Monday, November 30, 2009

Ystadegau Tachwedd

Y trydydd mis mwyaf poblogaidd ar ol Mehefin a Hydref. Go brin y byddwn yn curo'r record fis nesaf - mae gan pobl well pethau i'w gwneud o gwmpas y 'Dolig na dilyn blogiu gwleidyddol, ond 'dwi'n hyderus y byddwn yn cael mwy na 4,165 ym mis Ionawr

Ffigyrau sal unwaith eto i'r Toriaid


'Dwi ddim eisiau i neb feddwl fy mod yn datblygu obsesiwn am hyn, ond 37% yn unig mae pol diweddaraf ComRes yn awgrymu y bydd y Ceidwadwyr yn eu gael yn yr etholiad cyffredinol. 'Dydi hyn ddim llawer gwell na'u perfformiad yn 2005 (33.23%). ' Dwi'n meddwl fy mod yn gywir i ddweud bod saith o'r wyth pol diwethaf wedi eu sgorio'n is na 40%.

Mae hyn yn codi un neu ddau o bwyntiau diddorol. Yn gyntaf pam?

'Dwi'n eithaf siwr yn bersonol mai penderfyniad Cameron i droi cefn ar ei addewid am referendwm ynglyn a chytundeb Lisbon sydd wrth wraidd y peth. Mae gen i rhywfaint o gydymdeimlad efo'r Toriaid yn hyn o beth - gyda y cadarnhawyd y cytundeb, go brin ei bod yn bosibl i Brydain dynnu allan ar ei liwt ei hun wedyn heb osod cynsail anerbyniol. Y wers, fodd bynnag, ydi na ddylai plaid addo rhywbeth mor bwysig i gydadran sylweddol o'i chefnogwyr creiddiol os oes posibilrwydd na ellir gwireddu'r addewid hwnnw.

Yn ail, mae awgrym cryf bellach y bydd pleidiau amgen fel y Gwyrddion, ymgeiswyr annibynnol, UKIP ac ati yn gwneud yn llawer gwell yn etholiad cyffredinol 2010 nag a wnaethant mewn unrhyw etholiad cyffredinol blaenorol. Mae nifer ohonom wedi meddwl ers tro bod posibilrwydd i rhywbeth rhyfedd ddigwydd mewn ambell i le - megis Brighton Pavilion. Ond mae'n bosibl y bydd mwy o bethau anisgwyl yn digwydd nag oedd y rhan fwyaf wedi ei ragweld. Er bod ein system bleidleisio yn tueddu i gadw pleidiau llai allan o'r senedd pan fo eu pleidlais gyffredinol yn isel, gallai'r elfen o bleidleisio tactegol sy'n cael ei annog gan y system hwnnw ddechrau gweithio o'u plaid os ydi eu pleidlais gyffredinol yn uwch.

Gallai meinciau Ty'r Cyffredin edrych ychydig yn anisgwyl y tro cyntaf y byddant yn cwrdd wedi'r etholiad.

Sunday, November 29, 2009

Dyfrig, Gwilym ac adroddiad ESTYN

Bydd rhai o'r mwyaf trist yn eich plith (y sawl sy'n dilyn y blogosffer tros y penwythnos) yn ymwybodol o'r sbat bach a fu ar y We rhwng Dyfrig Jones - awdur Blog Answyddogol a chynghorydd Plaid Cymru tros Gerlan a'r enwog Gwilym Euros, aelod o fwrdd rheoli Cyngor Gwynedd, aelod o Lais Gwynedd ac awdur y blog sy'n dwyn ei enw wrth gwrs.

I dorri stori hir yn fyr awgrymodd Dyfrig bod marc 'tebygrwydd i wella' mewn arolygiad diweddar ar Adran Addysg Cyngor Gwnedd wedi ei newid o 2 (da) i 3 (ddim cystal) o ganlyniad i sgwrs rhwng un o'r arolygwyr a chynghorydd. Cymrodd Gwilym ('dwi'n meddwl) mai cyfeiriad ato fo oedd yr honiad a chadarnhaodd ei fod wedi sgwrsio ar y ffon gydag arolygydd am ugain munud, ac wedyn aeth ati i droelli yn ei ddull arferol gan weld bai ar swyddogion, cynghorwyr eraill ac ati. Gellir gweld ochr Dyfrig yma, ac un Gwilym yma. I ychwanegu ychydig at y cymhlethdod wnaeth Dyfrig ddim nodi os mai'r gradd am gydadran o'r adroddiad ta'r adroddiad yn ei chyfanrwydd oedd wedi newid.

Rwan does gen i ddim o'r syniad lleiaf os ydi'r si a wyntyllwyd gan Dyfrig yn wir, er mae'n rhaid i mi nodi fy mod wedi ei chlywed o gyfeiriad arall. 'Dwi ddim yn siwr os ydi hi'n beth doeth i drafod adroddiad sydd heb ei chyhoeddi, a 'dwi reit siwr na fyddaf yn ei thrafod hyd yn oed wedi ei chyhoeddi. Ond mae cwestiwn diddorol yn codi - a fyddai'n bosibl i un cynghorydd newid gradd mewn arolygiad?. Mae rhai o'r cyfranwyr i'r drafodaeth ar flog Gwilym (pobl sy'n swnio fel petaent yn gwneud yr un gwaith a fi) yn dweud na fyddai hynny'n bosibl. Er bod 'llwyddo' i wneud y ffasiwn beth yn ymddangos yn 'gamp' rhyfeddol ar un olwg, dwi'n anghytunoefo'r farn honno.

Mae'n eithaf sicr na fyddai arolygydd sy'n arolygu ysgol yn caniatau i dystiolaeth gan (dyweder) riant i newid gradd oni bai y byddai'r hyn a ddywedwyd ganddo yn arwain at dystiolaeth pellach. Mae arolygiadau wedi eu seilio ar dystiolaeth, a dydi honiad ddim ynddi ei hun yn dystiolaeth.

Fodd bynnag mae arolygiad Awdurdod Addysg ychydig yn wahanol. Mae'n rhaid dod i ganfyddiadau ynglyn a sut mae pethau ar adeg yr arolygiad yn ogystal a'r tebygrwydd i bethau wella. Mae ymateb gwahanol bobl i ddehongliad yr arolygydd o sut y gellid gwella ynddo'i hun yn dystiolaeth. Petai'r arolygydd o'r farn bod rhan o'r weinyddiaeth sy'n rheoli'r cyngor yn wrthwynebus mewn egwyddor i'r newidiadau mae am eu gweld, yna mae'n ddigon posibl y gallai newid ei farn am pam mor debygol fyddai'r cyngor o wella, ac felly gallai newid y radd. Petai'n ystyried bod y sawl roedd yn siarad a fo yn cynrychioli cydadran arwyddocaol o'r glymblaid sy'n rheoli'r cyngor, yn hytrach nag yn siarad fel unigolyn, yna byddai ei dystiolaeth yn arwyddocaol - yn ddigon arwyddocaol i newid canfyddiad a gradd.

Mae'n ymddangos yn anheg y gallai sylwadau gan rywun sydd heb gymryd unrhyw ran o gwbl mewn paratoi at arolygiad or bwyso sylwadau pobl sydd wedi gweithio fel Gwyddelod am fisoedd i baratoi ar ei chyfer - ond yn anffodus mae hefyd yn gam cwbl resymegol i'r arolygydd ei chymryd.

'Dwi'n pwysleisio nad oes gen i unrhyw rewm i feddwl bod y si a gyfeirwyd ati gan Dyfrig yn wir, ond os ydi hi, dylai'r cynghorydd a gafodd y sgwrs efo'r arolygydd anghofio am unrhyw obeithion sydd ganddo i fod yn wr gwadd parti 'Dolig Adran Addysg Gwynedd eleni, nag yn wir yn ystod y mileniwm hwn. Na'r un nesaf.

Mae hefyd yn werth i mi ddweud y gallai'r stori uchod fod yn un darn arall o dystiolaeth i gefnogi dadl rwyf wedi ei gwneud sawl gwaith. 'Dydi 'system Bwrdd' Cyngor Gwynedd o rannu grym gyda phawb ddim yn ffit i bwrpas. Mae'n gweithio pan mae grwpiau'n cyd dynnu, ond dydi o ddim yn gweithio pan mae un neu fwy o'r grwpiau yn wrthnysig ac yn ystyried y cyngor yn gorfforiaethol yn 'elyn'.

I raddau mae ymateb Gwilym i Dyfrig yn dangos hyn yn eithaf da.
Mae'n son am 'gwestiynau treiddgar' (beth bynnag mae hynny'n ei olygu i Gwilym), ac mae'n briodol i gynghorydd wneud hynny os oes diffygion yn cael eu harolygu mewn adroddiad. Ond byddai cynghorydd sydd a'r Adran yn agos at ei galon yn gofyn y cwestiynau hynny yn y lle priodol, yn hytrach na son amdanynt mewn modd anelwig yn yr un gwynt ag ensyniadau cyfangwbl ddi dystiolaeth ynglyn ag arweinyddiaeth gwleidyddol a rheolaethol yr adran.

Dydi'r trefn Bwrdd ddim yn ffit i bwrpas.

Friday, November 27, 2009

Y Toriaid o dan 40% unwaith eto

Mae polau Prydeinig sy'n rhoi'r Toriaid ar y blaen, ond gyda llai na 40% o'r bleidlais wedi dod yn fwy cyffredin tros yr wythnosau diwethaf. Dyma wybodaeth am y diweddaraf.

'Dydw i ddim angen dweud gobeithio y byddai hyn - o'i wireddu - yn ganlyniad rhyfeddol o siomedig iddynt ag ystyried gwendid affwysol y Blaid Lafur.

'Dydi canlyniad lle mae'r blaid sy'n ennill yn cael canran mor isel ddim yn gyffredin o gwbl. Ers 1900 bu 28 etholiad ('dwi'n meddwl) ac ar bump achlysur yn unig y digwyddodd rhywbeth tebyg - 2005 lle enilliodd Llafur er gwaethaf y rhyfel amhoblogaidd yn Irac, dwy etholiad 1974 lle llwyddodd Llafur i guro Ted Heath yn syth ar ol streic gan y glowyr (ymhlith llu o streiciau eraill) - y tro cyntaf gyda llai o bleidleisiau na'r Toriaid, 1929 lle enilliodd Llafur ei hetholiad cyntaf yn sgil anhrefn economaidd ac 1918 lle enlliodd y Toriaid yn syth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Felly, os bydd y Toriaid yn ennill gyda llai na 40% o'r bleidlais bydd am yr ail dro erioed, ac am y tro cyntaf ers bron i ganrif.

Amserau anghyffredin yn wir.

Thursday, November 26, 2009

Wel, mae hynny'n glir o leiaf!

Un o'r cymhlethdodau o ddadlau efo Llais Gwynedd ydi diffyg eglurder llawer o'u dadleuon - efallai y byddwn yn cymryd cip ar yr esiamplau diweddaraf maes o law.

Fodd bynnag, mae'n rhaid eu canmol am eglurder eu hymateb i bennod diweddaraf saga faith Academi Hwylio Pwllheli. Mae hyn yn fater gwirioneddol gynhenus ym Mhwllheli - gyda phobl na fyddech yn disgwyl yn cymryd y naill ochr a'r llall. Peidiwch a gofyn i mi egluro'r sefyllfa - mae angen arbenigwr ar wleidyddiaeth mewnol y dref i wneud hynny.

Ta waeth, llwyddodd Llais Gwynedd i ymateb i'r mater mewn ffordd rhyfeddol o gynhwysfawr - trwy ddadlau o blaid y datblygiad, yn ogystal a dadlau yn ei erbyn.

Rwan, beth a allai fod yn gliriach, ac yn wir yn fwy teg na hynny?

Ydi'r Blaid Doriaidd Cymreig yn blaid addas i glymbleidio a hi?

Mi'r oeddwn i'n rhyw gefnogol i'r syniad o Glymblaid yr Enfys - hy un rhwng Plaid Cymru, y Lib Dems a'r Toriaid - ond 'dwi wedi newid fy meddwl ers hynny, yn bennaf oherwydd i gytundeb Cymru'n Un symud achos Cymru yn ei flaen cymaint. Trafodwyd hyn yma.

Mae'r blogiad yma gan Geidwadwyr Aberconwy yn atgyfnerthu fy marn. Y broblem efo'r Toriaid (a'r pleidiau unoliaethol eraill i raddau llai) ydi eu bod yn ddall i'r ffaith bod tan berfformiad economaidd Cymru yn ganlyniad anochel i'r ffaith ein bod yn cael ein trin fel rhanbarth o wlad arall. A chymryd y myopia yma i ystyriaeth, am wn i ei bod hi'n hollol ddealladwy bod Ceidwadwyr Aberconwy yn credu y dylai Plaid Cymru fod wedi tynnu allan o'r glymblaid oherwydd i hanner y cynnydd mewn diweithdra yn y DU ddigwydd yng Nghymru y mis diwethaf (er bod y cynnydd wedi bod yn gymharol isel yn gynharach yn ystod y dirwasgiad wrth gwrs).

Mae'n dilyn felly, am wn, i y byddai'r Toriaid wedi tynnu allan o 'Gytundeb yr Enfys' petai newyddion drwg economaidd cyffelyb wedi dod i'r fei - ac mae newyddion drwg economaidd yn rhywbeth sy'n tarro pob llywodraeth rhywbryd neu'i gilydd - hyd yn oed yn ystod amserau 'da'.

Efallai nad ydi'r Toriaid eto'n aeddfed i bleidiau eraill ystyried mynd i lywodraeth efo nhw - byddai'r olwynion yn syrthio oddi ar y wagen lywodraethol gyda y byddai cwmwl du yn ymddangos yn y ffurfafen wleidyddol, gan adael y wlad yn ddi lywodraeth. 'Dwi ddim yn meddwl y byddwn i eisiau partner felly mewn llywodraeth.

Tuesday, November 24, 2009

Y peth gorau a allai ddigwydd i ddatganoli fyddai ymadawiad Peter Hain


Wps - bu bron i'r holl sioe a syrthio'n ddarnau y prynhawn yma gyda Plaid Cymru yn bygwth tynnu allan o Cymru'n Un oherwydd i Lafur ymddwyn fel y bydd Llafur yn ymddwyn pob tro mae pendefyniad anodd i'w wneud ynglyn a datganoli.

Mae gwahanol flogwyr yn cynnig eu dehongliadau eu hunain ynglyn a'r digwyddiadau. Yn ol Welsh Guerilla Warefare Llafur sy'n profi pa mor bell maent yn cael mynd, tra bod Syniadau o'r farn bod Llafur ond eisiau mwy o bwerau i'r Cynulliad os nad ydynt yn rheoli yn Llundain. Mae Gareth Hughes o'r farn mai ymgais gan Peter Hain i ohirio refferendwm am cymaint o amser a phosibl.

'Dwi'n meddwl mai Gareth sydd agosaf ati. Mae Llafur Cymru yn gwbl afresymegol pan maent yn wynebu problemau sy'n ymwneud datganoli, yn yr un ffordd nag y mae'r Toriaid Prydeinig yn mynd ychydig bach yn dw lali pan maent yn ceisio meddwl am Ewrop. Mae'r rheswm yr un peth yn union - mae'r ddwy blaid wedi eu hollti'n llwyr - y naill ar ddatganoli a'r llall ar Ewrop.

Mae'r ffaith bod Llafur Cymru pob amser yn edrych ar ddatganoli yng nghyd destun eu anghenion mewnol yn golygu bod datganoli Cymreig wedi bod yn ddiffygiol o'r cychwyn. Yr angen i gyfaddawdu er mwyn undod mewnol a arweiniodd at ddiffyg eglurder y setliad gwreiddiol, dyna hefyd arweiniodd at y system LCO bondigrybwyll. Ymgais i wthio penderfyniadau anodd i'r dyfodol oedd comisiwn Syr Emyr, a dyna oedd lol heddiw. 'Dwi'n eithaf siwr yn bersonol i Peter Hain addo i rai o ddeinasoriaid ei blaid i beidio a symud ymlaen efo datganoli am gyfnod penodedig ar yr amod nad oeddynt yn cicio yn erbyn y tresi pan oedd y gyfundrefn LCOs yn cael ei chreu - ac mae'n gorfod byw efo'r addewid hwnnw 'rwan.

'Dydi datganoli byth am weithio tra bod y Blaid Lafur Gymreig yn credu bod eu hystyriaethau pleidiol eu hunain yn bwysicach na llunio cyfundrefn effeithiol o lywodraethu Cymru. 'Does yna neb yn fwy euog na Peter Hain o fod a blaenoriaethau gwyrdroedig yn y cyswllt yma. Mae eisoes yn wleidydd sydd wedi ei faeddu y tu hwnt i adferiad - fel y gellir gweld yma yma ac yma, er enghraifft. Mae'n bryd iddo fynd - ni all feddwl yn rhesymegol am ddatganoli a thra ei fod yn ysgrifenydd gwladol fydd Llafur ddim yn ymddwyn yn rhesymegol mewn perthynas a datganoli chwaith.

Monday, November 23, 2009

Hywel Williams unwaith eto


Yr economi oedd y pwnc y tro hwn, a'r prif gwyn (ymhlith eraill) oedd bod economi Cymru yn or ddibynnol ar gyllid cyhoeddus - gyda'r wlad wedi ei chlymu i deth yr hwch fagu gyhoeddus i raddau mwy nag unrhyw wlad arall y gallai Hywel feddwl amdani, ag eithrio Gogledd Iwerddon. Yn ol Hywel mae bron i ddwy draean o'r economi yn ddibynnol ar arian cyhoeddus. Mae'r canfyddiad yn wir - i raddau - ond mae hefyd yn arwynebol.

Big Pit, Blaenafon

I ddechrau 'dydw i ddim yn siwr pa mor berthnasol oedd y cyd destun a osodwyd i'r rhaglen. Er enghraifft, roedd y rhesymu bod y dirwasgiad a ddilynodd argyfwng olew'r saithdegau wedi arwain at ddifa diwydiannau mawr mwyngloddio a chynhyrchu'r wlad yn rhannol gywir. Gellir, fodd bynnag, ddadlau bod prisiau isel olew yn yr wythdegau a'r nawdegau mor bwysig i ffawd y diwydiant glo nag oedd prisiau uchel y saithdegau. Doedd yr ystadegau ynglyn a'r ganran o'r economi sydd yn gyhoeddus ddim yn cydnabod mai adlewyrchiad o'r ffaith bod yr economi Gymreig yn fach oedd hynny'n rhannol. Os ydym yn edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae gwariant cyhoeddus y pen o'r boblogaeth yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a nifer o ranbarthau Lloegr, gan gynnwys Llundain.

Yr hyn sy'n fwy anffodus ydi nad yw'n gwneud ymdrech ddigonol i gynnig eglurhad ag eithrio i son am yr economi fyd eang, natur gyfyng economi Cymru yn y ganrif ddiwethaf, diogi a gor ddibyniaeth y dosbarth canol Cymreig ar y wladwriaeth, diffyg diwylliant o enterprenariaeth ac ati. 'Rwan mae hyn oll yn wir - ond symptomau ydynt, nid y rheswm creiddiol tros natur anghytbwys a ffaeliedig economi Cymru.

Gwaith Dur Port Talbot

Mae'r ymgeisiadau'r pleidiau unoliaethol i egluro'r sefyllfa yn cymryd sawl ffurf - ond yn y bon amrywiaethau ar resymu Miss D Davies o ardal Llanelli fel y cafodd hwnnw ei fynegi yn y Western Mail rhai blynyddoedd yn ol mewn llythyr agored i Rhodri Morgan ydyw.

SIR - Rhodri Morgan has missed the point with his "straight choice" between Labour and Conservative campaign. In most areas the straight choice is between Labour and Plaid

I am Labour but if I went around pretending the Conservatives could get in here I'd be laughed at! I could say the nationalists are "in bed" with the Tories but I wouldn't be believed either. They are active here, people know them.

Come on Rhodri! Fight the proper fight. Tell us that without England we would be a poor country like Albania, still with horses and carts. We've done well being looked after by Britain. We're too small. We are part of a fantastic big country that really cares about us.

Plaid are the real threat. Peidiwch Pleidleisio Plaid!

MISS D DAVIES
Elkington Road, Burry Port, Carmarthenshire


Hynny yw mae'r pleidiau unoliaethol, fel Miss Davies yn credu (mewn rhyw ffordd neu'i gilydd) mai canlyniad i faint cymharol fach Cymru ydi ei than berfformiad economaidd. 'Dydi'r ffaith bod pob tystiolaeth gwrthrychol sydd gennym yn awgrymu bod gwledydd bach yn tueddu i berfformio'n well yn economaidd na rhai mwy, ddim yn amharu mewn unrhyw ffordd o gwbl ar y canfyddiad yma. Mae'r ffug ganfyddiad - ein bod, oherwydd ein maint yn ddibynnol ar Loegr - yn cael ei gymryd yn gwbl ganiataol gan lawer, a dyma yn y diwedd sail economaidd y ddadl unoliaethol.

Chwarel Dinorwig

'Dwi ddim eisiau swnio fel y Gwyddel enwog o'r ddeunawfed ganrif - Theobald Wolfe Tone - gyda'i 'wireb' ar ffurf polisi gwleidyddol - To subvert the tyranny of our execrable government, to break the connection with England, the never failing source of all our political evils, and to assert the independence of my country--these were my objects - ond mae natur ein economi yn wan oherwydd nad ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa i gymryd penderfyniadau economaidd strategol. Chawsom ni erioed y cyfle i ystyried pa mor gytbwys (ac felly gwydn mewn amseroedd anodd) oedd ein economi yn ystod y dyddiau hynny pan oedd yn darparu llawer o'r Byd a'i glo, dur a llechi. Chawsom ni erioed o'r cyfle i ostwng trethi corfforiaethol yng Nghymru i annog cwmniau i fuddsoddi yma, er gwaethaf y ffaith ein bod ar gyrion Ewrop a chawsom ni ddim chwaith o'r cyfle i osod cyfraddau llog ar lefel sy'n addas i'n sefyllfa economaidd ein hunain. Hynny yw chawsom ni erioed o'r cyfle i weithredu ar ddadansoddiad strategol ni ein hunain o'n problemau economaidd ni ein hunain

Mae'r brif ddadl tros annibyniaeth (ac felly tros genedlaetholdeb) yn un foesol - 'dydi o ddim yn briodol i un wlad gael ei rheoli gan wlad arall. Yr ail ddadl o ran pwysigrwydd ydi'r un economaidd - mae gwlad yn debygol o ddatblygu ei economi ei hun yn well, ac mewn ffordd mwy addas i'w hamgylchiadau ei hun, nag ydi gwlad arall yn gweithredu ar ei rhan. Dydi'r Mudiad Cenedlaethol ddim yn mynd i'r afael a'r ddadl yma i raddau digonnol, ac ni chyffyrddwyd a'r mater yn rhaglen Hywel Williams. Ond wedyn efallai bod hynny i'w ddisgwyl - aelod o'r dosbarth canol 'diog' Cymreig ydi Hywel wedi'r cwbl - fel y gweddill ohonom.

Roedd Hywel yn galaru diffyg cenedlaetholdeb 'go iawn' yn y rhaglen gyntaf. Byddai ymdriniaeth genedlaetholgar 'go iawn' o gyflwr Cymru wedi crafu o dan y wyneb a mynd i'r afael a'r mater yma yn annad yr un arall. Wnaeth o ddim - a dyna pam bod y rhaglen yn un siomedig.

Sunday, November 22, 2009

Y Lib Dems a PR


Mae yna ddywediad Saesneg sy'n dweud rhywbeth fel - cymrwch ofal rhag i'r hyn yr ydych yn obeithio amdano ddod yn wir. Fedrwn i ddim peidio a meddwl am y dywediad hwnnw wrth weld canlyniad pol ddoe.

'Rwan, 'dwi'n credu yn bersonol y bydd y Toriaid yn ennill etholiad y flwyddyn nesaf yn weddol hawdd. Ond pe byddai'r pol yn gywir, ni fyddai gan y Toriaid fwyafrif, a byddai'r Lib Dems yn debygol o gael eu hunain mewn grym ar y cyd a Llafur - ac y byddant yn fodlon gwneud hynny ar yr amod bod Llafur yn dod a chyfundrefn bleidleisio cyfrannol (PR) i fodolaeth cyn yr etholiad cyffredinol ganlynol. Byddai hyn yn newid gwleidyddiaeth Prydain yn sylfaenol - ac mae'n debygol y byddai'n gwneud hynny mewn ffordd na fyddai o anghenrhaid yn llesol i'r Lib Dems eu hunain.

Mae'n debyg gen i mai un o'r prif resymau pam bod y Lib Dems eisiau diwygio'r drefn ydi'r ffaith bod eu canran nhw o'r bleidlais yn ddi eithriad yn uwch o lawer na'r ganran o seddi y byddant yn eu hennill yn San Steffan. Mae hyn yn ddigon gwir - ond mae'n bosibl na fyddai trefn newydd mor fanteisiol i'r Lib Dems na maent yn meddwl. Dyma pam:

Mae'n hawdd i bobl sydd a diddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth anghofio'r ffaith syml nad ydi cymhelliad pobl tros bleidleisio pob amser yn un cadarnhaol. Yn amlwg bydd pobl yn pleidleisio tros bleidiau maent yn hoff ohonynt yn aml. Ond mae hefyd yn wir bod llawer yn pleidleiso mewn ffordd negyddol - yn erbyn pleidiau nad ydynt eu hoffi. Mae'r Lib Dems yn elwa o bleidleisio negyddol (neu bleidleisio tactegol fel y bydd yn cael ei alw weithiau) fwy o lawer na neb arall. Maent hefyd wedi datblygu arbenigedd mewn annog pobl (neu dwyllo pobl efallai) i resymu'n negyddol a phleidleisio iddyn nhw. Ni fyddai unrhyw angen i bleidleisio'n negyddol o dan y rhan fwyaf o gyfundrefnau pleidleisio cyfrannol.

Mae yna un math o etholiad Prydain gyfan sydd yn gyfangwbl gyfrannol - etholiad Ewrop. 'Dydi'r Lib Dems ddim yn gwneud yn dda yn yr etholiadau hynny. Pedwerydd oedd y Lib Dems ar lefel Prydeinig a phumed yng Nghymru. Trydydd oeddynt yn Ne Orllewin Lloegr - y tir etholiadol sydd yn aml orau iddynt. O'r pedair etholaeth Gymreig lle mae ganddynt sedd yn San Steffan, yng Nghanol Caerdydd yn unig y daethant yn gyntaf. 'Dwi'n derbyn nad oedd y Lib Dems yn gwneud yn arbennig dda ar lefel Ewrop pan nad oedd trefn gyfrannol. Ond 'dwi hefyd yn siwr mai un plaid ymysg nifer o rai canolig eu maint fyddai'r Lib Dems ar lefel Prydeinig, ac er y byddant yn cael eu hunain yn rhan o lywodraeth glymblaid o bryd i'w gilydd, byddant yn wynebu llawer o gystadleuaeth a rhywbeth achlysurol fyddai eu cyfnodau mewn grym.

Saturday, November 21, 2009

Pum mlynedd arall o Gordon Brown?

Mae yna bol piniwn (Prydeinig) allan heno sy'n rhoi Llafur ar 31%, y Toriaid ar 37% a'r Lib Dems ar 17%. Pe gwireddid hyn byddai gan y Toriaid tua 296 o seddi, Llafur tua 278, y Lib Dems 44, yr SNP a Plaid Cymru 11 ac eraill 3. Mi fyddai yna hefyd 18 o aelodau o Ogledd Iwerddon. Mae'n debyg mai llywodraeth leiafrifol fyddai'n cael ei harwain gan Lafur fyddai canlyniad hyn.

Y newidiadau yng Nghymru fyddai Plaid Cymru yn ennill Arfon, Ynys Mon a Cheredigion a'r Toriaid yn ennill Brycheiniog a Maesyfed, Bro Morgannog, Aberconwy, Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro. Newid efallai - ond ddim yn agos cymaint o newid nag ydym wedi bod yn ei ddisgwyl.

'Dwi'n cymryd mai tipyn o eithriad ydi'r pol yma - adwaith i is etholiad Gogledd Orllewin Glasgow - ond mae'n darparu ychydig o ddeunydd meddwl. Hwyrach nad ydi'r fuddugoliaeth hawdd mae pawb wedi bod yn cymryd y bydd y Toriaid yn ei chael mor sicr a hynny wedi'r cwbl.

Friday, November 20, 2009

Nid Blair sydd i arwain Ewrop

O wel - o leiaf mae'n llawer llai tebygol y bydd yr holl gyfandir yn cael ei arwain i gyfres di ddiwedd o ryfeloedd tramor.

Thursday, November 19, 2009

Chwaneg o newyddion da gan YouGov/ITV


Yn ol pol diweddaraf YouGov byddai mwyafrif sylweddol (51% i 30%) yn pleidleisio tros bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad. Mae mwyafrif clir o gefnogwyr tair o'r bedair plaid o blaid mwy o bwerau gyda lleiafrif sylweddol o Geidwadwyr hefyd o blaid. Mae'r sawl sy'n iau na 34 yn llawer mwy tebygol o bleidleisio Ia na phobl sy'n hyn na 55 ac mae'r gefnogaeth ar ei gryfaf yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru. Yn y Gogledd mae wanaf, ond mae mwyafrif clir o blaid hyd yn oed yno.

Dadl arall tros symud ymlaen mor gyflym a phosibl tuag at refferendwm.

Wednesday, November 18, 2009

Cyfres Hywel Williams


'Dwi'n hoffi Hywel Williams (yr hanesydd yn yr achos hwn - er fy mod yn hoff o'r AS hefyd). Mae'n ddeallus, mae'n mynegi ei hun yn hynod effeithiol a 'does yna ddim arlliw o rai o ragrithiau'r traddodiad rhyddfrydig Cymreig ar ei gyfyl.

'Dwi wedi gweld y ddwy benod gyntaf o'i gyfres newydd ar S4C, ac mae gen i deimladau cymysg braidd. Thesis canolog y ddwy (ac mae'n debyg gen i mai mwy o'r un peth fyddwn yn ei gael am weddill y gyfres) ydi bod ein 'obsesiwn' cenedlaethol efo diwylliant a iaith yn llesteirio ar ein gallu i ddatblygu fel cenedl.

Edrych ar grefydd oedd y rhaglen ddiwethaf, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn dilyn y rhesymeg yn iawn. Ei ddadl oedd bod y ffaith bod anghydffurfiaeth wedi ei gysylltu mor agos at yr iaith ac un agwedd gul ar ddiwylliant gwleidyddol y wlad wedi arwain at ei dranc. Roedd yn cymharu hyn gyda ffawd yr Eglwys Babyddol yn Sbaen wedi iddi gysylltu ei hun yn rhy agos at unbeniaeth Franco. 'Dydi'r gymhariaeth ddim yn un briodol yn fy marn i - ac mae hynny'n adlewyrchu'r ffaith bod Hywel yn ceisio gwneud defnydd amhriodol o syniad sydd a pheth gwirionedd iddo trwy hawlio ei fod yn fwy canolog nag ydyw mewn gwirionedd.

Mi fedra i dderbyn bod y ffaith bod iaith y capeli yn Gymraeg yn broblem mewn ardaloedd lle nad oedd yr iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r un nesaf. Ond mae dirywiad bron mor sylweddol wedi bod mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei throsglwyddo'n effeithiol. 'Dwi wedi rhyw gynnig un rheswm am y dirywiad yma - sef bod anghydffurfiaeth Gymreig wedi colli ei threfn fewnol oherwydd bod y syniadaeth o ganiatau unigolion ddehongli'r Beibl ar ei liwt eu hunain yn aneffeithiol mewn Byd lle mae yna pob math o ddylanwadau diwylliannol amrywiol ar yr unigolion hynny. Mewn Byd cymhleth mae'n rhaid i grefydd fod yn ddidactic neu edwino. 'Dwi ddim yn credu i Hywel Williams ddod yn agos i ddangos bod ei thesis yn gywir mewn perthynas a chrefydd.

Mae gen i ychydig mwy o gydymdeimlad efo ei ddadl yn y rhaglen cyntaf - sef bod yr 'obsesiwn' ieithyddol / ddiwylliannol wedi atal cenedlaetholdeb Cymreig rhag datblygu a magu nerth. Mae'n sicr yn wir bod cyfaddawdu ar faterion diwylliannol gan y wladwriaeth Brydeinig wedi'n bodloni yn y gorffennol i raddau llawer mwy nag y dylent. Mae hefyd yn wir bod bodolaeth yr iaith wedi creu faultline mewn cymdeithas Gymreig sydd wedi cael ei defnyddio gan elfennau Prydeinig i atal y wlad rhag datblygu'n ddemocrataidd. Mi'r ydym fel Cymry Cymraeg yn llawer rhy barod i ddiffinio ein hunain yn nhermau'r iaith yr ydym yn ei siarad yn hytrach na'r genedl yr ydym yn perthyn iddi.

Ond mae ochr arall i'r geiniog yma. Mae cenedlaetholdeb cyfansoddiadol, sific yn llawer cryfach yn yr Iwerddon a'r Alban nag yw yng Nghymru, ac mae yna resymau am hynny sy'n ddim oll i wneud a'r iaith. Yn achos yr Alban roedd yna rai o'r strwythurau yr ydym yn eu cysylltu gyda gwladwriaethau yn bodoli trwy gydol eu hanes. Mae gwladwriaeth sydd a'i hamlinelliad wedi ei ddiffinio gan rai o nodweddion gwladwriaeth yn haws o lawer i uniaethu a hi nag un sydd heb llawer o strwythurau cenedlaethol.

Yn achos Iwerddon roedd ffactor arall bwysig - Pabyddiaeth y rhan fwyaf o'i phoblogaeth. Oherwydd hynny roedd llawer o Wyddelod wedi arfer edrych y tu hwnt i Loegr ac i dir mawr Ewrop am ganrifoedd. Roedd yn ddigon naturiol felly i Wyddelod gymryd at syniadaeth y Chwyldro Ffrengig wedi 1798 - a daeth y digwyddiadau hynny i ddylanwadu'n sylweddol ar natur eu cenedlaetholdeb. Roedd hefyd yn darparu syniadaeth ynglyn a gwladwriaeth y gellid ei dynnu oddi ar y peg (a benthyg idiom Saesneg). Roedd y Weriniaeth Wyddelig yn bodoli yng nghalon pobl oedd yn coleddu delfrydau un ffrwd o genedlaetholdeb Gwyddelig ymhell, bell cyn i'r Weriniaeth ddod i fodolaeth. Roedd syniadaeth eglur y Chwyldro Ffrengig yn ei diffinio ym meddyliau pobl.

'Dydi hyn oll erioed wedi bod ar gael i ni. Rydym ni wedi gorfod dod o hyd i bethau sydd ddim yn ymwneud a strwythurau cenedlaethol a sydd ddim yn ymwneud a syniadaeth ehangach nag un wedi ei gwreiddio yn ein Byd bach ein hunain. Dyma pam bod iaith a diwylliant mor bwysig i'n hunaniaeth cenedlaethol ni - doedd yna ddim llawer o ddim byd arall y gallwn gydio ynddo - roedd ein syniadaethau cenedlaethol ni wedi eu llygru gan syniadaethau ein cymydog agosaf - ac wedi ei hualu iddynt. Gyda llaw mae ein hymlyniad rhyfeddol i'r tim rygbi cenedlaethol hefyd yn deillio o'r ffaith nad ydym wedi bod a llawer o ffyrdd eraill o ddiffinio ein hunaniaeth.

Rwan, mae gan Hywel bwynt - mae pwysigrwydd iaith a diwylliant i ni yn gallu gwneud agweddau eraill ar fywyd cenedlaethol yn fwy cymhleth nag ydynt mewn gwledydd eraill. Mae'n gywir hefyd nad ydi cenedlaetholdeb Cymreig yn ddigon gwrthnysig, a'n bod ni fel pobl yn rhy barod o lawer i ymdoddi - i goleddu syniadaethau estron er mwyn cael bywydau haws. 'Dwi'n cytuno 100% bod rhaid i ni fagu ffurf ar genedlaetholdeb sydd yn ehangach o ran syniadaeth, sydd a'r syniad o wladwriaeth greiddiol iddo.

Ond mae iaith a diwylliant hefyd yn greiddiol i'r rhesymau pam bod ein hunaniaeth wedi goroesi. Doedd ein hamgylchiadau ddim yn caniatau i ni ddatblygu syniadaeth genedlaetholgar aeddfed am y rhan fwyaf o'n hanes - er bod pethau'n newid erbyn heddiw. Mae dadlau bod iaith a diwylliant yn llestair i bob agwedd o'n bywyd cenedlaethol (os mai dyna fydd yn ei ddadlau yng ngweddill y gyfres) yn achos o or symleiddio gan ddyn sy'n gwybod yn well.

Mwy o lwyddiant yn sgil Cymru'n Un


Mae Cymru'n Un eisoes wedi symud yr agenda genedlaetholgar yn ei blaen:

  • Strategaeth addysg Gymraeg,
  • LCO iaith ar y ffordd
  • Y polisi treftadaeth mwyaf cenedlaetholgar yn hanes Cymru
  • Coleg ffederal yn yr arfaeth
Ac 'rwan mae cil y drws yn fwy nag agored i refferendwm ar bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad.

Ychwanegwch at hyn y ffaith bod llywodraeth Cymru yn llawer mwy poblogaidd a chyda llawer mwy o hygrededd iddi nag un y DU, ac mae'n amlwg mai dyma'r llywodraeth mwyaf effeithiol o lawer iawn, iawn o ran hyrwyddo buddiannau Cymru i ni ei chael hyd yn hyn.

Tuesday, November 17, 2009

Diolch i Stonemason

Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn yn cael unrhyw reswm o gwbl i ddiolch i'r blogiwr lloerig o wrth Gymreig, Stonemason, ond mae wedi fy siomi ar yr ochr orau trwy dynnu sylw at yr araith yma gan Adam Price yng nghyfarfod blynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Aberystwyth. Hwyrach na fyddwn wedi sylwi arni fel arall.



Mae Stoney (fel y bydd Gwilym yn cyfeirio ato) wedi cymryd at yr araith i'r ffasiwn raddau nes iddo gyfri pob gair. Mae'n werth darllen pob un o'r 8,491 gair - hyd yn oed os ydi'n cymryd dipyn o amser.

O - a da iawn WalesOnline am gyhoeddi'r araith yn ei chyfanrwydd.

Betty Williams, yr iaith Gymraeg ac arweinyddiaeth Llafur

'Dwi'n deall bod Betty wedi ypsetio Edwina Hart (y ddynas sy'n debygol o ddod yn ail yn ras hirfaith y crwbanod) trwy ddweud ei bod yn cefnogi Carwyn Jones oherwydd ei fod yn siarad Cymraeg.



Barn Syniadau ydi bod y ddwy ohonynt yn anghywir - Betty oherwydd ei bod gweld y gallu i siarad y Gymraeg yn bwysicach nag unrhyw gymhwysterau gwleidyddol eraill, ac Edwina oherwydd ei hymateb o mor Lafuraidd i sylwadau Betty.



Efallai y bydd rhai yn casglu mai tystiolaeth ydyw bod y Blaid Lafur Gymreig yn ei hanfod yn llwythol.

Bydd eraill yn cofio i Billy Hughes ymhlith nifer ddadlau mai Rod Rhichards oedd yr union foi i arwain y Toriaid Cymreig oherwydd ei allu i siarad Cymraeg. Bydd eraill eto yn cofio i Eleanor Burnam ddadlau mai hi ddylai arwain y Lib Dems oherwydd ei bod yn Ogleddwraig Gymraeg ei hiaith.

'Dwi ddim yn gwadu am funud bod yr oll o'r uchod yn wir - ond yn fy marn bach i mae'r stori'n atgyfnerthu un canfyddiad amlwg yn annad yr un arall - sef hwn - mae'n haws tynnu'r hogan allan o Ddyffryn Nantlle nag ydi hi tynnu Dyffryn Nantlle allan o'r hogan.

Sunday, November 15, 2009

Croeso Guto Dafydd

Un o'r pethau yna sy'n gwneud i ddyn deimlo'n hen ydi dod ar draws un o'i blant mewn ty tafarn.

Teimlad digon tebyg ydi dod ar draws cyn ddisgybl yn cadw blog.

Er gwaethaf y man anifyrwch hwnnw, mae'n dda iawn gen i ddeall bod Guto'n blogio. O 'nabod Guto ers blynyddoedd 'dwi'n gwybod y bydd ei flog yn un gwreiddiol a threiddgar ac yn ychwanegiad pwysig i'r blogosffer Cymraeg a Chymreig.

Saturday, November 14, 2009

Gordon Brown, Helmand a De Armagh

Dydw i ddim yn arbenigwr ar ryfeloedd - a dweud y gwir does gen i ddim mewath o ddiddordeb yn y pwnc - ond mae'n rhaid i mi nodi bod y sbwriel sy'n cael ei ddweud i gyfiawnhau'r rhyfel gorffwyll yn Afghanistan yn fy ngwylltio'n gacwn. Roedd Gordon Brown wrthi bymtheg y dwsin fore ddoe ar Today, Radio 4 yn egluro pa mor bwysig oedd rhyfela er mwyn stopio'r holl 'gynllwynio' gan derfysgwyr i ymosod ar Brydain sy'n mynd rhagddo o ddydd i ddydd yn Afghanistan yn gyffredinol, a thalaith Helmand (lle mae'r fyddin Brydeinig yn cwffio) yn benodol.

Milwyr Prydeinig yn Helmand

Hyd yn oed os ydym yn rhoi'r ffaith gweddol amlwg nad oes gennym unrhyw le i feddwl i'r un ymysodiad terfysgol ym Mhrydain gael ei gynllunio yn Afghanistan o'r neilltu am eiliad neu ddwy, mae'r ddadl yn dal mor idiotaidd ag ymdrechion diweddar Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffiths i gyfiawnhau'r ymarferiad. Chwi gofiwch i Nia ddadlau bod rhaid i ni ymladd yn Afghanistan er mwyn stopio'r holl heroin sy'n cyrraedd strydoedd Llanelli - tra mai'r gwirionedd ydi nad oedd yna nesaf peth i ddim opiwm yn cael ei dyfu yn Helmand pan ymysododd byddin Prydain ac America ar y lle.

Ychydig fisoedd wedi'r cadoediad cyntaf yng Ngogledd Iwerddon roeddwn ar wyliau yn Iwerddon. Roedd rhaid i mi yrru trwy ardal De Armagh i gyrraedd fy man gwyliau. Ar y pryd mae'n debyg mai'r darn bach yma o dir oedd yr un efo'r presenoldeb milwrol mwyaf dwys yn Ewrop. Roedd yn rhyfeddol i'w weld - hofrenyddion yn hofran yn uchel, uchel yn yr awyr - ymhell o afael y Barrets islaw, canolfannau monitro ar ben pob pwt o fryn, a chanolfannau milwrol sylweddol oedd yn edrych fel llongau tanfor metel wedi eu cofleidio gan we pry cop o wifrau pigog yng nghanol man bentrefi a threfi. Doedd yna ddim cerbydau milwrol, fel oedd i'w gweld yn llawer o weddill y Gogledd - doedd hi ddim yn saff iddynt fod ar lonydd gwledig yr ardal yma. Roedd rhaid anfon hofrenyddion i wagio biniau'r sefydliadau milwrol a mynd a bara a bagiau te yno. Yr unig le i mi weld milwyr oedd yng nghysgod y sefydliad milwrol enfawr oedd wedi ei leoli ar sgwar tref fechan Crossmaglen. Roeddynt yn symud yn barhaol, fel na allai saethwyr gael cyfle i sefydlogi eu gynnau'n ddigon hir i'w saethu.

Golf Five Zero watchtower

Roedd y rhan yma o Ogledd Iwerddon yn dir anodd, os nad amhosibl i'w reoli'n filwrol oherwydd natur y tirwedd (anghysbell a bryniog) a natur y boblogaeth leol. Does yna ddim Protestaniaid yn byw yno, a doedd yna ddim cydymdeimlad o gwbl tuag at y fyddin Brydeinig ymysg y Pabyddion lleol. Roedd ansawdd y gwrthwynebwyr lleol hefyd yn ffactor pwysig. I raddau gellir dadlau mai ymddangosiad y fyddin Brydeinig yn Ne Armagh oedd yn gyfrifol am greu'r IRA yno, ac mai dwysedd eu presenoldeb tros y blynyddoedd a arweiniodd at esblygiad y corff hwnnw i'r uned fwyaf effeithiol i'r IRA ei chael ers y Rhyfel Eingl Wyddelig.

'Rwan, oes yna unrhyw un yn ei lawn bwyll yn credu bod y presenoldeb milwrol enfawr yma ar ddarn cymharol fach o dir wedi 'atal cynllwynio' gan derfysgwyr yn erbyn y DU? Roedd y lle'n gwch gwenyn o gynllwynio yn erbyn y wladwriaeth am chwarter canrif - ac roedd ymysodiadau ar filwyr Prydeinig yn fynych ac yn gwbl ddi drugaredd yn yr ardal ei hun, ac yn yr ardaloedd sy'n ffinio a hi.

Ond roedd goblygiadau ehangach na hynny. Un o nodweddion misoedd olaf y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon oedd y bomiau anferth a ffrwydrwyd gan yr IRA yn ninasoedd mawr Lloegr. Ffrwydriad felly yn Canary Wharf, Dwyrain Llundain ddaeth a'r cadoediad cyntaf i ben. Mae'n hysbys bellach bod y bomiau hyn wedi eu hadeiladu i mewn i gyrff loriau ar ffermydd yn Ne Armagh - o dan drwyn yr holl offer monitro a chlustfeinio a'r is strwythur milwrol enfawr.

Ar un olwg mae'n rhyfedd bod yr IRA yn ganolog wedi dewis gofyn i'w pobl mewn ardal oedd o dan warchau milwrol i gymryd cyfrifoldeb am rhywbeth oedd, oherwydd maint y bomiau a'r problemau technegol o'u symud i Loegr, yn fuddsoddiad enfawr iddynt. Ond roedd ganddynt reswm da - roeddynt yn gwybod bod gan eu pobl yn Ne Armagh yr arbenigedd, y penderfyniad a'r ymroddiad i ymgymryd a'r dasg yn effeithiol. Roeddynt hefyd yn gwybod eu bod o dan llai o bwysau o lawer yn y rhan yma o'r Gogledd nag yn yr unman arall. Mewn geiriau eraill roeddynt yn teimlo'n saffach yn Ne Armagh nag oeddynt yn yr un rhan arall o'r ynys - er gwaethaf y presenoldeb milwrol anferth.

Daw hyn a ni'n ol at Helmand. Mewn rhai ffyrdd mae'n debyg i Dde Armagh - tirwedd anodd, traddodiad o wrth ryfela, poblogaeth unffurf o ran cefndir ethnig, grwpiau tyn o wrthryfelwyr sy'n aml yn perthyn i'w gilydd trwy waed a phoblogaeth sy'n gefnogol iddynt. Ond mae yna wahaniaethau mawr hefyd - mae De Armagh yn llai na Dwyfor o ran poblogaeth ac arwynebedd. Mae Helmand yn gartref i 1,441,769 o bobl ac mae'n 58,584 km sgwar o ran maint - bron i dair gwaith arwynebedd Cymru gyfan, mae'n llawer mwy anghysbell na De Armagh, mae'r tirwedd yn fynyddig yn hytrach na bryniog ac mae'r tywydd yn y gaeaf yn llawer iawn gwaeth. Mae'r fyddin hefyd yn ymladd yn erbyn pobl sy'n credu eu bod yn ymladd rhyfel sanctaidd.

Ymddengys bod Brown (a'r sefydliad Prydeinig yn ei gyfanrwydd) o dan yr argraff bod y fyddin am fod yn fwy llwyddiannus wrth geisio atal 'cynllwynio' yn erbyn Prydain yn y dalaith yma filoedd o filltiroedd o Brydain, nag oeddynt ar glwt bach o dir gwyrdd ar eu stepan drws nhw'i hunain.

' Dydw i ddim yn gwybod os i chwerthin ta chrio.

Friday, November 13, 2009

Etholiadau 2010 a blog yr Hogyn o Rachub

'Dwi wedi rhyw feddwl edrych ar etholaethau unigol cyn y Etholiad Cyffredinol y flwyddyn nesaf - ac mae'n debyg y byddaf yn gwneud hynny. Yn y cyfamser beth am gael cip ar ddarogan Yr Hogyn o Rachub? Mae'n gwneud ei waith cartref ac mae ganddo well record na fi o lawer am ddarogan yn gywir:

Y Rhondda

Brycheiniog a Maesyfed

Preseli Penfro

Gorllewin Caerdydd

Aberconwy

Arfon

Thursday, November 12, 2009

Pob lwc i'r SNP!


Mae yna is etholiad yn Glasgow North East heddiw i ddod o hyd i olynydd fel Aelod Seneddol i Michael Martin.

'Dwi'n 95% siwr mai Llafur fydd yn mynd a hi mae gen i ofn - ond dydi hynny ddim yn golygu na chawn obeithio am y gorau a dymuno lwc i'r SNP.

Tuesday, November 10, 2009

Moesoli gwleidyddol y proffwyd o Faenofferen

Mae’r blog yma wedi tynnu sylw sawl gwaith at barodrwydd anarferol Llais Gwynedd i foesoli tra’n gwleidydda, ac wedi ceisio cynnig eglurhad am hynny – sef bod syniadaeth sylfaenol y grwp wedi ei seilio ar gasineb tuag at un blaid yn benodol, a bod casineb yn haws o lawer i’w ddeall a’i fynegi mewn termau moesol nag ydyw mewn unrhyw ffordd arall. ‘Dwi wedi bathu term am y wleidyddiaeth bach simplistig yma – Gwleidyddiaeth yr Anterliwt. Gweler yr eglurhad yma, ac yma.



Mae’r blogiad bach rhyfedd yma gan y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts yn esiampl penigamp o’r hyn ‘dwi’n ei feddwl. Ymateb mae Gwilym i dri llythyr beirniadol o safbwynt Llais Gwynedd ynglyn a gweithredu argymhellion panel annibynnol i gynnig codiad cyflog i rai o swyddogion Cyngor Gwynedd.* Rydym wedi edrych yn frysiog ar y mater yma. Os ‘dwi’n deall dadl Llais Gwynedd, nid ydynt yn credu y dylid gwireddu’r addewid i weithredu argymhellion y panel oherwydd bod yna ddirwasgiad ac na ddylai neb fotio i Blaid Cymru oherwydd i holl gynghorwyr y blaid honno bleidleisio yn groes iddyn nhw. ar y mater.


Rwan mae’r tri llythyr - un gan Arweinydd y Cyngor, Dyfed Edwards, un gan un o gynghorwyr y Lib Dems , Steve Churchman a’r llall gan Huw Roberts o Gaernarfon oll yn eu ffordd eu hunain yn lythyrau effeithiol iawn. Gellir gweld llythyr Dyfed yma, ac un Huw yma. Fedra i ddim dod o hyd i un Steve ar y We, sy’n anffodus – mae’n lythyr hynod effeithiol. Yn sicr maent yn llawer mwy effeithiol na’r sterics o ddadl mae Gwilym yn ei stwffio ger ein bron.


Mae’r ddau gynghorydd yn rhoi’r penderfyniad yn ei gyd destun – ei fod yn rhan o becyn ehangach sy’n arbed tua £1,000,000 i’r Cyngor yn flynyddol, bod y Cyngor wedi comisiynu arolygiad annibynnol o amodau gwaith, cyfrifoldebau a chyflogau eu swyddogion, bod swyddogion Gwynedd ymysg y rhai sy’n derbyn y cyflogau isaf yng Nghymru, y bydd y cyfryw swyddogion yn dal i dderbyn llai na’r cyflog cyfartalog Cymreig, nad ydi’r prif swyddog yn derbyn codiad cyflog o gwbl a bod ei gyflog o gyda’r isaf yn y wlad. Mae dadl Huw hefyd yn un hynod berthnasol – bod goblygiadau ehangach i gyflogaeth yng Ngwynedd o dderbyn y ddadl y dylai swyddogion Gwynedd derbyn llai o gyflog na swyddogion mewn unrhyw ran arall o’r wlad..


‘Dydi Gwilym ddim yn trafferthu ceisio ateb cymaint ag un o’r pwyntiau sy’n cael eu codi, ond yn hytrach mae’n dweud bod yna rhyw gynghorwyr o ran arall o Gymru wedi cytuno efo’i safbwynt o ar ol clywed ei fersiwn o o’r stori, a bod Steve a Dyfed yn bobl anfoesol beth bynnag, ac na ddylid cymryd sylw o’u safbwyntiau am y rheswm hwnnw. Mae o hefyd yn taflu amheuaeth ar grebwyll y tri.


Mae’n debyg gen i ei bod yn fwy cyffredin dod ar draws moesoli mewn addoldy nag ydi hi mewn dadl wleidyddol ynglyn a strwythurau cyflogaeth, ac mae blogiad Gwilym yn mynd a fi yn ol at y tro cyntaf ‘dwi’n gallu cofio clywed moesoli cynhoeddus.


Roeddwn yn blentyn mewn offeren yn Eglwys Babyddol Caernarfon rhywbryd yn ystod chwe degau’r ganrif ddiwethaf. Roedd rhywun neu’i gilydd wedi tynnu sylw offeiriad y plwyf, y diweddar Dad Macnamara bod Post Bach, neu Post Coch fel mae’ cael ei alw weithiau, ar ben Stryd Llyn wedi dechrau gwerthu cylchgronau megis Playboy a Mayfair. ‘Doedd y Tad ddim yn cymeradwyo – aeth ati i rybuddio ei braidd i gadw’n gwbl glir o’r sefydliad cwbl ‘anfoesol’ dan sylw. Ond roedd gwahaniaeth rhwng y moesoli yma a moesoli Gwilym – roedd cyd destun iddo, ac roedd egurhad o’r rhesymau tros yr anfoesoldeb – roedd cynhyrchu, prynu neu werthu cylchgrawn o’r math yma yn groes i ddysgeidiaeth yr Eglwys ynglyn a bywyd teuluol, roedd yn sarhad ar ferched ac roedd yn bwrw sen ar y Forwyn Fair. Hynny yw roedd y moesoli yn digwydd mewn cyd destun athronyddol oedd yn gyfarwydd iawn i’r sawl oedd yn gwrando.


‘Dydi Gwilym ddim yn trafferthu i geisio sefydlu cyd destun – mae o’n dweud wrth bobl beth sy’n foesol a beth sydd ddim yn foesol – yn union fel proffwyd, neu Dduw ei hun. Nid fo ydi’r unig un – mae yna nifer ohonyn nhw wrthi’n ystumio proffwydi’r Hen Destament. Er enghraifft mae gen i gof o glywed un arall o’u cynghorwyr yn honni ei bod ‘bron yn anfoesol’ i hel biniau pob pethefnos yn hytrach na phob wythnos .


Mae moesoli gwleidyddol yn digwydd yn ehangach o lawer nag yng ngwleidyddiaeth Pwmp y Plwyf Gwynedd wrth gwrs. Mae’n weddol gyffredin i wleidyddion a llywodraethau wneud defnydd o foesoldeb lled gytuniedig i gau dadl wleidyddol. Er enghraifft mae rhai o unbeniaethau’r Dwyrain Canol ar hyn o bryd yn gwneud cam ddefnydd o foeseg Islamaidd i reoli ei poblogaethau. Maent yn dewis hyrwyddo dehongliad mor gaeth o’r Koran fel ei bod yn bosibl gweld barn wleidyddol amgen i’w un nhw eu hunain fel un sydd yn ei hanfod yn anfoesol. Roedd rhywbeth tebyg yn digwydd gydag unbeniaethau yn Ne America – roedd athroniaeth a moeseg Pabyddol yn cael eu cam ddefnyddio mewn ffordd wleidyddol i gau dadleuon gwleidyddol ac i erlid pobl oedd a chredoau gwleidyddol amgen. Bydd amrywiaethau ar hyn yn digwydd mewn cyfundrefnau democrataidd weithiau – mae gweithgareddau bach y Seneddwr McCarthy yn esiampl o hyn.


Rydym wedi son yn frysiog am Islam a Phabyddiaeth, ac wedi cyfeirio at y systemau moesol sydd ynghlwm a’r crefyddau (neu’r athroniaethau) hyn. Rwan, dydym ni ddim yn gorfod cytuno efo athroniaeth na moeseg y naill grefydd na’r llall i gydnabod eu bod yn wydn – maent wedi goroesi am ganrifoedd maith ac wedi llwyddo i gynnal biliynau o ddilynwyr tros y cyfnod hwnnw. Mae’r rhesymau pam bod rhai crefyddau (a’r systemau moesol sydd ynghlwm a nhw) yn goroesi tra nad ydi eraill yn gwneud hynny yn gymhleth (ac yn fater i flogiad arall efallai). Yn fras maent wedi goroesi am eu bod yn apelio at bobl ar ddwy lefel – mae iddynt apel emosiynol yn ogystal a gwaelod deallusol. Rydym wedi cyffwrdd a hyn eisoes yma. Mae’r foeseg sydd ynghlwm a’r grefydd yn dderbyniol i bobl oherwydd ei bod wedi ei gwreiddio mewn system athronyddol ac emosiynol sy’n dderbyniol iddynt.


Daw hyn a ni at sylfaen deallusol moesoli Llais Gwynedd. Mae wedi ei seilio ar ‘foesoldeb’ sydd wedi ymddangos yn y Gymru a’r Brydain ol Brotestanaidd gyfoes, ac mae’n foesoldeb syml iawn. Gellir ei chrisialu mewn ychydig eiriau – ni ddylid gwneud dim sy’n gwneud rhywun arall yn drist - byth. Ceir amrywiaethau wrth gwrs – weithiau rydym i fod i osgoi peri tristwch i anifeiliaid neu goed neu beth bynnag – ond dyma yn sylfaenol ydi ‘moesoldeb’ llawer o bobl yng Nghymru heddiw. Dyma hefyd (yn ddiarwybod iddyn nhw eu hunain) y foesoldeb mae rhai o aelodau Llais Gwynedd yn cyfeirio ato pan maent yn defnyddio’r gair anfoesol – rhywbeth sy’n achosi tristwch i rhywun neu’i gilydd.


‘Rwan mae’n weddol amlwg i unrhyw un sy’n fodlon meddwl am ddau funud bod y foeseg yma yn – a bod yn garedig – anigonnol. Wnawn ni ddim mynd i drafferth mawr i egluro pam – dylai fod yn weddol amlwg bod ceisio peidio ag achosi tristwch i neb yn creu patrwm o resymu sy’n ei gwneud yn anodd i ni fynd i’r afael ag unrhyw broblem byth. Mae’n creu slwtsh deallusol.


Os ydych chi eisiau gweld y defnydd gwleidyddol o'r foeseg wag, ddiwerth yma ar ei mwyaf gogleisiol o chwerthinllyd edrychwch ar y blogiad yma gan a blogiwr gwrth Gymreig (a chyfranwr achlysurol a chydymdeimladol i flog Gwilym) Stonemason.


Mae’n dadlau na ddylai Cymru byth ennill annibyniaeth oni bai bod pob un person yn y wlad eisiau hynny – wedi’r cwbl meddyliwch am y tristwch y byddech yn ei achosi i’r un person sydd eisiau aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r cyfaill felly wedi llwyddo i ddefnyddio’r foesoldeb idiotaidd yma i roi feto iddo fo ei hun ynglyn a dyfodol cyfansoddiadol y wlad mae’n dewis byw ynddi.


Dydw i ddim yn dadlau am funud nad oes yna unrhyw le i foesoldeb mewn gwleidyddiaeth (mae rhyw fath o foesoldeb yn agos at wraidd gwleidyddiaeth pawb mae’n debyg gen i), ond dylid meddwl yn ofalus cyn gwleidydda a moesoli ar yr un pryd. Mae yna adegau pan mae hyn yn briodol - tueddiad llywodraethau Prydain i fynd i ryfela ar yr esgus lleiaf er enghraifft - ond prin ydi'r rheiny.


'Dydi ceisio cau dadl ynglyn a hel biniau, ad drefnu ysgolion, neu newid strwythur cyflogaeth ar sail 'moesoldeb' sydd wedi ei dynnu o nonsens o syniadaeth sydd yn ei thro wedi ei gwreiddio yng ngwacter ystyr y Gymru gyfoes ddim yn briodol – nag yn wir yn foesol. Cyfaddefiad o fethiant i gynnal dadl wleidyddol ydi gadael y maes gwleidyddol a cheisio ymladd ar dirwedd moesol hynod amheus.


* ‘Dydi Gwilym ddim yn ymateb yn dda iawn i feirniadaeth gan lythyrwyr yn y papurau newydd ,fel mae’r blogiad yma yn awgrymu, lle mae’n ymddangos i briodoli’r ffaith nad ydi pobl yn cytuno efo’i safbwynt ynglyn ag erlid Dafydd Iwan oherwydd ei drefniadau parcio, i’r ffaith eu bod mewn oed ac yn wrywaidd.

Nos da Aneurin Glyndwr!

Mor drist ydi gweld un arall o'n sefydliadau cenedlaethol yn llithro o'r llwybrau hyn - mor drist, mor drist.

Mi ddaeth yr uchafbwynt yn gynnar - 'dwi'n gwybod bod eraill wedi gwneud hyn o fy mlaen - ond fedra i ddim atal fy hun rhag dangos y fideo enwog un waith eto i nodi'r achlysur trist, ac i sicrhau bod yr oesoedd a ddaw yn ymwybodol o'r glendid a fu.

Monday, November 09, 2009

Un gair bach arall am bol YouGov

Mi gawsom ni gip ar bol YouGov yr wythnos ddiwethaf gan ystyried yn arbennig yr hyn mae'n ei awgrymu am Gaerdydd.

Daeth y pol yn ol i fy meddwl heddiw wrth edrych ar ganlyniadau pol arall - un TNS-BMRB i'r Herald yn yr Alban. Mae'r pol hwnnw'n awgrymu y bydd Llafur ymhell o flaen yr SNP yn etholiadau San Steffan, ond y bydd yr SNP yn gwneud yn well o lawer yn etholiadau'r Alban. Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu'n gryf iawn y bydd Llafur yn cadw eu sedd ddydd Iau yn Glasgow North East gyda llaw.

Rwan, er bod gwleidyddiaeth Cymru a'r Alban yn wahanol ar sawl cyfri, mae'r ogwydd yn debyg yn aml. Er enghraifft, pan mae'r lli yn erbyn yr SNP mae'n tueddu i fod yn erbyn Plaid Cymru, pan mae o blaid datganoli yn yr Alban, tuedda i fod yn symud i'r un cyfeiriad yng Nghymru. Pan mae gogwydd yn erbyn Llafur yng Nghymru, mae'n tueddu i fod felly yn yr Alban hefyd. 'Dydi'r graddau o gefnogaeth ddim yr un peth wrth gwrs - ond mae'r gogwydd yn aml.

Ond nid dyma mae'r ddau bol diweddaraf yn ei awgrymu. Yng Nghymru mae YouGov yn awgrymu bod Llafur yn perfformio'n anisgwyl o dda ar lefel Cynulliad, ond yn sal ar lefel San Steffan. Mae TNS-'BMRB yn yr Alban yn awgrymu'r gwrthwyneb, gyda Llafur yn perfformio'n well o lawer ar lefel San Steffan.

Tybed os ydi ymddeoliad Rhodri Morgan a'r cyhoeddusrwydd ffafriol mae wedi ei gael yn sgil hynny wedi cynyddu'r gefnogaeth Lafur ar lefel Cynulliad dros dro?

Os felly mae'n ddigon posibl y bydd y tair brif blaid yng Nghymru yn agos at ei gilydd yn etholiad Cynulliad 2011 - yn union fel yr oeddynt yn etholiadau Ewrop eleni.

Sunday, November 08, 2009

Pa strategaeth ydi'r un orau i sicrhau mai 'Ia' fydd canlyniad y refferendwm?

Wedi'r cyfan, os mai ail fyw rhyw ryfel dosbarth o'r 80au yn erbyn y Ceidwadwyr yw'r unig ffordd i ennill pleidlais ar fwy o bwerau i'r Cynulliad y mae yna fwy nag awgrym efallai nad yw'r ddadl ddeallusol dros newidiadau yn un gref. Be ti'n feddwl?

Cwestiwn ydi’r uchod a godwyd gan Guto yn nhudalen sylwadau’r ymysodiad yma gen i ar record y Toriaid o wrthsefyll datblygiadau cyfansoddiadol blaengar yng Nhymru a thu hwnt. Mae’n codi’r un pwynt ar flog Ceidwadwyr Aberconwy. Os caf ei arall eirio ychydig yr hyn mae’n gofyn ydi hi’n syniad da ymladd y refferendwm pwerau deddfu (sy’n debygol o ddigwydd bellach) ar sail y byddai hynny’n ei gwneud yn haws i wrthwynebu’r llywodraeth Doriaidd yn Llundain. Mae’n amlwg mai ateb Guto ydi ‘na’. Mae'n gweld dilyn trywydd felly fel arwydd o wendid y ddadl tros bwerau pellach.




'Dwi'n rhyw synnu ychydig o ddarllen hynny - mae ymhlyg yn y weithred o godi'r cwestiwn bod Guto'n hanner ystyried bod y drefn bresenol o ddeddfu yn un effeithiol. Roeddwn o dan yr argraff mai dim ond Peter Hain, Alun Michael a Paul Murphy oedd yn credu hynny.


Mi fyddwn hefyd yn dweud nad oes yna unrhyw reidrwydd i seilio'r ymgyrch ar ddadl ddeallusol ynglyn a'r ffordd mwyaf effeithiol o reoli'r wlad. Mi fydd yr ymgyrch 'Na' yn seilio eu hymgyrch nhw ar smalio mai refferendwm ar annibyniaeth ydi'r ymarferiad mewn gwirionedd, ac mi fyddant fel arfer yn gweithio ar yr holl elfennau sy'n ein gwahanu fel cenedl - felly y bu yn 79 a 97. Yr unig reidrwydd sydd ar yr ochr 'Ia' ydi dod o hyd i'r strategaeth fwyaf effeithiol.


Serch hynny mae’r pwynt ehangach yn un sy’n haeddu trafodaeth.


Cyn ei drafod, hoffwn nodi hyn. Mae Guto a minnau yn hen elynion gwleidyddol ar y rhithfro – ond mi hoffwn gydnabod fy mod yn ei barchu fel gwrthwynebydd – mae’n delio mewn ffeithiau yn hytrach na stwff mae wedi ei greu yn ei ddychymyg, dydi o ddim yn ceisio camarwain yn fwriadol, mae’n rhesymegol ac yn rhesymol yn y ffordd mae’n dadlau ac mae’r hyn sydd ganddo i’w ddweud yn aml yn wreiddiol. Dim ond yr olaf o’r uchod sy’n wir am ddull dadlau rhai o fy ngwrthwynebwyr mwy diweddar o stabl Plaid yr Anterliwt.


Ta waeth, cyn i rywun feddwl fy mod yn crafu am le ar un o’r cwangos roedd y Toriaid mor hoff ohonynt yn yr with degau a’r naw degau, efallai y dyliwn symud ymlaen i ddelio efo’r pwynt. Mae’r blogiad roedd Guto’n ymateb iddo yn rhestru esiamplau o wrthwynebu / llusgo traed ar ran y Ceidwadwyr mewn perthynas a datblygu democratiaeth gynhwysol yng Nghymru.


Mi hoffwn wneud pwt arall o restr cyn mynd ymlaen – rhestr o’r hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf i’r Toriaid fod mewn grym – cau holl byllau glo’r wlad, dau ryfel sylweddol, datblygu economi anghytbwys oedd wedi ei ganoli ar wasanaethau ariannol De Ddwyrain Lloegr, dilyn polisi boncyrs o barhau i dorri ar wariant cyhoeddus yn nyfnder dirwasgiad, rhoi pob dimai goch o arian y cyhoedd i George Soros a’i debyg, difa’r sector cynhyrchu, gwneud canoedd o filoedd o bobl yn gyfangwbl ddibynol ar y wladwriaeth, creu system drenau cwbl boncyrs, cymhleth ac aneffeithiol trwy breifateiddio er mwyn preifateiddio, ac wrth gwrs, gorfodi Cordelia Gummer i fwyta beefburgers a allai fod wedi eu heintio efo CJD.



Wnawn ni ddim dechrau ar y gyfres di ddiwedd o sgandalau’n ymwneud a llygredd ac ymddygiad rhywiol amhriodol – mae’r blog yma’n agored i bobl o bob oed.


Ag ystyried y record erchyll yma, ‘dwi’n credu ei bod yn rhesymol ofni mwy o’r un math o beth y tro nesaf y bydd y Toriaid mewn grym - yn arbennig ag ystyried rhai o’r ‘addewidion’ a gafwyd yn eu cynhadledd eleni – ‘dydi cyfres hir o drychinebau newydd ddim yn anhepgor wrth gwrs, ond mae’n fwy na phosibl. 'Dydi naratif wedi ei seilio ar record y Toriaid mewn perthynas a Chymru a'u haddewidion ar gyfer y dyfodol ddim yn afresymegol.


Serch hynny mae datblygiadau diweddar – yn benodol datganiad Cameron ddydd Gwener yn awgrymu bod newid yn yr awyr mewn perthynas a democratiaeth Gymreig o leiaf – yn rhoi lle i ni o leiaf ystyried bod newid gwirioneddol ar droed yn y cyswllt hwnnw.


Rwan peidiwch a fy ngham ddeall i – dydi cydnabod bod tynged gwleidyddol gwlad yn nwylo trigolion y wlad honno ddim yn gam mawr i bleidiau democrataidd normal – ond mae’n gam mawr i’r Blaid Geidwadol Brydeinig. Mi fyddai’n wirion peidio a chydnabod hynny. Byddai hefyd yn wirion disgwyl i’r Toriaid ymgyrchu fel plaid (yn hytrach na fel unigolion) am ganlyniad cadarnhaol i refferendwm – mae’n rhaid iddyn nhw boeni am UKIP Tendency eu plaid eu hunain - a dylai pleidiau eraill (gan gynnwys fy un i) barchu hynny.


Y cwestiwn diddorol ydi os ydi’r newid ymddangosiadol yn y Blaid Geidwadol Gymreig (mae mwyafrif da o’u ACau o blaid mwy o bwerau) yn newid gwirioneddol, a bod eu hagwedd tuag at Cymru yn y dyfodol am fod yn wahanol.


Yr hyn sydd wedi bod yn broblem i fi yn bersonol am y syniad o genedlaetholdeb Cymreig oddi mewn i’r Blaid Geidwadol ydi hyn – mae prif gydadran eu cefnogaeth yng Nghymru wedi bod ymysg yr elfennau mwy ‘Seisnig’ mewn cymdeithas Gymreig – mae felly’n dilyn bod unrhyw symudiad tuag at wleidyddiaeth mwy ‘Cymreig’ am fod yn broblem sylweddol i’r gydadran honno.


Mae felly’n dilyn y byddant yn tueddu i gael eu tynnu’n ol tuag at y farn fwyafrifol yn y pen draw. Mae hyn dipyn bach fel clymu un ochr o fand lastig o gwmpas eich canol a’r ochr arall o gwmpas coeden. Gallwch gerdded am sbel go lew – ond yn y diwedd byddwch yn cael eich cefn yn ol yn sownd yn y goeden.


Serch hynny rydym mewn Cymru ol ddatganoli, ac mae’r tirwedd gwleidyddol wedi newid yn sylweddol. Mae’r ymdeimlad o Gymru fel gwlad wedi cryfhau, ac mae elfennau mwy ‘Seisnig’ Cymru wedi dechrau derbyn datganoli fel ffordd effeithiol o lywodraethu – a hynny i raddau nad oedd yn ragweladwy i lawer ohonom. Mae felly’n dilyn ei bod yn bosibl bod y Blaid Geidwadol gyfoes yng Nghymru mewn sefyllfa i fod yn llawer mwy hyblyg ac adeiladol wrth ymdrin a materion cyfansoddiadol na’r un genhedlaeth flaenorol o Geidwadwyr.


Daw hyn a ni’n ol at y ddilema greiddiol sy'n codi o gwestiwn Guto – a fyddai’n well seilio ymgyrch o blaid mwy o ddatganoli ar sail gwrthwynebu’r Toriaid – y profiad hir o lywodraeth Doriaidd oedd yn gyfrifol am ganlyniad 97 heb amheuaeth - neu a fyddai’n well ceisio cael consensws (sy’n cynnwys llawer o Doriaid) i hyrwyddo’r ddadl mai mwy o ddatganoli ydi’r ffordd fwyaf effeithiol o reoli Cymru?


Dydw i ddim yn gwybod beth ydi’r ateb i’r cwestiwn hwnnw - y strategaeth sy'n debygol o lwyddo y dylid ei defnyddio, ac nid y naratif mwyaf deallusol ydi'r un mwyaf effeithiol yn etholiadol pob tro. Bydd rhaid i’r rhai ohonom sydd am adeiladu ar yr hyn sydd gennym yn barod o ran datganoli wynebu’r cwestiwn yma, a’i ateb yn weddol fuan.

Thursday, November 05, 2009

STV a'r Cynulliad

Rydym wedi trafod y dull yma o bleidleisio sawl gwaith ar y blog hwn. Ddoe cafwyd dau flogiad hynod ddiddorol - yma ac yma ar Syniadau. Edrych mae'r ddau ar beth fyddai wedi digwydd petai etholiadau Cynulliad 2007 wedi eu hymladd yn unol a'r gyfundrefn yma. Mae un yn cymryd y byddai yna 60 sedd (y drefn bresenol) ac mae'r llall yn edrych beth fyddai'n digwydd petai yna 80 sedd. Mae'r ddau flogiad yn ffrwyth cryn dipyn o waith ac maent werth eu darllen.

Yr unig beth sydd gen i i'w ychwanegu ydi hyn - mae'n anodd darogan beth a fyddai'n digwydd o dan gyfundrefn STV oherwydd gallai'r gyfundrefn ynddi ei hun effeithio yn sylweddol ar y ffordd mae pobl yn pleidleisio - efallai y byddai patrymau pleidleisio pobl yn addasu os y byddai'r drefn yn wahanol. Mewn un math o etholiad yn unig (etholiadau Ewrop) yr ydym yn defnyddio pleidleisio cyfrannol yn unig yng Nghymru (nid STV ydi'r drefn honno) ond mae'r ffordd mae pobl yn pleidleisio mewn etholiadau felly yn gwbl wahanol i sut y byddant yn gwneud mewn etholiadau San Steffan a rhai'r Cynulliad o ran hynny.

Yn y ddwy wladwriaeth Wyddelig y bydd STV yn cael ei ddefnyddio amlaf. Dydi trefn bleidleiso ddim yn effeithio llawer ar batrymau pleidleisio yn y Gogledd lle mae'r teyrngarwch i bleidiau yn arbennig o gryf, a theyrngarwch i wleidyddion unigol yn wanach.

Mae'r sefyllfa yn wahanol yn y De. Mae'r gyfundrefn yno yn gwneud personoliaethau'r sawl sy'n sefyll a ffactorau daearyddol yn ystyriaethau pwysig wrth bleidleisio. Mae hefyd yn negyddu'r angen i bleidleisio yn dactegol - 'does yna ddim pwrpas gwneud hynny gydag STV. Mae gan y man bleidiau ac ymgeisyddion annibynnol obaith gwirioneddol o gael y sedd olaf mewn etholaeth - erbyn y cyfri olaf mae dewisiadau sy'n isel ar y papur yn dod yn bwysig ac mae yna pob math o bethau anisgwyl yn digwydd.

Yn fy marn i byddai Cynulliad o 80 aelod wedi ei ethol o dan y drefn yma efo nifer o aelodau annibynnol a rhai gan bleidiau llai fel UKIP. Hwyrach y byddai'n anodd i blaid sy'n polareiddio pobl fel y BNP gael eu hethol - byddant yn ei chael yn anodd iawn i ddenu ail, trydydd a phedwerydd pleidlais pobl, ac mae hynny'n hanfodol. Byddai'r Lib Dems yn cael mwy o seddi ond llai o bleidleisiau - pleidlais dactegol ydi lwmp o'u pleidlais nhw - 'does yna ddim pleidleisio felly efo STV. Mae'n ddigon posibl na fyddai'r gwahaniaeth rhyngddyn nhw ac UKIP yn fawr iawn. 'Dwi'n meddwl y byddai'r Blaid yn elwa oherwydd bod llawer o'u prif bersonoliaethau efo mwy o ddiddordeb mewn sefyll i fynd i'r Bae nag i San Steffan. Byddai'r ffaith bod y drefn yn lled gyfrannol o beth cymorth i'r Toriaid ond byddai'n hynod niweidiol i Lafur - mae'r drefn bresenol yn garedig iawn tuag atyn nhw. Mi fyddant yn cael anghofio bod mewn grym ar eu pennau eu hunain am amser maith (byddant angen efallai 45% i sicrhau hynny).

Mae tactegau etholiadol yn hanfodol gyda'r math yma o etholiad - gall tactegau cywir olygu llawer mwy o seddi. Fianna Fail ydi pencampwyr tactegau STV yn y De, ac mae Sinn Fein yn eu cae eu hunain yn y Gogledd. Petai cyfundrefn STV yng Nghymru byddai'n syniad i strategwyr y pleidiau Cymreig gael sgwrs hir efo strategwyr y pleidiau hynny.

Tuesday, November 03, 2009

Ydi Peter Hain a Rhodri Morgan yn gywir am unwaith?

Syniadau ydi un o fy hoff flogiau - a 'dwi'n cytuno efo fo o leiaf 90% o'r amser. Serch hynny 'dwi ond yn rhyw hanner cytuno efo'r sylwadau hyn ar ddadl Peter Hain a Rhodri Morgan y gallai lleihau'r nifer o Aelodau Seneddol Cymreig arwain at lai o Aelodau Cynulliad? 'Dwi'n cytuno efo'r prif bwynt - mai'r ffordd i amddiffyn Cymru oddi wrth yr hyn sydd o'n blaenau pan ddaw'r Toriaid i rym ydi trwy ddefnyddio'r Cynulliad i wneud hynny - nid trwy ddal gafael ar ambell i Aelod Seneddol. 'Dwi yn meddwl fodd bynnag bod Hain a Morgan efo pwynt.

'Dwi'n derbyn bod yna ormod o Aelodau Seneddol o lawer, a'i bod yn briodol i leihau eu nifer. Edrychwyd ar sut y gellid gwneud hynny yma. 'Dwi hefyd yn derbyn bod Hain yn falwr cachu o'r radd flaenaf, a bod ei ddadl ar yr wyneb yn nonsens llwyr. Yn wir, petai nifer yr etholaethau San Steffan yn cael eu torri ni fyddai'n rhaid ethol mwy o aelodau rhestr fel mae Syniadau yn awgrymu. Pan dorwyd y nifer Aelodau Seneddol yn yr Alban, cadwyd at yr hen etholaethau yn etholiadau Holyrood. Yn wir credaf i ambell i etholaeth newydd ymddangos - er enghraifft daeth Orkney & Shetland yn ddwy etholaeth yn hytrach nag un.

Yr hyn sydd yn fy mhoeni ydi na fydd y Toriaid eisiau gwanio San Steffan mewn cymhariaeth a'r Cynulliad. Mae eu hanes o wrthwynebu democrateiddio Cymru yn wirioneddol gywilyddus. Roeddynt yn gwrthwynebu sefydlu'r Cynulliad - ac roeddynt yn gwrthwynebu gadael i bobl Cymru gael mynegi safbwynt ar y mater - roedd Major, Redwood, Thatcher, Hunt a Walker yn gwybod yn well na phobl Cymru beth sy'n dda iddynt dach chi'n gweld.

Os ydan ni'n mynd yn ol mewn hanes (i'r gorffennol pell neu agos) mae'r Toriaid wedi bod yn blaid cwbl wrth ddemocrataidd mewn cyd destun Cymreig - ac mewn cyd destun ehangach na hynny. Eu patrwm arferol yng Nghymru ydi gwrthwynebu pob dim nes bod rhaid ildio- S4C, datganoli, sefydlu yr Eglwys yng Nghymru, y Swyddfa Gymreig. Adlewyrchiad ydi hwn o batrwm ehangach o wrthwynebu democratiaeth pan maent yn gweld hwnnw'n fygythiad i'r 'cyfansoddiad' Prydeinig - coleddu'r Ymerodraeth, gwrthwynebu ymestyn yr hawl i bleidleisio, gwrthwynebu hunan reolaeth i'r Iwerddon hyd yn oed pan roedd yn gwbl glir bod mwyafrif llethol eisiau hynny, gwrthwynebu hawliau cyfartal i Babyddion ac ati, ac ati.

Felly ydi hi'n bosibl y bydd y Toriaid yn ceisio gwanio'r Cynulliad pan fyddant mewn grym? Wel ydi siwr - mae'n sicr yn bosibl. Lleihau nifer yr ACau fyddai un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hynny - ac mi fyddai lleihau nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig yn esgys da tros wneud hynny.

Monday, November 02, 2009

Ydi Edwina o dan straen?


Fe gofiwch ras y crwbanod - y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig - sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers rhai canrifoedd bellach. Yn ol Vaughan mae'r crwban benywaidd o'r farn bod y Western Mail yn "Tory rag", y BBC yn "cael ei rhedeg gan Blaid Cymru" a bod busnesau yn "our class enemy".

'Dwi'n poeni am Dwi Dwis. Mae'r blog hwn eisoes wedi trafod perthynas losgachol y Bib a'r Blaid Lafur Gymreig. Byddai'r syniad bod Trinity Mirror yn Doriaidd yn ddigri oni bai ei fod yn dod o gyfeiriad rhywun sydd eisiau arwain y wlad, a dydw i ddim yn gwybod beth i'w feddwl am y datganiad syfrdanol bod byd busnes yn elyn i blaid Michael Levy,Geoffrey Robinson, David Sainsbury, Barry Ecclestone, Gulam Noon, David Garrard, Chai Pate, Richard Caring, Christopher Evans, Rod Aldridge ac ati, ac ati.

Y mwyaf yn y byd 'dwi'n meddwl am y peth y mwyaf argyhoeddiedig ydw i nad ydi Dwi Dwis lawn llathen ar hyn o bryd - os ydi stori Vaughan yn wir. Os nad oes yna lechen bach ar goll oddi ar ei tho, yna fi ydi brenin Sbaen, Tony Blair ydi'r dyn mwyaf gonest yn Lloegr, Llais Gwynedd ydi plaid fwyaf deallusol Ewrop, David Melding ydi Obama gwleidyddiaeth Cymru, Elinor Burnam fydd arweinydd nesaf Lib Dems Prydain, David Davies ydi'r Cymro gorau ers Emrys ap Iwan a blog Ceidwadwyr Aberconwy ydi'r fangref fwyaf poenus o besimistaidd ar y We.