Monday, April 06, 2009

Pam mor gynaladwy ydi sefyllfa Leighton Andrews?

'Dwi'n gwybod bod clymbleidio yn gysyniad cymharol newydd yng Nghymru, a 'dwi'n gwybod ei bod yn cymryd amser i ymgynefino efo trefn newydd - ond yn fy marn i mae yna broblem efo Leighton Andrews ar hyn o bryd - ac mae'r broblem honno'n cael ei achosi gan ei berthynas gyda'n cyfaill newydd moronaidd, Aneurin Glyndwr.



Y broblem ydi bod Leighton yn cyflogi awdur AG tra'i fod yn rhan (bach mi wn) o'r llywodraeth - ac mae hwnnw'n cynhyrchu'r wefan yn ystod ei oriau gwaith.

'Rwan, fel propoganda gwleidyddol mae ymdrechion David Taylor yn dreuenus o ddi ddim. Er enghraifft, yn ei gampwaith diweddaraf mae wedi cynhyrfu'n lan oherwydd bod y blogiwr Iain Dale wedi gwneud ambell o sylw sydd yn llai na chanmoliaethus o Blaid Cymru. Nid yw'n croesi ei feddwl bod rhywbeth yn rhyfedd am Lafurwr yn gwneud mor a mynydd o eiriau dyn sy'n lambastio'r Blaid Lafur yn ddyddiol. Dydi o ddim chwaith yn gweld yr eironi hyfryd o Lafurwr yn ystyried troelli gwleidyddol yn weithred o gamarwain
Llwyddodd hefyd i'w argyhoeddi ei hun bod ymosod ar y Toriaid yn nhermau rhyfel dosbarth pump degau'r ganrif ddiwethaf yn syniad da, er gwaetha'r ffaith i'r strategaeth honno brofi'n anobeithiol o aneffeithiol yn Crew & Nantwich.

'Dydi hyn ynddo'i hun ddim yn broblem fawr wrth gwrs - mae beirniadaeth wleidyddol yn rhan o wleidydda, a 'dydi'r ffaith bod rhywfaint o'r beirniadau yn nonsens o ansawdd isel iawn ddim yma nag acw ynddo'i hun.

Yr hyn sy'n fwy o broblem o ran llywodraethu ydi stwff fel hwn. Yr hyn a geir yma ydi gwas cyflog Leighton Andrews yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol o'r ffaith bod anghytuno o fewn y Blaid ynglyn a chyfaddawd poenus (yr un ar ffioedd myfyrwyr) mae'r Blaid wedi gorfod ei gwneud fel rhan o'r broses o lywodraethu - cyfaddawd y bu'n rhaid dod iddo ar gais gwenidogion Llafur.

Mewn cyfundrefn o glymbleidio mae cyfaddawdu yn ddigon poenus ar yr amser gorau - ond pan mae yng nghefn meddwl y sawl sy'n gorfod cyfaddawdu bod y gweinidogion o'r ochr arall yn gofyn am y cyfaddawd yn rhannol er mwyn creu anghytgord a rhoi arf i'w gweision cyflog eu hunain gael eu colbio nhw efo fo, mae llywodraethu effeithiol yn mynd yn nesaf peth i amhosibl.

No comments: