Saturday, April 19, 2008

Etholiadau Gwynedd rhan 3 - Dyffryn Ogwen - howgets a ballu

Reit, mae’n debyg y dyliwn gadw at fy addewid a mynd ymlaen a’r cywaith bach yma. Dyffryn Ogwen sydd dan sylw heddiw – sef tref chwarel Bethesda a’r ardal o’i gwmpas.

Mae dwy o’r seddi hyn yn dychwelyd Pleidwyr yn ddi wrthwynebiad.

Pentir: Ward sy’n cynnwys rhai o’r ardaloedd gwledig o gwmpas Bangor a rhan orllewinol Penrhosgarnedd. Plaid Cymru fydd yn ennill yn y sedd hon yn ddi eithriad ac mae John Wyn Williams wedi ei ddychwelyd yn ddi wrthwynebiad ar ran y blaid honno. Plaid yn cadw eu sedd.

Ogwen: Ward drefol iawn – canol Bethesda. Sedd arall sydd yn ethol Pleidiwr yn ddi eithriad, ac mae Ann Williams yn ymgeisydd hynod o gryf ar ben hynny. Nid oedd yn syndod mawr na chafodd etholiad y tro hwn – fel y tro o’r blaen. Plaid yn cadw unwaith eto.

Tregarth a Mynydd Llandegai: Gwen Griffiths sydd yn dal y sedd hon ar ran y Blaid Lafur, a’i hunig wrthwynebydd ydi Arthur Wyn Rowlands, Plaid Cymru. Safodd Arthur yn Gerlan y tro o’r blaen, gan golli o drwch blewyn yn erbyn Godfrey Northam. Enilliodd Gwen yn weddol hawdd yn 2004, ac mae wedi dod ar ben y rhestr yma ers blynyddoedd (roedd y ward yn un dwy sedd am gyfnod – Plaid Cymru fyddai’n ennill yr ail sedd).

Mae gan Gwen ddwy broblem y tro hwn. Yn anffodus nid yw ei hiechyd wedi bod yn dda yn ddiweddar, ac efallai na fydd yn hawdd iddi ganfasio’r holl ward. Yn 2004 roedd annibynnwr yn sefyll, ac yn hollti’r bleidlais gwrth Lafur (mewn ardaloedd fel hon mae’n well i’r Blaid gael Llafur yn unig yn eu gwrthwynebu).

Wedi dweud hynny, mae gen i ofn mai Llafur sy’n debygol o ennill – er y bydd y mwyafrif yn llai y tro hwn. Gwen ydi un o’r Llafurwyr gorau ar y cyngor – ac mae’n apelio at bobl nad ydynt yn arfer pleidleisio i’r Blaid honno. Llafur i gadw.

Gerlan: Ardal drefol arall, digon tebyg i Ogwen. Hen ward Dafydd Orwig, ac un oedd wedi ethol Pleidiwr yn ddi eithriad nes i Godfrey Northam ei hennill i Lafur o 38 pleidlais yn 2004. Mae gan y Blaid cryn le i obeithio yma – mae’r gogwydd cyffredinol yn erbyn Llafur, mae’n ardal sydd wedi hen arfer pleidleisio i’r Blaid, ac roedd pleidlais y Blaid yn gryf yma yn etholiadau’r Cynulliad. Ond, mae rhywbeth yn dweud wrthyf mai Godfrey aiff a hi eto. Yn ol y son mae eisoes wedi canfasio’r ward ddwywaith, ac mae’n adnabyddus iawn yn yr ardal. Mae’n aelod gweithgar a chydwybodol.

Nid wyf yn adnabod ei wrthwynebydd – Dyfrig Wynn Jones (er i mi ddod ar ei draws sawl gwaith ar y rhithfro), ond mae’n gymharol ifanc, ac yn ol yr hyn rwyf yn ei ddeall nid yw wedi ei fagu yn Nyffryn Ogwen. Yn gwahanol i ffeindio dynes ar nos Sadwrn, mae henaint o fantais os ydi rhywun yn chwilio am sedd ar gyngor – yn arbennig pan mae person wedi bod a chysylltiadau clos a chymuned tros amser. ‘Dwi’n wirioneddol obeithio nad yw fy nadansoddiad yn gywir yma – nid yw Mr Northam at fy nant mae gen i ofn.

Gair neu ddau o gyngor i Dyfrig (gan ei fod yn darllen y tudalenau hyn:

(1) Gweithia’n galed arni – mae’n sicr yn y math o ward sy’n ffafriol i’r Blaid, ac mae hen draddodiad o fotio Plaid yma. Mae gwaith caled yn aml yn cael ei wobreuo pan mae’r cyd destun gwleidyddol yn ffafriol.
(2) Gwna cymaint a phosibl o ddefnydd o Ann. (Cynghorydd Ogwen ydi Ann, ond mae’n byw yng Ngerlan). Mae’n adnabyddus ac yn boblogaidd yn y ddwy ward.

Felly, Llafur i gadw hon.

Arllechwedd: Ward wledig reit yn Nwyrain y sir a ward fwyaf Arfon o ran arwynebedd. Mae’r ward hefyd yn un cymharol Seisnig wrth safonau Arfon wledig (tua 61% yn 2001). Cyn yrrwr ambiwlans ydi, John Robert Jones sy’n dal y sedd ar hyn o bryd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol – ac mae wedi ei dal ers rhai etholiadau bellach. Un person sy’n sefyll yn ei erbyn, Dafydd Meurig, Plaid Cymru.

Yn fy marn i, dyma’r gobaith cryfaf sydd gan y Blaid o ennill sedd yn Nyffryn Ogwen. Mae hyn yn rhyfedd mewn ffordd – dyma rhan mwyaf Seisnig o’r Dyffryn, Llafur ac nid y Democratiaid Cymdeithasol sydd o dan yr ordd yn ‘genedlaethol’ a dyma’r unig ran o’r Dyffryn nad yw wedi ei gynrychioli gan y Blaid yn y gorffennol agos. Tra bod deinameg ennill etholiadau yn gymhleth, y pethau mwyaf allweddol ydi pam mor adnabyddus ydi ymgeisyddion mewn cymuned, a chanfyddiad y gymuned honno o’r unigolion hynny. Neu i’w roi mewn ffordd arall, hwyrach bod pobl yn ‘nabod Dafydd Meurig yn well na maent yn adnabod JR Jones, ac yn ei hoffi mwy. Plaid i ennill sedd.

Cyn symud i’r Gorllewin, a’r ardaloedd hynny sydd o fwy o ddiddordeb i lawer oherwydd ymyraeth Llais Gwynedd hoffwn wneud sylw neu ddau.

Pan oeddwn yn cychwyn ar yr ymarferiad yma ychydig wythnosau yn ol, roeddwn yn weddol sicr y byddai Llais Gwynedd yn cael hyd at ddeg sedd, ac y byddwn yn darogan bod rhai o enwau mawr y Blaid yn lleol yn cael eu di sodli. Dwi wedi newid fy meddwl.

‘Dwi’n rhagweld y bydd ganddynt fwy o seddi na’r dair sydd ganddynt ar hyn o bryd – ond ni fyddant yn dod yn agos at ddeg. Y prif (ond nid yr unig) reswm am hyn ydi bod ansawdd eu hymgeiswyr yn anwastad iawn, a bod hyn yn dangos fel mae’r ymgyrch yn mynd rhagddi.

Gyda llechen o ymgeiswyr o safon byddant wedi gwneud niwed sylweddol i’r Blaid yng Ngwynedd. Bydd y niwed hwnnw wedi ei gyfyngu oherwydd ansawdd rhai o’r ymgeisyddion. Ansawdd ymgeisydd ydi pob dim mewn etholiadau lleol – yn arbennig felly mewn llefydd gwledig.

3 comments:

Hogyn o Rachub said...

Prin ydw i am beidio a gwneud sylwad ar y proffwydiadau hyn, er rhaid i mi ddweud cytuno ydw i i raddau helaeth, er nad ydw i'n meddwl y bydd Arllechwedd yn troi at Blaid Cymru, er bod Dafydd Meurig yn adnabyddus yn yr ardal.

Mae ward Gerlan yn ddiddorol. Cyn yr etholiad diwethaf arferai fod yn ddwy ward, sef Gerlan (a oedd yn gymharol gryf i Blaid Cymru - Arthur Wyn Rowlands oedd y cynghorydd) a Rachub, a fu'n un o gadarnleoedd Llafur yng Ngwynedd, ac yn parhau felly. Rhywbeth fel 30-40 pleidlais oedd ynddi tro diwethaf gyda'r ddau gynghorydd yn mynd pen yn ben, gyda Northam yn ennill.

Mae greddf yn dweud wrthyf mai Northam fydd yn cadw hwn. Mae parch mawr tuag ato, ond ar yr un pryd mae 'na ddigon o bobl sy ddim yn hoff iawn ohono. Mi fydd Gerlan yn agos iawn unwaith eto.

Bosib y bydd Tregarth yn agosach na'r tro diwethaf hefyd.

Dyfrig said...

Ydi, mae Mr Northam yn gynghorydd lled-boblogaidd, ac mae'r ward hon yn dalcen caled. Ond roedd llai 'na 40 o bleidleisiau ynddi y tro dwytha. Ac mae 'na ambell i beth sy'n rhoi mymryn o obaith i mi. Dwi'n byw yn y ward, tra roedd (a mae) Arthur yn byw yn Nhregarth - felly mae gen i bleidlais ychwanegol yn dod gan fy nghymdogion. Ar ben hynny, mae Gerlan wedi newid dipyn ers 2004, gyda nifer fawr o deuluoedd ifanc wedi symyd i mewn i'r ardal. Ac mae Llafur yn genedlaethol yn hynod amhoblogaidd ar y funud. Dwi'n hyderus y galla i ennill hon, o drwch blewyn.

Cai Larsen said...

'Dwi'n mawr obeithio mai ti sy'n iawn Dyfrig.