Thursday, February 10, 2005

Pwy oedd lladron y 'Northern Bank'?

‘Dwi ddim yn gwybod wrth gwrs, ond tybed os ydi Hugh Orde, Bertie Ahern a Tony Blair yn gwybod? Mae Orde yn honni mai ei farn ‘broffesiynol’ o ydi mai PIRA sydd yn gyfrifol.

Mae’n rhaid cydnabod bod yna rai ffeithiau yn cefnogi’r farn yma – dal teulu yng nghadarnle Gwereniaethol Poleglass, fan honedig yn croesi’r ffin, trefn a hyfdra’r weithred, nifer fawr o bobl oedd yn cymryd rhan, yr angen mewn gweithred o’r fath i gael modd o gael gwared o arian ‘poeth’.

Ond tybed os mai hyn ydi’r unig beth sydd gan Orde? Nid oes gan y PSNI adain ‘intelligence’ fel yr RUC – mae’n debyg mai MI5 ac MI6 sy’n gyfrifol am hyn bellach – ac mae rhyfel Irac a’r WMDs nad ydynt yn bodoli, wedi dangos pam mor ddibenadwy ydi tystiolaeth o’r cyfeiriad yma. Ar y gorau un, mae ganddynt hanes o ddehongli tystiolaeth mewn modd sy’n ddefnyddiol i’w meistri gwleidyddol.

Beth am roi’r lladrad mewn cyd destun ehangach am ennyd? Pwy sy’n cael eu niweidio yn wleidyddol gan y digwyddiad? Sinn Fein. Pwy sy’n elwa yn wleidyddol o’r digwyddiad? Pawb arall.

Mae modd dadlau bod y ‘rhyfel’ yn y Gogledd o’r 80au canol ymlaen wedi bod o gymorth i Unoliaethwyr. Roedd lefel ‘derbyniol’ o drais gwleidyddol yn sicrhau bod Iwerddon unedig oddi ar yr agenda yn barhaol. Newidiodd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith hynny yn llwyr.

Fodd bynnag, pob tro mae’n ymddangos bod yr Unoliaethwyr am gael eu llusgo i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mae Hugh Orde yn ymddangos i stopio hynny. Cofier:

1) Y theatr stryd pan ‘dorrodd’ y PSNI ‘gylch sbiwyr’ yn Stormont. Dwsinau o swyddogion yn torri’r drws ffrynt i lawr ar ol estyn gwahoddiad i’r wasg a’r camerau teledu i ddod i dynnu lluniau. Ar ol chwilio’r lle am tua dau funud aethant ag un ‘floppy’ i ffwrdd efo nhw. Dwy flynedd yn ddiweddarach, gollyngwyd pob cyhuddiad yn erbyn un neu ddau o aelodau cyffredin SF.
2) ‘Herwgipio’ Bobby Tohill. Yr IRA wnaeth meddai Hugh. Dau fis yn ddiweddarach, gollyngwyd pob cyhuddiad yn erbyn yr ‘aelodau’ o’r IRA oedd i fod yn gyfrifol am yr herwgipio. Ceir mwy o’r stori yma
3) Columbia. Mae tri aelod o SF i fod wedi bod yn hyfforddi gwrthryfelwyr FARC yn Columbia. Maent yn cael eu rhoi o flaen llys barn, a’u cael yn euog o deithio ar basports ffug. Mae’r llywodraeth yn eu rhoi nhw yn ol yn y llys, sydd yn ei dro yn eu cael yn euog y tro hwn. Yr unig broblem ydi bod y tri bellach wedi diflannu oddi ar wyneb daear. Mae’r ffaith i hyn ddigwydd pan oedd y DUP wrthi’n cael eu gorfodi i rannu grym yn gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs,
4) Lladrad y ‘Northern Bank’. Eto ar yr union bryd pan mae Unoliaethwyr yn derbyn fflac gwleidyddol sylweddol am beidio a rhannu grym. Cyd ddigwyddiad arall reit siwr.

‘Rwan mae’n bosibl mai’r IRA sydd yn gyfrifol. Yn ol Ahern roedd Adams a McGuinness yn gwbl ymwybodol o beth oedd am ddigwydd pan oeddynt yn trafod y cytundeb efo fo cyn y ‘Dolig. Os felly maent yn anhygoel o ddwl, yn cytuno i weithredoedd sy’n gyfangwbl danseilio eu strategaeth wleidyddol eu hunain. Mae llawer o ansoddeiriau wedi eu defnyddio tros y blynyddoedd i ddisgrifio’r dynion yma – ond mewn difri calon – ‘twp’?

No comments: