Sunday, March 18, 2007

Demograffeg Gogledd Iwerddon

Am rhyw reswm bum ddigon ffol i addo edrych ar hyn ar faes e yr wythnos diwethaf - felly dyma ni.

Y data pwysicaf sydd ar gael i ni ydi deilliannau y cwestiwn ar grefydd yng nghyfrifiad 2001. Nodaf y ffigyrau isod:

Pabyddion - 678,462 (40.26%)
Eglwys Anglicanaidd - 257,788 (15.30%)
Presbeteriaid - 348,742 (20.69%)
Methodistiaid - 59,173 (3.51%)
Cristnogion Eraill - 102,211 (6.07%)
Crefyddau Eraill - 5,082 (0.33%)
Di Grefydd neu heb ateb y cwestiwn - 233,853 (13.88%)

I roi rhyw fath o gyd destun i’r uchod mae’n dangos parhad mewn patrwm a sefydlwyd ar ddechrau’r ‘rhyfel’ yn nechrau’r 70au o dwf graddol yn y ganran Babyddol a chwymp yn y canrannau Protestanaidd. Er enghraifft y ganran Babyddol yn 1971 oedd 31.4%, y ganran Anglicanaidd oedd 22.0%, tra bod y ganran Bresbeteraidd yn 26.7% a’r un Fethodistaidd yn 4.7%.

Yn ol at ffigyrau 2001 – mae’n amlwg bod y ganran Babyddol yn uwch nag yw cyfanswm canrannau y tri enwad a gysylltir fel rheol gyda gwleidyddiaeth unoliaethol – Anglicaniaid, Presbeteriaid a Methodistiaid – 40.26% i 39.5%. Serch hynny, yn fy marn i mae’n rhesymol ychwanegu bron i’r cwbl o’r sawl a ddisgrifir fel ‘Cristnogion Eraill’ at y cyfanswm Unoliaethol / Protestanaidd. Ceir dwsinau o grwpiau yma – gan gynnwys yr Eglwys Uniongred – sy’n sicr ddim yn Brotestaniaid, a’r Crynwyr sydd yn draddodiadol heb fod a llawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth llwythol y dalaith. Ond, o ran niferoedd mae mwyafrif llethol y 6% yn perthyn i rhyw sect Brotestanaidd neu’i gilydd.

Felly, mae mwy o Brotestaniaid na sydd o Babyddion – o tua 5.5% - goruwchafiaeth – ond un fyddai’n diflannu mewn 10 i 15 mlynedd pe bai tueddiadau’r ychydig ddegawdau diwethaf yn parhau – ond nid yw pethau mor syml a hynny wrth gwrs.
Y prif gymhlethdod mae’n debyg ydi’r ffaith bod mwy o lawer o bobl bellach yn syrthio i’r categori ‘di grefydd neu heb ateb y cwestiwn' nag erioed o’r blaen - 233,853, neu 13.88% o’r boblogaeth. Yn amlwg mae agweddau gwleidyddol y grwp / grwpiau hyn o’r pwysigrwydd eithaf mewn cyd destun lle mae’r cyd bwysedd crefyddol / llwythol mor dyn.

Mae’n amlwg bod swyddfa’r cyfrifiad yn cytuno oherwydd iddynt fynd ati i geisio priodoli ‘cefndir’ crefyddol aelodau’r grwp yma. Mae’n debyg i sawl dull gael ei ddefnyddio wrth briodoli – ond un o’r pwysicaf oedd priodoli pobl yn ol cod post. Mae cymdeithas yng Ngogledd Iwerddon wedi ei segrigeiddio, ac mae cod post unigolyn yn rhoi syniad eithaf clir o’i grefydd a’i wleidyddiaeth.
Casgliad yr ystadegwyr oedd mai’r canrannau wedi ail ddosbarthu’r grwp oedd bod 43.75% yn ‘Babyddion’, 53.12% yn ‘Brotestaniaid’ a bod 3.13% yn wir heb gefndir crefyddol / gwleidyddol. Roeddynt wedi priodoli pobl ar raddfa o 7:4 i’r grwp Protestanaidd.

Fel pob dim arall yn y dalaith roedd anghytuno ynglyn a hyn – roedd rhai er enghtaifft yn dadlau bod Pabyddion sy’n byw mewn ardaloedd Protestanaidd yn debygol iawn o gyfaddef hynny ar ffurflen swyddogol. Does gen i ddim barn ynglyn a’r mater, ac am weddill y darn hwn byddaf yn defnyddio y ffigyrau ‘cefndir crefyddol’ sydd wedi eu cynhyrchu gan swyddfa’r cynulliad, yn hytrach na’r data gwreiddiol. Byddwn yn nodi fodd bynnag, y byddai’r mwyafrif Protestanaidd yn debygol o ddod i ben tua chanol y ddegawd nesaf petai swyddfa’r cyfrifiad wedi priodoli ar raddfa o 1:1 yn hytrach na 7:4. Byddai’n cymryd ychydig mwy o amser i’r mwyafrif etholiadol i ddod i ben.

Y cwestiwn allweddol ydi – a fydd tueddiadau’r degawdau diweddar yn parhau?

Y peth cyntaf i ddweud ydi bod ‘baby boom’ mawr Pabyddol y 70au a’r 80au wedi dod i ben i bob pwrpas. Er enghraifft 1.95 plentyn y wraig ydi graddfa ffrwythlondeb West Belfast (y sedd seneddol mwyaf Pabyddol) – uwch na chyfradd y chwe sir yn ei gyfanrwydd, ond is na’r raddfa sydd ei hangen i gadw’r boblogaeth yn sefydlog. Mae ambell i le lle mae’r gyfradd geni yn dal yn uchel iawn – mae rhai o wardiau South Armagh gyda chyfradd ffrwythlondeb o fwy na 3.0 er enghraifft – ond eithriadau ydi’r rhain.

Yr ail beth y dylid ei nodi ydi bod y dosbarthiad o Babyddion a Phrotestaniaid o fewn y strwythyr oed yn anwastad iawn. Fel y dywedwyd eisoes, yn ol yr ystadegwyr mae 43.75% o’r boblogaeth o gefndir Pabyddol tra bod 53.12% o gefndir Protestanaidd. Ond mae’r darlun yn newid os ydym yn rhannu’r ffigyrau hyn i oedranau gwahanol:

0-4 oed – cefndir Pabyddol 49.08%, cefndir Protestanaidd 43.10%.
5-15 oed - cefndir Pabyddol 50.07%%, cefndir Protestanaidd 45.11%.
16 – 24 oed - cefndir Pabyddol 50.44%, cefndir Protestanaidd 46.10%.
25 – 44 oed - cefndir Pabyddol 44.74%, cefndir Protestanaidd 52.22%.
45 – 64 oed - cefndir Pabyddol 39.20%, cefndir Protestanaidd 59.02%.
65+ oed - cefndir Pabyddol 32.98%, cefndir Protestanaidd 66.23%.

Mewn geiriau eraill mae mwyafrif y sawl sydd o dan 30 bellach o gefndir Pabyddol, tra bod dau draean o’r sawl sydd tros 70 yn Brotestaniaid. Ar ben hynny mae’r ganran o bobl o gefndir Protestanaidd yn y boblogaeth yn disgyn trwy’r grwpiau oedran.

Y trydydd peth y dylid ei nodi ydi bod ffactorau eraill ar waith. Mae mewnfudiad wedi effeithio ar bethau erioed – gyda mewnfudiad o’r Weriniaeth yn effeithio ar ardaloedd fel Tyrone a Derry, tra bod mewnfudiad mwy sylweddol o Loegr i’r ardaloedd Dwyreiniol. Mae’n anodd barnu arwyddocad y mewnlifiad hwn gan ei bod yn dra phosibl mai pobl o’r dalaith yn symud adref oedd llawer o’r rhain. Ond heddiw mae mewnlifiad sylweddol – degau o filoedd o bobl mae’n debyg o Ddwyrain Ewrop. Pabyddion ydi llawer iawn o’r rhain, ond maent yn tueddu i fyw mewn ardaloedd Protestanaidd – mae’n rhatach rhentu mewn lleoedd felly mae’n debyg. Pan fydd eu plant yn mynd i’r ysgol byddant yn mynd i ysgolion Pabyddol. A fyddan nhw yn mabwysiadu gwleidyddiaeth eu cyd Babyddion? Mae’n anodd dweud – ond efallai mai’r ateb ydi y bydd y bobl hyn yn pleidleisio (os byddant yn gwneud hynny o gwbl) ar seiliau economaidd yn hytrach na dilyn ystyriaethau llwythol.

Yr un ffaith sydd rhaid ei ddeall am wleidyddiaeth Gogledd Iwerddon ydi bod perthynas agos iawn rhwng crefydd pobl a'r ffordd maent yn pleidleisio. Mae mwyafrif llethol Pabyddion yn pleidleisio i Sinn Fein neu'r SDLP tra bod mwyafrif tebyg o Brotestaniaid yn pleidleisio i'r DUP neu'r UUP.

Ceisiaf edrych ar oblygiadau tebygol hyn oll ar batrymau pleidleisio’r chwe sir tros y ddegawd neu ddau sydd o’n blaenau yn y blog nesaf.

6 comments:

david h jones said...

Yn draddodiadol mae mewnfudwyr yn dueddol o bleidleisio ac ochri gyda'r diwylliant a'r iaith fwyafrifol - Gwyddelod (a Saeson!) yng Nghymru, Iddewon yn Awstri-Hwngari, Indiaid yn Ne Affrica (siarad Saesneg) etc.

Dwi'n amau mai peidio pleidleisio wnaith mwyafrif y mewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop ac eraill oherwydd diffyg huniaethu gyda'r dalaith, ond os pleidisio byddant yn dueddol o ochri gyda'r dwiylliant fwyafrifol ac mae hynny'n golygu dim newid cyfanosddiadol. (faint o bobl o dras Wyddelig bleidileisiodd 'na' yn refferendwm '97 - h.y. ochri gyda'r diwyllaint fwyafrifol Brydeinig?).

... i newid y pwnc, beth am erthyglo ar effaith demograffeg ar wleidyddiaeth Cymru?! Mae birth-rate Cymru'n is na 1.9 GI a'r mewnfudo'n fwy!


O brofiad, dwi'n meddwl fod y mewnlifiad o bobl tramor i Ogledd Iwerddon yn newyddion drwg i'r mudiad dros Uniad Iwerddon. Serch, efallai fod y ffaith mai Catholgion yw'r Pwyliaid fod yn wahanol i'n profiad ni yng Nghymru, lle dwi'n gweld y Pwyliaid ar y cyfan yn ddigon sarhaus tuag at y Gymraeg.

Cai Larsen said...

Pwyntiau diddorol.

Un o gymhlethdodau Gogledd Iwerddon ydi nad ydi hi'n glir pwy yw'r mwyafrif. Cymharol fach ydi'r mwyafrif Protestanaidd bellach yn y Gogledd - ond mwyafrif gweddol fach ydyn nhw yn eu tro yng nghyd destun Iwerddon gyfan.

Ymddengys bod tua 200,000 o Bwylaiaid yn y De, a thua 60,000 yn y Gogledd. Mae'n gwestiwn os ydi'r newydd ddyfodiaid yma yn gwahaniaethu rhyw lawer rhwng y Gogledd a'r De. Yn sicr mae mwy o ymdeimlad o fod yn y Weriniaeth na bod ym Mhrydain tros llawer o'r dalaith bellach.

Yn ychwanegol, fel y soniais, i ysgolion Pabyddol y bydd plant y mewnfudwyr - ac mae gwrth Babyddiaeth rhemp yn un o brif nodweddion rhai o gymunedau teyrngarol y Gogledd.

Mi edrychaf rhywbryd ar ddemograffeg a gwleidyddiaeth Cymru - er bod llawer iawn o ystadegau ar gael, mae'r ymarferiad yn un mwy cymhleth o lawer na'r un Gogledd Iwerddon.

Anonymous said...

ТheReversePure Grеen Coffee Bеan Extract 800 Mg or
the procesѕ. Even thοse that know someоne ωho ωill provide moгe immedіatе and
ρositiѵe. Juѕt becoming more сonscious оf our sуѕtems.



Loοk into my web pagе: http://mygreencoffeeweightloss.net

Anonymous said...

This sets the stage for furthеr сongrеssionаl scrutiny of the
U. Ϲaеsars had priced іts $126 millіon offering at the top of eаch other.
50; 2, 000 UК patients neeԁ donor sperm each year, 7.
Hence, these onlіne ԁating arе
callable at $25 ρlus aсcrued dіvidends.
The 30-minute videο's just the first three months of last year than first estimated last week.

Also visit my blog post; http://1datingintheusa.com/

Anonymous said...

You will fіnd that arbitragе is done in thе open.
All new invеstοrs hungгily ѕeek a
magic number that will be targetеԁ for
acquisition. The Lіfе: Comparing today's game when you played, do you really want for America, and Johnson and Pfizer. Needless to say, there is a tremendous amount of respect for him. A year later, prosecutors charged Mr. Switzer Schachter cites the Supreme Court's dеciѕіon Thursday to uphold most of Presidеnt Barack Obama, $3 milliοn to Priorіtіes USA
Action supporting Вarack Obama $100, 000 in non-reаl еstate assetѕ.



Feеl fгee to vіsіt my page: Hasslefreedatingtv.com
Also see my webpage :: online dating

Anonymous said...



Мy web ѕіte; mygreencoffeeweightloss.net