Wednesday, December 31, 2008

Delweddau na fyddwch yn eu gweld ar Sky, na'r BBC nag yn y papur newydd



Lluniau a geir uchod o gost dynol y don gyntaf o ymysodiadau ar Ragfyr 27.

Fel 'dwi'n postio hwn 'dwi'n gwrando ar rhyw ddynas o lywodraeth Israel yn dweud nad oes gan ei llywodraeth unrhyw ddewis ynglyn a'r hyn maent yn eu gwneud ar Lain Gaza, ac y byddai unrhyw wlad arall yn gwneud yr un peth.

Wna i ddim sylw ynglyn a hynny am y tro, ond mi hoffwn nodi bod canlyniadau cwbl ragweladwy pan mae awyrennau F16 yn saethu taflegrau i un o'r llefydd gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn y byd.

Un o'r canlyniadau hynny ydi bod cnawd dynol yn cael ei losgi ei ddarnio a'i rwygo - ac mai cnawd plant ydi llawr o hwnnw.

Gobeithio ei bod yn meddwl bod deilliannau ymdrechion llu awyr ei gwlad yn cyfiawnhau'r gost.

Cais bach cwrtais gyfeillion

Gadawyd honiadau ynglyn ag un o gynghorwyr Llais Gwynedd ar waelod y cyfraniad diweddaraf ar y blog yma.

'Dwi wedi chwalu'r sylw oherwydd nad oes gen i ddim ffordd o wybod os oedd yr honiad yn wir neu beidio.

Mi fyddaf yn ceisio osgoi cymedroli, ac mi fyddaf yn gadael i unrhyw un wneud unrhyw sylw mae eisiau ei wneud - cyn belled a fy mod yn hapus nad ydi'r sylw hwnnw'n enllibus.

'Dwi'n gwybod fy mod yn gwneud honiadau fy hun o bryd i'w gilydd - ond fydda i byth yn gwneud rhai nad wyf yn 100% siwr eu bod yn wir. Fedra i ddim bod yn siwr am rhai sylwadau sy'n cael eu gadael yma, a chan mai fy mlog i ydi hwn, fi fyddai'n gyfrifol petai rhywun yn mynd i gyfraith.

Felly, os gwelwch yn dda foneddigion - byddwch yn gyfrifol pan rydych yn gadael sylwadau yma.

Monday, December 29, 2008

'Ymadawiad' Linda Wyn Jones a grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd

Mae'n hysbys i rai ohonoch am wn i bod Gwilym Euros wedi dyfynnu'r honiad yn y Caernarfon & Denbigh - papur sydd prin yn un o brif gyfeillion y Blaid yng Ngwynedd - bod Linda Wyn Jones wedi ymadael a grwp y Blaid.

A bod yn deg a Gwilym, 'dydi o ddim yn honni bod Linda wedi gadael, er ei fod yn nodi - yn gwbl gywir - ei bod yn anhapus a rhai penderfyniadau diweddar gan y cyngor. Nodi mae o bod y stori yn y C&D. 'Dydi hyn ddim yn atal Alwyn ap Huw rhag dweud i Gwilym wneud yr honiad. Mae gwneud sylwadau camarweiniol yn nodwedd o flogiau Alwyn wrth gwrs, ac mae wedi cynhyrfu cymaint mae'n mynd ymlaen i wneud cyfres o honiadau tra anhebygol - megis y gallai deg cynghorydd adael - ac mae hyd yn oed yn rhagweld y bydd Llafur yn 'cadw' Arfon - er gwaethaf y gweir anferth gaethant yn yr etholaeth gan y Blaid yn yr etholiadau Cynulliad a'r etholiadau lleol diweddar.

Beth bynnag, rhydd i bawb ei farn - ond mi hoffwn wneud un sylw bach. Nid oes yna unrhyw wirionedd yn y stori yn y Caernarfon & Denbigh i Linda adael grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd.

Thursday, December 25, 2008

Rol y snob ideolegol yn y teulu cenedlaetholgar

Mae'r ddadl rhwng Rhydian, gwahanol gyfranwyr anhysbys a Hogyn o Rachub yma wedi codi nifer o gwestiynau digon diddorol. Mi gefais gip y diwrnod cyn y Nadolig ar y cwestiwn o pryd y dylid cynnal refferendwm. Fy mwriad heddiw ydi cael golwg ar fater arall - rol y snob ideolegol mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Efallai bod snob ideolegol yn derm ychydig yn gas - chwilio am derm am ideological purist oeddwn i, ond mae'n mynegi'r hyn 'dwi'n ceisio ei ddweud cymaint yn well. Y peth cyntaf i'w ddeall am y snob ideolegol ydi nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb mewn, na dealltwriaeth o wleidyddiaeth etholiadol. Ei brif ddiddordeb ydi harthio nad ydi pobl eraill cyn bured a fo ei hun. Felly mae'r snob ideolegol sydd hefyd yn genedlaetholwr Cymreig yn meddwl ei fod yn well cenedlaetholwr na neb arall, ac mai ei le fo yn nhrefn pethau ydi tynnu sylw at pob dim mae ei gyd genedlaetholwyr yn eu gwneud nad ydynt yn genedlaetholgar yn eu hanfod.

'Dwi wedi canfasio tros rhyw Bleidiwr neu'i gilydd ers etholiad cyffredinol 1983. Yn ystod yr amser yna gallaf ddweud gyda pheth hyder fy mod wedi sefyll wrth ddrws miloedd ar filoedd o bobl yn trafod gwleidyddiaeth efo nhw. Mae pobl yn barod iawn i drafod yr hyn sydd yn eu poeni.

Y themau mwyaf cyffredin ydi materion yn ymwneud a thai a chynllunio, swyddi, cymdogion sy'n defnyddio cyffuriau ac yn ymddwyn yn wrth gymdeithasol, treth y cyngor, datblygiadau lleol ('dwi wedi clywed am y datblygiad ar Ddoc Fictoria mor aml nes fy mod eisiau sgrechian pob tro 'dwi'n meddwl am y lle). Roedd y rhyfel yn Irac yn codi ar aml i stepan drws yn ystod y ddwy etholiad diwethaf - roedd pawb, yn ddi eithriad yn erbyn.

Mae pobl yn codi pob math o bethau eraill hefyd - llawer ohonynt yn bisar - cefais un cyfaill oedd wedi gwisgo fel dynas yn dweud mai hawliau hoyw oedd y peth mawr iddo fo a chymydog agos oedd gyda baner fawr yr hen Dde Affrica (hy baner y De Affrica aparteid) yn bytheirio bod gormod o bobl sydd a gwyrdroedigaethau rhywiol yn poblogi San Steffan. 'Dwi wedi clywed llawer un yn dweud nad ydynt am bleidleisio oherwydd eu bod eisoes wedi pleidleisio tros Grist. Mae yna foi yn Twtill sy'n poeni bod Caernarfon yn cael ei boddi gan bobl dduon, ac mae yna foi yn yr un rhan o'r dref sy'n poeni bod gwreiddiau coeden sy'n tyfu o flaen ei dy yn mynd i chwalu'r seiliau a ddymchwel ei gartref i'r llawr. Mae'n fodlon pleidleisio i'r sawl sy'n fodlon torri'r goeden. 'Dwi hefyd wedi clywed aml i fan swyddog cyngor yn gwrthod dweud i bwy maent am bleidleisio oherwydd bod eu swydd mor ofnadwy, ofnadwy o bwysig nes ei bod yn hanfodol bod yn ddi duedd pob amser.

'Dwi erioed - ddim unwaith wedi clywed neb yn codi mater cyfansoddiadol o unrhyw fath - dim byd ynglyn a datganoli, dim ynglyn a'r frenhiniaeth, dim ynglyn a Thai'r Arglwyddi a dim ynglyn ag annibyniaeth i Gymru, dim gair, dim sill, dim byd - zilch.

Mi fedra i gyfri ar un llaw yr adegau mae pobl wedi codi statws y Gymraeg. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd ar stad dai cyngor 'Sgubor Goch ar gyrion Caernarfon rhyw dair blynedd yn ol. Daeth dyn mewn tracwisg a chap pel fas i'r drws a chymryd fy mhapur o fy llaw ac edrych trosto'n frysiog cyn dweud - Da iawn chdi cont felna mae'r peth i fod yn Gnarfon Cymraeg gynta a Susnag wedyn nath y boi Tori roid papur i fi yn dre ddoe efo'r Susnag gynta rel ffycin Cardiff mi nes i stwffio fo i lawr i gorn gwddw fo dwi'm yn fotio i neb cofia gas gin i politics. 'Dwi ddim yn gwamalu.

'Rwan 'dydi hyn ddim yn golygu nad ydi'r materion sydd yn agos at galon HRF, HOR a'u tebyg yn ogystal ag i'r rhan fwyaf o aelodau a gweithwyr y Blaid ddim yn bwysig i'r cyhoedd yn gyffredinol. 'Dwi'n siwr eu bod yn bwysig i lawer o bobl - ond dydyn nhw ddim yn flaenoriaethau uchel iawn i bobl pan maent yn meddwl am sut i bleidleisio. Mae pobl sy'n ymddiddori mewn materion ieithyddol a chyfansoddiadol yn fwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - ond 'dydi naratif syml a di gyfaddawd ddim yn ennill digon o bleidleisiau i ennill unrhyw etholiadau o unrhyw fath. Dyma gamgymeriad mawr y Blaid am tua hanner ei hanes - yr hanner cyntaf pan nad oedd yn ennill unrhyw etholiadau a phan nad oedd ganddi nemor ddim dylanwad ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Mae gwleidyddiaeth etholiadol yn estron i dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol - tirwedd mewnol ydyw yn y bon - tirwedd sy'n ymwneud mwy ag anghenion personol y snob ideolegol nag anghenion gwlad y snob ideolegol.

Y peth cyntaf i'w ddeall am dirwedd gwleidyddol y snob ideolegol ydi ei fod yn lle braf i fod ynddo. Mae cynnal safbwynt deallusol cyson ac anhyblyg yn hawdd, cyn belled nad ydym yn caniatau i fywyd go iawn amharu llawer arno. Mae'n hawdd ennill dadl abseliwtaidd yn erbyn rhywun sy'n hyblyg ac ymarferol. Mae yna fanteision ychwanegol wrth gwrs - gall y snob ideolegol edrych i lawr ei drwyn ar y sawl sydd wedi cyfaddawdu gyda bywyd pob dydd er mwyn symud yr agenda genedlaethol yn ei blaen. Gall deimlo'n bwysicach, yn fwy gonest, yn fwy cyson ac yn burach na'i gyd genedlaetholwyr. 'Dydi'r ffaith mai'r dywydiedig gyd genedlaetholwyr sydd wedi dod a ni i lle'r ydym heddiw ddim yn amharu mymryn ar y pleser hwnnw wrth gwrs.

Gall y snob ideolegol fod yn ddiog ac eistedd yn ol yn ei gadair a chyfiawnhau peidio a gwleidydda - wedi'r cwbl does yna'r un blaid yn ddigon pur iddo fo. Felly gall edrych o hirbell ar eraill yn ymdrechu, croesawu pob cam ymlaen yn ddistaw bach tra'n beirniadu'r mudiad cenedlaethol am beidio a chyflawni digon yn ddigon cyflym, wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando.

Mae yna stori fach sydd bron yn ddameg o ddiffygion y snob ideolegol. Os 'dwi'n deall safbwynt Hogyn o Rachub yn iawn 'dydi o ddim yn pleidleisio i'r Blaid yng Nghaerdydd oherwydd nad yw'n ystyried y Blaid yno yn ddigon 'cenedlaetholgar'. 'Rwan pe byddai'r Blaid yng Nghaerdydd yn dilyn cyngor HoR ni fyddant yn etholadwy mewn unrhyw ward yn y ddinas. Ni fyddant yn etholadwy hyd yn oed yng Ngwynedd, nag yn wir yn Rachub.

Yn y cyfamser mae'r Blaid trwy gyfaddawdu, bod yn ymarferol a cheisio apelio at amrediad eang o bobl wedi cael peth llwyddiant yng Nghaerdydd - yn rhannol oherwydd pleidleisiau pobl o leiafrifoedd ethnig. Un o ganlyniadau'r llwyddiant rhannol yma ydi bod y Blaid yn rhan o'r glymblaid sy'n rheoli yng Nghaerdydd, ac un o ganlyniadau hynny yn ei dro ydi bod y ddarpariaeth addysgol Gymraeg yn y brif ddinas yn debygol o gael ei thrawsnewid tros y blynyddoedd nesaf. Hwn ydi un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes addysg Gymraeg ers blynyddoedd lawer.

Hynny yw mae cenedlaetholwyr naturiol sydd wedi dod i ddeall tros flynyddoedd sut i lwyddo yn etholiadol wedi defnyddio'r llwyddiant hwnnw i symud agenda genedlaetholgar yn ei blaen. Mae'r snob etholiadol am ymateb trwy ddweud nad yw'r llwyddiant yn ddigonol, a'i fod o ei hun yn llawer purach na neb arall. Ond wrth gwrs pe byddai cyngor y snob ideolegol wedi ei ddilyn ni fyddai unrhyw beth o gwbl wedi ei gyflawni - ond 'dydi hynny ddim ots - mae'r snob wedi amddiffyn ei direwdd mewnol cyfforddus - a dyna'r oll sy'n bwysig yn y pen draw.

'Rwan o ddarllen hyn oll efallai eich bod yn meddwl fy mod o'r farn nad oes gan y snob ideolegol unrhyw rol o gwbl - ond mi fyddech yn anghywir. Mae yna bwrpas iddo - ond 'dydi o ddim yn bwrpas arbennig o bwysig. Mae'r mudiad cenedlaethol angen cydwybod o rhyw fath. 'Rwan yn amlwg mae mymryn o berygl i'r broses etholiadol droi cenedlaetholdeb yn risgl gwag sydd heb agenda cenedlaetholgar o gwbl - ychydig fel Llais Gwynedd sy'n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar amddiffyn hen doiledau drewllyd ac ymosod ar yr amgylchedd oherwydd eu bod yn meddwl bod hynny'n etholiadol boblogaidd. 'Dydi'r perygl yma ddim yn fawr iawn wrth gwrs - i'r gwrthwyneb - mae'r Blaid wedi llwyddo i symud yr agenda cenedlaethol yn ei blaen pan mae mewn grym, a phan nad yw mewn grym. Ond rhag ofn, 'mond rhag ofn, efallai nad ydyw'n ddrwg o beth i gael rhywun yn grwgnach yn y cefndir.

Mae'n debyg bod gan bawb rhyw berthynas mewn oed mawr - hen nain efallai - sy'n boenus am pob dim ac yn swnian yn ddi ddiwedd - gwna'n siwr dy fod yn rhoi dy felt pan rwyt yn mynd i'r car, criba dy wallt, paid a dreifio yn lysh gachu, rho dy got cyn mynd allan rhag ofn i ti ddal anwyd, paid a chysgu efo pobl dwyt ti ddim yn eu 'nabod rhag ofn i ti ddal rhywbeth, clyma dy sgidiau rhag ofn i ti faglu, torra dy wallt, cau'r drws mae yna ddrafft yma, tynna dy ddwylo allan o dy boced, ti angen bath, cofia gau dy falog ac ati ac ati.

Mae'r holl nagio yn blydi niwsans ac mae dyn yn cael bath ac yn cau ei falog a dreifio'n sobor beth bynnag - ond efallai - jyst efallai bod yr holl swnian yn gwneud rhyw fymryn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau.

Gwneud dipyn bach, bach, bach o wahaniaeth weithiau ydi rol y snob ideolegol.

Wednesday, December 24, 2008

Refferendwm - pryd?

Mae nifer o faterion wedi codi yn y ddadl ar waelod fy mlog isod - ac os caf gyfle ceisiaf edrych ar un neu ddau o'r materion tros y diwrnodiau nesaf. 'Dwi am gychwyn efo amseriad refferendwm.

I ddechrau fe gawn ni anwybyddu sylwadau Dafydd Elis Thomas yn y Western Mail. Yn anffodus mae Dafydd yn benderfynol mai fo ydi Connor Cruise O'Brien cenedlaetholdeb Cymreig, ac mae'n cael hwyl yn dweud pethau sy'n gwneud i bobl fel Hogyn o Rachub a Hen Rech Flin neidio i fyny ac i lawr mewn cynddaredd. Mae'r sylwadau y dylid disgwyl tan bod 20% o fwyafrif a bod rhaid wrth gytundeb y gymdeithas gyfan yng Nghymru - nid i'r Blaid a Llafur yn unig yn arbennig o ffol, ond wnawn ni ddim aros efo nhw rhag ofn i mi gael fy hun yn neidio i fyny ac i lawr ar ben yr un bocs sebon a HRF a HoR.

Mae erthygl Richard Wyn Jones yn Barn yn haeddu mwy o barch fodd bynnag. Dadl Dicw ydi na ddylid mynd am refferendwm eto oherwydd nad oes modd sicrhau mwyafrif tros bwerau deddfu ar hyn o bryd oherwydd nad oes modd adeiladu ymgyrch gryf o blaid hynny yn ystod y cyfnod o gwmpas etholiad cyffredinol Prydeinig. Mae sylwedd i'r ddadl yma. Mi fyddwn i'n ychwanegu problem arall hefyd - mae'r amgylchiadau anodd economaidd a geir ar hyn o bryd yn ei gwneud yn llai tebygol y byddai refferendwm yn llwyddiannus - yn yr un ffordd a bod annibyniaeth i'r Alban wedi ei daflu'n ol oherwydd y cyd destun economaidd.

Mae yna ateb, ac mae hwnnw ar gael yn erthygl Dicw - er nad ydi o yn tynnu sylw ato. Un o'r pwyntiau diddorol mae Dicw yn eu codi yn ei erthygl ydi bod y drefn anfoddhaol bresennol o anfon LCOs i San Steffan yn golygu bod aelodau'r pwyllgor dethol tros faterion Cymreig yn San Steffan gyda mwy o ddylanwad tros faterion Cymreig na llawer i aelod o'r Cynulliad ei hun. Mae'n debygol mai'r Toriaid fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf a bydd hyn yn arwain at fwyafrif iddynt ar y pwyllgor dethol - beth bynnag y canlyniad yng Nghymru. Golyga hyn y bydd y drefn bresenol o ddeddfu trwy LCOs yn arwain at ddylwanad sylweddol gan y Toriaid - pobl fel David Davies a David Jones - ar y broses o ddeddfu yng Nghymru.

'Rwan, dydi'r Toriaid ddim yn dderbyniol i elfennau arwyddocaol o gymdeithas yng Nghymru - a fyddan nhw byth. Mae hyn yn rhoi cyfle i adeiladu naratif gwleidyddol a allai ennill - pleidleisiwch Ia er mwyn sicrhau nad yw'r Toriaid yn rhedeg y sioe yng Nghymru. Ni fyddai'n naratif cwbl onest - ond yng nghyd destun troelli gwleidyddol Prydeinig mae'n ddigon di niwed. Yn bwysicach mae'n llawer gwell naratif etholiadol na pleidleisiwch Ia er mwyn sicrhau bod deddfau sy'n ymwneud a Chymru yn cael eu creu yng Nghymru .

Wrth gwrs gallai'r Toriaid yn San Steffan atal y refferendwm - ond byddai hynny'n sicrhau llwyddiant yn diweddarach wedi i'r Toriaid golli grym.

Tuesday, December 23, 2008

Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin?

Mae Hen Rech Flin yn gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru?.

Y rheswm am hyn ydi ei fod wedi darllen rhywbeth yn y Western Mail sy'n dweud nad ydi Dafydd Elis Thomas am weld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad tan ei fod yn siwr y bydd yn cael ei ennill.

Yn rhyfedd iawn mae dau o aelodau blaenllaw y Blaid - Bethan Jenkins ac Adam Price wedi galw am roi cychwyn ar ymgyrch yn syth bin. Ymddengys nad ydi Alwyn wedi sylwi ar hyn. A dweud y gwir nid yw'n hawdd deall agwedd Alwyn o gwbl at y pwnc yma - hanner yr amser mae'n edrych i lawr ei drwyn ar y sawl ohonom sy'n gweld datganoli fel y ffordd o ddod ag annibyniaeth i Gymru. I'r graddau bod y ddadl yn ddealladwy o gwbl y rhesymeg mae'n debyg ydi bod na rhyw gynllwyn i atal annibyniaeth ydi datganoli.

Mae Alwyn hefyd wedi ypsetio ei ben bach oherwydd bod adroddiad ffug yn golwg bod un o gynghorwyr Plaid Cymru, Eddie Dogan o Fangor wedi galw Gwilym Euros yn fucking idiot yn siambr y Cyngor wythnos diwethaf. 'Dydi hyn heb ypsetio Gwilym ei hun a bod yn deg - er y byddai hynny wedi bod yn rhagrithiol braidd ag ystyried ei fod yn dod mor agos ag y gall i ddisgrifio cynghorydd arall - Dyfrig Jones - fel coc oen. yn ei gyfraniad nesaf i'w flog. Rhywbeth arall na sylwodd Alwyn arno. Mi fyddai'n ddiddorol cael gwybod beth ydi barn Llais Gwynedd am fwy o bwerau i'r Cynulliad - os ydynt wedi ystyried y mater o gwbl.

Felly mae Alwyn wedi dod o hyd i un sylw nad yw yn ei hoffi ynglyn a refferendwm, ac un sylw gan Eddie (wedi i hwnnw gael y myll fel y bydd ambell waith) am Gwilym Euros a wele - mae ganddo i esgus i ofyn ei hoff gwestiwn mewn bywyd.

Pwrpas Alwyn wrth gwrs ydi gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru pob hyn a hyn a mynd trwy'r rigmarol o fflyrtian rhyw ychydig efo plaid David Davies.

Friday, December 19, 2008

Erthygl Arwel Elis Owen yn Barn


Anaml y bydd unrhyw beth yn Barn yn fy ngwylltio (ers i Simon Brooks fynd o leiaf), ond roedd erthygl Arwel Elis Owen ar y ffilm Hunger ymhlith yr ymarferiadau mwyaf idiotaidd 'dwi wedi ei weld ers tro byd.

Fel arfer gydag Arwel, mae yna wybodaeth sydd yn ffeithiol anghywir yn y darn. Ceir awgrym bod yr arweinydd cynnar gweriniaethol, Wolf Tone, yn ymprydiwr newyn. Mi laddodd Tone ei hun – ond trwy hollti ei un o rwydweiliau ei wddf y noson cyn ei ddienddio – nid trwy lwgu ei hun i farwolaeth. Dianc oddi wrth y rhaff oedd - nid protestio. Nid Terence McSweeney oedd yr ymprydiwr newyn ‘nesaf’ i farw. Yn 1920 y bu farw McSweeney, bu Thomas Ashe farw o ganlyniad i ympryd newyn ym 1917. Mae’r datganiad nad oedd fawr ddim cysylltiad rhwng y carcharorion a’r byd y tu allan hefyd yn ffeithiol anghywir. Roedd cysylltiadau dyddiol rhwng arweinyddiaeth y mudiad Gwereniaethol y tu mewn a’r tu allan i’r carchar. Mae’r syniad bod Thatcher ac Adams wedi arwyddo cytundeb yn wirioneddol ddigri yn ei ddineweitrwydd. Mae'r awgrym bod Gerry Adams a Bobby Sands yn rhan o'r brotest pan oedd yn Cage 11 hefyd yn gamarweiniol - nid oedd angen i garcharorion Cage 11 brotestio i gael statws gwleidyddol oherwydd bod y statws hwnnw eisioes ganddynt. Wedi cael ei ail arestio a chael ei anfon i'r H Blocks aeth Sands ar y brotest.

Nid y man gamgymeriadau sy’n fy mhoeni – mae’r rheiny yn nodweddu gwaith newyddiadurol Arwel ar Iwerddon mae gen i ofn. Ail bobi hen fethiannau’r BBC pan oedd Arwel yn gweithio i’r corff hwnnw yng Ngogledd Iwerddon ar ffurf erthygl ydi’r peth gwirioneddol chwydlyd.

Cyfnod yr ymprydiau newyn oedd un o'r penodau mwyaf llwfr yn hanes y BBC. Eu prif rol yn ystod y cyfnod oedd gweithredu fel parot i naratif llywodraeth Prydeinig y dydd. Y naratif hwnnw yn syml oedd bod yr ymprydwyr yn cael eu defnyddio gan yr IRA ar y tu allan am bod y rheiny eisiau cefnogaeth i’w hymgyrch dreisgar – felly cefnogaeth i’r ymprydwyr = cefnogaeth i drais. Roedd y naratif idiotaidd yma yn gwthio pob math o bobl nad oedd ganddynt y diddordeb lleiaf mewn trais i gyfeiriad mudiadau treisgar Gwereniaethol.

Roedd y canfyddiad yma’n wirioneddol drychinebus – ac arweiniodd at roi degawd ychwanegol o fywyd i ryfel oedd yn rhedeg allan o stem yn ogystal a rhoi cychwyn i broses a arweiniodd at ddifa cenedlaetholdeb cymhedrol cyfansoddiadol yn y Gogledd. Mae i’r BBC – a’r sawl oedd yn gweithio iddi ar y pryd – ran bwysig mewn creu’r amodau a ganiataodd i hyn ddigwydd. Mae’r dyfyniad o sylwadau idiotaidd Thatcher am yr Eglwys Babyddol Wyddelig – yr unig gorff sefydliadol i ddod allan o’r holl drychineb gyda mymryn o hygrededd yn wirioneddol anymunol. Oni bai i'r sefydliad hwnnw weithredu yn gall a chyfrifol o dan amgylchiadau gwirioneddol ddirdynnol(yn gwbl wahanol i’r BBC) byddai’r holl beth wedi llusgo ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, a byddai’r canlyniadau wedi bod hyd yn oed yn waeth.

Mae Arwel yn gwneud yr honiad (bod yr ymprydwyr yn cael eu defnyddio gan yr IRA a chenhedlaeth newydd o arweinwyr Gweriniaethol - hy Adams) fel petai yn rhyw ganfyddiad treiddgar ar ei ran ei hun yn hytrach na mantra a ailadroddwyd hyd at syrffed gan ohebwyr llwfr a diog ar orchymyn llywodraeth Mrs Thatcher yn ystod y cyfnod. Mae’r ffordd mae’n gwneud yr honiad yn ddryslyd gan ei fod yn ceisio gludo dau fersiwn gwahanol o’r naratif gwirion yma at ei gilydd – y fersiwn gwreiddiol ac un mwy diweddar.

Honiad y llywodraeth a’r BBC ar y pryd oedd bod yr IRA yn ‘defnyddio’r’ deg dyn, ac mae Arwel yn gwneud yr honiad hwnnw yn ei ddarn. Doedd yna ddim tystiolaeth bod hyn yn wir ar y pryd – ac mae cryn dipyn o dystiolaeth ar gael bellach nad oedd gwirionedd i’r honiad. Mae’n debyg bod y mudiad Gweriniaethol ar y tu allan yn awyddus i atal yr ympryd ac i leihau’r tyndra yn y Maze. Un o’r rhesymau am hyn oedd bod ympryd y flwyddyn flaenorol wedi torri i lawr, a bod cynnal honno - a methu wedi bod yn niweidiol i’r mudiad yn ehangach.

Mae tystiolaeth ddogfennol sylweddol i gefnogi hyn. Er enghraifft mae llythyr gan Sands i Gyngor y Fyddin (oedd yn arweinydd yr IRA yn y Maze ar y pryd) yn ymddiheuro am fethu atal terfysg yn H5 ychydig ddyddiau cyn i’r datganiad i’r wasg bod yr ail ympryd i fynd rhagddi ar gael hyd heddiw. Mae ymateb ganddo i gais ffurfiol gan Gyngor y Fyddin i beidio a mynd ymlaen a’r ympryd ychydig ddyddiau cyn ei chyhoeddi hefyd ar gael – Comerade we received your comm – 30.1.81. We have listened carefully to what you said _ _ _ _ . But however distressing it may be, we regret that our decision to hunger strike remains the same.

Yn rhyfedd iawn mae Arwel yn rhyw led gyfeirio at hyn, gan nodi bod Adams a Sinn Fein yn erbyn yr ympryd. Mae hefyd yn awgrymu bod cynnig ar y bwrdd pan oedd Sands yn ei gell – un nad oedd yn ymwybodol ohono. ‘Dydw i erioed wedi clywed am y cynnig yma, a ‘dydw i ddim yn meddwl bod neb arall wedi chwaith. Mae’r cynnig yn ffrwyth dychymyg Arwel.

Neu efallai nad yw yn ffrwyth ei ddychymyg – yn rhywle arall yn yr erthygl ddryslyd mae Arwel yn honni y gellid bod ‘telerau newydd wedi eu cynnig i Adams mewn da bryd i achub bywydau o leiaf pump o’r deg newynnwr a fu farw yn haf 1981’. Hwyrach bod Arwel yn ei ffordd ddryslyd ei hun yn meddwl am gynnig nad oes amheuaeth iddo gael ei wneud gryn gyfnod wedi i Sands farw (yn niwedd mis Gorffennaf 81 – roedd Sands wedi marw ar y pumed o Fai).

Cafodd y ‘telerau newydd’ chwadl Arwel eu trosglwyddo i’r ymprydwyr ar Orffennaf 29, 1981 yn y Maze gan Adams. Gwrthodwyd y telerau hynny gan pob un o’r ymprydwyr. Cytunodd Adams hefyd ar y diwrnod cynt mewn cyfarfod gyda’r Tad Dennis Faul a rhai o deuluoedd yr ymprydwyr i ofyn i’r IRA roi gorchymyn i’r ymprydwyr oedd yn dal yn fyw i roi’r gorau i’r brotest. ‘Doedd yna ddim pwynt mewn gwneud hyn gan y byddai’r ymprydwyr yn sicr o wrthod ufuddhau’r gorchymyn, ond gwnaed y cais beth bynnag.

Neu efallai bod Arwel yn meddwl am honiad sydd wedi ei wneud mewn llyfr cymharol ddiweddar (dydw i ddim yn gwybod oherwydd nad ydi Arwel yn trafferthu dweud at beth mae'n gyfeirio) gan ddyn o'r enw Richard O'Rawe. Dadl O'Rawe ydi bod cynnig anffurfiol wedi ei wneud i'r arweinyddiaeth ar y tu allan na chafodd ei drosglwyddo i'r carcharorion - ond mae i hwnnw ei broblemau - mae yna nifer o ffeithiau sy'n hawdd dangos nad ydynt yn wir yn y llyfr, a does yna neb arall oedd yn agos at bethau ar y pryd yn derbyn y fersiwn, gan gynnwys teuluoedd yr ymprydwyr, nag arch elyn Adams, Ruairí Ó Brádaigh. Ond dydi hyd yn oed hwnnw ddim yn cefnogi honiadau Arwel - yn ol y fersiwn yma gwnaed y cynnig wedi marwolaeth y pedwerydd ymprydiwr - misoedd wedi marwolaeth Sands. – efallai bod Arwel yn meddwl ei bod yn bosibl atgyfodi Sands trwy ddod i gytundeb ychydig fisoedd wedi iddo farw. Roedd 6 (nid 5) o’r ymprydwyr nad oeddynt eto wedi marw yn dal yn fyw ar y pryd.

Rwan dyna fi wedi cael dweud fy nweud. Mae gan Barn pob hawl i ofyn i Arwel am erthygl, ac mae gan y BBC hawl i'w ddisgrifio fel arbenigwr ar Ogledd Iwerddon
- fel y byddant yn ei wneud yn aml. Ond y gwir syml ydi hyn - roedd Arwel yn rhan o ymgyrch bropoganda'r BBC oedd yn hyrwyddo polisiau gorffwyll llywodraeth Thatcher yn Iwerddon yn yr wyth degau cynnar - a'i brif feirniadaeth o'r ffilm ydi'r ffaith nad yw'n ail adrodd y propoganda di dystiolaeth roedd y BBC ac Arwel ei hun yn ei ailadrodd yn ddi ddiwedd ar y pryd.

Wednesday, December 17, 2008

Llafur yn codi pobl allan o dlodi!


O ganlyniad i alw cyhoeddus enfawr, ‘dwi wedi penderfynu amddiffyn cwpl ifanc sydd wedi cael sylw negyddol braidd yn sgil y cwyno sur am dreuliau Aelodau Cynulliad a gafwyd yn ddiweddar.

‘Dwi’n gwybod mai Plaid Cymru ydi’r blaid mae’r blog yma yn ei chefnogi fel rheol, ond mae ambell achlysur lle mae’n rhaid canmol gwleidyddion o bleidiau eraill – yn arbennig pan mae sylwadau anheg ac anymunol yn cael eu taflu i’w cyfeiriad. Mae Nick Bourne, fel y gwelwyd eisoes wedi ei bardduo – sy’n beth anffodus iawn i ddyn sydd yn cymryd y ffasiwn drafferth i sicrhau ei fod pob amser yn lan, yn arogli’n hyfryd ac yn dwt fel pin mewn papur.


Dau arall i gael amser caled anhaeddianol ydi’r cwpl priod disglair - Lynne Neagle a Huw Lewis. ‘Rwan mae Lynne a Huw yn Aelodau Cynulliad tros ddwy o etholaethau mwyaf di freintiedig Cymru – Torfaen a Merthyr Tudfyl. Maen nhw wedi gwneud yn gwbl siwr ein bod ni i gyd yn gwybod hynny, ac maent hefyd wedi gwneud yn gwbl siwr ein bod i gyd yn deall mae eu blaenoriaeth gwleidyddol mawr nhw ydi mynd i’r afael efo amddifadedd a chodi’r math o bobl maent yn eu cynrychioli allan o’u tlodi.

Yn hyn o beth maent wedi cael cryn lwyddiant. Mae un cwpl ifanc wedi elwa yn arbennig o gael eu cynrychioli gan Lynne a Huw yn y Cynulliad – er mwyn sicrhau eu preifatrwydd, ac er mwyn cadw ar yr ochr gywir i’r Ddeddf Amddiffyn Data, mi wnawn ni eu galw nhw yn L a H.

‘Doedd gan L ddim ond canmoliaeth i’r cwpl pan aeth blogmenai draw i gydymdeimlo efo nhw yn ddiweddar ar yr holl gyhoeddusrwydd anffodus.

“Cyn i ni gael ein hethol roeddem yn gorfod byw ar gyflogau pitw athro cemeg ac ymchwilydd gwleidyddol mewn twll ym Merthyr Tudfyl. Erbyn hyn rydan ni’n gyfoethog iawn a ‘does dim rhaid i ni fyw ar gyfyl hen bobl dlawd mewn llefydd fel Merthyr neu Dorfaen am bump diwrnod yr wythnos”, meddai.

“Erbyn heddiw rydan ni’n medru byw ynghanol pobl barchus, chwaethys hyfryd a glan digon tebyg Nick Bourne, yma ym Mhenarth”, ychwanegodd H. “Digon agos at y clwb sboncen a’r clwb golff, a digon pell oddi wrth hen siopau elusen drewllyd, siopau sglodion seimllyd, siopau pob dim am bunt efo leino wedi rhwygo ar y llawr, caffis Siddollis wedi eu bordio i fyny a thafarnau’n llawn o hen ddynion chwyslyd”.

“Mi fydda i’n siwr o bleidleisio i H pan fydd yn sefyll i fynd yn arweinydd Llafur”, oedd sylw olaf L. “Wedyn mi fydda i hyd yn oed yn fwy cyfoethog”.

Ac yn wir ni all neb wadu i Huw a Lynne fod yn arbennig o garedig gyda H a L. Maen nhw bellach yn gallu fforddio pob math o bethau ar gyfer eu cartref ysblennydd ym Mhenarth gan gael £22,298 mewn un blwyddyn yn unig tuag at ei gadw. Pethau na allent ond breuddwydio am eu prynu hyd yn ddiweddar - Rwan maen nhw’n gallu prynu amrywiaeth mawr o ddodrefn i’r llofft ac i’r gegin – yn wir i pob ystafell yn y ty, gwresygyddion, silffoedd, cypyrddau llyfrau, matras gwerth £560 (Duw yn unig beth maen nhw yn ei wneud i greu angen am un mor ddrud), lleni gwerth £1,700 ac ati, ac ati, yn ogystal a thy ychwanegol i gadw eu holl geiriach ynddo.

Peidied neb a dweud nad yw’r Blaid Lafur Gymreig yn mynd i’r afael a thlodi.

Monday, December 15, 2008

Ystafell 'Molchi Nick Bourne



Mae cryn dipyn o gwyno a rhuo wedi bod yn y wasg oherwydd bod rhai o aelodau'r Cynulliad wedi hawlio cryn dipyn o bres i gynnal eu hail gartrefi, bwyta, prynu Ipods ac ati. Mae'n fater o gryn boen i ambell un bod saith o'r aelodau wedi hawlio'r mwyafswm posibl o £12,000, a bod Huw Lewis a Lynne Neagle - gwr a gwraig - wedi hawlio £22,298 rhyngddynt.

'Rwan mae edrych trwy'r rhestr yn rhoi ychydig o hwyl diniwed i ddyn - tipyn fel edrych i mewn i droli siopa cymdogion yn Tesco. Wedi dweud hynny 'dydi blogmenai ddim yn bwriadu ymuno efo'r cor dolefus, hunan gyfiawn sy'n cwyno ac yn udo. Gan bod hawlio costau hyd at £12,000 yn rhan o'r drefn, mae'n wirion braidd disgwyl i bobl beidio cymryd mantais o hynny, ac mae'n wirionach i gymryd arnom ein bod wedi ein rhyfeddu bod ambell un wedi cymryd mantais o'r £12,000 yn ei gyfanrwydd. Felly mae'r natur ddynol mae gen i ofn. Byddai'n ddiddorol petai'r Bib (sydd fel y Cynulliad wedi ei ariannu'n llwyr gan gyllid cyhoeddus) yn cyhoeddi faint o dreuliau mae eu staff nhw yn ei hawlio. Byddai'r ymarferiad bach yna mewn edrych i mewn i droli siopa yn un gwerth chweil hefyd.

Serch hynny, mae yna un peth yn fy niddori'n fawr, sef bod arweinydd y Blaid Geidwadol Gymreig (fel 'dwi'n 'sgwennu hwn o leiaf) wedi gwario £5,000 ar ei ystafell molchi.

Peidiwch a fy ngham ddeall - does gen i ddim gwrthwynebiad i Nick wario lwmp mawr o'i lwfans ar ei 'stafell molchi. Ddim o gwbl,'dwi pob amser wedi ystyried Nick yn wleidydd glan - yn gwahanol iawn, iawn i lawer o wleidyddion eraill. Son am ystyr llythrennol y gair 'glan' ydw i yma wrth gwrs, er nad ydi Nick erioed wedi fy nharo fel gwleidydd dan din na Maceofelaidd chwaith - er ei fod yn Dori.

Na mae Nick pob amser yn drwsiadus a glan - ei ddillad a'i gorff wedi eu golchi yn y gorffennol cymharol agos, ei grys a'i dei'n gweddu, pob blewyn yn ei le.

Mor wahanol i'w ragfleynydd fel arweinydd y Toriaid Cymreig oedd dragwyddol yn drewi o wirodydd cryf (os nad gwenwynig) a sent rhad. Neu Shirley Williams sydd pob amser yn edrych fel petai newydd gael ei dillad o sel olaf un Oxfam. Neu'r diweddar Roger Thomas oedd yn tueddu i fod ag arogl pi pi yn codi o rhywle o gwmpas llodrau ei drywsus. Neu'r diweddar Willie Hamilton oedd a'i ddannedd, ac yn wir y gweddill ohono wedi eu harlliwio gan fwg ei sigarets. Neu Ken Clark sydd wedi cysgu yn ei siwt ers ugain mlynedd - yr un siwt. Neu'r diweddar George Brown oedd yn edrych yn amlach na pheidio fel petai wedi cysgu yn y gwter. Neu Rhodri sydd wedi ei ddilladu gan bwyllgor mewn cartref i'r deillion. Neu Michael Mackintosh Foot sydd yn ol pob golwg yn dwyn ei ddillad oddi wrth gardotwyr pan maent yn cysgu. Neu Jim Callaghan oedd pob amser gydag arogl baw moch ar ei esgidiau. Neu Lempit Opik - na - dyna ddigon 'dwi'n meddwl.

Cymaint ydi parch Nick at ddemocratiaeth Cymreig nes ei fod yn cymryd ei lendid personol o ddifri mewn ffordd nad oes yr un gwleidydd arall yn y wlad wedi ei wneud - hyd yn oed Lisa Francis. Mae'n debyg gen i ei fod yn cymryd o leiaf ddwyawr pob bore yn ei 'stafell 'molchi drydfawr yn ymbaratoi ar gyfer yr ymgodymu gwleidyddol sy'n ei aros.

Mae'n wych meddwl amdano yn llenwi ei fath trobwll gyda dwr a'i dymheredd wedi ei fesur i'r radd agosaf, ychwanegu jyst digon o hylif sebon Truefitt & Hill cyn setlo i mewn i ffeilio ei winedd, rhwbio'r croed caled oddi ar gwadnau ei draed a chledrau ei ddwylo, eillio'n ofalus tros ei gorff i gyd (ond am ei ben wrth gwrs)gyda rasal, finiog, syth o Taylors of Old Bond Street, tynnu unrhyw flew sydd wedi ymwthio o'i drwyn neu'i glustiau tros nos, rhwbio'i gefn yn ofalus efo loofah wedi ei wneud o gotwm Eifftaidd, cyn mynd ati i olchi ei fop o wallt gyda Kevin Murphy's Luxury Rinse.

Yna'n codi'n ofalus o'r bath a throedio ar hyd y llawr marmor at y bidet Ffrengig er mwyn mynd i'r afael go iawn efo'r rhannau hynny o'r corff sydd mewn perygl o fynd yn chwyslyd, yn ludiog ac efallai'n ddrewllyd yn ystod y dydd oni bai bod dyn yn sobor o ofalus.

Yna codi a rhwbio ei hun o'i ben i'w gynffon gydag hylif corff Rouge Rambling Rose a thasgu mymryn o hylif ol eillio Hugo Boss cyn chwystrellu Vichy No 7 o dan ei geseiliau. Ar ol mynd i'r llofft i wisgo bydd yn barod am ddiwrnod arall.

Yr unig beth sydd yn fy mhoeni ychydig ydi nad oes gen i 'stafell molchi gwerth £5,000. Yn wir 'dwi ddim yn 'nabod neb sydd gyda 'stafell 'molchi felly - nag yn 'nabod rhywun sydd yn 'nabod rhywun fel petai.

'Dwi ddim yn disgwyl am funud i Nick adael i mi ddod draw i gael gweld y rhyfeddod wrth gwrs, ond cyn fy mod yn rhannol gyfrifol am dalu am y peth, 'dwi'n teimlo ei bod yn deg gofyn i Nick dynnu lluniau a'u gosod ar y We. Yn ffodus mae ganddo flog arbennig o dda lle gallai'n hawdd wneud hyn - er nad ydi o'n cyhoeddi lluniau yno'n aml..

'Dwi'n bwriadu gadael neges yno yn gofyn iddo wneud hyn. 'Dwi'n hyderu y byddwch chithau yn gwneud yr un peth - er ei fod yn cymedroli'n anffodus (yn gwahanol i mi).

Sunday, December 14, 2008

Newidiadau demograffig - sut i ymateb?

Mae Plaid Cymru Bontnewydd yn holi (ymysg pethau eraill) sut y dylai Cymru annibynnol ymateb i'r newidiadau economaidd a demograffig sy'n trawsnewid rhai o'n hardaloedd gwledig.

Hoffwn awgrymu'n wylaidd mai un ateb amlwg ydi peidio a dilyn trywydd neo ryddfrydig y DU a llywodraethu yn unol a pholisiau sy'n hybu datblygiad rhanbarthol cytbwys. Os ydi hynny'n golygu ymyryd a marchnadoedd a 'ballu - dim problem.

Mae'r mis neu ddau diwethaf wedi dangos gwacter uniongrededd economaidd yr ugain mlynedd diwethaf. Y gred na ddylid amharu ar farchnadoedd sy'n rhannol gyfrifol am y prosesau mae Rhydian yn son amdanynt.

Afghanistan, Gordon Brown a rol plant mewn rhyfeloedd

Roedd ymateb Gordon Brown yn chwyrn i ymysodiad gan fomiwr tair ar ddeg oed ar fyddin Prydain yn Afghanistan a adawodd dri o filwyr Prydain yn farw. Roedd y bachgen wedi cuddio bom yn y ferfa roedd yn ei gwthio, a bu farw ynghyd a'r milwyr. Yn ol Gordon, roedd hyn yn brawf o natur y Taliban. Aeth ymlaen i'n sicrhau ein bod i gyd yn saffach o lawer oherwydd bod y fyddin Brydeinig yn ymladd rhyfel yn Afghanistan.

Heb fynd i amddiffyn y Taliban, mae hon yn amlwg yn ryfel gwirioneddol anymunol. ac mae mwy nag un ochr yn gyfrifol am erchyllderau.

Tair ar ddeg oed oedd y plentyn a laddodd ei hun er mwyn lladd aelodau o'r fyddin Brydeinig. Mae'r fyddin honno hefyd yn fodlon recriwtio plant yn 16 oed - ac hynny'n groes i argymhelliad y Cenhedloedd Unedig. Eu hawgrym nhw ydi mai deunaw ddylai fod yr oed recriwtio cynharaf. Ymddengys bod unigolyn yn ddigon hen i gael eu hyfforddi i ladd ac i farw yn un ar bymtheg, ond nid yw'n ddigon hen i brynu alcohol, i yrru car, i bleidleisio nag i brynu paced o ffags.

Yn wir, mae'n arfer gan y fyddin Brydeinig i fynd o ysgol i ysgol yn ceisio dwyn perswad ar blant i ymuno a'r lluoedd diogelwch Prydeinig. Mae lle i ddadlau bod hyn yn ffurf ar gamdriniaeth plant. Yn sicr mae elfen hynod anymunol i'r arfer - wedi'r cwbl mae ymaelodi a'r lluoedd diogelwch yn ddeniadol i blant o gefndiroedd di freintiedig sydd ddim yn debygol o lwyddo'n addysgol.

Canlyniad tebygol ymuno a'r lluoedd ydi wynebu'r union beryglon a arweiniodd at farwolaeth y tri milwr y diwrnod o'r blaen - ac mae'r arfer o recriwtio plant yn sicrhau mai pobl o gefndiroedd tlawd sydd am orfod wynebu'r rhan fwyaf o'r perygl hwnnw.

Monday, December 08, 2008

Kirsty Williams, y Lib Dems a'r BBC





Llongyfarchiadau i Kirsty Williams ar gael ei hethol yn arweinydd y Lib Dems yng Nghymru. Mae blogmenai wedi darogan hyn ers talwm wrth gwrs. Mae blogmenai yn gywir am pob dim, pob amser. Hon yn ddi amau ydi'r joban mwyaf heriol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ystyriwch hyn - gyda'r drefn etholiadol ryfedd sydd gennym yn y Cynulliad y lleiaf o seddi mae'n ymarferol bosibl i'r Lib Dems eu cael ydi pump (hy un ar pob rhestr ranbarthol). Chwe sedd mae'r Lib Dems wedi ei gael ym mhob etholiad Cynulliad hyd yn hyn - un yn fwy na'r lleiafswm posibl. Son am dan gyflawni.

Mae yna reswm amlwg tros y tan gyflawni epic yma wrth gwrs - sef nad oes yna fawr o bwrpas i'r Lib Dems yng nghyd destun gwleidyddiaeth Gymreig. Roedd Kirsty yn son heddiw am ail gynnau gwleidyddiaeth rhyddfrydig - ond dyna'r broblem, mae'r traddodiad rhyddfrydig yn bwysig iawn yng Nghymru, ac mae ei ddylanwad yn fawr ar y pleidiau mawr Cymreig eraill. Dydi bod yn ryddfrydig ddim ynddo'i hun yn rhoi'r hunaniaeth unigryw mae'n rhaid wrtho i lwyddo'n etholiadol. Mae'n anodd gen i weld pa dir gwleidyddol gwag sydd ar gael iddynt mewn gwleidyddiaeth Gymreig, ac felly mae'n anodd gweld Kirsty'n newid pethau.

Ar nodyn arall, roedd ymdriniaeth y BBC o'r gystadleuaeth yn ddigri. Yr ystrydebau oedd yn cael eu gwthio oedd bod Jenny yn 'brofiadol', tra bod Kirsty yn 'garismataidd'. Rwan 'dwi'n gallu meddwl am lawer o ansoddeiriau i ddisgrifio Kirsty - ond 'dydi hi'n sicr ddim yn garismataidd. Mae ei mynegiant llafar yn brenaidd os nad yn glogyrnaidd, 'dydi hi byth yn dweud unrhyw beth gwreiddiol na ffraeth. Ond mae hi'n gymharol ifanc, ac mae'n ddel. 'Fedar y Bib ddim ei disgrifio fel yr ymgeisydd 'del' (am resymau sy'n ymwneud a chywirdeb gwleidyddol a ballu) , felly maent yn defnyddio'r gair 'carismataidd'. Hyd yn oed Vaughan Roderick, wir Dduw.

Saturday, December 06, 2008

Addysg Gymraeg - colli cyfle hanesyddol?




Mae datganiadau fel hwn ynglyn ag agor trydydd ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd
yn ddi eithriad yn galonogol. Serch hynny mae'n hawdd twyllo ein hunain ynglyn a lle'n union yr ydym o ran roi darpariaeth lawn. Mae ffigyrau ar gael sy'n disgrifio hyd a lled y ddarpariaeth yn fanwl. Dyma'r prif bwyntiau.

Nid yw 4 o pob pump plentyn yn y sector cynradd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg (79.7%). Mae’r ganran yn uwch yn y sector uwchradd (84.6%).

Mae’r ganran o blant sy’n siarad Cymraeg adref gyda’i teuluoedd yn dreuenus o isel - 7.6% o blant cynradd yn ol tystiolaeth rhieni. Mae lle i gredu bod y ffigwr hwn yn rhy uchel – pan wnaed yr asesiad yma gan brifathrawon ddiwethaf yn 2001 / 2002 6.2% oedd y rhif, ac roedd wedi bod yn cwympo’n gyson ers i’r ffigyrau ddechrau cael eu coledu. (Mae’r canrannau sy’n siarad Cymraeg adref yn y sector uwchradd yn uwch na’r rhai cynradd – ‘dwi’n meddwl mai rhesymau technegol sy’n codi o ddulliau cyfrifo sy’n achosi hyn, yn hytrach na chwymp sylweddol diweddar).

Adlewyrchiad o hen broses hanesyddol sy'n dyddio'n ol i gychwyn y Chwyldro Diwydiannol sydd wedi arwain at ddirywiad graddol ond cyson a di ildio yn y defnydd o'r Gymraeg yn gymunedol ac mewn bywyd teuluol. Erbyn heddiw mae'n bosibl dadlau bod Cymru'n fwy Seisnig na Lloegr o ran iaith - mae'r Saesneg yn iaith leiafrifol (fel mamiaith) mewn un o pob ugain ysgol yn Lloegr.

Mae lle i gredu nad yw’r ganran o blant nad ydynt yn siarad Cymraeg adref, ond sydd yn ei siarad yn rhugl yn cynyddu. 5.7% oedd yn syrthio i’r categori hwn yn 2002 / 2003, a 5% ydi’r ffigwr heddiw. Roedd y canranau hyn yn uwch na chyn 2001 / 2002 pan mai’r prifathrawon oedd yn asesu statws plant o safbwynt eu Cymreictod ieithyddol.

Un sir yn unig sydd a mwy na hanner ei phlant cynradd yn siarad y Gymraeg adref – Gwynedd gyda 52.7%. Pedair sir arall (o’r 22) sydd a mwy na 10% yn siarad Cymraeg adref – Conwy (11%), Ynys Mon (33.5%), Ceredigion (30.9%) a Chaerfyrddin (21.4%). Yn hanner y siroedd mae llai na 5% yn siarad Cymraeg adref.

Dim ond hanner y siroedd sydd a mwy na 5% o’u plant cyntadd o gefndir di Gymraeg yn siarad yr iaith yn rhugl – Gwynedd a Dinbych (5.5% yr un), Ceredigion (10.5%), Penfro (6.2%) a Chaerfyrddin (8.7%), Castell Nedd / Port Talbot (6.5%), Rhondda Cynon Taf (8.1%), Merthyr (9.1%), Caerffili (9.6%), Caerdydd (5%). Mae’r record yma yn un o gryn fethiant.

Dim ond yn y siroedd traddodiadol Gymreig mae mwy na chwarter y plant cynradd yn cael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg – Gwynedd (90% bl 1), Ynys Mon (72.9%), Ceredigion (79.2%) a Chaerfyrddin (56.1%). Mae Rhondda Cynon Taf yn gymharol uchel hefyd ar 18.9%.

Graddol iawn y bu'r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg tros y blynyddoedd. Roedd 17.8% o blant cynradd yn cael eu haddysg yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2000 / 2001. 20.3% oedd y ganran yn 2007. Cwympodd y ganran o blant oedd mewn dosbarthiadau lle’r oedd rhai pynciau yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg o 2.6% i 0.4% tros y cyfnod.

Mae’r ganran o blant sy’n cael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynyddu’n raddol iawn – o 18.1% yn 2000 – 2001 yn CA1 i 20.3% yn 2007 – 2008, o 17.5% 1 19.5% tros yr un cyfnod.

Mae’r ffigyrau uwchradd yn caniatau i ni edrych yn ol ymhellach na’r rhai cynradd. Gellir gweld cynnydd graddol yn y ganran a addysgid trwy gyfrwng y Gymraeg o 9.7% yn 1979 – 1980 i 15.4% yn 2006 – 2007.

Dim ond yng Ngwynedd (80.6% bl 7), Ceredigion (61.7%), ac Ynys Mon (69.2%) mae mwy na hanner y plant yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae asesiadau CA3 trwy gyfrwng y Gymraeg eto wedi cynyddu’n raddol o 13% yn 2,000 i 15.3% yn 2007.

Er bod y rhan fwyaf o'r ffigyrau sy'n ymwneud a'r ddarpariaeth addysgol yn symud i'r cyfeiriad cywir, maent mewn gwirionedd yn adlewyrchiad o fethiant ar ran y Cynulliad, ac yn fwy arbennig y rhan fwyaf o'r Awdurdodau lleol (ag eithrio Gwynedd, Ynys Mon, Ceredigion, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili).

Y rheswm am y methiant yw nad ydi'r cyflenwad o ran addysg cyfrwng Cymraeg yn dod yn agos at y galw yn y rhan fwyaf o'r wlad. Mae cryn le i gredu bod y galw am addysg Gymraeg yn llawer, llawer uwch na'r cyflenwad o tua 20% (yn tynnu at 50% o bosibl). Nid yw'r galw am addysg Gymraeg erioed wedi bod yn uwch yn hanes Cymru nag yw ar y funud yma - erioed - ac mae hyn yn ei gwneud yn gwbl bosibl i wneud gwahaniaeth - a gwahaniaeth go iawn.

Mewn geiriau eraill rydym yn byw yn ystod cyfnod lle mae cyfle hanesyddol, ac unigryw efallai, i droi'r llif sydd wedi trawsnewid proffeil ieithyddol y rhan fwyaf o Gymru mewn tua can mlynedd a hanner. Mae'n gyfnod lle gellid ail fodelu'r ddarpariaeth addysgol tros y wlad mewn modd fyddai'n gwneud y Gymraeg yn gyfadran bwerus - mwy pwerus na'r Saesneg efallai yn y gyfundrefn addysgol. Gyda chyfle fel hyn 'dydi cynyddu'r ddarpariaeth o sero pwynt rhywbeth pob blwyddyn ddim digon da. Mae'n gyfle sy'n cael ei golli - a gallai hyn fod yn drychineb hanesyddol i ni fel gwlad.

Wednesday, December 03, 2008

Trac Record Gwyddelig y Blaid Geidwadol

Chwi gofiwch y tro hwnnw pan oedd David Davies a Rod Richards yn flin iawn oherwydd i'r Cynulliad roi arian i gwmni oedd yn gyfrifol am gymysgu'r lliwiau ar y ffilm Hunger.

Roedd Rod yn wir yn bytheirio bod gan y Blaid track record oherwydd i Dafydd Ellis Thomas fygwth symud yr wys am ail is etholiad Fermanagh south Tyrone ym 1981. Mi addewais ar y pryd i 'sgwennu blog am track record Rod ei hun, ac yn wir 'dwi wedi hen 'sgwennu'r blog. Yn anffodus 'dwi heb fagu'r dewrder i'w gyhoeddi eto - mi ddaw'r dydd 'dwi'n siwr - mae dyn yn tueddu i gael diod bach neu ddau yn fwy nag arfer tros y Nadolig.

Ta waeth, yn ol at track records. Yn anffodus bu'n rhaid i Maria Gatland, cynghorydd Toriaidd a deilydd portffolio addysg Cyngor Croydon ymddiswyddo'n ddiweddar oherwydd ei bod yn gyn aelod o'r IRA.. Yn wir mae Maria yn honni iddi gysgu efo Daithi O'Connell, pennaeth yr IRA yn ol yn y saith degau pan oedd y ddynas yn ifanc ac yn helpu'r IRA.

Tybed beth sydd gan David a Rod i'w ddweud am track record Gwyddelig y Blaid Geidwadol?

Saturday, November 29, 2008

Ydi Cymru a Lloegr yn esblygu mewn cyfeiriadau gwahanol?



Cododd y cwestiwn yn fy meddwl wrth i mi gael fy hun (fel mae rhywun yn ei wneud) yn edrych ar ffigyrau cyfraddau ffrwythlondeb (TFR) Cymru a Lloegr.

TFR ydi'r term am ffrwythlondeb merched. Byddai TFR o 2.0 yn dynodi bod merched o oed rhoi genedigaeth ar gyfartaledd yn cael dau blentyn. TFR y DU ar hyn o bryd ydi 1.92. Golyga hyn y byddai'r boblogaeth yn lleihau oni bai am fewnfudiad. Mewn gwlad Orllewinol mae angen TNR o tua 2.1 i gadw'r boblogaeth yn sefydlog. Mewn gwlad yn y Trydydd Byd byddai'n rhaid wrth raddfa uwch i sefydlogi'r boblogaeth gan bod llawer o blant yn marw cyn dod yn ddigon hen i gael eu plant eu hunain.

Mae'n anodd gor bwysleisio pwysigrwydd TFR wrth ystyried patrymau newid poblogaeth. Er enghraifft, mae gwahaniaethau cymharol fach mewn cyfraddau ffrwythlondeb Pabyddion a Phrotestaniaid yng Ngogledd Iwerddon yn debygol o newid mwyafrif sylweddol o Brotestaniaid ddeg mlynedd ar hugain yn ol i fwyafrif Pabyddol mewn 15 i 20 mlynedd. Mae gwahaniaeth TFR rhwng pobl wyn a phobl o gefndir Hisbanaidd wedi trawsnewid natur poblogaeth nifer o daleithiau yn yr UDA tros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n debyg y bydd gan y mwyaf ohonynt o ran poblogaeth - California - fwyafrif Hisbanaidd mewn ugain mlynedd.

O graffu ar ffigyrau Prydain, maent yn rhannu i ddau gategori gwahanol iawn - ffigyrau mamau a anwyd ym Mhrydain a rhai a anwyd y tu allan i Brydain. TFR mamau Prydeinig ydi 1.79, tra bod rhai a anwyd y tu allan i Brydain yn 2.54. Mae'r gwahaniaeth yma'n ystadegol arwyddocaol - ond nid yw ond yn dweud hanner y stori. Mae tua chwarter y plant a anwyd i famau o'r tu allan i Brydain yn dod o Ewrop - mae cyfraddau genedigaeth Ewrop yn debyg i rai Prydain (a dweud y gwir maent yn is fel rheol). Felly mae TFR mamau o wledydd y tu allan i Brydain yn uwch na 2.54. Mae TFR rhai cydrannau o'r boblogaeth yma'n uchel iawn. Er enghraifft mae TFR merched a anwyd ym Mhacistan o gwmpas tair gwaith un merched a anwyd ym Mhrydain. Mae'r gwahaniaeth yma'n anferth.

O graffu ymhellach ar y manylion mae yna wahaniaeth, ac mae'n un sylweddol rhwng Cymru a Lloegr. Mae TFR Cymru a Lloegr yn debyg iawn - mae un Lloegr yn 1.91 ac un Cymru yn 1.9. Mae'r gwahaniaeth i'w weld pan rydym yn ystyried pwy sy'n cael y plant. Mae 24% o'r plant a anwyd yn Lloegr wedi eu geni i famau a anwyd y tu allan i Brydain. Y ganran yng Nghymru yw 9.4%, ac mae ychydig o dan hanner y rheiny wedi eu geni yn Ewrop. Yn Lloegr tua thraean sydd wedi eu geni yn Ewrop. I roi pethau'n blaen, mae TFR cynhenid Cymru yn uwch nag un Lloegr. Mae TFR Lloegr yn 1.91 oherwydd bod pobl o gefndir Asiaidd yn cael llawer o blant. Mae'r TFR cynhenid yn isel iawn - yn rhy isel o lawer i adnewyddu'r boblogaeth gynhenid.

Os ydi'r tueddiadau demograffig yma yn parhau - ac mae'n dra thebygol y byddant - bydd newidiadau strwythurol sylweddol yn natur poblogaeth Lloegr tros y degawdau nesaf. Ni fydd efallai traean o boblogaeth Lloegr yn wyn erbyn 2051. Bydd newid hefyd yng Nghymru - ond bydd yn llai o lawer. Un sir yng Nghymru yn unig sy'n dod yn agos at y gyfradd Seisnig o enidigaethau i famau o'r tu allan i Brydain - Caerdydd.

Mewn geiriau eraill bydd gwahaniaeth sylfaenol yn natur cymdeithas yn y ddwy wlad - a bydd gwahahaniaethau gwleidyddol yn sicr o adlewyrchu hynny. Ceir elfen o hyn 'rwan - mae'r BNP yn weddol gryf mewn rhannau o Loegr, ychydig iawn o gefnogaeth sydd ganddynt yng Nghymru a'r Alban. Mae'n amhosibl darogan beth yn union fydd effaith hyn oll - ond mae'n rhesymol i dybio y bydd y ddwy wlad yn fwy gwahanol nag ydynt erioed wedi bod o'r blaen - yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.

Thursday, November 27, 2008

Alun Cairns a rhagrith y Toriaid



Chwi gofiwch i Alun Cairns gael ei hun mewn mymryn o ddwr poeth gyda'r Blaid Geidwadol yn ddiweddar wedi iddo ddefnyddio'r term greasy wop wrth gyfeirio at Eidalwyr mewn rhyw raglen radio digon di nod o'r enw Dau o'r Bae.

Er i Alun ymddiheuro yn y fan a'r lle, doedd hynny ddim digon i'r Blaid Geidwadol. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o'i swyddi fel cadeirydd pwyllgor cyllid y Cynulliad a llefarydd y Toriaid tros addysg. Cafodd hefyd ei wahardd tros dro o'i rol fel ymgeisydd y Toriaid yn etholiadau San Steffan ym Mro Morgannwg. 'Dwi'n deall bod y Ceidwadwyr wedi rhyw led faddau iddo bellach.

'Rwan go brin y byddai unrhyw blaid arall wedi gwneud mor a mynydd o fater mor hollol bitw. Problem y Toriaid yw eu bod wedi magu enw iddyn nhw eu hunain fel plaid anymunol, secteraidd yn y gorffennol - felly maent yn gwneud mor a mynydd o ddangos eu bod yn blaid neis gwleidyddol gywir.

Dipyn o syndod felly oedd deall bod gan y Ceidwadwyr gynlluniau i ymuno efo'r blaid unoliaethol o Ogledd Iwerddon - yr UUP.

Mae'r UUP wedi bod a chysylltiadau ffurfiol gyda dau fudiad sy'n agored secteraidd - yr Apprentice Boys of Derry a'r Urdd Oren am y rhan fwyaf o'i hanes. Er i'r cysylltiad gyda'r Apprentice Boys gael ei dorri yn 1975, bu'n rhaid aros hyd 2005 i'r cysylltiad gael ei dorri gyda'r Urdd Oren. Yr Urdd ac nid yr UUP oedd eisiau torri'r cysylltiad.

Y rheswm pam bod hyn yn fy nharo ar hyn o bryd ydi'r hyn ddigwyddodd yng nghynebrynau'r pedwar aelod o'r PSNI a fu farw mewn damwain erchyll yn ddiweddar. Gwnaed llawer o'r ffaith gan y wasg bod dau o'r rhai a fu farw'n Babyddion tra bod dau arall yn Brotestaniaid. Ychydig o Babyddion oedd yn perthyn i ragflaenwyr yr PSNI - yr RUC.

Anfonwyd cynrychiolaeth i ddau o'r cynhebrynau gan yr UUP - i rai James Magee a Kenny Irvine. Roedd y ddau yn Brotestaniaid. Ni anfonwyd cynrychiolaeth o unrhyw fath ganddynt i gynhebrynau'r ddau Babydd, Declan Greene a Kevin Gorman.

Mewn geiriau eraill mae'r UUP wedi dewis pa gynherbynau sydd yn teilyngu eu presenoldeb ar sail crefydd yr heddlu ymadawedig. Mae'r blaid yma wedi bod yn blaid anymunol, secteraidd trwy gydol ei hanes, ac mae'r ffordd y rheolwyd Gogledd Iwerddon pan oeddynt mewn grym yno yn un o'r prif resymau am y degawdau o ryfela a greithiodd y lle trwy'r saithdegau a'r wythdegau.

Mae'n warth bod y Blaid Geidwadol yn fodlon mynd trwy'r ddrama chwerthinllyd o gymryd arnynt bod sylw gwirion ond di feddwl Alun Cairns yn stwmp ar eu stumog torfol tra'n ffurfio perthynas glos a ffurfiol efo plaid fach anymunol a secteraidd fel yr UUP.

Er gwaetha'r holl gymryd arnynt eu bod yn gynhwysol ac yn wleidyddol gywir, dydi'r Toriaid ddim wedi newid dim o dan arweinyddiaeth Cameron - plaid anoddefgar y bu erioed, a dyna ydi hi o hyd.

Tuesday, November 25, 2008

Un neu ddau o sylwadau ar ddatganiad / adroddiad Darling




'Dydi'r blog yma ddim yn trafod materion economaidd yn aml, ond cyn bod datganiad ddoe yn debygol o fod yn allweddol i'r etholiad cyffredinol nesaf, mae'n well i ni ddweud gair neu ddau.

Mae'r datganiad yn llwyth o gachu o'r radd flaenaf. Rhestraf isod pam:

(1) Mae'n amlygu camddealltwriaeth o natur y broblem. 'Dydi'r economi heb syrthio ar ei wyneb oherwydd diffyg arian - mae cymaint o hwnnw o gwmpas nag oedd tri mis yn ol. Diffyg cyfalaf ydi'r broblem - a'r ffaith nad ydi hi bellach yn hawdd cael benthyg arian sydd y tu ol i hynny. 'Dydi gostwng Treth ar Werth ddim yn mynd i wneud y mymryn lleiaf o wahaniaeth i hynny. Os ydi Darling eisiau gwneud gwahaniaeth mae'n rhaid iddo orfodi'r banciau i roi benthyg i'w gilydd ac i'w cwsmeriaid. Duw a wyr - fo sydd pia'u hanner nhw beth bynnag. Creu mwy o ddyled i'r wladwriaeth nag sydd rhaid mae'r newidiadau TAW.

(2) Anonestrwydd llwyr ydi codi trethi incwm ar y cymharol gyfoethog - cymharol ychydig o bres sy'n cael ei godi trwy gymryd y cam yma. Y rheswm pam mae'r dreth yn cael ei godi ydi i dwyllo pobl cyn etholiad mai'r cyfoethog fydd yn gorfod talu am y llanast. Y gwir ydi y bydd pawb sy'n gweithio yn gorfod talu o ganlyniad i'r cynnydd mewn yswiriant gwladol sydd ar y gweill.

(3) Mae ffigyrau Darling wedi eu seilio ar ddarogan chwerthinllyd o optimistaidd o beth sy'n debygol o ddigwydd tros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Mae Darling yn honni ei fod yn credu mai cwymp o 1% fydd yna mewn GDP tros y flwyddyn nesaf, ond bydd twf o 1.75% yn 2010. Os ydi'r ffigyrau yma yn uwch mewn gwirionedd - a chredwch fi mi fyddan nhw - bydd y trethi bydd pobl gyffredin yn gorfod ei dalu yn uwch eto - ac i dalu dyled ac nid i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

(4) Mae'r ddyled genedlaethol fydd yn £1triliwn yn ol Darling (ond sydd efallai am fod yn nes at £2triliwn mewn gwirionedd) am fod yn faen melin o amgylch gwddw'r economi Brydeinig am ddegawdau. Yr unig ffordd o dalu llog i fuddsoddwyr tramor ar y ddyled anferthol yma fydd trwy godi trethi, a gwneud hynny ar bawb. Felly bydd llai o arian i'w ailgylchu yn yr economi, a bydd llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Trychineb llwyr.

'Roeddwn yn gwrando ar Darling yn mynd trwy'i bethau ar y radio y bore yma - ac roedd yn rhoi'r bai am hyn oll ar rhywun arall wrth gwrs - America yn yr achos yma. Yn ol Darling, yno roedd pob dim wedi cychwyn, a hynny oherwydd arferion benthyca arian anghyfrifol gan y banciau.

Mae hyn yn nonsens llwyr. Yr unig wledydd sydd wedi cael bancwyr, hunanol, barus, dau wynebog yn mynd at y wladwriaeth gyda chapiau yn eu dwylo i grefu am bres ydi'r rhai a ddilynodd bolisiau economaidd tebyg i rai'r Unol Daleithiau (hy Prydain, Gwlad yr Ia ac ati). Y cyfryw fancwyr oedd yn unfryd eu barn hyd ychydig fisoedd yn ol na ddylai llywodraethau gael unrhyw ran ym musnes banciau.

Bai un o isms mawr yr oes neoryddfrydiaeth economaidd ydi'r holl lanast, a does yna neb wedi bod yn fwy brwdfrydig eu cefnogaeth i'r idiotrwydd deallusol yma na Llafur Newydd. Mae rhyddfrydiaeth economaidd pob amser - yn ddi eithriad - yn arwain at anhrefn economaidd yn y diwedd, a Duw yn unig a wyr pam bod pobl wedi meddwl y byddai pethau'n gwahanol y tro hwn. I roi pethau'n symlach - bai Gordon Brown, Alistair Darling a'u tebyg am adael i fancwyr barus wneud yn union fel y mynant ydi'r llanast sy'n ein hwynebu tros y blynyddoedd a'r degawdau nesaf.

Mae'r llanast yn ganlyniad yn uniongyrchol o'r feddylfryd sydd wedi diffinio Llafur Newydd. Dyna pam mae Brown wedi lluchio Llafur Newydd ar y domen wastraff tros y dyddiau diwethaf.

Codi pais ar ol piso.

Friday, November 21, 2008

Ydi'ch cymdogion yn perthyn i'r BNP?

Wna i ddim postio linc - byddai hynny'n torri'r Ddeddf Amddiffyn Data - ond cymrodd llai na dau funud o gwglo i mi ddod o hyd i'r rhestr cyflawn o aelodau'r BNP a roddwyd ar y We yn ddiweddar.

Beth bynnag un neu ddau o ffeithiau diddorol o safbwynt lleol beth bynnag:

Mae yna 14 aelod yn Ynys Mon ac 8 ac wyth ohonynt yng Nghaergybi.

Does yna ddim aelodau yng Nghaernarfon - ond mae dau yn Llanberis, un ym Mhenygroes ac un yn y Felinheli.

Mae yna fwy o aelodau ym Mangor, Swydd Down (7) nag ym Mangor, Gwynedd (4).

Mae yna 6 aelod yn Sir Feirionydd a 4 yn Nwyfor - tri ohonynt yn perthyn i'r un teulu.

Mae 32 yng Nghaerdydd - un ohonynt yn gymydog i fy mam yng nghyfraith.

Mae dwy waith cymaint yn ardal Abertawe nag yng Nghaerdydd.

Mae yna 43 yn Wrecsam.

Mae 44 yn sir Conwy.

Mae 27 yn Ninbych.

Mae 4 o aelodau'r BNP yn Ynys Mon o dan y cam argraff eu bod yn byw yng Ngwynedd.

'Dwi ddim yn adnabod cymaint ag un ohonynt.

Thursday, November 20, 2008

Llafur a PR

Newydd weld hwn ar flog Saesneg Hen Rech Flin.

Mae'n ddiddorol, ond mae'n cam gynrychioli pethau. Gan nad ydw i wedi darllen erthygl Rhodri Morgan, 'dwi ddim yn siwr os mai Rhodri ta Alwyn sydd wedi drysu. Efallai bod y ddau yn y niwl.

Yr hyn mae Alwyn yn ei ddweud ydi y byddai Rhodri yn hoffi'r syniad o ddull PR o bleidleisio yng Ngorllewin Cymru, tra'n cadw'r drefn bresenol yn y Cymoedd oherwydd y byddai hynny o fudd i Lafur. Mae'r ddadl yma wedi ei seilio ar gam ddealltwriaeth o'r ffordd y byddai PR yn debygol o weithio.

Pe byddai PR yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru mae'n debyg mai'r dull a ddefnyddir yn yr Alban a Gogledd Iwerddon fyddai - STV etholaethau aml sedd.

'Rwan byddai rhaid gweithredu fersiwn anarferol iawn STV iddo fod o gymorth i Lafur mewn etholiadau lleol yn y Gorllewin - mae eu cefnogaeth yn rhy isel i sicrhau seddi o dan y drefn arferol.

Heb fynd yn or dechnegol, mewn etholaeth gyda phedair sedd byddai'n rhaid i ymgeisydd ddod o hyd i 20% o'r bleidlais erbyn diwedd y broses cyn ennill sedd. Petai'n etholaeth tair sedd byddai'n rhaid wrth 25% o'r cyfanswm. Petai'n un 5 sedd byddai'n rhaid dod o hyd i tua 16.5% o'r bleidlais. Ar lefel leol nid oes gan Llafur y math yma o gefnogaeth yn y Gorllewin gwledig (mae'n stori ychydig yn gwahanol ar lefel seneddol a Chynulliad).

I roi'r sefyllfa yn ei chyd destun ni allai Llafur fod yn hyderus o ennill unrhyw sedd y tu allan i Fangor yng Ngwynedd. Ar Ynys Mon dim ond yng Nghaergybi y gellid bod ag unrhyw sicrwydd. Ni fyddent yn debygol o ennill unrhyw seddi yng Ngheredigion, a dim ond yn ardaloedd Doc Penfro ac Aberdaugleddau y gallent sicrhau unrhyw beth ym Mhenfro. Hwyrach y gellid ennill sedd neu ddwy yn ardal Ystradgynlais yn Ne Powys.

Ar y llaw arall byddai mantais i Lafur mewn rhai lleoedd yng Nghymru. Er enghraifft mae'r dref bresenol (FPTP) yn garedig gyda Llafur mewn etholiadau seneddol a Chynulliad yn ninasoedd y De, ond mae'n angharedig wrthynt mewn etholiadau lleol. Heb fod a'r ffigyrau wrth law, 'dwi'n weddol sicr bod pleidlais Llafur a'r Lib Dems yn debyg yng Nghaerdydd, ond cafodd y Lib Dems fwy o seddi o lawer.

Gallai PR fod o gymorth i Lafur - ond nid yn yr ardaloedd mae Alwyn a / neu Rhodri yn meddwl.

Friday, November 14, 2008

Weithiau mae dyn yn anobeithio

Mi ges i sgwrs y diwrnod o'r blaen yn y Black Boy gyda rhywun sydd yn byw yng Ngorllewin Caerdydd, ond sydd a barnu o'i acen gyda'i wreiddiau yn y Gogledd. Mi wnawn ei alw'n Mr X - yn rhannol am nad ydi blogmenai (fel y gwyr fy narllenwyr rheolaidd megis Nic Parry yn dda) byth, byth yn ymosod ar neb yn bersonol, ond yn bennaf oherwydd i mi anghofio gofyn iddo beth oedd ei enw.

Roedd y cyfaill yn disgrifio ei hun fel cenedlaetholwr Cymreig a rhywun oedd yn gweithio yn wirfoddol weithiau i'r Blaid yng Nghaerdydd. Ei gonsyrn o oedd bod y Blaid wedi gwneud 'smonach mawr' o'r busnes ysgolion yn Nhreganna - ward ac ardal lle mae llawer o Gymry Cymraeg yn byw yng Ngorllewin y ddinas. Y smonach oedd peidio ag ymgyrchu i gau ysgol cyfrwng Saesneg Landsdowne, a symud plant ysgol gyfrwng Gymraeg Ysgol Treganna yno.

'Rwan mae yna ddadleuon tros ddilyn y llwybr yma - mae llawer o lefydd gwag (costus) yng Ngorllewin Caerdydd, ac mae yna lawer o lefydd gwag yn Lansdowne tra bo Ysgol Treganna yn llawn at yr ymylon. Mae'r galw am addysg Gymraeg yn tyfu'n rhyfeddol o gyflym mewn rhannau o Gaerdydd - ac yn Nhreganna fwy na'r unman arall.

Awgrymwyd sawl cynllun gan y Blaid cyn yr etholiad cyngor diwethaf - y cwbl ohonynt yn ymdrechu i gadw Landsdowne yn agored tra'n cynnig atebion i Ysgol Treganna, ond nid oedd rhieni Treganna - a'r gymuned Cymraeg yn Nhreganna gyda diddordeb mewn unrhyw opsiwn nad oedd yn cau Landsdowne.

Roedd hyn yn broblem gwleidyddol i'r Blaid - mae'r Blaid angen apelio at drawsdoriad eang o bobl yng Nghaerdydd os ydynt i gamu ymlaen yno. Mae elfennau o'r gymuned Gymraeg ei hiaith yn anghytuno - maent yn ystyried mai pwrpas y Blaid ydi edrych ar ol buddiannau un sector o'r gymuned, ac un yn unig - sef eu sector nhw eu hunain, y Cymry Cymraeg eu hiaith. Nid bod y rhan fwyaf ohonynt yn trafferthu pleidleisio i'r Blaid wrth gwrs - roedd yna 32,000 o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd yn 2001, tua 9,000 o bleidleisiau a gafodd y Blaid yn etholiad cyffredinol y flwyddyn honno yn y ddinas. Mae llawer mwy o Gymry Cymraeg yn Nhreganna na sydd yn Fairwater i'r Gorllewin iddi na Riverside i'r Dwyrain - ond mae'r Blaid gyda chefnogaeth etholiadol cryfach o lawer yn y wardiau llai Cymreig.

Aethom ymlaen i siarad am y rhagolygon ar gyfer yr etholiadau Cynulliad yn 2011. Roedd y ddau ohonom yn meddwl bod gobaith gwirioneddol y byddai'r Blaid yn ennil. Roedd Mr X o'r farn ei bod yn bwysig cael rhywun 'iawn' i sefyll. Y person fydd yn sefyll fydd Neil McKevoy - ymgeisydd sydd fwy neu lai yn berffaith o safbwynt etholiadol - oherwydd ei gefndir mae'n apelio at bleidleiswyr Llafur, Pabyddion (elfen bwysig o boblogaeth y ddinas) a'r lleiafrifoedd ethnic. Nid oedd Mr X yn rhy siwr pwy 'iawn' oedd ar gael, ond roedd yn eithaf siwr nad oedd Neil yn 'iawn'. Yn wir, petai Eluned Morgan yn sefyll byddai'n pleidleisio i honno cyn Neil. Y gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall wrth gwrs ydi bod y Gymraeg yn famiaith i'r unoliaethwraig ac mae ei gwreiddiau yng Ngorllewin Cymru. Gwyddelod a Somaliaid ydi cyn dadau'r cenedlaetholwr. Pan mae eich gwleidyddiaeth yn un secteraidd, llwythol mae ystyriaethau fel hyn yn bwysig.

Os ydych yn byw yn rhai o bentrefi uchel (yn yr ystyr daearyddol) Arfon os oes gennych olwg da, ac os ydi hi'n anarferol o glir gallwch weld mynyddoedd Wicklow pan mae yna eira ar eu copaon. Ar adegau felly rydych yn edrych ar wlad wahanol - gwlad agos, ond gwlad efo traddodiad gwleidyddol cwbl wahanol i un Cymru. Dyma stori dau berson gyda chysylltiadau a Wiklow - Ann Develin a anwyd yno ac Erskine Childers a fagwyd yn y sir.

Anne Devlin, housekeeper (ddim yn siwr o'r gair Cymraeg) Robert Emmet, arweinydd gwrthryfel 1798.

Wedi i'r chwyldro fethu cafodd hi a'i holl deulu eu dwyn i'r ddalfa, cynigwyd arian iddi am achwyn ar gyd gynllunwyr Emmet, cafodd hefyd ei harteithio yn gorfforol a seicolegol, a'i bygwth gyda marwolaeth. Ni chafodd yr awdurdodau cymaint ag un enw ganddi. Bu ei brawd naw oed farw yn y carchar. Wedi blynyddoedd cafodd ei rhyddhau. Erbyn hynny roedd ei chylch cyfeillion, ei theulu a'r mudiad gweriniaethol wedi eu chwalu. Priododd i mewn i dlodi enbyd a chael plant. Treuliodd lawer o weddill ei bywyd ar y strydoedd.

Yn ei dyddiau olaf arferai weld rhai o gyn gyd gynllwynwyr Emmet ar y strydoedd. Yn gwahanol iddi hi roedd y bobl hynny'n gymharol gyfoethog ac yn aml byddant yn cymryd arnont nad oeddynt yn eu hadnabod. Gallai fod wedi gwerthu gwybodaeth amdanynt unrhyw bryd ac achub ei hun - ond wnaeth hi ddim. Bu farw ar y strydoedd mewn tlodi enbyd.

Yn gwahanol i Ann Devlin un o draddodiad cyfoethog Eingl Wyddelig oedd Erskine Childers, un wedi ei eni yn Lloegr. Ymladdodd tros Brydain yn rhyfel y Boer, ac aeth ymlaen i fod yn rhan o'r sefydliad Prydeinig a chael swydd flaenllaw yn Nhai'r Cyffredin. Roedd o'n ddyn nad oedd erioed rhaid iddo drafferthu am yr Iwerddon, ond mi wnaeth.

Rhoddodd y gorau i'w swydd yn gweithio i'r sefydliad Prydeinig yn 1910 i ymgymryd ag achos Iwerddon. Arhosodd yn driw i'r achos hwnnw hyd y diwedd chwerw, gwenwynig. Cymrodd ochr y sawl oedd yn gwrthod y Cytundeb Eingl Wyddelig cyntaf yn 1922. Roedd y llywodraeth Wyddelig newydd yn ei gasau a chas perffaith - gwnaed llawer o'i gefndir dosbarth uchel Seisnig, a'i acen Saesneg. Chwalwyd ei gymeriad mewn ymgyrch bropoganda.

Wedi iddo gael ei ddal, cafodd ei ddienyddio yn iard gwersyll milwrol Beggars Bush. Tra'n gorwedd yn ei arch ar yr iard cerddodd un o swyddogion byddin y wladwriaeth newydd ar draws yr iard at ei gorff a gwagio ei Mauser automatic i mewn i'w wyneb.

Ar yr ochr arall i'r mor Celtaidd roedd y sefydliad Prydeinig hefyd yn llawen. Sylw Churchill oedd No man has done more harm or done more genuine malice or endeavoured to bring a greater curse upon the common people of Ireland than this strange being, actuated by a deadly and malignant hatred for the land of his birth. Roedd yn cael ei gasau yn Lloegr oherwydd iddo droi at achos Iwerddon, ac roedd casineb tuag ato yn yr Iwerddon oherwydd ei Seisnigrwydd. Ond, fel Anne Devlin bu farw'n driw i'w Weriniaeth at y diwedd - er gwaethaf pawb a phopeth.

Dwy stori ydi'r rhain o ganoedd - miloedd - y gellid eu hadrodd am bobl oedd yn fodlon aberthu'r cwbl tros y Weriniaeth - a gweledigaeth o Weriniaeth gynhwysol gyda'i gwreiddiau ideolegol yn y newidiadau gwleidyddol strwythurol anferth a ddigwyddodd yn niwedd y ddeunawfed ganrif.

A beth sydd gennym ni? Pobl fel Mr X sy'n pleidleisio tros bleidiau unoliaethol am resymau llwythol. Grwp o bobl megis Cymry Cymraeg Treganna sy'n fodlon canibaleiddio ysgol rhywun arall er mwyn eu lles eu hunain, 'Cenedlaetholwyr' sy'n troi at bleidiau sefydliadol Prydeinig yn fuan wedi methu cael eu dewis i sefyll am rhyw swydd etholedig neu'i gilydd tros blaid sefydliadol Gymreig. Pobl sydd wedi gwneud gyrfa o bortreadu eu hunain fel cenedlaetholwyr rhonc - cenedlaetholwyr gwell cenedlaetholwyr na llawer ohonom yn troi at bleidiau rhanbarthol sydd yn eu hanfod yn wrth genedlaetholgar. Pleidiau megis Llais Gwynedd. Cymry Cymraeg dosbarth canol breintiedig sy'n meddwl mai prif bwrpas cenedlaetholdeb Cymreig ydi amddiffyn eu buddiannau nhw eu hunain.

Y cwestiwn sy'n codi wrth gwrs ydi pam? Pam bod y cysyniad o wladwriaeth Wyddelig yn ddigon pwerus i wneud i lawer iawn o bobl ddangos ymroddiad llwyr iddo, tra bod y cysyniad o wladwriaeth Gymreig mor wan nes bod hyd yn oed cefnogwyr mwyaf selog y cysyniad yn aml yn cael eu colli i Brydeindod a gwleidyddiaeth rhanbarthol gwrth genedlaetholgar pan ddont ar draws man fygythiadau i'w man fuddiannau llwythol a phersonol nhw eu hunain?

Does yna ddim un ateb wrth gwrs, ond mae perthynas hanesyddol y Cymry a'r wladwriaeth Brydeinig yn agos at wraidd y drwg. Mae dylanwad y Chwyldro Diwydiannol ar gymdeithas a felly gwleidyddiaeth Cymru hefyd yn arwyddocaol - mi'r rydan ni yn fwy tebyg i Saeson yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn seicolegol nag ydi'r Gwyddelod, ac oherwydd hynny 'dydi'r cysyniad o wladwriaeth Gymreig ddim mor atyniadol hyd yn oed i genedlaetholwyr - heb son am y rhan fwyaf o'r boblogaeth nad ydynt yn genedlaetholwyr.

Felly ydi gwladwriaeth Gymreig yn bosibl? Dyna fyddai dyn yn gobeithio - ond tra nad ydym yn ei chael yn bosibl i roi man raniadau o'r neilltu - fel y llwyddodd Anne Develin i ddi ystyru gwahaniaethau dosbarth ac Erskine Childers i ddi ystyru gwahaniaethau ethnig, addysgol a chrefyddol - nid oes yna fawr o obaith.

Thursday, November 13, 2008

Peter Hain yn y cachu drachefn?


Mae'n ddrwg iawn gan blogmenai ddeall bod yna hen bobl ddrwg, di egwyddor yn gwneud pethau yn anodd i Peter Hain druan unwaith eto. '

Gyda'r heddlu eisoes yn ymchwilio i ymddygiad Peter, byddai dyn wedi disgwyl iddo fod mymryn bach yn ofalus ynglyn a derbyn arian o ffynonellau tramor ac anghofio datgan hynny i'r awdurdodau priodol. Wedi'r cwbl gwneud cam ddefnydd o ffynonellau arian a'u sianelu trwy ddulliau dan din er mwyn hyrwyddo ei fuddiannau gwleidyddol ei hun ydi'r hyn mae'r heddlu yn ei ymchwilio ar hyn o bryd. Dydi'r broblem ddiweddaraf ddim yn anhebyg i hyn - ddim yn anhebyg o gwbl.

Diddorol gweld bod y brawd Wayne David yn un o'r siaradwyr yng 'nghynhadledd' Almaeneg Peter. Chwi gofiwch i Wayne wichian fel mochyn bach ar y ffordd i ladd dy am wythnosau pan cafodd Aelodau Seneddol Plaid Cymru eu hunain mewn mymryn o ddwr poeth wedi etholiadau'r Cynulliad y llynedd. Roedd hwnnw yn fater bach wrth yml gweithgareddau Peter Hain - gweithgareddau a allai fod yn rhai troseddol.

Wednesday, November 12, 2008

Cywilydd i gael eich galw'n Brydeiniwr?

'Dwi'n gweld o flog Ordivicus bod rhywbeth o'r enw Gerald Warner sy'n 'sgwennu i'r Telegraph wedi pechu'n lan oherwydd bod Cyngor Caerffili yn awgrymu i'w gweithwyr beidio a defnyddio'r term British rhag pechu pobl. Ymddengys bod y South Wales Echo, David Davies a rhai o'r papurau Seisnig wedi cael eu hunain mewn tipyn o stad hefyd.

Yn bersonol 'dwi'n meddwl bod y cyngor yn ddigon call. Petawn i yn cael fy ngalw yn Brydeinig, mi fyddwn i wedi fy mhechu. Wedi'r cwbl mae'r wladwriaeth Brydeinig a'r un Seisnig a'i rhagflaenodd wedi ymosod ar ei holl gymdogion yn rheolaidd ac wedi creu ymerodraeth a fu'n gyfrifol - mae'n debyg - am fwy o farwolaethau na'r un endid gwleidyddol arall erioed.

Rhagflaenwyr gwleidyddol David Davies a Gerald Warner yn y wasg geidwadol ac yn Nhy'r Cyffredin oedd yn bennaf gyfrifol am y tywallt gwaed mawreddog yma.

Monday, November 10, 2008

Gwersi PR i Lafur

Mae'n beth prin iawn i'r Blaid Lafur dderbyn unrhyw ganmoliaeth ar flogmenai, ond mae'n debyg eu bod yn haeddu ychydig o ganmoliaeth am ddod a dull cyfrannol o bleidleisio i fodolaeth pan sefydlowyd Senedd yr Alban a'r Cynulliad Cenedlaethol. Fersiwn hynod ddiffygiol o gynrychiolaeth gyfrannol (PR) oedd yr un a welodd olau dydd ym 1999, ac un oedd wedi ei gynllunio i amddiffyn buddiannau'r Blaid Lafur. Serch hynny roedd yn well na'r hen drefn - petai'r drefn a ddefnyddir ar gyfer San Steffan (FPTP)wedi ei fabwysiadu byddai Llafur mewn grym ar eu penau eu hunain yn yr Alban a Chymru heddiw, ac felly y byddai'r sefyllfa wedi bod ers 1999.

Mae gwleidyddiaeth PR yn gwahanol i'r wleidyddiaeth a geir o dan y gyfundrefn FPTP. Y rheswm am hyn ydi ei bod yn anodd iawn i un blaid ennill grym ar ei phen ei hun. O ganlyniad mae'n rhaid i bleidiau gyd weithredu er mwyn ennill grym. Mae hyn yn groes i'r graen i'r pleidiau unoliaethol.

A dweud y gwir pan ddaeth y gyfundrefn newydd i rym, roedd y pleidiau yng Nghymru a'r Alban yn anghyfarwydd a sut i ddelio gyda PR, a bu'n rhaid dysgu gwersi yn eithaf sydyn. Mae hyn yn arbennig o wir am y Blaid Lafur - roedd yn rhaid iddi addasu a datblygu er mwyn gallu dal gafael ar rym. Serch hynny, mae rhai gwersi eto i'w dysgu ganddi. Cawn gip cyflym ar y gwersi a ddysgwyd yn ogystal a'r rhai na ddysgwyd hyd yn hyn.

Gwers 1: Mae'n anodd i blaid ennill grym ar ei phen ei hun, ac mae'n rhaid rhannu grym gyda phlaid arall weithiau. Dyma'r wers gyntaf i Lafur ei dysgu - roedd rhaid iddynt fynd i lywodraeth efo'r Lib Dems ym 2000, wedi darganfod na allent lywodraethu ar eu pennau eu hunain.

Gwers 2: Mae'r pleidiau eraill yn edrych ar ol eu buddiannau eu hunain ac nid rhai eich plaid chi. Roedd Llafur yn disgwyl i'r Lib Dems neidio ar y cyfle i rannu grym gyda nhw yn 2007. Wnaethon nhw ddim, a'r rheswm am hynny yw nad oeddynt yn credu y byddai o fudd etholiadol iddynt hwy eu hunain i gael eu cysylltu'n agos gyda Llafur. Dyna pam roedd rhaid iddynt glymbleidio gyda Phlaid Cymru.

Gwers 3: Weithiau mae'n rhaid rhannu agenda yn ogystal a grym. Pan roedd Llafur mewn clymblaid gyda'r Lib Dems, agenda Llafur oedd yn cael ei gweithredu, ond bod y Lib Dems yn cael y fraint a'r anrhydedd o helpu gweithredu'r agenda honno. Roedd pethau'n gwahanol pan y cawsant eu hunain yn gorfod rhannu grym gyda Phlaid Cymru. Roedd y Blaid yn fwy na'r Lib Dems ac yn fwy uchelgeisiol. Gellir dadlau bod rhaglen y llywodraeth bresenol - Cymru'n Un wedi ei ddylanwadu arno mwy gan Blaid Cymru na gan y Blaid Lafur.

Dydi'r Blaid Lafur heb fwynhau'r un o'r gwersi yma - i'r gwrthwyneb mae elfennau o'r blaid wedi casau pob un ohonynt. Mae gwers arall nad ydi Llafur wedi gorfod ei hwynebu eto fodd bynnag - os nad ydych yn cadw eich ochr chi o'r fargen yr ydych yn ei tharro wrth fynd i glymblaid, nid yw'r glymblaid yn debygol o oroesi a gallech gael eich hun allan o lywodraeth.

Mae'r synnau sy'n dod o gyfeiriad aelodau seneddol Llafur parthed refferendwm ac ymdrechion yr aelodau hynny i rwdlan gyda'r LCOs sy'n cael eu cyflwyno i San Steffan yn dod yn agos iawn at dorri cytundeb Cymru'n Un. Oni bai bod agwedd Llafur yn newid, fyddwn i ddim yn rhyfeddu petai Llafur yn gorfod dysgu'r wers olaf ymhell cyn 2011.

Thursday, November 06, 2008

Glenrothes

Ymddengys (ac mae'n fuan iawn) bod Llafur wedi ennill a'r SNP wedi colli yn is etholiad Glenrothes.

Mae hyn yn peri cryn bryder i flogmenai, ond mae un cysur bach - nid bod hynny'n gysur mewn gwirionedd - sef bod blogmenai wedi darogan y byddai hyn yn digwydd ers tro.

Mi wnes i ddarogan hyn ar Hydref 8. Mi fyddai gen i ddiddordeb clywed os oes rhywun yn y cyfryngau neu ar y We wedi darogan yr un peth yn gynt - nid bod blogmenai yn un am frolio na dim byd felly.

Newid trwy symud ymlaen tua'r gorffennol?

Mae Barack Obama yn gymharol ifanc, a newid oedd ei thema mawr yn yr etholiad arlywyddol, ac yn ddi amau mi fydd yna newid. Ond tybed os y bydd dwy o'r prif swyddi economaidd yn mynd i ddau ddyn mewn oed mawr. Gallai Paul Volcker yn hawdd gael ei roi'n gyfrifol am system bancio canolog America - Y Fed, a gallai Warren Buffet gael ei hun yn gyfrifol am y trysorlys. Mae Mr Volker yn ei wythdegau a Mr Buffet yn 78.

Ond hen neu beidio, mae'n anodd meddwl am bar mwy galluog yn unrhyw le i ddelio gyda'r llanast economaidd a adawyd ar ei ol gan neo ryddfrydiaeth Bush.

'Ymchwiliad' Syr Wyn


Mae'n anodd peidio a chwerthin wir Dduw. Casgliad chwerthinllyd yr ymarferiad diwerth yma ydi cynnal 'ymchwiliad' arall rhywbryd ar ol yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae yna lawer o ddoethinebu wedi bod am beth yn union ydi ystyr y ffwlbri yma. 'Does dim rhaid crafu pen rhyw lawer, mae'r eglurhad yn un syml. Nid oedd hi'n bosibl i adroddiad Syr Wyn argymell unrhyw beth diriaethol oherwydd bod y blaid Gymreig wedi eu hollti'n anobeithiol ar fater datganoli. Felly byddai unrhyw argymhelliad y gellid deall ei ystyr yn gwneud i rhywun neu'i gilydd gicio yn erbyn y tresi. I'r graddau yma mae'r 'broblem' dataganoli i'r Blaid Geidwadol Gymreig yn debyg i'r hyn roedd y 'broblem' Ewropeaidd i'r Blaid Geidwadol Brydeinig ddegawd yn ol - maes nad yw'n bosibl iddynt ymrafael mewn ffordd gall a fo, oherwydd bod unrhyw gasgliad pendant yn sicr o arwain at wrthdaro mewnol.

O leiaf mae'r nonsens o ymarferiad yma'n gwneud y Toriaid yn fwy Cymreig ar rhyw olwg, pwyllgorau i drafod pwyllgorau i drafod pwyllgorau i drafod _ _ _ a dim byd byth yn digwydd, ond neb yn cael ei ypsetio - a beth sydd bwysicach na hynny?

Tuesday, November 04, 2008

Pam bod Obama'n Ddu, a beth ydi hynny i'w wneud efo ni?


'Dwi'n gwybod ei fod yn gwestiwn gwirion - ond mae Obama mor wyn ag mae'n ddu. Ymhellach cafodd ei fagu gan ei fam a'i nain - roedd y ddwy ohonynt yn wyn. Roedd ei dad o Affrica, ac nid oedd gyda cysylltiad agos gyda diwylliant du America. Eto mae'n cael ei ystyried yn ymgeisydd croenddu. Pam?

Mae'r ateb yn weddol syml - dyna ddewis Obama. Aeth i fyw i gymdogaeth pobl croenddu, priododd wraig groenddu, dewisodd fynychu capel pobl croenddu, Malia a Sasha ydi enwau ei blant. Dewisodd ddiwylliant pobl croenddu'r Unol Daleithiau.

Mae yna rhywbeth Cymreig am hyn. 'Dwi o gefndir lle nad oedd rhaid i mi ddewis i fod yn Gymro Cymraeg - 'dwi o ardal a chefndir lle na allwn i byth fod yn ddim ond Cymro Cymraeg. Roedd yr ardal yn un Cymreig iawn o ran iaith, ac roedd cenedlaetholdeb Cymreig yn bwysig iawn ar yr aelwyd. Ond, nid felly y rhan fwyaf o fy nheulu.

Dysgodd fy ngwraig y Gymraeg yn ei harddegau hwyr. Hi ydi'r unig berson yn ei theulu sy'n gallu siarad yr iaith. Go brin bod unrhyw un arall yn ei theulu wedi siarad Cymraeg am ddwy neu dair cenhedlaeth. Roedd aelwyd fy mam yn un dwyieithog - y tad yn Sais a'r fam yn Gymraes. Priododd ei chwiorydd Saeson, symud i Loegr a magu eu plant yn ddi Gymraeg. Y Gymraeg oedd iaith cartref fy nhad, ond roedd ei rieni yntau yn gymysg iawn o ran cefndir. Almaenwr oedd tad nain a Saesnes oedd ei mam. Roedd y teulu'n fawr a bu farw'r tad yn ifanc. Priododd y fam eilwaith, Cymro y tro hwn. Cymraeg y siaradai ddwy gyda'i gilydd gan amlaf - ond roedd gan nain gywilydd mawr o Gymraeg chwithig ei mam. Saesneg oedd nain yn siarad efo rhai o'i chwiorydd fel oedolyn a'r Gymraeg gydag eraill. Roeddynt wedi gwneud dewisiadau gwahanol. Y Gymraeg oedd iaith cartref taid - ond roedd ei gefndir yntau'n gymhleth. Cymraes oedd ei fam, a llongwr o Norwy oedd ei dad. Priododd y ddau a symud i fyw i Norwy, ond roeddynt yn ol yng Nghymru yn weddol fuan - 'doedd mam taid methu dioddef y tywydd.

Mae'n debyg bod y pobl fel fi sydd heb orfod meddwl am ddau funud os ydyw am fod yn Gymro Cymraeg neu beidio yn mynd yn brin fel mae'r ardaloedd sydd gyda chanranau uchel iawn o bobl yn siarad Cymraeg yn mynd yn brin. 'Dwi'n weddol siwr y bydd amser yn ystod fy mywyd i pan bydd y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg wedi gwneud y dewis Obamaidd mae'r rhan fwyaf o fy nhylwyth cymysg i wedi ei wneud.

Saturday, November 01, 2008

David Davies, Hunger a Rod Richards

Mae David Davies yn flin, ac yn ofnadwy o flin ar hynny. Daeth yn amlwg i ffilm Steve McQueen am yr ymprydio yng ngharchar y Maze yn 1981, Hunger dderbyn £120,000 o gronfa sydd wedi ei greu gan y Cynulliad i ddenu gwneuthurwyr ffilmiau i Gymru. Roedd yn amod bod yr arian yn cael ei wario yng Nghymru, a gwnaed hynny. Cafodd cwmni Dragon DI o Bencoed fusnes o weithio ar liwiau'r ffilm.



Dyfynaf David Davies:

Anyone who has served in the armed forces or has been caught up in the IRA's terror campaign will be horrified that the Welsh Assembly Government is using taxpayers' money, at a time we're facing a huge recession, to support a film which is sympathetic to the IRA.

'Rwan mae yna sawl pwynt yn codi o hyn. Yn gyntaf mae cysylltu'r gronfa gyda'r dirwasgiad ariannol presenol yn nonsens anonest - cafodd y gronfa ei chreu ymhell cyn i'r sefyllfa bresennol ddatblygu - ac roedd y cymorthdal wedi ei roi a'i wario hefyd. Yn ychwanegol byddai dyn yn disgwyl y byddai busnesau angen mwy o gymorth gan y Cynulliad ac nid llai mewn amserau anodd.

