Friday, July 24, 2009

Lib Dem Watch 5

Bu blogmenai ers peth amser yn edmygu sgiliau camarwain y Lib Dems. Mae hon yn un dda o Norwich North (er nad yw yn un o'r goreuon).



Yr hyn a wneir yma ydi cymryd canlyniadau un set o etholiadau (hy y rhai lleol eleni yn siroedd Lloegr) i ddangos sut mae'r Lib Dems yn honni eu bod yn gweld pethau mewn un sedd seneddol benodol. 'Rwan dydi'r Lib Dems ddim yn gryf yn y rhan yma o'r Norwich ac nid yw eu perfformiad cryf yng ngynghorau sir Lloegr yn newid hynny o gwbl.

Cyfatebiaeth Cymreig posibl fyddai defnyddio ffigyrau etholiadau Ewrop tros Gymru i 'ddangos' nad oes gan y Lib Dems fawr o obaith yng Nghanol Caerdydd y flwyddyn nesaf - oherwydd iddynt ddod yn bumed yn etholiadau Ewrop Cymru gyfan eleni.

3 comments:

Dafydd Tomos said...

A'r dacteg arferol (gan bob plaid i ddweud y gwir) o anwybyddu unrhyw raddfa ar y graff. Mae'r bwlch o 10% yn edrych ychydig bach yn llai na'r bwlch o 4%.

Ioan said...

Sylwa hefyd bod 28% lot nes at y 38% na'r 24%...

Anonymous said...

Baswn i'n dwlu ar weld un o'r pleidiau eraill yng Nghanol Caerdydd yn defnyddio'r dacteg hon yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol (ac yn eu curo)! Mae'n dangos unwaith eto mai plaid heb unrhyw sail wleidyddol gadarn ydy hi. Gobeithiwn yn fawr y byddant yn colli llawer o'u seddau i'r Ceidwadwyr pan ddaw'r etholiad cyffredinol.