Wednesday, July 01, 2009

Cefnogaeth y Toriaid yn chwalu

Yn yr Alban hynny yw. Yn ol pol TNS System 3 diweddar dyma sut mae pethau'n edrych yn yr Alban ar hyn o bryd:

Senedd yr Alban - Etholaethau

SNP - 39% (+6)
Llafur - 32% (-)
Toriaid - 12% (-5)
Lib Dems - 11% (-5)
Eraill - 7% (+5)

Senedd yr Alban - Rhanbarthau

SNP - 39% (+8)
Llafur - 29% (-)
Toriaid - 10% (-4)
Lib Dems - 12% (+1)
Gwyrddion - 5% (+1)

Seddau tebygol:

SNP - 57 (+10)
Llafur - 43 (-3)
Toriaid - 11 (-6)
Lib Dems - 15 (-1)
Gwyrddion 3 (+1)

Mae'r gymhariaeth yn y cromfachu gydag etholiadau 2007 pob tro.

Yn ol yn 1955 pan oedd y blaid Albanaidd yn cael ei hadnabod fel y Scottish Unionist Party cawsant 50.1% o'r bleidlais yn yr Alban a 37 0'r 73 sedd. Bryd hynny roedd ganddi gefnogaeth dosbarth gweithiol sylweddol ar hyd a lled y wlad. Bellach ymddengys y bydd yn bedwerydd plaid yr Alban ar ol etholiadau nesaf Hollyrood.

Mae dau prif reswm am y cwymp anferthol yma. Yn gyntaf maent yn cael eu gweld fel plaid Seisnig iawn bellach. Yn ail mae'r SNP wedi ymddangos a gall apelio at y bleidlais draddodiadol Brotestanaidd yn ogystal a chenedlaetholwyr o'r traddodiad Pabyddol. 'Does yna'r un plaid arall yn yr Alban sy'n gallu dod a'r glymblaid yma at ei gilydd ar hyn o bryd.

3 comments:

Twmffat said...

Ie, ond yng Nghymru mae'r Toriad o flaen Plaid Cymru,hydnod yn yr etholiadau Europeiaedd. Rwyn disgwyl iddyn nhw fod o flaen Plaid Cymru yn yr etholiad gyffredin hefyd, ond ar ol Llafur yma yng Nghymru.

Cofiwch mae wythnos yn gyfnod hir yng ngwleidyddiaeth!

Hwyl ngwasi

Cai Larsen said...

Gwir - roedd y Toriaid o flaen y Blaid yn etholiadau Ewrop, ac maent yn debygol o fod yn etholiadau San Steffan hefyd. Efallai y bydd etholiadau'r Cynulliad yn gwahanol.

Yr eironi ydi bod perfformiad y Toriaid yn etholiadau Ewrop yn sal mewn cyd destun hanesyddol. Hyd 97 roedd y Toriaid yn gallu disgwyl rhwng 25% a 33% ym mhob math o etholiad ag eithrio rhai lleol.

Anonymous said...

Tybiaf y bydd cynnydd SNP yn Yr Alban yn peri mwy o ofid i Lafur nag y bydd cwymp ym mhleidlais y Ceidwadwyr i'r Ceidawdwyr, sef gostyngiad mewn cefnogaeth oedd yn isel iawn beth bynnag. Wedi'r cwbl, fe fydd llwyddiant yr SNP yn Yr Alban yn erbyn Llafur yn ei gwneud hi'n haws i'r Ceidwadwyr ffurfio llywodraeth ym Mhrydain y flwyddyn nesaf. Mae'r Alban (fel Cymru)wedi bod yn gefnogol iawn i Lafur ers peth amser, a chyda llawer o'i chefnogaeth nawr yn mynd i'r SNP, a chyda hen bleidleisiau i Lafur yn debygol o fynd i'r Ceidwadwyr a Plaid yng Nghymru, mae'r Blaid Lafur mewn sefyllfa drychinebus.