Saturday, June 13, 2009

Buddugoliaeh Mr Ahmadinejad

Ymddengys bod Mr Ahmadinejad wedi ennill yr etholiad yn Iran gyda buddugoliaeth ysgubol.

Mae'r cyfryngau gorllewinol wedi bod yn dweud wrthym am gwpl o wythnosau ei fod yn debygol o golli i'w wrthwynebydd mwy rhyddfrydig, Mr Mousavi. Fel 'dwi'n 'sgwennu mae Mrs Clinton yn ar Sky News yn awgrymu bod y canlyniad wedi ei ffugio mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.



Mae hwn yn batrwm sy'n ddigon cyfarwydd - cyfryngau gorllewinol yn cydio mewn rhyw blaid gymharol ryddfrydig mewn gwlad anryddfrydig. Wedyn maent yn dangos llawer o luniau i ni o raliau gwleidyddol brwdfrydig gan y blaid honno gyda phobl dosbarth canol, myfyrwyr ac ati, sy'n siarad Saesneg da iawn yn egluro pam maent am bleidleisio i'r blaid ryddfrydig. Wedyn mae arweinwyr gorllewinol a'r cyfryngau yn cynhrfu'n lan ac yn meddwl bod newid mawr ar droed. Ac wedyn mae'r etholiad yn cael ei chynnal ac mae'r mab darogan rhyddfrydig yn cael cweir gan yr etholwyr.

'Dydi hi ddim yn anodd daeall pam bod hyn yn digwydd. Ychydig flynyddoedd yn ol aeth y Mrs a minnau am wythnos i Istanbul. Mae rhannau eang o ganol y ddinas yn edrych ac yn teimlo'n ddigon gorllewinol. Ond pan mae dyn yn crwydro oddi ar y prif strydoedd i'r cymdogaethau dosbarth gweithiol mae'n fyd cwbl wahanol. Mae dylanwad Islam yn treiddio pob dim. Mae addoldy ar pob bloc, pan mae'r galwadau i weddio yn atseinio mae'r strydoedd yn llenwi efo pobl sy'n aml yn rhedeg i'w haddoldai. Ar ddyddiau Gwener mae'r palmentydd wedi eu blocio am oriau gan luoedd o bobl ar eu gliniau y tu allan i'w haddoldai. Mewn llefydd fel hyn mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd ati i bleidleisio yn byw.

'Dydi ideoleg gwleidyddol a chymdeithasol gwledydd Islamaidd heb eu llywio gan y digwyddiadau mawr sydd wedi ffurfio meddylfrydau gorllewinol rhyddfrydig. Serch hynny mae'r cyfryngau gorllewinol - a llywodraethau gorllewinol - yn disgwyl mai prif ddelfryd cymdeithasau felly ydi troi'n gymdeithasau mwy gorllewinol. Mae'r canfyddiad hwn yn un abswrd - ac mae hefyd yn un hynod o beryglys. Dyma'r canfyddiad oedd i raddau helaeth yn cynnal y feddylfryd gwleidyddol yn y gorllewin a arweiniodd at ryfeloedd Irac ac Afganistan.

3 comments:

Anonymous said...

O am gyfraniad hurt. Wn i ddim mwy na chdi pwy fu'n fuddugol yn Iran ond nid sylwebyddion y gorllewin sydd ar strydoedd dinasoedd Iran ond pobl ifanc y wlad honno - ai abswrd ydyw dyheadau y rhai hyn hefyd?

Mae'n dweud cyfrolau am Cai Larsen ei fod yn fodlon sarthu ar hawl democrataidd unoliaethwyr Ulster a phobl ifanc Iran a hynny oherwydd ei gasineb hurt tuag at Loegr a'r UDA.

Democrat pam mae'n siwtio dy agenda yn unig Mr Larsen - cywilydd i ti.

Cai Larsen said...

Am sylwadau rhyfedd - dydw i erioed wedi gwneud sylw am hawliau Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon a dydw i ddim wedi gwneud sylw am hawliau protestwyr yn Iran.

Dydw i erioed wedi mynegi casineb tuag at Loegr na'r UDA chwaith.

Sylwadau ar ymateb y cyfryngau a llywodraethau gorllewinol i ddigwyddiadau tramor 'dwi wedi eu mynegi.

Hogyn o Rachub said...

Gofynnodd yr Ayatollah heddiw sut ddiawl byddai rhywun yn twyllo etholiad cymaint fel bod y buddugwr yn ennill o 11 miliwn o bleidleisiau.

Mae gynno fo bwynt.