Wednesday, November 18, 2009

Mwy o lwyddiant yn sgil Cymru'n Un


Mae Cymru'n Un eisoes wedi symud yr agenda genedlaetholgar yn ei blaen:

  • Strategaeth addysg Gymraeg,
  • LCO iaith ar y ffordd
  • Y polisi treftadaeth mwyaf cenedlaetholgar yn hanes Cymru
  • Coleg ffederal yn yr arfaeth
Ac 'rwan mae cil y drws yn fwy nag agored i refferendwm ar bwerau deddfu llawn i'r Cynulliad.

Ychwanegwch at hyn y ffaith bod llywodraeth Cymru yn llawer mwy poblogaidd a chyda llawer mwy o hygrededd iddi nag un y DU, ac mae'n amlwg mai dyma'r llywodraeth mwyaf effeithiol o lawer iawn, iawn o ran hyrwyddo buddiannau Cymru i ni ei chael hyd yn hyn.

1 comment:

Anonymous said...

Dwi'n meddwl for eu polisi trafnidiaeth yn un da hefyd parthed ail agor hen linallau er.....fod hyn i gyd wedi digwydd yn y de-ddwyrain hyd yn hyn. Mae eisiau adeiladu ar hy wrthgwrs....llinell o'r de i'r gogledd rhywbryd yn y degawd nesaf....o fewn cyffuniau Cymru!