Sunday, February 06, 2005

Etholiad Cyffredinol 2005 yng Nghymru.

Mae'r polau yn gymharol agos o hyd. Gweler

Pol YouGov oedd agosaf ati yn etholiadau Ewrop y llynedd. A chymryd eu bod yn gywir eleni bydd y canlyniad yn agos. Petai'r ffigyrau hyn yn cael eu gwireddu mewn etholiad cyffredinol byddai senedd grog, gyda Llafur un sedd yn brin o fwyafrif llwyr.

A dweud y gwir, 'dwi'n meddwl y bydd Llafur yn ennill o fwy na hyn, ond beth fyddai'n digwydd yng Nghymru petai YouGov yn gywir?

Canlyniad etholiad 2001 oedd 41% i Lafur a 31% i'r Toriaid. Mae ffigyrau YouGov yn awgrymu gogwydd o 4% i'r Toriaid, ochr yn ochr a chynnydd o tua 5% ym mhleidlais y Lib Dems. Ymhellach mae'n awgrymu 6% o gwymp ym mhleidlais Llafur, a 2% o gynydd ym mhleidlais y Toriaid. Nid oes digon o fanylder Cymreig yno i ddod i gasgliadau ynglyn a pherfformiad y Blaid.

Byddai patrwm tebyg i hwn yn awgrymu y bydd Llafur yn colli Canol Caerdydd i'r Lib Dems, Gorllewin Clwyd,Preseli Penfro a Mynwy i'r Ceidwadwyr ac Ynys Mon i'r Blaid.

Byddwn, fodd bynnag yn disgwyl i Lafur fod yn poeni am nifer o seddi eraill - mae'r Toriaid yn eu bygwth yn, Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin, De Penfro, a dydi eu gafael ar Ogledd Caerdydd ddim yn edrych mor saff a hynny ar ol yr etholiadau lleol - eto y Toriaid fyddai'n elwa yma. Go brin y bydd llawer o'r rhain yn cwympo, ond gallai un neu ddwy fynd.

Bydd y Toriaid hefyd yn disgwyl gwneud yn dda yng Nghonwy, ond ddim digon da i ennill. Bydd y Blaid hithau yn disgwyl gwneud yn dda yn Llanelli a Gorllewin Cymru / De Penfro - ond eto dim digon da i ennill.

Wedi dweud hyn oll, byddwn yn bersonol yn disgwyl 2% o ogwydd i'r Toriaid gyda PC a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwella ar eu perfformiad rhyw gymaint. Y seddi fyddai'n syrthio wedyn fyddai Canol Caerdydd, Gorllewin Clwyd, Mynwy ac Ynys Mon.

No comments: