Monday, December 05, 2005

Tri Chynhebrwng ac Ysgariad

Cynhebrwng mawr mae’n debyg – 60,000 o alarwyr, gan gynnwys llond lle o bobl adnabyddus o fyd peldroed a chwaraeon, gwleidyddion lleol – wedi eu hamgylchu gan y swyddogion diogelwch sydd o hyd yn un o nodweddion unrhyw ddigwyddiad cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon. Y daith i lawr y Prince of Wales Avenue heibio delw Edward Carson i ganol ysblander Neuadd Fawr Stormont yn rhoi arlliw o rwysg cynhebrwng gwladol. Sianeli teledu yn dangos y digwyddiad yn fyw o’r dechrau i’r diwedd. Tudalennau blaen a chefn y tabloids a’r papurau sydd yn esgys bod yn fwy difrifol yn llawn o’r stori heddiw.

Ac eto, mae’n anodd meddwl pam. ‘Doedd George heb chwarae pel droed ers degawdau – mae’n debyg nad oedd llawer o’r sawl aeth i’r cynhebrwng, neu a welodd y digwyddiad ar y teledu hyd yn oed yn ei gofio fel chwaraewr. Mae’n debyg eu bod wedi gweld llawer mwy ohono ar dudalennau’r tabloids tros y blynyddoedd.



A beth maent wedi ei weld a’i ddarllen amdano yn y tudalennau hynny? Storiau am lu o wahanol antics meddw, storiau am hwrio, lluniau ohono yn clecian peintiau o flaen y wasg ychydig fisoedd ar ol cael iau newydd, storiau ohono’n rhoi tipyn o grasfa i rhyw hogan bach ddel o wraig sy’n ymddangos ar I'm A Celebrity Get Me Out of Here yn ddiweddarach, ymosod ar blismyn, rwdlan yn feddw ar sioe deledu. Mae’r papurau wedi trosglwyddo’n ffyddlon hanes dyn a wrthododd gymryd cyfrifoldeb tros ei fywyd ei hun – dyn a safodd o’r neilltu ac edrych ar ei yrfa, ei berthynas efo’r sawl oedd agosaf ato, ei fywyd yn datgymalu, yn llithro i ffwrdd ac yn hydoddi. Dyn na allai gymryd cyfrifoldeb am ei fywyd ei hun - dyn nad oedd yn fodlon gwneud yr ymdrech. A defnyddio’r idiom Saesneg Couldn’t be arsed.

O edrych ar yr holl sioe, mae’n anodd braidd peidio meddwl am ddau gynhebrwng mawr cyhoeddus arall – y ddau ohonynt yn fwy nag un George – o ran y niferoedd a fynychodd o leiaf. Cynhebryngau dau arall a welodd eu bywydau’n cael eu siapio a’u taflu i’r naill gyfeiriad a’r llall gan rymoedd mwy na nhw eu hunain o lawer.

‘Roedd y cyntaf ar ddydd Sadwrn, Medi 6 1997 yn Eglwys Gadeiriol Westminster. ‘Roedd rhai pethau’n gyffredin rhwng cynhebrwng Diana ac un George. Llond lle o wynebau adnabyddus o’r cyfryngau, diddordeb ysol gan y papurau tabloid a’r cyfryngau, yr ymadawedig wedi byw rhan dda o’i bywyd rhwng cloriau’r papurau tabloid.

‘Roedd gwahaniaethau hefyd. Rhwysg Prydeindod yn nodwedd amlwg o’r digwyddiad, tyndra gwrth sefydliadol ynghlwm a fo yn sgil amgylchiadau’r farwolaeth a blynyddoedd olaf Diana. Roedd yr ymdeimlad o hysteria tawel torfol yn gryfach o lawer yn y cynhebrwng hwnnw.

Ond y gwahaniaeth mwyaf arwyddocaol oedd yr un rhwng George a Diana eu hunain. Beth bynnag ei gwendidau hi – ac roedd ganddi ddigon – o leiaf ceisiodd reoli ei bywyd ei hun – ceisiodd gymryd gafael arno. Byddai wedi bod yn hynod o hawdd sefyll yn ol – ymneilltuo o’i bywyd – dyna oedd disgwyl iddi ei wneud – dyna oedd bron i bawb oedd wedi bod yn ei sefyllfa hi wedi ei wneud o’r blaen.




Yn gwahanol i George, roedd yr ymddygiad oedd yn ei chael ar dudalennau blaen y tabloids – y bwlimia, yr hwrio, y gyboli efo pobl anerbynniol, yr anghytuno cyhoeddus efo’i gwr, yr ysgariad – y defnydd bwriadol o’r papurau tabloid yn ei rhyfel efo’i gwr hyd yn oed – yn ymdrech i gymryd rheolaeth o’i bywyd – i beidio cael ei sgubo i lawr afon oedd y tu hwnt i’w rheolaeth.

‘Roedd y trydydd cynhebrwng fel un George yng Ngogledd Iwerddon. Fe’i cynhalwyd ar Fai’r 7 1981. Er ei fod yn gynhebrwng aelod seneddol, nid aeth yr orymdaith ar gyfyl Plas Stormont – cynhebrwng Bobby Sands oedd o.

Roedd rhwysg ynghlwm a’r cynhebrwng hwn hefyd – rhwysg milwrol y traddodiad Gweriniaethol. Ond roedd y gwahaniaethau yn fwy trawiadol.

Roedd y wasg yno hefyd – ond ‘roedd y berthynas rhyngddynt a’r ymadawedig yn gwbl wahanol – ‘roedd Sands yn ymgorfforiad o ddrygioni llwyr iddynt – nid gwrthrych storiau lu oedd wedi gwerthu miliynau o gopiau o’r papurau.

Nid oedd fawr ddim wynebau adnabyddus yno – dim ond degau o filoedd o bobl o dai teras strydoedd culion gorllewin a gogledd Belfast, o ffermydd bach a man bentrefi Fermanagh, Tyrone ac Armagh, o drefi amaethyddol megis Omagh a Monaghan, o stadau enfawr Tallaght a Ballymun yn Nulyn. ‘Doedd yna ddim gorymdaith i fyny erwau eang Prince of Wales Avenue na’r Mall ond yn hytrach ymlwybrodd yr orymdaith i fiwsig yr hofrenyddion milwrol oddi fry trwy gulni clostraffobig y Lower Falls yng nghysgod fflatiau’r Divis ac yna i fyny trwy’r Upper Falls ac i fynwent Milltown – i fyny prif rydweil y gwrthryfel yn y Gogledd.

Nid awyrgylch o dristwch oedd yno, cymaint ag awyrgylch o arwahanrwydd a chwerder – fel petai’r glaw cyson yn ymdrochi’r dyrfa enfawr mewn surni.

Mae’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y tri chymeriad yn ddigon dadlennol. ‘Roedd George a Bobby yn eu ffyrdd gwahanol wedi ymneulltuo o’u bywydau eu hunain ac wedi caniatau i’r bywydau hynny gael eu llywio a’u rheoli’n llwyr gan rymoedd eraill – grymoedd o’r tu allan yn achos Bobby, a rhai o’r tu mewn yn achos George.. Cai bywyd George ei reoli gan reddfau ac anghenion sylfaenol, tra bod bywyd Bobby yn cael ei reoli gan ideoleg anhyblyg, crefyddol bron y gymuned oedd yn byw ynddi ar gyrion de orllewin Belfast. Cafodd bywydau’r ddau eu gwenwyno a’u difa gan y grymoedd oedd yn eu rheoli. Treuliodd George y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn yn feddw, a threuliodd Bobby y rhan fwyaf o ddigon o’i fywyd fel oedolyn mewn carchar. Bu farw Bobby ar ol deufis heb fwyta, bu farw George o gymhlethdodau yn deillio o’i alcoholiaeth.

Ar un ystyr roedd Diana yn fwy o rebel na’r naill a’r llall. Gwrthododd ildio i’r grymoeddallanol oedd yn ceisio meddianu ei bywyd hithau – a mewn rhai ffyrdd cafodd lwyddiant. Er ei bod yn llawer llai deallusol na’r ddau ddyn, ac yn llawer llai dewr na Bobby, roedd ganddi fwy o afael a rheolaeth ar ei bywyd ei hun rhywsut.

Ond mae un gwahaniaeth rhwng y tri chynhebrwng yn taflu goleuni ar un gwirionedd sylfaenol. Y ffordd i gyrraedd at y gwirionedd yma yw trwy ofyn y cwestiwn pa fywyd a pha gynhebrwng yw’r mwyaf arwyddocaol o ran yr effaith a gawsant?

Byddai rhai’n dweud ei bod yn fuan i ddweud pa effaith a gaiff bywyd ac angladd George – ond ‘dim’, neu ‘nesaf peth i ddim’ ydi’r ateb – mae hynny’n amlwg. Mae’n anhygoel ar un olwg cyn lleied o ddylanwad ar y berthynas rhwng y frenhiniaeth a’r boblogaeth yn gyffredinol a gafodd bywyd, amgylchiadau marwolaeth a chynhebrwng Diana – unwaith eto ‘dim’, neu ‘nesaf peth i ddim’.

Ar y llaw arall cafodd bywyd, neu’n hytrach farwolaeth Bobby ddylanwad pell gyrhaeddol ar hanes ei wlad ei hun. Yn y tymor byr arweiniodd at drais sylweddol. Yn y tymor hirach arweiniodd at dwf gwleidyddol Sinn Fein – ac arweiniodd hynny yn ei dro at y broses heddwch a’r cadoediad. Yn y chwarter canrif ers yr ympryd newyn mae gwleidyddiaeth Iwerddon wedi ei ail bensaernio – yn arbennig felly yn y Gogledd – ond mwyfwy yn y De erbyn hyn. Mae’r broses yn dal i weithio ei ffordd tua’i therfyn heddiw – ond bydd tirwedd gwleidyddol Iwerddon – Gogledd a De wedi ei drawsnewid mewn degawd. Mae hadau’r newid hwn wedi eu planu yn surni’r orymdaith gynhebryngol honno a’r amgylchiadau a arweiniodd ati bron i chwarter canrif yn ol. Pan aeth pobl yn ol adref i Tallaght, Tralee, Ardboe, Newry ac Armagh roeddynt yn seiliau i wleidyddiaeth etholiadol newydd – gwleidyddiaeth sur, chwerw, gwrthnysig – ond gwleidyddiaeth gwydn a phwerus.
Pam felly bod dylanwad marwolaeth Diana yn fwy tebyg i un George nag un Bobby? Mae’r ateb yn natur apel George a Diana. Cymeriadau tabloid oeddynt i bob pwrpas. Roedd ein diddordeb ynddynt yn debyg i’r diddordeb sydd gennym mewn cymeriadau opera sebon – roeddem yn eu hoffi am eu bod yn ein darparu gydag adloniant. Cymeriadau ffantasi oedd y ddau – rhywbeth y byddem yn hoffi bod – weithiau o leiaf. Dyna ydi’r papurau tabloid, a’r diwylliant tabloid - ffynhonnell adloniant, dihangfa, ffantasi. Yn ddi amau roedd llawer o’r sawl oedd yng nghynebrynnau Diana a George yno i dalu teyrnged – ond roedd llawer yno am eu bod eisiau bod yn rhan o’r sioe, yn rhan o’r adloniant.




Nid cymeriad tabloid oedd Bobby – a ‘doedd o ddim yn rhan o ddiwylliant adloniant chwaith. ‘Roedd y sawl a fynychodd ei gynhebrwng o yno am reswm arall. Pobl y cyrion oeddynt yn bennaf – y rhai o’r De yn ogystal a’r Gogledd. ‘Roedd profiad y Gogleddwyr o berthynas efo’r wladwriaeth a’r unigolion oedd yn cynnal y wladwriaeth honno, yn brofiad negyddol. Roedd y wladwriaeth (ar wahan i wahaniaethu yn eu herbyn) yn gwadu eu bodolaeth, ac felly yn gwadu eu hymdeimlad o hunan werth. Surni a gelyniaeth oedd yn nodweddu eu hagwedd tuag at y wladwriaeth – a’u cymdogion, ac roedd y surni hwnnw’n cael ei atgyfnerthu gan y cynhebrwng, a’r amgylchiadau oedd wedi arwain ato. Pobl o haen isaf cymdeithas y De oedd ar y Falls y diwrnod hwnnw’n bennaf – pobl fyddai wedi eu siomi yn yr wladwriaeth annibynnol a esblygodd yn y De. Pobl oedd yn credu mewn Iwerddon rydd, ond roedd yr Iwerddon rydd a gawsant wedi methu gwella ansawdd eu bywydau. Pobl siomedig.

Ac mae hyn yn ein harwain at wirionedd sylfaenol am y cyflwr dynol. ‘Dydi’r hyn sydd yn ein diddanu ni neu’n gwneud i ni chwerthin, neu’r ffilm neu’r llyfr sy’n gwneud i ni grio ddim yn effeithio llawer ar y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd. Ond mae sefyllfaoedd sydd yn ein siomi, sy’n ein suro, sydd yn tanseilio’r ymdeimlad sydd gennym o’n hunan werth, sy’n ein dadrithio, sy’n bychanu’r pobl a'r pethau sy’n bwysig i ni yn newid yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn edrych ar y byd. Gall hefyd, o dan rhai amgylchiadau, drawsnewid tirweddau gwleidyddol.

No comments: