Saturday, January 09, 2010

Toriaid Aberconwy a'r gyfundrefn etholiadol

'Dwi'n poeni braidd am Geidwadwyr Aberconwy.

Mewn blogiad lled hysteraidd diweddar maent wedi cael eu hunain mewn dipyn o stad oherwydd bod canfaswyr Plaid Cymru yn dweud wrth etholwyr yr etholaeth mai dim ond y Blaid all guro'r Toriaid yn lleol, ac yn gofyn am bleidlais ar y sail hwnnw. Ymddengys mai desperate stuff a negative politics ydi hyn. Ymddengys hefyd (rhywsut, rhywfodd) bod hyn yn gyfaddefiad na all y Blaid ennill yn Aberconwy - datganiad sydd yn negative politics ynddo'i hun.

Yn unol a fy adduned blwyddyn newydd hwyr 'dwi am drio bod yn gydymdeimladol. Mi fyddai'n well o lawer gen innau hefyd petai pleidiau yn gwerthu eu hunain ar sail yr hyn ydynt yn hytrach nag ar sail yr hyn nad ydynt. O wybod gair mor ofnadwy ydi rhagrith yng ngeiriadur Ceidwadwyr Aberconwy 'dwi'n hollol siwr y byddant yn ymosod yn ffyrnig ar Geidwadwyr Wrecsam, Ceidwadwyr Dwyrain Casnewydd, a Cheidwadwyr Gorllewin Abertawe pan y byddant yn honni mai dim ond nhw all guro Llafur - a chredwch fi, mi fyddant nhw'n dweud hynny, ac maen nhw'n dweud hynny eisoes.

'Dydw i ddim mor feirniadol fodd bynnag. Mae'r system etholiadol sydd gennym - First Past the Post (FPTP) yn un hynod o anheg. Mae hefyd yn ddull etholiadol sy'n cynnig ei hun i wleidydda negyddol. Dyna pam bod plaid mor ddi ddim (ond hynod negyddol) a'r Lib Dems efo cymaint o seddi. Y blaid sydd fwyaf hoff o'r gyfundrefn etholiadol sydd ohoni ydi'r Toriaid. 'Dydi o ddim yn cymryd athrylith i ddeall pam - mae'r system fwy neu lai yn sicrhau bod y Toriaid, neu ei chwaer blaid adain dde, ryfelgar (New Labour) mewn grym yn barhaol. Os nad ydi twidl tym yn ceisio concro'r Byd, yna mae twidl di wrthi.

Mae etholiadau yn bethau digon Darwinaidd - mae'r sawl sy'n cwffio fwyaf caled - ac effeithiol - yn ennill y dydd. Mi fydd Ceidwadwyr Dwyrain Casnewydd yn edrych ar yr hyn sydd rhaid ei wneud i ennill, ac yn gwneud hynny. Felly hefyd Pleidwyr Aberconwy. Felly hefyd Ceidwadwyr Aberconwy, dyna pam mae nhw'n ceisio cysylltu Plaid Cymru efo Llafur - hyd yn oed pan mae'r cysylltiad maent yn ceisio ei sefydlu yn un gwan iawn.

Efallai bod Ceidwadwyr Aberconwy yn anghytuno efo FPTP. 'Dydyn nhw heb ddweud hynny hyd yn hyn. Fydda i ddim yn cymryd eu udo hysteraidd am bod pleidiau eraill yn defnyddio tactegau etholiadol sy'n addas i'r gyfundrefn mae eu plaid mor hoff ohoni gormod o ddifri hyd iddynt roi rhyw fath o gliw nad ydynt yn cefnogi'r system honno.

Hyd hynny, gallwn gymryd mai llwyth o ragrith ydi brefu hunan dosturiol Ceidwadwyr. Aberconwy.

No comments: