Saturday, May 10, 2008

Etholiadau lleol - rhan 1

Golwg hynod frysiog ar Loegr yn gyntaf.

Roedd y canlyniadau yn Lloegr yn wael i Lafur, ond efallai ddim mor wael ag ydynt yn edrych ar yr olwg gyntaf.

Collwyd Llundain i’r Ceidwadwyr, ond mewn gwirionedd roedd yn berfformiad eithaf da. Pleidleisiodd mwy o bobl i Lafur y tro hwn na’r tro o’r blaen. ‘Dwi’n eithaf sicr mai dyma’r unig ran o Gymru a Lloegr i hyn ddigwydd. Doedd 42.5% ddim yn ganran wych i’r Toriaid – ac mae’r Toriaid wedi colli etholiadau
cyffredinol gyda phleidlais uwch na hon yn Llundain yn y gorffennol. Ond ‘dwi’n meddwl bod Llundain yn eithriad – mae newidiadau demograffig enfawr yn digwydd yno, ac mae Ken yn llawer mwy poblogaidd na’r Blaid Lafur yn gyffredinol. Hyd yn oed ar y perfformiad hwn byddai’r Toriaid wedi cael mwyafrif seddi Llundain.

Yng ngweddill Lloegr roedd perfformiad Llafur yn wael, ond ceir peth anwastadedd – maent ar eu gwanaf ers ymhell cyn yr Ail Ryfel Byd mewn rhai rhannau o’r wlad, ond nid felly mewn eraill. Gweler ymdriniaeth Sean Fear ar political betting.com - yr adnodd gorau o ddigon i unrhyw un un sydd a diddordeb mewn etholiadau yn Lloegr (dydi’r ymdriniaeth a Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddim mor dreiddgar o lawer). Dyfynaf:

So where does this leave the two main parties? Relative to the Conservatives, Labour are in about the same position as they were in the late Seventies. They are stronger in London and the Metropolitan Boroughs, but weaker in the rest of England, particularly in the South. The Conservatives are weaker in the larger urban areas, and far weaker in Scotland than they were then, but much stronger in the rest of England, whose share of the population has grown over the past thirty years.

Mewn geiriau eraill yn Lloegr mae’r ddwy blaid fawr yn ol fwy neu lai (gydag amrywiaethau rhanbarthol) - lle’r oeddynt yn y blynyddoedd cyn buddigoliaeth Thatcher ym 1979. Yn yr etholiad cyffredinol nesaf gall Llafur ddisgwyl cweir tros y rhan fwyaf o Loegr y tu allan i’r etholaethau trefol lle mae eu cefnogwyr traddodiadol (hy, rhai sydd yn yn isel ar y raddfa gymdeithasegol yn byw). Mae’r glymblaid o bobl oedd yn pleidleisio i New Labour wedi datgymalu'n llwyr.

Yr hyn sy’n ddiddorol yng Nghymru ydi bod perfformiad Llafur mewn rhai ffyrdd yn llawer gwaeth nag oedd yn Lloegr, ac yn fwy arwyddocaol, mae’n waeth o lawer nag oedd yn y saith degau hwyr. Mae’n rhaid mynd ymhell, bell cyn y Rhyfel i ddod ar draws unrhyw beth tebyg. Mae yna arwyddion bod newidiadau strwythurol yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Mwy am hyn maes o law.

No comments: