Saturday, November 14, 2009

Gordon Brown, Helmand a De Armagh

Dydw i ddim yn arbenigwr ar ryfeloedd - a dweud y gwir does gen i ddim mewath o ddiddordeb yn y pwnc - ond mae'n rhaid i mi nodi bod y sbwriel sy'n cael ei ddweud i gyfiawnhau'r rhyfel gorffwyll yn Afghanistan yn fy ngwylltio'n gacwn. Roedd Gordon Brown wrthi bymtheg y dwsin fore ddoe ar Today, Radio 4 yn egluro pa mor bwysig oedd rhyfela er mwyn stopio'r holl 'gynllwynio' gan derfysgwyr i ymosod ar Brydain sy'n mynd rhagddo o ddydd i ddydd yn Afghanistan yn gyffredinol, a thalaith Helmand (lle mae'r fyddin Brydeinig yn cwffio) yn benodol.

Milwyr Prydeinig yn Helmand

Hyd yn oed os ydym yn rhoi'r ffaith gweddol amlwg nad oes gennym unrhyw le i feddwl i'r un ymysodiad terfysgol ym Mhrydain gael ei gynllunio yn Afghanistan o'r neilltu am eiliad neu ddwy, mae'r ddadl yn dal mor idiotaidd ag ymdrechion diweddar Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffiths i gyfiawnhau'r ymarferiad. Chwi gofiwch i Nia ddadlau bod rhaid i ni ymladd yn Afghanistan er mwyn stopio'r holl heroin sy'n cyrraedd strydoedd Llanelli - tra mai'r gwirionedd ydi nad oedd yna nesaf peth i ddim opiwm yn cael ei dyfu yn Helmand pan ymysododd byddin Prydain ac America ar y lle.

Ychydig fisoedd wedi'r cadoediad cyntaf yng Ngogledd Iwerddon roeddwn ar wyliau yn Iwerddon. Roedd rhaid i mi yrru trwy ardal De Armagh i gyrraedd fy man gwyliau. Ar y pryd mae'n debyg mai'r darn bach yma o dir oedd yr un efo'r presenoldeb milwrol mwyaf dwys yn Ewrop. Roedd yn rhyfeddol i'w weld - hofrenyddion yn hofran yn uchel, uchel yn yr awyr - ymhell o afael y Barrets islaw, canolfannau monitro ar ben pob pwt o fryn, a chanolfannau milwrol sylweddol oedd yn edrych fel llongau tanfor metel wedi eu cofleidio gan we pry cop o wifrau pigog yng nghanol man bentrefi a threfi. Doedd yna ddim cerbydau milwrol, fel oedd i'w gweld yn llawer o weddill y Gogledd - doedd hi ddim yn saff iddynt fod ar lonydd gwledig yr ardal yma. Roedd rhaid anfon hofrenyddion i wagio biniau'r sefydliadau milwrol a mynd a bara a bagiau te yno. Yr unig le i mi weld milwyr oedd yng nghysgod y sefydliad milwrol enfawr oedd wedi ei leoli ar sgwar tref fechan Crossmaglen. Roeddynt yn symud yn barhaol, fel na allai saethwyr gael cyfle i sefydlogi eu gynnau'n ddigon hir i'w saethu.

Golf Five Zero watchtower

Roedd y rhan yma o Ogledd Iwerddon yn dir anodd, os nad amhosibl i'w reoli'n filwrol oherwydd natur y tirwedd (anghysbell a bryniog) a natur y boblogaeth leol. Does yna ddim Protestaniaid yn byw yno, a doedd yna ddim cydymdeimlad o gwbl tuag at y fyddin Brydeinig ymysg y Pabyddion lleol. Roedd ansawdd y gwrthwynebwyr lleol hefyd yn ffactor pwysig. I raddau gellir dadlau mai ymddangosiad y fyddin Brydeinig yn Ne Armagh oedd yn gyfrifol am greu'r IRA yno, ac mai dwysedd eu presenoldeb tros y blynyddoedd a arweiniodd at esblygiad y corff hwnnw i'r uned fwyaf effeithiol i'r IRA ei chael ers y Rhyfel Eingl Wyddelig.

'Rwan, oes yna unrhyw un yn ei lawn bwyll yn credu bod y presenoldeb milwrol enfawr yma ar ddarn cymharol fach o dir wedi 'atal cynllwynio' gan derfysgwyr yn erbyn y DU? Roedd y lle'n gwch gwenyn o gynllwynio yn erbyn y wladwriaeth am chwarter canrif - ac roedd ymysodiadau ar filwyr Prydeinig yn fynych ac yn gwbl ddi drugaredd yn yr ardal ei hun, ac yn yr ardaloedd sy'n ffinio a hi.

Ond roedd goblygiadau ehangach na hynny. Un o nodweddion misoedd olaf y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon oedd y bomiau anferth a ffrwydrwyd gan yr IRA yn ninasoedd mawr Lloegr. Ffrwydriad felly yn Canary Wharf, Dwyrain Llundain ddaeth a'r cadoediad cyntaf i ben. Mae'n hysbys bellach bod y bomiau hyn wedi eu hadeiladu i mewn i gyrff loriau ar ffermydd yn Ne Armagh - o dan drwyn yr holl offer monitro a chlustfeinio a'r is strwythur milwrol enfawr.

Ar un olwg mae'n rhyfedd bod yr IRA yn ganolog wedi dewis gofyn i'w pobl mewn ardal oedd o dan warchau milwrol i gymryd cyfrifoldeb am rhywbeth oedd, oherwydd maint y bomiau a'r problemau technegol o'u symud i Loegr, yn fuddsoddiad enfawr iddynt. Ond roedd ganddynt reswm da - roeddynt yn gwybod bod gan eu pobl yn Ne Armagh yr arbenigedd, y penderfyniad a'r ymroddiad i ymgymryd a'r dasg yn effeithiol. Roeddynt hefyd yn gwybod eu bod o dan llai o bwysau o lawer yn y rhan yma o'r Gogledd nag yn yr unman arall. Mewn geiriau eraill roeddynt yn teimlo'n saffach yn Ne Armagh nag oeddynt yn yr un rhan arall o'r ynys - er gwaethaf y presenoldeb milwrol anferth.

Daw hyn a ni'n ol at Helmand. Mewn rhai ffyrdd mae'n debyg i Dde Armagh - tirwedd anodd, traddodiad o wrth ryfela, poblogaeth unffurf o ran cefndir ethnig, grwpiau tyn o wrthryfelwyr sy'n aml yn perthyn i'w gilydd trwy waed a phoblogaeth sy'n gefnogol iddynt. Ond mae yna wahaniaethau mawr hefyd - mae De Armagh yn llai na Dwyfor o ran poblogaeth ac arwynebedd. Mae Helmand yn gartref i 1,441,769 o bobl ac mae'n 58,584 km sgwar o ran maint - bron i dair gwaith arwynebedd Cymru gyfan, mae'n llawer mwy anghysbell na De Armagh, mae'r tirwedd yn fynyddig yn hytrach na bryniog ac mae'r tywydd yn y gaeaf yn llawer iawn gwaeth. Mae'r fyddin hefyd yn ymladd yn erbyn pobl sy'n credu eu bod yn ymladd rhyfel sanctaidd.

Ymddengys bod Brown (a'r sefydliad Prydeinig yn ei gyfanrwydd) o dan yr argraff bod y fyddin am fod yn fwy llwyddiannus wrth geisio atal 'cynllwynio' yn erbyn Prydain yn y dalaith yma filoedd o filltiroedd o Brydain, nag oeddynt ar glwt bach o dir gwyrdd ar eu stepan drws nhw'i hunain.

' Dydw i ddim yn gwybod os i chwerthin ta chrio.

No comments: