Thursday, February 24, 2005

Blog bach gwahanol

'Roeddwn ar fin llunio blog gwleidyddol ychydig funudau yn ol pan benderfynais edrych yn ol tros yr hyn 'roeddwn wedi ei wneud hyd yn hyn. Gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth a mwy o blydi gwleidyddiaeth. Felly dyma flog bach gwahanol - a challach o lawer.

Roedd y Mrs, minnau a Lois i fod i fynd efo'n gilydd i Lundain am ychydig ddyddiau yr wythnos diwethaf. Ond ni oedd i fod i fynd. Dwy o'r tri hynaf yn y coleg, y llall yn gweithio, Gwion ar drip sgio ysgol i America (ches i ddim mynd cam ymhellach na Rhyl pan oeddwn i yn yr ysgol)oedd yn gadael Lynne, finnau a Lois. 'Doeddem ni erioed wedi bod am wyliau efo Lois ar ei phen ei hun o'r blaen. Beth bynnag, yn anffodus cymerwyd tad Lynne yn ddifrifol wael ddiwrnod neu ddau cyn y gwyliau, a cefais fy ngyru i Lundain ar fy mhen fy hun efo'r fechan - yn rhannol i'w chael o'r ffordd, ac yn rhannol am fod y gwyliau eisoes wedi ei dalu amdano. 'Roedd y greadures bach ar ei phen ei hun efo fi am ychydig ddyddiau. Wele luniau:

Image Hosted by Free Image Hosting

Image Hosted by Free Image Hosting

Image Hosted by Free Image Hosting

Sunday, February 13, 2005

Polau piniwn faint o werth sydd iddynt?

Gyda gwahaniaethau anferth yng nghanlyniadau'r polau - fel hwn a hwn a gyhoeddwyd yn yr Alban heddiw, mae'r cwestiwn yn un gwerth ei ofyn. Os mai'r Scotland on Sunday sy'n gywir byddai Llafur yn cael 37 sedd, y Lib Dems 13, SNP 6 a'r Toriaid 3. Os mai'r Sunday Herald sy'n gywir, yna mae'n stori tra gwahanol - Byddai Llafur yn cael 43 sedd, y Lib Dems 9 a'r SNP 6. Ni fyddai'r Toriaid yn cael dim.

Thursday, February 10, 2005

Pwy oedd lladron y 'Northern Bank'?

‘Dwi ddim yn gwybod wrth gwrs, ond tybed os ydi Hugh Orde, Bertie Ahern a Tony Blair yn gwybod? Mae Orde yn honni mai ei farn ‘broffesiynol’ o ydi mai PIRA sydd yn gyfrifol.

Mae’n rhaid cydnabod bod yna rai ffeithiau yn cefnogi’r farn yma – dal teulu yng nghadarnle Gwereniaethol Poleglass, fan honedig yn croesi’r ffin, trefn a hyfdra’r weithred, nifer fawr o bobl oedd yn cymryd rhan, yr angen mewn gweithred o’r fath i gael modd o gael gwared o arian ‘poeth’.

Ond tybed os mai hyn ydi’r unig beth sydd gan Orde? Nid oes gan y PSNI adain ‘intelligence’ fel yr RUC – mae’n debyg mai MI5 ac MI6 sy’n gyfrifol am hyn bellach – ac mae rhyfel Irac a’r WMDs nad ydynt yn bodoli, wedi dangos pam mor ddibenadwy ydi tystiolaeth o’r cyfeiriad yma. Ar y gorau un, mae ganddynt hanes o ddehongli tystiolaeth mewn modd sy’n ddefnyddiol i’w meistri gwleidyddol.

Beth am roi’r lladrad mewn cyd destun ehangach am ennyd? Pwy sy’n cael eu niweidio yn wleidyddol gan y digwyddiad? Sinn Fein. Pwy sy’n elwa yn wleidyddol o’r digwyddiad? Pawb arall.

Mae modd dadlau bod y ‘rhyfel’ yn y Gogledd o’r 80au canol ymlaen wedi bod o gymorth i Unoliaethwyr. Roedd lefel ‘derbyniol’ o drais gwleidyddol yn sicrhau bod Iwerddon unedig oddi ar yr agenda yn barhaol. Newidiodd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith hynny yn llwyr.

Fodd bynnag, pob tro mae’n ymddangos bod yr Unoliaethwyr am gael eu llusgo i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mae Hugh Orde yn ymddangos i stopio hynny. Cofier:

1) Y theatr stryd pan ‘dorrodd’ y PSNI ‘gylch sbiwyr’ yn Stormont. Dwsinau o swyddogion yn torri’r drws ffrynt i lawr ar ol estyn gwahoddiad i’r wasg a’r camerau teledu i ddod i dynnu lluniau. Ar ol chwilio’r lle am tua dau funud aethant ag un ‘floppy’ i ffwrdd efo nhw. Dwy flynedd yn ddiweddarach, gollyngwyd pob cyhuddiad yn erbyn un neu ddau o aelodau cyffredin SF.
2) ‘Herwgipio’ Bobby Tohill. Yr IRA wnaeth meddai Hugh. Dau fis yn ddiweddarach, gollyngwyd pob cyhuddiad yn erbyn yr ‘aelodau’ o’r IRA oedd i fod yn gyfrifol am yr herwgipio. Ceir mwy o’r stori yma
3) Columbia. Mae tri aelod o SF i fod wedi bod yn hyfforddi gwrthryfelwyr FARC yn Columbia. Maent yn cael eu rhoi o flaen llys barn, a’u cael yn euog o deithio ar basports ffug. Mae’r llywodraeth yn eu rhoi nhw yn ol yn y llys, sydd yn ei dro yn eu cael yn euog y tro hwn. Yr unig broblem ydi bod y tri bellach wedi diflannu oddi ar wyneb daear. Mae’r ffaith i hyn ddigwydd pan oedd y DUP wrthi’n cael eu gorfodi i rannu grym yn gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs,
4) Lladrad y ‘Northern Bank’. Eto ar yr union bryd pan mae Unoliaethwyr yn derbyn fflac gwleidyddol sylweddol am beidio a rhannu grym. Cyd ddigwyddiad arall reit siwr.

‘Rwan mae’n bosibl mai’r IRA sydd yn gyfrifol. Yn ol Ahern roedd Adams a McGuinness yn gwbl ymwybodol o beth oedd am ddigwydd pan oeddynt yn trafod y cytundeb efo fo cyn y ‘Dolig. Os felly maent yn anhygoel o ddwl, yn cytuno i weithredoedd sy’n gyfangwbl danseilio eu strategaeth wleidyddol eu hunain. Mae llawer o ansoddeiriau wedi eu defnyddio tros y blynyddoedd i ddisgrifio’r dynion yma – ond mewn difri calon – ‘twp’?

Sunday, February 06, 2005

Etholiad Cyffredinol 2005 yng Nghymru.

Mae'r polau yn gymharol agos o hyd. Gweler

Pol YouGov oedd agosaf ati yn etholiadau Ewrop y llynedd. A chymryd eu bod yn gywir eleni bydd y canlyniad yn agos. Petai'r ffigyrau hyn yn cael eu gwireddu mewn etholiad cyffredinol byddai senedd grog, gyda Llafur un sedd yn brin o fwyafrif llwyr.

A dweud y gwir, 'dwi'n meddwl y bydd Llafur yn ennill o fwy na hyn, ond beth fyddai'n digwydd yng Nghymru petai YouGov yn gywir?

Canlyniad etholiad 2001 oedd 41% i Lafur a 31% i'r Toriaid. Mae ffigyrau YouGov yn awgrymu gogwydd o 4% i'r Toriaid, ochr yn ochr a chynnydd o tua 5% ym mhleidlais y Lib Dems. Ymhellach mae'n awgrymu 6% o gwymp ym mhleidlais Llafur, a 2% o gynydd ym mhleidlais y Toriaid. Nid oes digon o fanylder Cymreig yno i ddod i gasgliadau ynglyn a pherfformiad y Blaid.

Byddai patrwm tebyg i hwn yn awgrymu y bydd Llafur yn colli Canol Caerdydd i'r Lib Dems, Gorllewin Clwyd,Preseli Penfro a Mynwy i'r Ceidwadwyr ac Ynys Mon i'r Blaid.

Byddwn, fodd bynnag yn disgwyl i Lafur fod yn poeni am nifer o seddi eraill - mae'r Toriaid yn eu bygwth yn, Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin, De Penfro, a dydi eu gafael ar Ogledd Caerdydd ddim yn edrych mor saff a hynny ar ol yr etholiadau lleol - eto y Toriaid fyddai'n elwa yma. Go brin y bydd llawer o'r rhain yn cwympo, ond gallai un neu ddwy fynd.

Bydd y Toriaid hefyd yn disgwyl gwneud yn dda yng Nghonwy, ond ddim digon da i ennill. Bydd y Blaid hithau yn disgwyl gwneud yn dda yn Llanelli a Gorllewin Cymru / De Penfro - ond eto dim digon da i ennill.

Wedi dweud hyn oll, byddwn yn bersonol yn disgwyl 2% o ogwydd i'r Toriaid gyda PC a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwella ar eu perfformiad rhyw gymaint. Y seddi fyddai'n syrthio wedyn fyddai Canol Caerdydd, Gorllewin Clwyd, Mynwy ac Ynys Mon.