Yn ail, mae'n mae'n ymddangos ei fod yn disgwyl i'r cymorthdal gael ei ganiatau neu ei wrthod yn unol a'i ddehongliad ef ei hun o ddymuniadau pobl eraill - cyn filwyr a phobl sydd wedi cael rhyw brofiad neu'i gilydd o drais yr IRA yn yr achos yma. Mae'n aneglur pam bod David yn meddwl ei fod yn gymwys i siarad tros grwpiau mawr o bobl, does gan y Royal British Legion ddim sylw i'w wneud ar y mater ag eithrio i nodi eu bod yn gefnogol i fynegiant rhydd. Roeddwn i yng nghyngerdd y Wolftones yn y Galeri yng Nghaernarfon nos Fercher, ac fel mae'n digwydd roedd cyn filwr yn eistedd wrth fy ochr. 'Dwi ddim am siarad ar ei ran fel mae David yn ei wneud, ond mae rhywbeth yn dweud wrthyf na fyddai'n rhy flin am y £120,000.



Mae'r syniad o wrthod neu gynnig cymorthdal celfyddydol ar y sail y byddai cynnig yn ypsetio rhywun neu'i gilydd petai'n gwybod am y cymhorthdal ynddo'i hun yn broblematig a dweud y lleiaf. A fyddai David yn gwrthwynebu rhoi cymorthdal Cymreig i'r ffilm Dambusters sydd i'w ail ffilmio y flwyddyn nesaf ar y sail y byddai teuluoedd y 526 caethwas benywaidd o'r Undeb Sofietaidd a 'sgubwyd i'w marwolaeth gan y dyfroedd a ryddhawyd gan fomio'r RAF yn ypsetio petaent yn cael clywed am y cymorthdal hwnnw?

Ta waeth, David Davies ydi David Davies - yn wleidyddol mae'n ymylu ar fod yn barodi o geidwadiaeth hen ffasiwn Seisnig adweithiol, simplistaidd - ond fedra i ddim ei ddrwg licio yn bersonol. Mi gefais i sgwrs efo fo mewn siop lyfrau yng Nghaerdydd rhai blynyddoedd yn ol. Roedd yn chwilio am lyfrau ar iaith Hwngari oherwydd bod ei ddyweddi yn dod o'r fan honno. Roedd yn ymddangos yn fachgen cyfeillgar a di ffuant oedd wrth ei fodd o gyfle i sgwrsio yn y Gymraeg. Nid felly Rod Richards a ymddangosodd ar raglen Manylu ddoe i gefnogi safbwyntiau ei gyn gyfaill.



Mae hen gysylltiad rhwng David Davies a Rod Richards wrth gwrs. David Davies oedd yr unig aelod o'r grwp Ceidwadol yn y Cynulliad i aros yn driw i Rod pan roedd pob dim yn mynd i'r diawl ar ddiwedd ei gyfnod fel arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru. Y ffaith i Rod ddewis David Davies i arwain y blaid dros dro yng Nghymru tra roedd yn ymladd cyhuddiadau troseddol a arweiniodd at ei ymddiswyddiad o'r arweinyddiaeth.

Fel arfer roedd cyfraniad Rod yn ddryslyd ac emosiynol. Roedd yn brolio ei fod yn gweithio i wasanaethau cudd Prydain ar y pryd ac yn cymryd arno bod hynny'n ei wneud yn arbenigwr ar hanes Gogledd Iwerddon bryd hynny. Mae hyn yn rhyfedd cyn bod ei ffeithiau yn amheus a dweud y lleiaf. Galwodd Fermanagh South Tyrone yr etholaeth lle cafodd Bobby Sands ei ethol yn aelod seneddol trosti yn Tyrone ac yn Fermanagh East Tyrone.

Gwnaeth awgrym enllibus bod arweinyddiaeth yr IRA y tu allan i'r Maze wedi cael teulu Sands i roi pwysau arno i beidio a rhoi'r gorau i'r ympryd. Does yna ddim gwirionedd y tu ol i'r awgrym yma - ac mae'n hawdd iawn profi hynny. Mae'r archif o gysylltiadau ysgrifenedig yr IRA yn y Maze gyda phenaethiaid y mudiad y tu allan ar gof a chadw, ac wedi ei harchwilio sawl gwaith. Nid yn unig nad oes yna unrhyw awgrym o hyn, ond yr argraff a geir ydi bod yr arweinyddiaeth y tu allan yn amheus iawn o'r ympryd am gyfnodau maith.

Roedd Rod hefyd yn awyddus i gysylltu Plaid Cymru gyda'r IRA, gan honni bod track record ganddi. Ei thesis oedd bod Plaid Cymru wedi rhoi buddugoliaeth bropoganda i'r IRA trwy alw'r wis seneddol oedd ei hangen i ganiatau is etholiad Sands. 'Dwi'n credu bod cof Rod yn ei dwyllo. 'Doedd yna ddim disgwyliad y byddai Sands yn sefyll heb son am ennill pan alwyd is etholiad cyntaf Fermanagh South Tyrone yn Ebrill 1981. Y disgwyliad oedd y byddai'r unoliaethwr Harry West yn ennill oherwydd y tebygrwydd y byddai'r bleidlais Genedlaetholgar wedi ei hollti.

'Dwi'n credu mai meddwl am yr ail is etholiad oedd Rod a gynhalwyd yn Awst 1981 yn dilyn marwolaeth Bobby Sands. Roedd yr ympryd i bob pwrpas ar ben erbyn cynnal yr is etholiad. Bwriad y pleidiau Prydeinig oedd osgoi cynnal yr etholiad am cymaint o amser a phosibl gan nad oeddynt yn hapus gyda'r canlyniad tebygol. Dywedodd Dafydd Ellis Thomas y byddai'n symud y wis i gynnal yr is etholiad oni bai y byddai rhywun arall yn gwneud hynny. Dyna ydi'r track record mae Rod yn cyfeirio ato.

Mae gan y Blaid track record wrth gwrs, un o wrthwynebu rhyfeloedd yn gyson - megis yr un lloerig yn Irac - yn union fel mae gan Rod track record o'u cefnogi. A gan bod Rod yn codi track records byddwn yn cael golwg ar un Rod maes o law

Thursday, October 30, 2008

Gwobr Hen Rech Flin

'Dwi wedi canmol blogiau Alwyn ap Huw yn y gorffennol - Miserable Old Fart a Hen Rech Flin.

Er bod Alwyn yn gwbl gyfeiliornus am fwy neu lai popeth mae'n ysgrifennu amdano, mae'n cynhyrchu stwff diddorol, deallusol a gwreiddiol yn aml. Bydd hefyd o bryd i'w gilydd yn cynhyrchu nonsens o'r radd flaenaf - efallai bod rhoi pwysau arnom ein hunain i flogio yn gwneud hynny'n anhepgor weithiau.

Enghraifft dda ydi'r neges gyfangwbl loerig yma, lle mae Alwyn yn rhesymu nad yw'r dirwasgiad mae'r byd gorllewinol ar fin byw trwyddo yn debygol o effeithio arno fo a'i deulu oherwydd na chafodd yr un ohonynt ffliw adar y llynedd. Mae hefyd yn cynnig y dadansoddiad gwirioneddol syfrdanol mai BBC News 24 sy'n gyfrifol am yr anhawsterau ariannol presennol.

Ag ystyried y 'rhesymeg' canol oesol yma, bwriadaf gyflwyno cydnabyddiad achlysurol o idiotrwydd llwyr a chyfangwbl, a galw'r cydnabyddiad hwnnw yn Wobr Hen Rech Flin. 'Dwi'n gwybod na fydd Alwyn yn meindio o gwbl.

Mae'r awgrymiad y cyfeiriais ato ddoe, sef nad ydi Mark Williams ymysg yr Aelodau Seneddol mwyaf disglair, wedi esgor ar nifer o sylwadau idiotaidd gan bobl sy'n ceisio ei amddiffyn. Yn rhyfedd iawn, hyd y gwn i 'does yna neb wedi ceisio amddiffyn Alan Williams.

Er enghraifft ar faes e mae Mr Urdd yn dadlau bod Mark yn goblyn o aelod seneddol da oherwydd iddo gymryd arno'i hun i wneud gwaith y Citizen's Advice Beareau yn hytrach na'i briod waith ei hun, tra bod Madrwyddygryf rhywsut, rhywfodd wedi argyhoeddi ei hun mai pleidleisiau Cymry Cymraeg Ceredigion oedd yn gyfrifol am anfon Mark i San Steffan.

Serch hynny, gweddol fan a di ddim ydi idiotrwydd Mr Urdd a Madrwyddygryf wrth ymyl ymdrechion un o'r cyfranwyr a ymddangosodd ar flog Ordovicus pan gyfieithodd hwnnw fy sylwadau i am Mark ac Alan Williams. Gweler yma. Mae'n werth dyfynnu sylwadau Still a Liberal yn llawn

I disagree, Mark Williams is a fighter - just look at what he did to keep Post Offices open in Ceredigion - and the price has come down since he started his campaign to get cheaper petrol in rural areas

Mae'n gwneud dau honiad cwbl anhygoel. Yn gyntaf mae'n honni bod Mark wedi cadw swyddfeydd post yn agored yng Ngheredigion - er i'w ymgyrch fethu cadw cymaint ag un yn agored.

Yn ail ymddengys ei fod yn honni i Mark lwyddo i ddod a phrisiau ynni byd eang i lawr. Mae bron i bawb wedi bod yn llafurio o dan y camargraff bod pris petrol wedi syrthio oherwydd bod y galw am y stwff wedi lleihau fel mae'r byd yn symud i mewn i ddirwasgiad economaidd.

Ond na - ymgyrch Mark sy'n gyfrifol - 'dydi'r grymoedd economaidd anferthol sy'n fynych yn chwalu cymunedau a diwylliannau, sy'n anfon pobl yn eu miliynau o un rhan o'r byd i ran arall miloedd o filltiroedd i ffwrdd, sy'n gallu gwneud i ffermwyr yn eu canoedd o filoedd adael eu cynhaeaf yn pydru yn y caeau, sy'n gallu troi pobl barchus yn lladron a phuteiniaid yn ddim ger bron pwerau ymgyrchu Mark. Os ydi o fewn ei allu i atal cwrs grymoedd mawr amhersonol fel hyn pwy a allai amau na allai eistedd ar ei orsedd ar lan y mor a throi'r llanw yn ei ol, ac felly llwyddo lle fethodd y Brenin Caniwt gynt.

Mae Still a Liberal yn llawn deilyngu'r fraint o fod yn ddeilydd cyntaf Gwobr Hen Rech Flin am idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl.



Mark yn atal y llanw.

Llongyfarchiadau i'r ddau Williams



Ddim yn aml iawn y byddaf yn edrych ar y Daily Mail, ac mae'n fwy prin eto i Mark Williams, Aelod Seneddol Ceredigion ac Alan Williams, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe ymddangos yn y papurau 'cenedlaethol', ond daeth y tri digwyddiad anarferol hynny at ei gilydd y diwrnod o'r blaen.

Yn ol Quentin Letts mae'r ddau yn aelodau cwbl ddiwerth o Dy'r Cyffredin.

Ni fydd Alan yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf. 'Dwi'n siwr bod Mark yn ddiolchgar bod ganddo fwyafrif anferthol o 219 yn gefn iddo wrth iddo ystyried 2010.

Saturday, October 25, 2008

Gair o gyngor i Jim Murphy

Mae'r argyfwng ariannol presenol wedi bod yn garedig i'r Blaid Lafur, sy'n eironig cyn mai'r ffaith iddyn nhw eu hunain hepgor eu gwerthoedd traddodiadol a syrthio ar eu gliniau ger bron allor neo ryddfrydiaeth economaidd sy'n gyfrifol am y dywydiedig argyfwng.

Yn sgil yr argyfwng mae Llafur wedi ad ennill peth tir yn y polau piniwn, gan hanneru'r bwlch rhyngddynt a'r Toriaid. Mae sawl rheswm am hyn - bod sylw'r wasg wedi ei hoelio ar Gordon Brown ac Alistair Darling, bod y Toriaid wedi rhoi rhwydd hynt iddynt gymryd arnynt eu bod yn gwneud coblyn o joban dda ar sortio pethau allan, a bod naratif y cyfryngau wedi bod yn gyffredinol ffafriol am unwaith.

Cafodd Llafur hefyd bastwn defnyddiol i ymosod ar genedlaetholwyr efo fo. 'Doedd Jim Murphy ddim yn hir cyn bathu term newydd i ddisgrifio gwledydd bychan annibynnol Gogledd Ewrop - The Arc of Insolvency.



Eglura Mr Murphy ei safbwynt fel hyn:

Look at this arc of prosperity, what some commentators are now calling calling the arc of insolvency: Iceland, Ireland and Norway

Iceland as a country is on the verge of bankruptcy. Ireland is officially in recession. Ireland and Norway are trying to borrow from the US and Russia.

That's not Scotland's destiny. Scotland isn't Iceland and it shouldn't be Iceland and as long as I'm doing this job, I don't want Scotland to be Iceland.


Ac ar un olwg mae ganddo bwynt. Y gwir plaen ydi bod argyfwng bancio Gwlad yr Ia yn wirioneddol argyfyngys - a ni allant mewn gwirionedd fforddio i achub eu banciau. Eu broblem ydi bod eu system bancio yn llawer rhy fawr i gymharu a gweddill yr economi. Mae dyledion eu banciau yn 480% o'r ddyled genedlaethol ac yn 211% o'u GDP blynyddol(Ffigyrau i gyd gan Bridgewater Associates)

Ond yn anffodus i Mr Murphy 'dydi amgylchiadau'r DU fawr gwell. Mae dyledion ein banciau ni yn 368% o'r ddyled genedlaethol ac yn 168% o'u GDP blynyddol. Ffigyrau'r ddwy wlad mae Mr Murphy yn cyfeirio atynt - Iwerddon a Norwy yw 105% / 19% a 92% / 9%. Mae ffigyrau'r DU ymysg y gwaethaf yn y Byd.

I roi'r sefyllfa mewn ffordd arall, mae achubiaeth Brown a Darling yn achubiaeth na allant ei fforddio. Yr unig ffordd i dalu amdano fydd trwy godi trethi yn y dyfodol, a bydd hynny yn arwain at lefel twf is, a bydd hynny yn ei dro yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau.

Felly pan mae Mr Murphy yn dweud nad yw am i'r Alban fod fel Gwlad yr Ia, y ffordd orau iddo wireddu'r dyhead hwnnw fyddai trwy ymgyrchu tros ganlyniad cadarnhaol i refferendwm annibyniaeth 2010 / 2011.