Friday, December 04, 2009

Tybed os mai'r dyn yma ydi'r bygythiad mwaf i undod y DU ar hyn o bryd?


Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fydd hanner darllenwyr y blog yma yn gwybod mai Jim Allister ydi'r gwr bonheddig uchod, ac mai fo ydi arweinydd efallai'r blaid fwyaf newydd yn y DU - y TUV - plaid y Traditional Unionist Voice. Serch hynny mi fyddwn i yn dweud ei fod yn fwy o fygythiad i undod y DU nag Alex Salmond.

Plaid ydi'r TUV a dorrodd oddi wrth plaid fwyaf Gogledd Iwerddon, y DUP wedi i'r blaid honno rannu grym efo Sinn Fein yn Stormont. Mae cyn aelod Ewropiaidd y DUP a'i blaid newydd yn daer yn erbyn gwneud y ffasiwn beth. Mae'r TUV wedi sefyll mewn dwy etholiad ers iddi gael ei ffurfio - mewn is etholiad llywodraeth leol yn Dromore, ac yn etholiadau Ewrop. O ganlyniad i'r ymyraeth yma collodd y DUP eu sedd yn Dromore, a chollasant hefyd eu lle traddodiadol ar ben y pol yn etholiad Ewrop.



Llwyddiant y TUV sydd y tu ol i din droi'r DUP ynglyn a chytuno i ddatganoli pwerau goruwchwylio plismona i Ogledd Iwerddon. I'r graddau eu bod wedi gorfodi'r DUP i arafu'r broses ddatganoli mae'r TUV eisoes wedi llwyddo - ond mae eu huchelgais yn uwch na hynny. Byddant yn sicr o sefyll yn erbyn y DUP mewn rhai seddi yn etholiadau San Steffan, a gallai hynny'n hawdd gostio seddi i'r rheiny - rhai i'r UUP oherwydd hollti'r bleidlais fwy eithafol, ac o bosibl un neu ddwy i'r TUV ei hun. Ymddengys mai'r TUV a ddaeth yn gyntaf yn North Antrim, etholaeth Ian Paisley yn etholiadau ewrop, a bydd Allister ei hun yn sefyll yno'r tro nesaf.

Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon, 2011 ydi gwir darged Allister fodd bynnag. Ei obaith ydi ennill digon o seddi i atal y DUP rhag dod yn gyntaf. Mae'n debyg y byddai hynny'n arwain at benodi Martin McGuinness yn Weinidog Cyntaf y dalaith. Byddai hynny'n anerbyniol i unoliaethwyr o pob lliw, a byddai hynny yn ei dro yn arwain at ddiwedd i'r Cynulliad. Yr unig beth y byddai Allister yn ei hoffi mwy na hynny fyddai Cynulliad heb y mecanweithiau rhannu grym ynghlwm a fo. 'Dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd.

Rwan, mae hyn oll, yn y tymor canolig, yn broblem sylweddol i unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon, a dyma pam. Mae'n debyg bod pob cohort blynyddol o dan tua 30 oed yn y dalaith gyda mwyafrif Pabyddol. Mae perthynas agos iawn rhwng cefndir crefyddol a sut y bydd pobl yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, gyda Phabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar a Protestaniaid yn pleidleisio i rai unoliaethol. Mewn deg i bymtheg mlynedd bydd mwy o etholwyr o gefndir Pabyddol nag o gefndir Protestanaidd. Mae'n debygol felly y bydd y bloc o bleidiau cenedlaetholgar yn fwy na'r un unoliaethol.

Mewn amgylchiadau fel hyn mae'n bwysig i'r unoliaethwyr geisio apelio at Babyddion, ac mae ganddynt rhywfaint o le i weithio efo fo. Er enghraifft, mae yna lawer o Babyddion yn gweithio yn sector gyhoeddus enfawr y Gogledd, mae'r sector cyhoeddus yn y De yn llai o lawer. Ond mae'n dalcen caled - mae yna hen, hen ddrwgdybiaeth o'r traddodiad unoliaethol ymysg Pabyddion yng Ngogledd Iwerddon.

Y peth diwethaf mae'r achos unoliaethol ei angen ar hyn o bryd ydi symud i'r Dde, a dyna yn union maen nhw yn ei wneud. Mae'r canfyddiad ohonyn nhw eu hunain fel mwyafrif (yng Ngogledd Iwerddon) yn ganolog i'r hunaniaeth unoliaethol. Bydd rhaid iddynt ddysgu byw yn absenoldeb y canfyddiad hwnnw tros y blynyddoedd nesaf, a dod o hyd i strategaethau newydd o ddenu cefnogaeth amgen. Oni wneir hyn, gallai Gogledd Iwerddon yn hawdd beidio a gweld ei phenblwydd yn gant yn 2021. Os ydynt i ddathlu'r diwrnod hwnnw mae'r achos unoliaethol angen Jim Allister yn yr un ystyr nag mae angen twll yn ei ben.

No comments: