Wednesday, April 25, 2007

Plan 3 y Blaid Lafur

Un neu ddau o bwyntiau brysiog ynglyn a stori fawr y diwrnod:

Yn gyntaf mae beth ddigwyddodd yn gwbl rhyfeddol. Canolbwynt ymgyrch Llafur hyd yma oedd Vote Plaid, get Tory. Yn sicr, dyma unig thema etholiadol yr ymgeisydd Llafur yn yr ardal yma. Eto - os ydi stori'r BBC i'w gredu, bwriad gwirioneddol Llafur ydi dod i gytundeb a Phlaid Cymru wedi'r etholiad - rhywbeth maent wedi tyngu na fyddent yn ei wneud ers misoedd.

Mae Rhodri Morgan bellach yn gwadu hyn, ac mae Peter Hain wedi rhyddhau datganiad sydd ar yr olwg gyntaf yn gwadu'r honiad - ond o edrych yn agosach nid yw'n gwadu'r peth o gwbl.

Mae sawl eglurhad:

(1) Mae'r gohebydd a dorrodd y stori, Vaughan Roderick, yn dweud celwydd.

(2) Mae Rhodri Morgan yn dweud celwydd.

(3) Mae rhywun oddi fewn i'r Blaid Lafur yn gweithredu tu cefn i Rhodri, ac yn ol pob tebyg yn cynllwynio yn ei erbyn.

(4) Mae Rhodri yn rhyw hanner dweud y gwir hy mae yn gynnil efo'r gwirionedd.

Fe allwn ddiystyru (1) cyn gwneud dim byd arall. Mae'n gwbl sicr y byddai'n rhaid i Vaughan brofi tu hwnt i pob amheuaeth i reolwyr y Bib bod y stori'n wir, neu ni fyddai wedi ei rhyddhau gan y Bib. Petai Vaughan yn cael ei ddal yn dweud celwydd, byddai yn sefyll yng nghiw dol Cowbridge Road yn fuan yr wythnos nesaf.

Fe allwn hefyd anghofio (3). Efallai bod gan Rhodri elynion oddi mewn i'w blaid - a rhai sydd yn gogwyddo tuag at Plaid Cymru ar hynny - ond mae'r wybodaeth mor ffrwydrol yng nghyd destun yr etholiad arbennig yma, fel ei bod yn anhebygol y byddant yn darnio eu hymgyrch eu hunain er mwyn niweidio Rhodri - yn sicr yng nghanol etholiad.

Mae (2) yn bosibl. Bydd gwleidyddion yn dweud celwydd yn aml.

Ond (4) yw'r mwyaf tebygol. Mae'n debyg gen i bod Llafur wedi bod yn edrych ar eu data canfasio, ac wedi dod i'r casgliad na allant reoli ar eu pen eu hunain, a'i bod yn fwy na phosibl na fyddant yn gallu ffurfio llywodraeth efo'r Democratiaid Rhyddfrydol chwaith. Mae trafodaeth fewnol anffurfiol wedi mynd rhagddi, ac mae plan C wedi ei ffurfio - llywodraeth Lafur yn cael ei chefnogi o'r tu allan gan y Blaid. Dydi Rhodri heb arwain hyn, ond mae'n ymwybodol o'r deillianau. Mae rhywun wedi penderfynu paratoi'r ffordd trwy siarad gyda Vaughan, ond nid yw Rhodri wedi rhoi caniatad iddynt wneud hynny.

Beth bynnag Vaughan, da iawn chdi - hwyrach bod y bennod bach hon am wneud mwy o les i Walia nag a lwyddaist i'w wneud yn dy orffennol pell mwy, ah hem, chwyldroadol.

Tuesday, April 24, 2007

Pam mor bwysig ydi posteri mewn etholiadau erbyn hyn?

Mae llai o lawer o sticeri o gwmpas mewn ffenestri tai a cheir yn etholaeth Arfon (a hyd y gwelaf i, Meirion Dwyfor) nag a fu mewn rhai etholiadau blaenorol. Roedd llawer iawn, iawn o bosteri o gwmpas yn 97 - ond y penllanw yn fy marn i oedd 83.

'Dwi'n deall bod llawer o bosteri yng Ngheredigion heddiw. Cymharol ychydig oedd i'w gweld yno pan oeddwn i'n fyfyriwr yn Aber yn ol yn 1979 - yn sicr o gymharu ag etholaeth Caernarfon. Am wn i bod ffasiwn yn newid - a mae posteri yn rhyw fath o gaseg eira - mae pobl yn tueddu i'w rhoi nhw i fyny pan mae cymdogion o berswad arall yn rhoi eu rhai nhw i fyny.

