Thursday, April 02, 2009

Pol piniwn Beaufort

Bu cryn stwr am y pol piniwn a ryddhawyd gan y Blaid heddiw (gydag Aneurin druan o dan yr argraff ei fod yn bol 'mewnol').

Beaufort - Ebrill 2009 - Llaf 35% Plaid 27% Toris 16% Lib Dems 12%

Gair bach o rybudd - 'dydi polio yng Nghymru ddim yn wyddoniaeth cysact o bell, bell ffordd. Ym Mhrydain ceir cywirdeb eithaf gan fod polau yn cael eu comisiynu gan y cyfryngau yn ddi ddiwedd, a'u bod o ganlyniad yn cael eu profi yn erbyn etholiadau go iawn. Felly pan mae camgymeriadau yn digwydd, mae'r fethodoleg yn cael ei addasu. 'Does gan y cyfryngau yng Nghymru ddim diddordeb mewn comisiynu polau, felly 'dydi'r fethodoleg byth yn datblygu.

Y tro diwethaf i bol Beaufort gael ei brofi gan etholiad oedd yn 2007 - dyma ddigwyddodd.

Beaufort - Ebrill 2007 - Llaf 36% Plaid 26% Toris 19% Lib Dems 13%
Etholiad - Mai 2007 - Llaf 32.2%, Plaid 22.4%, Toris 22.4%, Lib Dems 14.8%

H.y roedd tan gyfrifo o'r bleidlais Doriaidd a'r un Lib Dem, ond gor gyfrifo o un y Blaid a Llafur. 'Dydw i ddim yn gwybod os ydi'r cwmni wedi addasu'r fethodoleg yn sgil hyn - ond 'dwi'n amau hynny.

Yr hyn sy'n ddiddorol ar hyn o bryd ydi beth mae'n ei ddweud wrthym am etholiadau Ewrop. Ar yr olwg gyntaf mae'n awgrymu bod ail sedd Llafur yn saff - ond tybed?

Os ydi'r patrwm Beauford yn 2007 yn cael ei ailadrodd tua 30% fyddai pleidlais Llafur mewn etholiad Cynulliad - ond nid etholiad Cynulliad ydi'r un Ewrop - bydd llai o bobl o lawer yn pleidleisio - a bydd hynny yn niweidiol i Lafur ond yn dda i Blaid Cymru a'r Toriaid. Awgryma hyn mai yn y 20au% y bydd y bleidlais Lafur.

Ydi hynny'n ddigon i ennill yr ail sedd?

Efallai, ond efallai ddim.

No comments: