Saturday, July 04, 2009

Tai Fforddiadwy

Nid yn aml y byddaf yn cyfeirio at ddau gyfraniad i flog Dyfrig ddwywaith o'r bron - ond dyna 'dwi am ei wneud heddiw.

Y ddadl yma sy'n mynd a fy niddordeb. 'Dwi ddim am fynd i mewn i'r achos ei hun ag eithrio i nodi bod cynllun yn cael ei gynnig i ddatblygu tai fforddiadwy ym mhentref Talysarn. Fel mewn llawer achos tebyg, roedd y cynllun yn un oedd yn creu gwrthwynebiad yn lleol ond roedd hefyd yn ceisio diwallu anghenion ehangach. Fe syrthiodd y cynnig.

'Rwan, does gen i ddim problem efo hyn fel y cyfryw - mae penderfyniadau fel hyn yn aml yn ddibynol ar gytbwyso gofidiau lleol yn erbyn lles ehangach. Mae gan pob cynghorydd hawl i'w farn, ac mae ganddo hawl i fynegi'r farn honno ar ffurf pleidlais. Peth felly ydi llywodraeth leol.

'Rwan yn ol Dyfrig, dywedodd un o bwysigon Llais Gwynedd yn y cyfarfod mai Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy. Dydw i'n amlwg ddim yn gwybod os ydi hynny'n wir gan nad oeddwn yn y cyfarfod - ond 'dydi Aeron ddim yn cywiro Hen Rech Flin pan mae yntau'n cyfeirio at y mater yma. Mae gwrthwynebu tai fforddiadwy fel strategaeth o fynd i'r afael a diffyg gallu pobl leol i fforddio tai yn fater tra gwahanol i wrthwynebu datblygiad arbennig o dai fforddiadwy.

Yn ystod eu hymgyrch ar gyfer etholiadau lleol 07, gwnaeth Llais Gwynedd gryn dipyn o dai fforddiadwy ac ymddiriedolaethau tai. Ymddengys eu bod bellach wedi newid eu meddyliau. Ynddo'i hun 'does yna ddim oll o'i le yn hyn - bydd pobl a phleidiau yn newid eu meddyliau o bryd i'w gilydd. Mae serch hynny'n deg gofyn os nad ydi Llais Gwynedd bellach yn credu mewn tai fforddiadwy, beth yn union ydi eu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael a phroblem sydd yn un ddwys iawn yn rhannau o Wynedd?

Mae Aeron hefyd yn cyfeirio at y ffaith nad ydi Cyngor Gwynedd yn cynnig morgeisi i bobl ifanc. Mae hyn wedi'i gynnwys yng Nghynllun Ymateb i'r Dirwasgiad sydd wedi ei lunio gan Cyngor Gwynedd. Adolygwyd hyn yn ddiweddar gan Fwrdd y Cyngor er mwyn goresgyn rhai o'r anhawsterau gyda rhai cymdeithasau adeiladau yn gwrthod morgeisi ar gyfer tai Adran 106. Cefnogwyd hyn yn unfrydol gan bob plaid - gan gynnwys LLais Gwynedd.

I gynnig morgeisi, mae rhaid cael tai wrth gwrs. Un o brif fanteision morgais llywodraeth leol yw ei fod yn ffordd o gwmpas agwedd rhai cymdithasau adeiladu at Adran 106. Ond os ydi'r cysyniad o dai fforddiadwy yn ddiwerth, mae'n cyfyngu'n sylweddol ar ddefnyddioldeb morgais llywodraeth leol.

4 comments:

rhydian fôn said...

Roedd gan Aeron ddiddrdeb mawr iawn, personnol bron, mewn tai fforddiadwy yd at yn ddiweddar. Felly pam mae o, yn sydyn iawn, wedi dod i'r casgliad mai 'sbin' ydi tai fforddiadwy?

Mae'r enw braidd yn niwlog wrth gwrs - fforddiadwy i bwy? Yr ateb yw 'Tai sydd ar gael i’w prynu am bris fforddiadwy, sy’n cyfateb i incymau lleol, prisiau tai a
chyfraddau llog '. Mae angen mathau gwahanol o dai, wrth gwrs - rhai i'r nifer fawr o bobl yng Nghymru sydd yn byw oddi tan y canolrif inccwm. Ond mae yna dai fel yma ar gael yn barod. Beth sydd ar goll, a sydd yn cael ei ateb gan Adran 106, yw tai sydd yn caniatau'r camau dechreuol o fod yn berchen tŷ. Fel mae blogmenai wedi son, mae'r mater o'r Cyngor yn cynnig morgeisi wrthi yn cael ei drefnu.

Mae Alwyn yn rhannol gywir fod yna ganran arbennig o dai yn fforddiadwy - 30% fydd y ganran yng Ngwynedd. Ond mae hyn yn gyffredinol yn hytrach nac ei fod wedi ei dargedu at bob un stad o dai newydd sydd yn cael ei adeiladu. Os oes stad newydd yn cael ei adeiladu, rhaid i ganran fod yn fforddiadwy. Os yw'r Cyngor yn sôn am adeiladu stad o dai fforddiadwy, bydd yn stad o dai fforddiadwy yn unig.

Yn olaf, mae pris tŷ fforddiadwy 30% i 50% yn is na'i werth ar y farchnad agored. Felly mae ffigwr £300,000 y mae Aeron yn e roi i Alwyn yn chwerthinllyd. Fel Aeron ei hun.

Cai Larsen said...

Y pwynt ydi hyn 'dwi'n meddwl - mae'n bosibl i dy fforddiadwy fod yn anfforddiadwy i'r rhan fwyaf o bobl - ond dydi hynny ddim yn golygu bod pob ty fforddiadwy felly.

I'r gwrthwyneb - os ydi awdurdodau cynllunio yn teilwra eu cynlluniau tai fforddiadwy i ymateb i angen lleol - yna byddant trwy ddiffiniad yn fforddiadwy yn lleol.

Syml.

Anonymous said...

Eh!? 30% yng Ngwynedd yn fforddiadwy. 70% yn anfforddiadwy felly!!!!!

rhydian fôn said...

Anhysbys: Ar gael ar y farchnad agored wyt ti'n feddwl?