Saturday, May 31, 2008

Pam bod llythyru efo'r wasg weithiau'n creu mwy o broblemau na mae'n ei ateb

'Dwi'n dyfynnu llythyr Dafydd Iwan at y Cymro yn ei gyfanrwydd:

Annwyl Olygydd,

Caniatewch imi wneud ychydig sylwadau yn dilyn canlyniadau’r etholiadau lleol, canlyniadau oedd yn arbennig o galonogol i Blaid Cymru, yn enwedig y torri trwodd mewn ardaloedd a arferai fod yn dalcen caled iawn, megis Wrecsam, Caerdydd a Thorfaen, ac ardal Bangor yma yng Ngwynedd. Roedd y canlyniad gwych yn Llanelli, ac yn wir yng ngweddill Sir Gâr, yn dangos yn glir fod y llanw lleol wedi troi o’n plaid.

Ond beth am yr hyn a ddigwyddodd i rai ohonom yma yng Ngwynedd? Mae Plaid Cymru yn dal mewn grym yn y Cyngor, ond y mae 12 sedd Llais Gwynedd yn neges na fedrwn ei hanwybyddu. Ond y broblem yw, beth yw’r neges? Ai peidio cau unrhyw ysgol byth?

Ond o’r 12 sedd, dim ond 2 sy’n cynrychioli ardaloedd lle’r oedd awgrym i gau (sef Ysgol y Clogau a Rhydyclafdy, a bellach does fawr neb yn gwrthwynebu cau Rhydyclafdy). Mae sedd Llangelynnin hefyd yn cynrychioli ardal lle’r oedd awgrym i gau er mwyn sefydlu Ysgol Fro, a Nefyn lle roedd awgrym i greu ysgol newydd yn lle’r un bresennol. Ai neges Llais Gwynedd felly yw cadw Rhydyclafdy ar agor, dim ysgol Fro i Orllewin Meirion, a dim ysgol newydd sbon i Nefyn? Fel y dywedais, mae’n anodd dirnad.

Mae rhywun yn deall wrth gwrs yr ofnau pan mae bygythiad i gau ysgol. Ond mae’r hyn a ddigwyddodd gyda Llais Gwynedd yn llawer mwy cymhleth na hyn. Yr hyn a gafwyd oedd nifer fawr o wahanol elfennau yn cyfuno i daro pwy bynnag oedd mewn grym, gan roi cyfle i bawb oedd yn gwrthwynebu Plaid Cymru a’r polisi iaith i neidio ar y wagen.

Agwedd dristaf yr holl ymgyrch, fodd bynnag, oedd y diffyg dadlau agored ar bolisi, a’r diffyg cynlluniau amgen, a’r defnydd diarbed o gelwyddau. Yn hytrach na gadael y cyhuddiad hwnnw yn benagored, mi roddaf enghreifftiau penodol:

1. Dywedwyd droeon a thro yn ystod yr ymgyrch fy mod i yn gyfranddaliwr mewn cwmni adeiladu lleol, a fy mod i yn gofalu mai nhw oedd yn ennill contractau’r Cyngor, ac imi gael fflat yn Noc Fictoria fel gwobr!! CELWYDDAU NOETH AC ENLLIBUS

2. Ar wefan Maes E, ar Ebrill 16, (8:35 a.m.) mewn cyfraniad anhygoel gan sylfaenydd “Llais Gwynedd” Aeron Jones (sydd bellach yn gynghorydd dros Lanwnda), dywedwyd ymhlith pethau eraill (a glynaf at yr orgraff wreiddiol):
“Os wyt yn poeni am seisneigio Cyngor Gwynedd, gofyn i Dafydd iwan Paham wnaeth o yrru cyfieithydd adref o gyfarfod flwyddyn diwethaf gan ddatgan y bydd am “….siarad saesneg mewn cyfarfod er mwyn i pawb ddeallt” CELWYDD NOETH
“Gofyn iddo hefyd am bolisi iaith Ysgol Bontnewydd. Roedd yn mynnu fod rhaid i’r plant siarad saesneg yn achlysurol ar faes chwarae yr Ysgol….”
CELWYDD NOETH

3. Ond tristach na’r cyfan yw’r modd y cam-ddehonglwyd y cynllun ad-drefnu ysgolion - cynllun nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei gymryd arno ond y penderfyniad traws-bleidiol i ymgynghori ymhellach – i ddychryn pobl. Ar y sail simsan fod yr hen ddull o ffederaleiddio (dull a wrthodwyd gan Blaid Cymru) yn golygu “cau” ysgol ar brynhawn Gwener i’w “hail-agor” ar y bore Llun canlynol fel rhan o ysgol ffederal, bu ymgeiswyr Llais Gwynedd yn mynd o ddrws i ddrws yn honni bod Plaid Cymru am gau ysgolion fel Tremadog, Beddgelert a Brynaearu. CELWYDDAU NOETH ! Yn y Blaenau a Phen-y-groes, aed ymhellach a honni fod bwriad i gau’r ysgolion uwchradd lleol hefyd! CELWYDDAU NOETH!

Y gamp i’r gweddill ohonom yw codi uwchlaw y math yma o wleidyddiaeth y gwter, a dal ati i weithio’n gadarnhaol dros ein cymunedau a’n cenedl.

Yr eiddoch yn gywir,

Dafydd Iwan


Anfonwyd llythyrau tebyg ganddo i'r wasg Saesneg leol.

'Rwan, 'dwi'n deall yn iawn pam bod Dafydd wedi anfon y llythyrau. Mae'n ddigon naturiol i ddyn fod eisiau amddiffyn ei enw da yn gyhoeddus yn sgil ymgyrch hir a maleisus i'w bardduo, ac i ddifetha ei enw da. Mae'n naturiol hefyd i fod eisiau tynnu sylw at batrwm ehangach o ddweud hanner gwirionedd, cam gynrychioli'r gwirionedd a dweud celwydd noeth yn ystod ymgyrch etholiadol. Mae hefyd yn naturiol i fod eisiau gwneud hynny heb gael neb mewn trafferthion mawr.

Ond, yn fy marn i nid dyma'r llwybr gorau - mae'n creu mwy o broblemau na mae'n ei ateb. Ceisiaf egluro pam trwy gyfeirio at rai o'r ymatebion a ddaeth o gyfeiriad Llais Gwynedd, yn y wasg ac ar y We.

Mi gychwynwn ni gyda blog Ian Stephen Hunter Franks, ymgeisydd aflwyddiannus Llais Gwynedd yn Neiniolen. Teitl y blog ydi Iwan Muddies the Waters, sy'n eironig ag ystyried bod cyfraniad Franks yn cymylu'r dyfroedd yn llwyr.

Mae'n dilyn dau drywydd - yn gyntaf mae'n honni nad yw'r ffaith nad oes gan Dafydd fflat yn Noc Fictoria yn golygu nad oedd ganddo erioed fflat yno. Mae hyn yn beth rhyfedd i'w honni mewn perthynas a fflatiau nad oes neb yn byw ynddynt eto hyd y gwn i, ond manteisio ar fymryn o amwyster yng ngeiriad y llythyr Saesneg i geisio rhoi bywyd newydd i'r hen enllib mae Franks. Petai Franks wedi darllen y llythyr Cymraeg byddai wedi gweld nad oes amwyster tebyg yn hwnnw, ond gan na all Franks ddarllen na deall Cymraeg, dydi hynny ddim yn bosibl.

Yn ail mae'n cymysgu'r holl fusnes i fyny efo obsesiwn Martin Eaglestone gyda chwmni Arianrhod. Er syndod braidd i mi mae Martin wedi dilyn y cywair yma a chymysgu'r ddwy stori. Gweler yma.

Mae angen pwt o eglurhad yma. Mae Martin ers tro wedi bod wrthi yn lled awgrymu bod gwahanol aelodau blaenllaw o'r Blaid gyda chyfranddaliadau yng nghwmni Arianrhod, a mae hefyd yn awgrymu nad oes datganiad o fuddiant wedi ei wneud wrth i gwahanol benderfyniadau gael eu gwneud yn y Cynulliad, neu ar Gyngor Gwynedd. 'Rwan, fydd Martin byth yn gwneud honiad, gosod ei awgrymiadau ar ffurf cwestiwn mae. Weithiau bydd yn dweud ei fod am e bostio'r cwestiynau i rhywun neu'i gilydd, ond daw'n amlwg yn hwyrach nad yw'r e byst byth yn cael eu postio.

Mae rheswm am hyn wrth gwrs, dydi Martin ddim eisiau atebion i'w gwestiynau. Petai eisiau'r atebion gallai eu cael yn weddol hawdd - mae rhestrau cyfranddalwyr a chofnodion cyfarfodydd cyngor a Chynulliad ar gael i'r cyhoedd. Ffordd mymryn yn fwy soffistigedig nag un Aeron Maldwyn o bardduo ydyw.

Beth bynnag, does yna ddim cysylltiad mewn gwirionedd rhwng honiadau Martin a rhai Llais Gwynedd. Prynu hen adeiladau a'u rhentu ydi busnes Arianrhod, ymwna honiadau Llais Gwynedd a chwmni adeiladu Watkin Jones. Os 'dwi'n deall beth mae Franks yn ei ddweud yn iawn (ac mae'n anodd, 'dwi ddim yn meddwl bod Franks yn deall yn iawn beth mae'n ei ddadlau), mae'n ceisio sefydlu cysylltiad rhwng Watkin Jones ac Arianrhod, heb fod yn glir am natur y cysylltiad hwnnw.

Ymlaen at yr ail ymateb, un Gwilym Euros Roberts ymgeisydd llwyddianus LlG yn Niffwys a Maenofferen.

Dau drywydd mae Gwilym yntau yn eu dilyn. Yn gyntaf mae'n cyhuddo DI o fod yn chwerw. Wedyn mae'n honni bod y sylw hwn Yn y Blaenau a Phen-y-groes, aed ymhellach a honni fod bwriad i gau’r ysgolion uwchradd lleol hefyd! o lythyr DI yn enllib personol arno fo, ac yn bygwth ei gyfreithiwr. Gobeithio bod ganddo gyfreithiwr da - bydd angen un arno i wneud i honna sefyll fel enllib personol.

'Dwi am wrthsefyll y demtasiwn (ac mae'n gryn demtasiwn) o wneud hwyl ar ben y syniad o aelod o blaid mwyaf celwyddog Cymru yn cwyno ei fod yn cael ei enllibio, ond mae'n rhaid i mi son am y sylw hwn Nid mater o les i'r mudiad cenedlaethol nac ychwaith Llais Gwynedd yw hyn, mater o safon ac ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus yn ogystal a mater o barch ac amddiffyn enw da. a wneir gan Gwilym yn adran trafod ei flog.

Does gan Gwilym ddim diddordeb o gwbl mewn safon ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus. Roedd Gwilym yn cyfranu i faes e pan roedd Aeron Maldwyn yn gwneud ei gyfres o honiadau maleisus. Roedd llawer o'r honiadau hynny mor anhygoel a grotesg na fyddai neb ond ynfytyn llwyr yn eu credu. Wnaeth o ddim cymryd mantais o'r cyfle i bellhau ei hun oddi wrthynt, yn wir gwnaeth y sylw hwn: Mae dy gyfraniadau di (GT) ac Aeron yn rhai dilys ac mewn amser dwi'n siwr y daw rhai o'r ffeithiau mae Aeron wedi cyfeirio atynt yn amlwg. Hmm. Safon ac ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus.

Fel Franks, dydi Gwilym ddim yn gwadu'r rhan fwyaf o sylwadau DI am gelwydd o du Llais Gwynedd.

Dydi Aeron Jones, nag Alwyn Gruffudd ddim yn trafferthu i wneud hynny chwaith yn eu llythyrau at y Cymro. Mae Alwyn yn awgrymu, fel Gwilym, mai chwerwder sydd y tu ol i lythyr DI a bod LlG yn cael eu pardduo, tra bod Aeron yn awgrymu'r un peth ac yn gwneud honiadau na all eu cefnogi eto fyth.

Rwan mae'r llythyr wedi arwain at o leiaf bedwar ymateb sydd yn:

(1) Manteisio ar fan amwyster i ail godi'r enllib ynglyn a fflat.
(2) Cymysgu dau honiad sydd eto'n rhoi bywyd newydd i'r enllib ynglyn a Watkin Jones.
(3) Cyhuddo DI ei hun (ar sail hynod simsan mae'n rhaid dweud) o'r math o gelwydd a phardduo mae Llais Gwynedd ei hun yn arbenigo ynddo.
(4) Creu honiadau newydd.

Hynny yw, maent yn defnyddio'r llythyr gwreiddiol i gefnogi'r we o enllib sydd eisoes wedi ei greu. Pan mae pobl mor gyfangwbl ragfarnllyd a'r cyfeillion yma, mae pob dim yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r ragfarn.

Gan bod dweud celwydd wedi gweithio unwaith, gellir disgwyl mwy o'r un peth yn y dyfodol.

Byddai dweud dim, ond gwneud defnydd o'r gyfraith yn llawer mwy effeithiol yn fy marn i.

No comments: