Tuesday, December 23, 2008

Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin?

Mae Hen Rech Flin yn gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru?.

Y rheswm am hyn ydi ei fod wedi darllen rhywbeth yn y Western Mail sy'n dweud nad ydi Dafydd Elis Thomas am weld refferendwm ar bwerau deddfu i'r Cynulliad tan ei fod yn siwr y bydd yn cael ei ennill.

Yn rhyfedd iawn mae dau o aelodau blaenllaw y Blaid - Bethan Jenkins ac Adam Price wedi galw am roi cychwyn ar ymgyrch yn syth bin. Ymddengys nad ydi Alwyn wedi sylwi ar hyn. A dweud y gwir nid yw'n hawdd deall agwedd Alwyn o gwbl at y pwnc yma - hanner yr amser mae'n edrych i lawr ei drwyn ar y sawl ohonom sy'n gweld datganoli fel y ffordd o ddod ag annibyniaeth i Gymru. I'r graddau bod y ddadl yn ddealladwy o gwbl y rhesymeg mae'n debyg ydi bod na rhyw gynllwyn i atal annibyniaeth ydi datganoli.

Mae Alwyn hefyd wedi ypsetio ei ben bach oherwydd bod adroddiad ffug yn golwg bod un o gynghorwyr Plaid Cymru, Eddie Dogan o Fangor wedi galw Gwilym Euros yn fucking idiot yn siambr y Cyngor wythnos diwethaf. 'Dydi hyn heb ypsetio Gwilym ei hun a bod yn deg - er y byddai hynny wedi bod yn rhagrithiol braidd ag ystyried ei fod yn dod mor agos ag y gall i ddisgrifio cynghorydd arall - Dyfrig Jones - fel coc oen. yn ei gyfraniad nesaf i'w flog. Rhywbeth arall na sylwodd Alwyn arno. Mi fyddai'n ddiddorol cael gwybod beth ydi barn Llais Gwynedd am fwy o bwerau i'r Cynulliad - os ydynt wedi ystyried y mater o gwbl.

Felly mae Alwyn wedi dod o hyd i un sylw nad yw yn ei hoffi ynglyn a refferendwm, ac un sylw gan Eddie (wedi i hwnnw gael y myll fel y bydd ambell waith) am Gwilym Euros a wele - mae ganddo i esgus i ofyn ei hoff gwestiwn mewn bywyd.

Pwrpas Alwyn wrth gwrs ydi gofyn beth ydi pwrpas Plaid Cymru pob hyn a hyn a mynd trwy'r rigmarol o fflyrtian rhyw ychydig efo plaid David Davies.

11 comments:

Alwyn ap Huw said...

Beth ydi pwrpas Hen Rech Flin?

Pwrpas Hen Rech Flin yw atgoffa aelodau o Blaid Genedlaethol mae'r CENEDLAETHOL sydd yn bwysig nid y Blaid - gwers nad wyt ti wedi ei ddysgu eto, ysywaith, Cai bach!

Anonymous said...

Y cwestiwn pwysig yw: beth yw pwrpas Alwyn ap Huw?

Alwyn, pam yn union wyt ti'n cwyno? Mae nifer o aelodau blaenllaw'r Blaid yn galw am ymgyrchu dros ddatganoli pellach. Mae Dafydd El, ar y llaw arall, eisiau sicrwydd ein bod am ennill refferendwm - pwy all ei feio am gymeryd y safbwynt yma? Pe bai'r refferendwm yn cael ei golli, lle wedyn? Nid wyf yn cytuno, ond mae angen ystyried y cwestiwn.

Fel ateb i'r rhefru hanner call am ysgolion bach a cymunedau gwledig, a'r Iaith hefyd, rwyt yn ateb dy hun. Plaid Cenedlaethol yw Plaid Cymru - plaid i bawb. Nid oeddwn yn hapus am fethiant i ariannu Y Byd, ond fe oeddwn yn deall y penderfyniad. Os oedd creu papur newydd dyddiol Y Byd yn golygu cau wardiau ysbyty, beth fyddai dy ddewis di?

A mewn dirwasgiad ofnadwy, lle mae cynghorau yn gorfod gwario yn effeithlon er mwyn cynnal gwasanaethau, ai gwario miloedd yn cynnal llefydd gwag mewn hen ysgolion yw'r defnydd call o arian cenedlaethol?

Os wyt ti am ddechrau ar y cwestiwn cenedlaethol, meddylia! Mae cenedlaethol yn golygu pawb yng Nghymru, nid 'Alwyn ap Huw a'i gyfeillion'. Nid yw'n bosib amddiffyn ysgolion gwag ar y sail fod Alwyn ap Huw angen sail i'w ffantasi nad yw'r byd yn newid a bod ei blentyndod dal yn fyw!

Ac efallai fod Cai yn iau na ti, a dwi yn sicr - cei alw pobl yn 'bach' os wyt ti eisiau, ond nid yw hynny yn golygu nad ydynt yn gwybod yn well. Am bopeth.

Hogyn o Rachub said...

Tra fy mod innau'n meddwl bod y syniad o gomisiynydd iaith yn wastraff amser, does 'na ddim gwadu bod PC heb gyflawni dim ers dod i rym o ran cenedlaetholdeb. Cawn weld beth a ddaw o'r Coleg Ffederal, yr LCO a'r refferendwm. Gobeithio fe'u cyflawnir - ond mae'n edrych yn gynyddol debyg na welwn yr un,

Ydi, mae PC i fod yn blaid genedlaethol; ydi hynny'n golygu y dylai roi'r gorau i'w hegwyddorion cenedlaetholgar er mwyn apelio i bobl nad ydynt yn genedlaetholwyr? Gobeithio ddim, ond mae'n sicr yn ymddangos ei bod yn camu'n araf deg lawr y trywydd hwnnw.

Anonymous said...

Wel, mi fuaswn yn anghytuno a ti yna. Nid yw cadw ac ehangu gwasanaethau mewn nifer o ysbytai, nifer o symudiadau ar yr economi, trafnidiaeth a tai, LCO Gofalwyr ac ati yn 'cyflawni dim'. Oes, mae siomedigaethau wedi bod, fel yr LCO Tai a methiant Y Byd, ond nid yw llywodraethu mewn clymblaid yn beth hawdd i neb, yn enwedig pan mae Llafur yn Llundain yn gwneud eu gorau i danseilio'r glymblaid.

Ond a oedd clymblaid yn beth da i wneud? Oedd. Ni fydd mwyafrif i neb yng Nghymru eto - mae system PR yn arwain i'r sefyllfa yna. Rhaid i'r Blaid ddangos ein bod yn gallu llywodraethu a gwneud penderfyniadau o dan bwysau, a nid ffurfio gwrthblaid fythol i gwyno am bopeth nad yw'n ddelfrydol.

Mae hyn yn gwestiwn sylfaenol am y Blaid. Ai plaid i genedlaetholwyr yw hi, er mwyn i leiafrif gael pwyso am annibyniaeth yn syth, ynteu plaid sydd yn ceisio ennill grym a Cymru annibynol yn raddol, trwy brofi i etholwyr fod hyn yn syniad da gyda'n llywodraeth fel esiampl?

Oes, mae lle i ddelfrydiaeth a'n hegwyddorion - os nad oes LCO Iaith, byddaf yn galw fy hun am i'r Blaid adael y glymblaid. Ond a ddylem adael i'n hegwyddorion arwain at bolisiau a fydd yn golygu nad ydym yn gallu dylanwadu ar bolisi cenedlaethol?

Anonymous said...

Rhidian: 'Os oedd creu papur newydd dyddiol Y Byd yn golygu cau wardiau ysbyty,'

...for fffwcs sec rhidian. Dyma union ddadleuon y Blaid Lafur. Mae'r NHS yn llyncu, na gwastraffu miliynnau o arian. Brisiwn off bwrdd y fuwch aur honno ydy unrhyw arian ar y 'celfyddydau/iaith' etc.

Mae'r blydi prescriptiwns 'am ddim' yna'n gwastraffu miliynnau o bunnoedd - dwi newydd gael 2 botel o calpol a 5 eli lladd llai 'am ddim' diolch i dwpdra asgell chwith y Blaid Lafur a chwithion fel ti yn y Blaid. Fase 15 miliwn (cost y gwastraff 'prescriptiwn am ddim? ... rhyfedd nad yw'r Glymblaid wedi cael feasability study o faint mae hwn yn ei gostio) wedi talu am Y Byd, Coleg Ffederal, .cym, arian i tim rygbi merched Cymru, etc etc heb feddwl.

Blydi asgell chwith y Blaid. Gem ydy'r NHS - cenedlaetholdeb drwy ffordd arall. Mae mawrygu'r NHS (gwasanaeth i fod nid ffwcin eicon) yn mynd i ladd unrhyw fuddsoddiad yn yr iaith a'r diwylliant. Rhydian - ti'n chwarae i ddwylo'r Blaid Lafur ac yn gwneud eu gwaith ar ei rhan.

Hogyn o Rachub said...

"cadw ac ehangu gwasanaethau mewn nifer o ysbytai, nifer o symudiadau ar yr economi, trafnidiaeth a tai, LCO Gofalwyr ac ati."

Does gen i ddim cwyn gyda'r rheini, er fy mod yn amheus bod yr ail yn cymhwyso fel llwyddiant, ond y rheswm y mae mwyafrif helaeth pleidleiswyr y Blaid yn pleidleisio drosti ydi er mwyn hybu'r achos cenedlaethol. Yn gryno, dydi hynny ddim wedi digwydd; does 'na fawr o arwydd ei bod am ddigwydd - ac nid cyfnod byr mo 18 mis.

Dwi ddim yn meddwl bod y llywodraeth hon yn enghraifft dda sy'n mynd i bobl feddwl y gallai Cymru fod yn wlad rydd; bai safon isel y gwleidyddion ydi hynny, siawns. Ond mae anniddigrwydd am berfformiad Plaid Cymru hyd yn hyn, a gwae'r Blaid os y bydd yn anwybyddu hynny.

Anonymous said...

Anon 3:19: Y gelyn yw'r Undebwyr o fewn y Blaid Lafur, nid delfrydiaeth sosialaidd y Blaid. Mae gweithio trwy athroniaeth Rawlsiaidd o edrych ar ôl y gwanaf yn gyntaf yn foesol a wedi profi yn boblogaidd. Os yw Plaid Cymru yn cadw sosialaeth draw, lle wedyn? A fydd y rhan fwyaf o'r Cymry yn ein cefnogi os bydd y blaid yn mabwysiadau agwedd asgell dde? Na, Llafur a'r Dem Rhydd a fyddai'n ennill.

Dwi ddim yn hapus am Y Byd ac ati. Oedd o'n werth dymchwel y glymblaid dros yr egwyddor? Nac oedd. Fel dwi wedi dweud, os nac oes LCO Iaith, mae pethau yn wahanol...

Mae'r Blaid Lafur yn gallu gwneud rhywbeth yn iawn weithiau. Dwi yn credu fod 'prescripsiwn am ddim' yn beth da - faint o filioners sydd yng Nghymru? - er fod gen i amheuaeth am allu'r Cynulliad i fforddio'r polisi drwy'r dirwasgiad.

Os nad wyt yn cytuno a sosialaeth, meddylia am hyn. Mae lot mwy o bobl tlawd na phobl cyfoethog. Nid oes llawer o'r bobl yma, y rhan fwyaf yn ddi-Gymraeg, am gefnogi annibyniaeth os nad yw'n golygu y bydd safon eu bywyd yn gwella.

Yr unig ffordd o sicrhau annibyniaeth, heb ein bod yn sefydlu byddin o derfysgwyr, yw darbwyllo'r Cymry y bydd ein Plaid yn gofalu am y bobl, yn enwedig y rhai ar y gwaelod.

Os wyt yn gwybod am ddau filiwn o genedlaetholwyr cudd, mae'n bosib y gallai'r Blaid ennill etholiad gyda polisiau cenedlaetholgar yn unig. Ond 2.96 miliwn o Gymry oedd yna y tro diwethaf a edrychais. Rhaid i ni weithio i ennill y boblogaeth yma.

Ni allaf siarad am bod sosialydd yn y Blaid, on fe wn fod y rhan fwyaf ohonom yn gweld annibyniaeth a cyflwr cymdeithas fel rhan o'r un broblem.

Fe wyf i, am un, eisiau gweithio i ennill annibyniaeth - nid eistedd a cwyno nad yw'n hawliau fel Cymro yn cael eu parchu!

Anonymous said...

Hogyn o Rachub, rwyf yn cytuno yn hollol nad yw'r Blaid mewn llywodraeth wedi llwyddo i hyrwyddo'r genedl - yn sicr, nid i'r graddau y hoffwn i, er i mi gredu bod Alun Ffred wedi cymeryd rhai camau positif. Dwi fy hun yn pleidleisio dros y Blaid, o leiaf yn rhannol, am y rheswm yma.

Ond yn ôl i'r cwestiwn, a ydym yn disgwyl i'r Blaid mewn llywodraeth wneud pob dim yr ydym ni eisiau? A yw hynny'n realistaidd? A fyddai ceisio plesio cenedlaetholwyr yn unig yn debygol o blesio holl etholwyr Cymru? A fyddai symud yn fyrbwyll i sicrhau 80 mlynedd o waith yn ein neilltuo o drafodaethau polisi? 'Shooting ourselves in the foot' fel petai.

Os yw Plaid Cymru am lunio dyfodol y wlad, a Cymru annibynol, ni allwn ennill pob brwydr tra'n dod i arfer a llywodraeth. Os oedd y Blaid yn bwriadu troi'n siop siarad i genedlaetholwyr, byddwn yn ymddiswyddo yn syth. Rwyf yn fodlon ein bod yn genedlaetholgar, ond hefyd yn gweithio a rhyw strategaeth i sicrhau ein bod yn ennill ar ran yr achos.

Anonymous said...

nid sosialaeth yw perscriptiwn am ddim, jyst breib etholiadol hawdd a difeddwl.

Os ti eisiau dy berscriptiwn am ddim, iawn, ond o ba bot caiff yr arian ei dynnu, o ie, 'iaith a diwylliant'. Beth yw pwynt cael llywodraeth genedlaetrhol os yw'n tanseilio'r hyn sy'n ein gwneud yn genedl? Cenedl ydym ni rhidian nid cleifion.

Poblogaidd gyda pobl, ydi siwr, mae rhoi rhywbeth 'am ddim' wastad yn boblogaidd. Ond ydy'wn ateb gofynion strategol a strwythurol iechyd uffernol Cymru. Nadi mwn. Breib ydyw Rhidian a dim arall.

Faint yn fwy o genedligrwydd sy'n mynd i gael ei golli er mwyn agenda 'ysbytaiacysgolion'. Fydd 'na byth ddigon o arian i ateb holl anghenion iechyd Cymru - dyna'r blydi pwynt Rhidian, dyna pam fod Llafur yn pwsio'r agenda yma, er mwyn gwneud yn siwr fod 'pethau pwysicach' yn cael arian nac iaith a diwylliant.

Mae sosialaeth yn iawn ond mae'n llawn bunk a meddwl niwlog. Fydd iechyd Cymru ddim canran yn well achos perscriptiwn am ddim. Mae angen i sosialaeth feddwl am isadeiladedd a strwythur tymor hir nid gimmicks.

Mae gan y Blaid 12 mis i brofi fod ceneldigrwydd neu Gymreictod wedi cael rhywbeth allan o'r glymblaid yma neu fel arall waeth i ni gael llywodraeth lafur ddim.

Mae Llafur yn chwerthin am dy ben di Rhidian. Useful idiots chwedl Stalin am yr asgwell chwith.

Anonymous said...

Anon, croeso mawr i ti ffurfio plaid dy hun, gyda dim amcan ond cenedlaetholdeb. Os wyt ti yn llwyddo arwain Cymru i annibyniaeth, byddaf yn fodlon iawn dy gymeradwyo. Fy hun, credaf fod athroniaeth Rawlsiaidd yn foesol a'n rhoi cyfle i ni ennill ein annibyniaeth - tryw ddangos i'r difreintiedig ein bod ni ar eu ochr nhw.

Mae prescripsiwn am ddim yn dod o'r syniad fod budd-daliadau i bawb yn fwy effeithlon na targedu. Fy hun, dwi yn ansicr os yw hyn yn wir heb i ni ennill pwerau dros dreth, a byddwn yn dileu'r polisi, er fy mod yn cytuno a'r athroniaeth 'universal benefits' mewn egwyddor.

Ond syniad y Blaid Lafur yw hwn, a nid yw'n bosib i ni gael gwared o'r syniad heb ffurfio clymblaid a'r pleidiau eraill. A gaf dy atgoffa nad yw hyn yn opsiwn. Aheb glymbleidio llywodraeth leiafrifol
Llafur a fyddai wedi codi.

Os mai dy agwedd di yw 'fyddai yna ddim gwahaniaeth mawr', waeth heb i ni ddirwyn pob mudiad cenedlaetholgar i ben a cadw allan o wleidyddiaeth. Wedi'r cwbl, dy stori di yw na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i genedlaetholdeb.

Ond yn fwy cyffredinol, mae rhaid i Plaid Cymru fod a cynllun am sut i sicrhau lles y boblogaeth rwan, ac ar ol ennill annibyniaeth.

Alwyn ap Huw said...

Ac efallai fod Cai yn iau na ti, a dwi yn sicr - cei alw pobl yn 'bach' os wyt ti eisiau, ond nid yw hynny yn golygu nad ydynt yn gwybod yn well. Am bopeth.

Mae Cai yn iau o lawer nac ydwyf i. Yr unig gof sydd gennyf o gyfarfod a Cai, erioed, oedd pan oedd o'n blentyn ifanc iawn, tua phump neu chwe blwydd oed!

Ond term o anwyldeb ydy bach yn y Gymraeg. Nid term i fychanu. Fe ddaw yn sioc iti, bid siŵr - ond mae fy nhad yn hyn na fi! Byddwyf weithiau yn ei alw ef yn Dad bach!

O ystyried pa mor frwnt mae Cai yn trin fy marn ar adegau hwyrach na ddylwn ei gyfarch mewn anwyldeb. Ond fel oedd nain yn arfer dweud mond chwip din go iawn ydy o - o fod yn hogyn da