Sunday, August 03, 2008

Rhyfel Cartref y Blaid Lafur - ymateb treiddgar y blogwyr Llafur

Mae bron iawn i pob dydd yn dod a rhyw stori arall neu'i gilydd am y rhyfel cartref sy'n bygwth dadberfeddu'r Blaid Lafur erbyn yr hydref.
Wele'r stori ryfeddol yma heddiw er enghraifft.

Gan bod gen i ychydig o amser ar fy nwylo heddiw dyma fi'n meddwl y byddai'n syniad cael cip ar beth sydd gan y blogwyr Llafur Cymreig i'w ddweud ynglyn a'r mater - lle gwell i gael gwybodaeth diweddar, treiddgar yn syth o lygad y ffynnon.

Blog Huw Lewis oedd y cyntaf i mi ymweld a hi. Anaml iawn y byddaf yn rhoi fy nhrwyn i mewn i'r fangre gwirioneddol ddiflas yma a dweud y gwir, a 'doedd o'n fawr o syndod gweld nad oedd gair na sill na hyd yn oed llythyren am drafferthion y Blaid Lafur. Wna i ddim blino neb yn ail adrodd cynnwys diweddar y peth - mae'n ddigon i nodi mai'r nonsens di hiwmor, plwyfol, gor ddifrifol arferol sydd ar yr arlwy.

Reit, Leighton Andrews nesaf - rhywle arall na fyddaf yn ymweld a fo'n aml. Gwell blog - ond zilch am arweinyddiaeth ei blaid.

Paul Flynn ta - mae'n rhaid bod ganddo fo rhywbeth i'w ddweud - wedi'r cwbl mae'r dyn wedi mwydro mwy na neb am arweinyddiaeth y blaid Gymreig yn y gorffennol, ac mae'n gallu 'sgwennu (a bod yn deg) yn dda. Swyddi yng Nghasnewydd, obsesiwn Paul efo'r diwydiant niwclear, obsesiwn Paul efo cyffuriau - ac ah o'r diwedd mae yna gyfeiriad at yr arweinyddiaeth - cyfeiriad byr - ond rhywbeth o'r diwedd - dim cynllwyn, pob dim wedi ei greu gan y cyfryngau. Hmm - da iawn Paul.

Arhoswch - pwy arall sydd ganddynt? - mae'r un gorau o ddigon Normalmouth newydd gyflawni hara kiri, efallai o ganlyniad i'r ffaith bod ei annwyl blaid yn sigo oddi tan bwysau ei rhwygiadau mewnol ei hun.

Pwy arall? Pwy arall sydd ar ol? A - wrth gwrs Martin Eaglestone. O leiaf mae o'n blogio'n aml - dwi'n siwr bod rhywbeth ganddo yntau i'w ddweud - yn arbennig cyn ei fod wedi cael taith bach i Warwick yn ddiweddar i ganol Llafurwyr o pob rhan o'r DU. Am gyfle i ddod i wybod pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu.

Reit, mae ganddo fo rhywbeth am fwyta sgons ar Pier Bangor, dipyn am ffilm Batman, lluniau da iawn o flodau ym Mangor, cyflwyniad i Miss Wagstaff, rhywbeth am bolisi ynni, datganiad nad yw'n aelod o Lais Gwynedd - ac ia wir mae'n cyfeirio, neu'n lled gyfeirio at fater mawr y funud. Mae'n egluro bod Mr Miliband yn edrych yn debyg i rhywun o'r enw Donny Osmond, ac yn mynd ymlaen i wneud y sylw bisar nad oes fawr ddim yn digwydd trwy ddamwain mewn gwleidyddiaeth modern.

Arglwydd mawr bois, 'dwi'n gwybod bod pethau'n anodd ond blogwyr gwleidyddol ydach chi i fod - rydach chi yng nghanol y cyfnod gwleidyddol mwyaf cythryblus am ugain mlynedd - ac mae'ch plaid chi yng nghanol y cwrthrwfl - a does ganddoch chi ffyc ol i ddweud ynglyn a'r mater.

Mae'r cyfryngau prif lif a blogwyr pob plaid arall wrthi'n clebran am y peth i'r fath raddau nes bod yr awyrgylch gwleidyddol yn fyddarol, ac mae gennych chi fwy o ddiddordeb mewn sgons Pier Bangor, anfanteision Facebook, a chanlyniad gem bel droed rhwng Caerdydd a Celtic.

Dduw mawr.

No comments: