Thursday, December 31, 2009

Graffiau a 'ballu

Dau graff wedi eu dwyn oddi wrth y wefan arbennig honno politicalbetting.com ydi'r isod. Mae'r ddau yn rhoi cip bach rhyfedd i ni ar wleidyddiaeth etholiadol Prydeinig.

Graff sy'n dangos y berthynas rhwng pris petrol a'r gefnogaeth i'r Blaid Lafur ydi'r cyntaf:

'Dydw i ddim yn meddwl bod neb yn meddwl bod yna rhyw berthynas uniongyrchol rhwng y bwlch rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol a phris tanwydd - ond siawns bod yna rhywfaint o berthynas rhwng y ddau beth - ac mae'r graff yn tynnu sylw at hynny.

Mae'r ail graff yn troi'r wireb wleidyddol bod cyfraddau pleidleisio uchel yn llesol i'r Toriaid, tra bod cyfradd isel yn dda i Lafur, ar ei phen:

Yr hyn mae'r graff yma yn ei awgrymu ydi bod dwy frwydr yn digwydd ym mhob etholiad cyffredinol, y naill ar y Dde a'r llall ar y Chwith. Brwydr rhwng y Toriaid a thueddiad i beidio a phleidleisio sy'n mynd rhagddi ar y Dde, tra mai brwydr rhwng i Lib Dems a Llafur a geir ar y Chwith. 'Does yna ddim llawer o newid tros amser yn y bleidlais Toriaid + Ddim yn fotio nag yn y bleidlais Llafur + Lib Dems - dim ond y dosbarthiad oddi mewn i'r patrwm sy'n newid.

'Dwi ddim yn rhy siwr beth i'w ddweud am hwn - mae'r patrwm yn rhyfeddol o gyson ac mae llinellau Llafur / Lib Dems a'r Toriaid / Ddim yn Pleidleisio yn adlewyrchiadau drych o'i gilydd. Mae'n mynd yn groes i'r hyn y bydd polau piniwn yn ddweud wrthym yn aml - sef bod symud arwyddocaol rhwng y Dde a'r Chwith mewn rhai etholiadau - ond mae cysondeb y llinellau yn dal llygaid dyn.

Beth bynnag mae'n lle i rhywun feddwl.

No comments: