Saturday, December 12, 2009

Senedd grog, Holtham a chyfle heb ei ail i'r Blaid


Bydd gwleidyddion yn ymateb i ganfyddiadau sal gan y cwmniau polio yn aml trwy ddweud mai dim ond etholiadau go iawn sy'n bwysig. Rwan, mae yna etholiadau go iawn yn cael eu cynnal bron i bob dydd Iau trwy'r flwyddyn. Is etholiadau y cynghorau lleol ydi'r rhan fwyaf ohonynt. I'r sawl sydd a diddordeb gellir gweld y rhan fwyaf o'r canlyniadau wythnosol yma. Y Lib Dems sy'n cynnal y safle gyda llaw - sy'n profi nad ydi hyd yn oed y blaid honno yn gwbl ddi bwrpas.

O edrych ar ganlyniadau'r ychydig fisoedd diwethaf yr hyn sy'n amlwg ydi mor sal ydi perfformiad y Toriaid ar lefel lleol. Mae'r mater wedi derbyn ychydig o sylw ar flog y Tori, Iain Dale, ac ar ConservativeHome. Cymerer canlyniadau nos Iau diwethaf er enghraifft. Symudiadau canrannol y Toriaid oedd -14%, -11%, +2%, -30%, -10%, -3%, -13% a -8%. Collwyd tair sedd, dwy i Lafur ac un i'r Lib Dems. Mae'r canlyniadau yma'n eithaf erchyll - ond dydyn nhw ddim llawer gwaeth na beth sydd wedi bod yn digwydd pob nos Iau am rai misoedd.

Mae'n rhaid pwysleisio mai cwymp yng nghanran eu pleidleisiau oddi ar etholiadau lleol ar ol 2005 ydi'r canlyniadau hyn - a gwnath y Toriaid yn dda yn y rhan fwyaf o'r rheiny. Mae'r Toriaid hefyd yn rheoli llawer o gynghorau ar hyn o bryd, a dydi'r sawl sy'n rheoli cynghorau ddim yn boblogaidd mewn aml i ardal ar hyn o bryd. oherwydd nad ydi'r hinsawdd economaidd yn dda ac mae pleidiau lleol yn gorfod ymateb i hynny.

Serch hynny o gymryd y patrwm gweddol gyson yma ar lefel lleol, ynghyd a pherfformiad llai na gwych y Toriaid yn y polau 'cenedlaethol' yn ddiweddar, mae'n briodol gofyn faint o wynt sydd yn hwyliau'r blaid mewn gwirionedd? Yn sicr dydi'r ffigyrau yn y polau ddim yn agos at lle'r oedd rhai Llafur yn ol yn 1996. Dydyn nhw ddim chwaith wedi perffeithio naratif gwleidyddol effeithiol na magu delwedd atyniadol sy'n hawdd ei marchnata, fel y gwnaeth Llafur ynh nghanol y nawdegau.

Mae hyn oll yn rhoi cyfle heb ei ail i Blaid Cymru yn etholiadau San Steffan. Prif thema'r etholiad hwnnw fydd yr economi, ac effaith tebygol toriadau mewn gwariant cyhoeddus. Bydd hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, gan bod ein heconomi'n fwy dibynnol ar wariant cyhoeddus na sy'n wir yn Lloegr a'r Alban.

Os bydd canfyddiad bod posibilrwydd o senedd grog fel mae'r etholiad yn dynesu, yna bydd hynny'n cynnig cyfle go iawn i'r Blaid. Mantra Llafur yng Nghymru fydd - fotiwch i ni neu mi gewch chi doriadau Toriaidd (mae toriadau Toriaidd yn waeth na rhai Llafur dach chi'n gweld). Ymateb y Blaid ddylai fod - ein pris ni am gefnogi llywodraeth yn San Steffan ydi gweithredu argymhellion Holtham yn llawn ac ar unwaith.



Mi fyddwch yn gwybod mai adroddiad gan Gerald Holtham ar y ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu ydi Adroddiad Holtham. Comisiynwyd yr adroddiad yn sgil cytundeb Cymru'n Un. Mi fyddwch hefyd yn gwybod mai un o brif gasgliadau Gerald Holtham yw nad yw Cymru'n cael yr adnoddau sy'n briodol iddi. Byddai gweithredu'r argymhellion yn golygu y byddai Cymru'n elwa o rhwng £5 biliwn ac £8 biliwn tros y ddegawd nesaf o gymharu a'r drefn bresenol.

'Dwi'n hollol argyhoeddiedig mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o facsimeiddio cefnogaeth y Blaid mewn etholiad cyffredinol fel un 2010 - etholiad fydd yn cael ei hymladd mewn tirwedd lle mai'r bygythiad i wariant cyhoeddus fydd y prif bwnc.

Am y tro cyntaf erioed efallai mewn etholiad cyffredinol byddwn yn gallu dadlau'n ddifrifol mai pleidlais i'r Blaid ydi'r ffordd orau i bobl sicrhau eu budd economaidd nhw eu hunain yn y tymor byr a'r tymor canolig. Yn y gorffennol dydan ni ddim wedi gallu gwireddu'n potensial mewn etholiadau oherwydd mai pleidiau Prydeinig oedd yn gallu cynnig addewid o ddyfodol economaidd gwell i bobl.

O fod yn lwcus, ac o chwarae'n cardiau'n iawn, gallwn droi'r sefyllfa ar ei ben y tro hwn.

No comments: