Friday, May 02, 2008

Diweddariad

Wedi cael awr neu ddwy i feddwl (ha, ha) dwi'n darogan y canlynol:

Bydd Dafydd Iwan yn colli ei sedd a Dic Penfras hefyd.

Bydd Plaid yn colli'r ddwy sedd ym Mhwllheli.

Bydd Tomos Ifans yn colli ei sedd.

Mae Glyn Owen mewn trafferth mawr yn erbyn Aeron Jones, felly hefyd Margaret Griffith yn Llanystumdwy.

Bydd Plaid yn dal Aberdaron a Morfa Nefyn yn hawdd.

Bydd Plaid yn cadw Penygroes.

Byddwn hefyd yn dal Gorllewin Porthmadog a Borthygest.

Bydd pethau yn agos rhwng y Blaid a LlG yn Nhremadog / Beddgelert.

Bydd Plaid yn cadw Deiniolen (mae'n debyg) a Llanrug yn sicr.

Bydd Plaid yn ennill un ac efallai ddwy ym Mangor, gan gadw yr hyn sydd ganddynt. Bydd Eddie Dogan a Dai Books yn ennill yn hawdd i'r Blaid.

Bydd Plaid yn curo Northam yn Gerlan, ac efallai Gwen yn Nhregarth.

Bydd Plaid yn cadw Cadnant a Peblig yng Nghaernarfon. Bydd Annibynnol (Roy) yn cadw Seiont, ac efallai annibynnol arall (Bob Anderson) yn cymryd y sedd Lafur. Plaid ddim i ennill yma.

Gall Menai fynd i Moi (annibynnol), Bonner Pritchard (annibynnol), neu Ioan (Plaid). Fyddwn i ddim yn hoffi ei galw hi.

Bydd y Lib Dems yn cadw Dolbenmaen, a Now Gwynys yn cadw Clynnog.

Bydd Dilwyn Lloyd (annibynnol) yn cadw Talysarn.

Noson wael iawn i Lafur, ond gwaeth i'r Blaid. Noson dda i Lais Gwynedd.

Mae'r Blaid yn debygol o golli rheolaeth ar Gyngor Gwynedd (ond nid yw' gwbl n sicr).

No comments: