Sunday, February 08, 2009

Y galw am annibyniaeth i'r Alban ar gynydd

Y gred yn ddiweddar ydi bod y galw am annibyniaeth i'r Alban wedi lleihau oherwydd yr amgylchiadau economaidd anodd.

Nid felly mae pethau yn ol pol a gynhalwyd yr wythnos diwethaf. Ymddengys bod 38% o blaid annibyniaeth a 40% yn erbyn. Y bwlch lleiaf erioed.

3 comments:

Anonymous said...

Pob lwc i'r Alban ddyweda i.....ond dwi'n gofidio rhywraint am y cynydd 'ma. Fel hyn. Mae Cymru yn mynd i gael cyfle i bleidleisio rhyw ddydd ar sefydlu llywodraeth gyda pwerau i ddeddfu. Os bydd yr Ablan yn symud tuag at annibyniaeth.....na fydd hyn yn codi ofn ar rhai sydd o blaid corff deddfwriaethol ond nid annibyniaeth? Beth yw dy farn di?

Cai Larsen said...

Mae o'n bwynt teg - ac yn ddi amau o dan y fath amgylchiadau byddai David Davies a'i debyg yn ceisio portreadu'r refferendwm fel un sy'n ymwneud ag annibyniaeth, ac nid mwy o ddatganoli.

Serch hynny, yn y tymor hirach byddai'r tirwedd gwleidyddol mewn DU heb yr Alban yn dra gwahanol. Yn un peth byddai'n anos i Lafur gael eu hethol yn Llundain, ac o ganlyniad byddai llywodraeth Doriaidd yn amlach na pheidio. Byddai hyn yn gwanio'r berthynas rhwng Cymru a Lloegr.

Anonymous said...

Cytuno cant y cant....