Thursday, September 17, 2009

Llythyr Peter Hain i'r Guardian



Gallwch weld campwaith Peter yma.

Poeni mae Peter bod y Toriaid am ddod yn gyntaf yng Nghymru fel y gwnaethant yn etholiadau Ewrop, a felly mynd i lywodraeth yn San Steffan. Mi fyddai canlyniadau hyn yn anymunol gan bod y Toriaid yn wahanol i Lafur yn 'ddau wynebog'. Ymhellach, mae gan Adam Price gynllun cudd i glymbleidio efo'r Toriaid.

Y ffordd i osgoi hyn wrth gwrs ydi i bawb yng Nghymru fotio i blaid Peter - wedi'r cwbl fel a ddaeth yn amlwg yn 2007 pleidlais i'r Toriaid ydi pleidlais i Blaid Cymru mewn gwirionedd a mae'r Lib dems mor fach nad ydyn nhw'n werth pleidleisio trostynt beth bynnag.

'Rwan 'dwi'n petruso cyn awgrymu bod gan Peter issues yn ymwneud ag ansawdd ei ddeallusrwydd, ond 'dydw i ddim yn gwybod beth arall i'w feddwl.

Cymerer am eiliad bod pleidleiswyr Plaid Cymru i gyd yn sylweddoli mai pleidleisio i'r Toriaid maent mewn gwirionedd ac mai clymblaid Tori / Plaid Cymru sy'n rheoli yng Nghaerdydd a bod Rhodri Morgan yn Geidwadwr o fri. Cymerer eu bod yn credu celwydd Hain am gynlluniau cudd Adam Price.Cymerer bod cefnogwyr y Lib Dems yn derbyn bod eu plaid yn rhy fach i drafferthu pleidleisio iddi. Cymerer bod pwerau perswadio Peter mor rhyfeddol nes ei fod yn argyhoeddi holl gefnogwyr y Toriaid yng Nghymru (hyd yn oed Guto Bebb) bod eu plaid yn ddau wynebog ac na ddylid pleidleisio trosti. Cymerer bod pob copa walltog (a'r copaon moel) yng Nghymru yn pleidleisio i blaid Peter - yna beth fyddai'n digwydd?

Wel - mi fyddai'r Blaid Lafur yn ennill unarddeg sedd ychwanegol yng Nghymru. Yn y cyfamser mae'r Toriaid ugain pwynt ar y blaen yn Lloegr - 45% i 25%. Mae hyn yn ogwydd o 10%. Mae 533 o'r 650 sedd yn Nhy'r Cyffredin yn rhai Seisnig. Mae'n anodd bod yn fanwl yma - ond mae'n debyg y byddai hyn yn arwain at tua 270 mwy o seddi Toriaid yn Lloegr na fyddai yna o rai Llafur. Piso dryw bach yn y mor fyddai'r unarddeg sedd Llafur newydd yng Nghymru. Piso gwylan fyddai'r deugain sedd Gymreig.

Neu i roi pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae pleidlais i Lafur gan berson sy'n byw yng Nghymru yn wastraff llwyr o bleidlais. Y gorau y gall pleidlais i Lafur ei wneud ydi dychweld rhywun fel Nia Griffiths neu Chris Bryant i gymryd eu lle ymysg nifer fechan o aelodau shellshocked Llafur, Seisnig fydd a'u hysbryd yn isel. Mi fyddant hefyd yn destun gwawd cyffredinol.

Beth mewn difri fyddai'n gwneud i'r Toriaid betruso cyn gwneud i Gymru yr hyn mae'r Toriaid yn ei wneud pob tro - gweld Cymru yn dychwelyd at ei hen batrwm gwleidyddol aneffeithiol, di ddannedd, lleddf a hynny mewn cyd destun Prydeinig lle na fydd Llafur mewn grym eto am genhedlaeth, ta gweld cyfundrefn wleidyddol newydd yn dechrau ffurfio yng Nghymru - un sy'n fygythiad i'w hannwyl Deyrnas Gyfunol?

'Dwi ddim yn meddwl bod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw'n anodd iawn.

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Y peth peryg o safbwynt Llafur yn y geiriau "Vote Plaid, Get Tories" ydi bod y Ceidwadwyr ysywaeth yn gwneud yn dda yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda Llafur yn uffernol o amhoblogaidd - gallai slogan o'r fath fod o fudd i Blaid Cymru mewn rhai ardaloedd! (Aberconwy, Gorllewin Caerfyrddin, Gorllewin Clwyd ac ati)

Cai Larsen said...

Yn wir - os ydi'r Toriaid yn fwy poblogaidd na Llafur - wedyn yn amlwg mae gwall bach yn strategaeth Peter.