Ond y cwestiwn diddorol ydi - pam mor effeithiol ydi posteri?

Yn fy marn bach i, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ‘dydi posteri ddim yn bwysig iawn. ‘Dwi’n siwr bod un neu ddau o bobl yn cael eu argyhoeddi gan bosteri – ond prin iawn ydi’r bobl hyn. Yn achos Ceredigion, neu Arfon mae’n hysbys i bawb pwy fydd y ddwy blaid fwyaf, felly, eto yn fy marn i, ni fydd posteri yn cael dylanwad mawr ar y pleidleisio (er bod rhywun ddylai wybod yn well wedi dweud wrthyf heddiw mai trydydd fydd Llafur yn Arfon).

‘Dwi ddim yn amau chwaith bod mor o bosteri yn codi’r gyfradd bleidleisio rhyw ychydig, oherwydd bod pobl yn cael eu hatgoffa o’r etholiad trwy’r amser – ond mae’r gyllell yma yn torri dwy ffordd. - mae cefnogwyr pleidiau eraill yn cael eu hatgoffa o’r etholiad hefyd.

Fodd bynnag, ‘dwi’n credu bod posteri yn effeithiol o dan rhai amgylchiadau. Mewn edefyn arall mae’r Gath yn dweud ei fod o’r farn bod y mor o bosteri a godwyd gan Lafur yn etholiad 97 yn hen etholaeth Caernarfon wedi bod o gymorth iddynt (er ei fod hefyd o’r farn nad yw posteri at ei gilydd yn effeithiol). ‘Dwi’n digwydd cytuno bod y defnydd o bosteri yn yr achos arbennig hwnnw wedi bod yn effeithiol.

Y rheswm oedd bod Llafur wedi bod yn hynod o aneffeithiol wrth dynnu sylw atyn nhw eu hunain yn yr etholiadau blaenorol, a bod y Blaid wedi cornelu cyfran helaeth o’r bleidlais wrth Doriaidd. Pleidlais Lafur oedd cydadran go lew o honno yn y bon. Roedd y posteri, fel rhan o ymgyrch ehangach, ac mewn cyd destun lle’r oedd y gwynt yn hwyliau Llafur, yn ffordd nerthol o atgoffa pobl bod yr opsiwn Llafur ar gael. Ymgyrch Eifion Williams yn hen etholaeth Caernarfon yn 97 ydi un o’r rhai mwyaf effeithiol rwy’n ei chofio. Roedd y defnydd o bosteri yn rhan bwysig o’r ymgyrch honno.

Sefyllfa arall lle mae’r defnydd o bosteri yn bwysig ydi lle mae hollt tair (neu bedair) ffordd, lle mae posibilrwydd o bleidleisio tactegol, a lle nad yw’n hysbys pwy sy’n debygol o ennill. Mae seddi Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro ac i raddau llai Penfro Preseli yn syrthio i’r categori hwn. Mae siarad ar y stryd yn bwysicach na phosteri – ond gall posteri gyfranu at y canfyddiad cyffredinol o pwy sy’n gystadleuol mewn sefyllfa fel hyn.

Mewn geiriau eraill, dydi posteri ond yn effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd arbennig, ac hynny ond fel rhan o ymgyrch ehangach effeithiol.

Sunday, April 22, 2007

Vote Plaid, get Conservative. Strategaeth anonest.

Mae gen i daflen Llafur o fy mlaen ar hyn o bryd – y daflen honno sy’n cael ei dosbarthu trwy Gymru – hynny yw eu prif daflen. Mae tua dau draean ohoni yn amrywiaeth ar y thema bod perygl mawr i’r Toriaid ddod i rym yng Ngymru, bod pleidlais i bawb arall yn bleidlais tros lywodraeth Doriaidd, ac y byddai angau, gwae a gwewyr yn dilyn o hynny. Cymharol ychydig o ymdrech a wneir i frolio ‘llwyddiannau’ Llafur tros y ddau dymor diwethaf, nag yn wir i werthu addewidion y blaid honno ar gyfer y tymor nesaf. Mewn geiriau eraill, ceisio dychryn pobl i bleidleisio trostynt ydi prif thema’r daflen. A barnu oddi wrth eu cyfraniadau yn y cyfryngau a blogiau, megis un Martin, dyma brif thema eu hymgyrch.

O sefyll yn ol am ennyd, mae’r cysyniad yn gwbl chwerthinllyd. Ystyrier y canlynol:

(1) Llafur oedd yn gyfrifol am greu’r dull rhannol gyfrannol a ddefnyddir i ethol y Cynulliad. Er bod y dull yn un gwael, maent i’w canmol am wneud hynny. Byddai trefn first past the post llwyr wedi creu rhyw fersiwn genedlaethol o’r hen Gyngor Canol Morgannwg, ac wedi amddifadu’r Toriaid o unrhyw gynrychiolaeth o gwbl bron, er bod ganddynt gefnogaeth digon soled. Byddai’r ddau sefyllfa wedi body n drychineb i ddemocratiaeth Gymreig.

Un o brif nodweddion dull cyfrannol o ethol gwleidyddion ydi ei fod yn amlach na pheidio yn gorfodi gwleidyddion i gyd weithio.

(2) Ymddengys bod Llafur yn gwrthod cydweithredu efo dwy o’r tair prif blaid – er ei bod yn ymddangos bod rhai o’u hymgeiswyr o dan yr argraff nad ydynt am gyd weithredu efo neb.

(3) Os ydw i’n deall pethau yn iawn, yr esgys tros wrthod cyd weithredu efo’r Toriaid ydi gwahaniaethau ideolegol, a’r ffaith bod Llafur wedi argyhoeddi eu hunain y byddai’r awyr yn syrthio ar ein pennau petai’r Toriaid gyda mymryn o ddylanwad ar lywodraeth.. Duw a wyr beth ydi’r gwahaniaethau, mae’n anodd cael papur sigarets rhwng y ddwy blaid yn y rhan fwyaf o feysydd.

(4) Dydi Plaid Cymru ddim ffit i rannu grym efo Llafur oherwydd eu bod yn rhyw hanner credu mewn annibyniaeth. ‘Rwan mae hyn yn eithaf chwerthinllyd – dydi’r Blaid ddim yn galw hyd yn oed am refferendwm ar y mater (er mawr gywilydd iddi). Mae’n debyg y byddai’r Blaid yn ei chael yn haws i gyd weithredu efo Llafur nag efo’r Toriaid.

Felly, mae’r sefyllfa lle mae yna bosibilrwydd y bydd y Toriaid yn cael eu hunain mewn llywodraeth yn un sydd wedi ei chreu yn llwyr gan y Blaid Lafur ei hun – ac mae wedi ei chreu i raddau helaeth am resymau sy’n ymwneud a strategaeth etholiadol.

Yn ymarferol os ydi Llafur yn gwrthod cyd weithredu efo’r Blaid, nag efo’r Toriaid, a’n bod yn darganfod ar Fai 4 nad oes ganddyn nhw a’r Democratiaid Rhyddfrydol y niferoedd o ran seddi i ffurfio llywodraeth, yna unig ddewis y pleidiau eraill fydd cyd weithredu i ffurfio llywodraeth, neu adael y wlad yn ddi lywodraeth i bob pwrpas am bedair blynedd. Fyddai yna ddim dewis yn ymarferol. Byddai’r glymblaid PC / Toriaid wedi ei chreu gan y Blaid Lafur ei hun.

Dwi ddim yn siwr pam mor effeithiol fydd y strategaeth - dwi wedi canfasio rhai canoedd o bobl bellach yn nhref Caernarfon, ac nid oes yr un enaid byw wedi son am y peth.

Friday, April 20, 2007

Llafur yn drydydd yng Ngorllewin Clwyd?

Allan yn canfasio yng Nghaernarfon heddiw, a chael sgwrs rhwng y drysau efo ambell un sydd wedi bod wrthi ar hyd a lled y Gogledd.

Y son oedd bod Llafur yn debygol o ddod yn drydydd mewn dwy sedd maent yn eu dal ar hyn o bryd - Aberconwy a Gorllewin Clwyd.

Tybed lle arall bydd Llafur yn dod yn drydydd neu waeth?

Ynys Mon mae'n siwr, er mai nhw sy'n dal y sedd seneddol. Gallent yn hawdd ddod yn drydydd yng Ngorllewin Caerfyrddin / De Penfro a hyd yn oed ym Mhenfro Preseli. Pedwerydd fyddant yng Ngheredigion ac efallai yn Nhrefaldwyn. Trydydd fydd eu safle ym Mrycheiniog Maesyfed.

Tybed os oes yna unrhyw le arall y daw plaid Blair yn drydydd neu waeth ynddo.

Wednesday, April 18, 2007

Pam nad ydi pobl dlawd na phobl gyfoethog yn cwyno?

Allan yn canfasio yng Nghae Gwyn a Ffordd Ysgubor Wen yng Nghaernarfon heno.

I'r rhai ohonoch nad ydych yn adnabod tref y Cofis yn dda iawn, mae'r ardal yma yn gefnog iawn - mae'n debyg ei bod ymysg y llefydd cyfoethocaf yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Roedd y ganfas yn un hynod o gadarnhaol, ac roedd yn noson lle nad oedd yr un enaid byw yn cwyno am ddim. Cefais noswaith debyg nos Lun o ran y cwyno beth bynnag - canfasio Bro Seiont yn Ne'r dre. Un o ardaloedd tlotaf y Gogledd Orllewin. Neb yn cwyno am ddim.

Mae ambell i ardal lle mae pobl yn cwyno am pob math o bethau - dim digon o ddatblygu yn y dre, gormod o ddatblygu, dim byd yma, y pethau sydd yma fel y Galeri a'r Ganolfan Denis yn wastraff arian, dim digon o le i barcio, pob dim yn mynd i Gaerdydd, y ffaith bod yr ymgeisydd Llafur yn gwisgo crys T tyn, pinc, rhyfel Irac, gormod o Saeson, gormod o bwyslais ar y Gymraeg, cyffuriau, baw ci, diffyg cyfyngder gyrru, datblygiad newydd Watkin Jones ac ati ac ati.

Ond anaml iawn mewn ardal dlawd - na mewn ardal gyfoethog. Pam tybed?

Tuesday, April 17, 2007

Pam bod Plaid Cymru yn gwneud yn well mewn etholiadau Cynulliad?

'Dwi'n gwybod fy mod wedi gaddo gwneud rhywbeth arall, ac fe wnaf hynny maes o law - ond hyd yr etholiad fe geisiaf 'sgwennu gair neu ddau yn ddyddiol.

I roi fy nghardiau ar y bwrdd cyn cychwyn, 'dwi'n aelod o Blaid Cymru, 'dwi'n canfasio yn aml i'r blaid honno - yn ardal Caernarfon fel rheol, a 'dwi'n gadeirydd y Blaid yn nhref Caernarfon ar hyn o bryd. Cangen fwyaf Cymru fel mae'n digwydd bod.

Beth bynnag, at y cwestiwn - mae pawb yn gwybod bod y Blaid yn gwneud yn gymharol dda mewn etholiadau Cynulliad, ond ychydig o bobl sy'n deall pam. Yn fy marn i mae pedwar prif reswm am hyn:

(1) Mae pobl yn tueddu i resymu'n gwahanol mewn etholiad Cymru gyfan - dydi'r hen ddadl bod pleidlais i'r Blaid yn wastraff o bleidlais ddim yn dal dwr.

(2) Mae'r gyfradd pleidleisio yn is nag yw mewn etholiad San Steffan - ac mae Pleidwyr yn well am fynd allan i bleidleisio na dilynwyr y pleidiau Prydeinig - yn arbennig mewn etholiad Gymreig.

(3) Mae'r sylw a gaiff y pleidiau ar y cyfryngau yn weddol gyfartal.

(4) Ac yn bwysicach na dim efallai mae'r gwariant yn fwy cyfartal. Mae'r pleidiau Prydeinig yn fodlon gwario llawer iawn, iawn ar etholiadau San Steffan - ond nid ydynt yn fodlon gwario yn agos cymaint ar etholiadau Cymreig. Ystyrier y ffigyrau hyn sy'n dangos faint a wariwyd gan pob plaid fawr yng Nghymru yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf (2005):

Llafur - £1,075,470.00
Torïaid - £845,015.71
Dem Rhydd - £258,115.00
Plaid - £38,879.00

Yn anhygoel gwariodd y Toriaid £280,000 am pob un o'i tair sedd yng Nghymru.

Ffordd arall i edrych ar hyn ydi faint mae pob plaid yn ei wario y bleidlais. Dyma'r ffigyrau tros Brydain yn 2005:

Llafur: £1.90
Toriaid: £2.03
Lib Dems: 72p
SNP: 47p
Plaid Cymru: 22p
UKIP: £1.07
Plaid Werdd: 62p
BNP: 58p

Felly, mae'n dda gen i ddweud - y blaid ydi'r Blaid mwyaf cost effeithiol ym Mhrydain - mewn etholiadau o leiaf.