Sunday, February 01, 2009

Y Tori Cymreig (Rhan 1 mewn cyfres achlysurol ar y pleidiau unoliaethol Cymreig)

Mi fydd y blog hwn yn cael ei gyhuddo o bryd i'w gilydd o fod yn un llygeidiog a bod a diddordeb yn unig mewn un plaid wleidyddol. Does yna ddim gwirionedd o gwbl yn hyn wrth gwrs, ac i brofi'r pwynt 'dwi am 'sgwennu ambell i ddarn ar y pleidiau unoliaethol Cymreig o bryd i'w gilydd.



Mae pawb yn gwybod mai plaid ar gyfer Saeson ydi’r Toriaid, ac mae’n dilyn felly mai Cymry sydd eisiau bod yn Saeson ydi Toriaid Cymreig. Y gymhariaeth mwyaf cywir y gallaf feddwl amdano ydi rhywun trawsrywiol yn y dyddiau cyn iddo gael ei lawdriniaeth. Fel y Tori Cymreig mae’n credu iddo gael ei eni yn y corff anghywir.

Mae’r Tori Cymreig gyda phroblemau hunan gasineb ac mae wedi ei elyniaethu oddi wrth y bobl o’i gwmpas, serch hynny yn aml mae’n ceisio ymddwyn fel person normal. Ond mae’r cyflwr o fod yn Dori Cymreig yn un o hanfodion ei fodolaeth – ac mae’r Tori ynddo byth a hefyd yn ceisio ymwthio i’r wyneb.

Mae llawer o Doriaid Cymreig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Seisnig ym mhreifatrwydd eu cartrefi eu hunain. Gall hyn olygu ymhel a phob math o weithredoedd gwyrdroedig – gwylio criced ar y teledu, gwisgo bowler hat neu flesyr rygbi Lloegr a thei MCC, gwrando ar Elgar ar y stereo, yfed te o fyg efo llun Charles a Di arno, chware croquet yn slei bach yn y cefn, yfed port wine, smocio cetyn, gwisgo tweed, gwneud ychydig o ddawnsio moris ar y mat o flaen y tan ac ati. Gweithredoedd hynod o ryfedd, ond digon di niwed yn y bon. Gellir eu disgrifio fel Toriaid Cymreig goddefol am wn i.

Ceir Toriaid Cymreig eraill mwy mentrus a heriol wrth gwrs. Gellid am wn i gymharu’r rhain i’r dynion hynny bydd rhywun yn eu gweld yn hwyr yn y nos mewn arch farchnadoedd dinesig – wigs mawr melyn, esgidiau stiletto (maint 9) drewdod persawr o’u cwmpas ym mhob man, olion locsyn o gwmpas eu bochau, siarad mewn gwich. Mae pobl yn diflanu cyn gynted a phosibl rhag croesi eu llwybr, yn gafael yn eu plant ac yn eu llusgo allan o’r siop gan adael troli hanner llawn y tu mewn.

Mae’r Tori Cymreig mwy mentrus yn ddigon tebyg i’r person traws rywiol mwy mentrus – yn hollol anymwybodol o pham mor chwerthinllyd mae’n ymddangos i bawb arall. Mae’r math yma o berson yn treulio ei amser hamdden mewn clwb Ceidwadol neu glwb hwylio, mae’n tyfu mwstash bach gwirion fel y diweddar D Elwyn Jones, efallai ei fod yn gweithio i’r Ceidwadwyr – neu hyd yn oed yn sefyll trostynt fel ymgeisydd seneddol (am rhyw reswm ‘dydi Ceidwadwyr Cymreig byth, byth yn sefyll i fynd ar gyngor), maent yn datblygu rhyw dwang bach wrth siarad Saesneg ac mae eu Cymraeg yn mynd mymryn bach yn chwithig. Mae’n gwisgo yn union fel mae’r Ceidwadwr Cymreig llai mentrus yn gwisgo yn ei gartref - ond yn gwneud hynny'n gyhoeddus o bryd i'w gilydd.

Ac wrth gwrs mae’r ddau fath o Dori Cymreig yn breuddwydio – a’r freuddwyd fawr wrth gwrs ydi gadael y piwpa yn bili pala hardd coch, gwyn a glas ar ol mynd i mewn iddo’n lindis bach gwyrdd, hyll Cymreig.

No comments: