enfawr i Sexton grafu i mewn o’r blaen. Newidiadau ffiniol mawr yn ffactor (drwg i’r PDs) Dim llwyddiant yn yr etholiadau lleol, dim gobaith.

Felly, yn fy marn i bydd ganddynt dair sedd. Gallai’n hawdd fod yn un. Sori Guto.

Sori am y truth uchod hefyd. Os oedd rhywun yn darllen fy mlog o’r blaen, mae’n amlwg, fydd yna neb o hyn allan

Tuesday, January 11, 2005

Drwgweithredwr!



Oes rhywun yn gwybod pwy ydi’r person ofnadwy yma.

Ymddengys iddo gael ei yrru adref nos Sadwrn am dri o’r gloch y bore, mewn car heddlu – goleuadau glas yn fflachio, ei ddwylo wedi eu clymu. ‘Roedd wedi cael hyd i frawd newydd, sef ‘Eifion Tudur’, mab i dditectif yn Heddlu Gogledd Cymru. Nid oedd yn bosibl iddo roi ei enw iawn i’r hogiau am y rheswm yma.

‘Roedd yr heddlu’n flin, yn uffernol o flin. Roeddynt wedi gorfod galw am ‘backup’ ac wedi gorfod deffro’r dyn oedd yn gyfrifol am y cwn. ‘Roedd hwnnw’n fwy blin na’r gleision cyffredin hyd yn oed. Cafodd y ddau eu llusgo i dy’r Doctor Gwion fel petaent wedi cael eu dal yn dwyn pres o focs hel ar gyfer y tsunami.

Beth oedd y weithred ofnadwy a gyflawnwyd gan y ddau ddihuryn ofnadwy felly. Chredech chi fyth – cysgu mewn cwt. Roedd rhan o Fethel wedi ei droi i rhywbeth oedd yn ymdebygu i downtown Chicago, oherwydd bod dau hogyn pymtheg oed yn rhy ddiog i gerdded i lle’r oeddynt i fod wedi treulio’r nos, ac wedi cysgu mewn cwt. I ba beth mae’r byd yn dod?

O leiaf gallwn gysgu’n dawel gan wybod bod ein cytiau’n saff

Wednesday, January 05, 2005

Etholiad Cyffredinol 2005

Wele'r gystadleuaeth darogan yma.
UnYnys Mon ydi'r un mae'r rhan fwyaf yn cytuno arno - sef bod Plaid Cymru yn mynd i ad ennill Ynys Mon.

Mae nifer o'r seddau unigol yma'n hynod ddiddorol. Ynys Mon wrth gwrs - byddai wedi bod yn fwy diddorol byth ond i bethau fynd yn ffradach rhwng y Ceidwadwyr. Dylai'r bleidlais wledig ail drefnu ei hun er lles y Blaid. Y Blaid i ennill yma.Yr unig beth sydd yn fy mhoeni ydi nad oes fawr o hanes o gael gwared o Aelodau Seneddol sydd eisoes yn eu seddau yma. Upper Bann sedd Trimble a phrif darged y DUP. Dwi'n meddwl mai'r DUP fyddai'n ennill ar bleidleisiau Protestaniaid, ond caiff yr hen Dave ei achub gan Babyddion. Digwyddodd hyn yn 2001. Bethnal Green & Bow, etholaeth efo llawer o Fwslemiaid lle bydd George Galloway yn cystadlu ar ran Respect. Gallai ennill, ond i mi mae'n fwy tebygol y bydd yn hollti'r bleidlais Lafur ac yn agor y drws i'r Ceidwadwyr.Inverness - sedd Lafur y gallai'r SNP neu'r Lib Dems ei hennill. Byddwn yn betio ar yr un drefn nag o'r blaen (1) Llafur (2) SNP (3) Lib Dems. Nid oes gogwydd o ragor na 5% am fod i'r SNP. St Albans a Colne Valley - y math o seddi fyddai'n gorfod syrthio petai Llafur i gadw grym. I aros efo Llafur yn fy marn i. Maidenhead sedd Theresa May. Bydd y Lib Dems wedi gwneud ymdrech anferth yma - ac mae pleidlais Lafur y gellir ei gwasgu. Lib Dems i ennill. Bristol West Llafur 8% ar y blaen, ond pleidlais y ddwy blaid arall yn agos iawn at ei gilydd. Byddwn yn disgwyl i'r bleidlais ail drefnu ei hun ac i'r Lib Dems ennill. Cambridge - mwyafrif o 20%. Gormod i neb ei oresgyn - beth bynnag yr amgylchiadau lleol.

'Dwi'n credu y bydd gogwydd tros Brydain o 2% i'r Toriaid, gyda'r Lib Dems yn gwneud yn dda mewn rhai etholaethau. Mwyafrif o 100+ i Lafur felly.

Beth bynnag, pob lwc os ydych am gystadlu!