Sunday, January 31, 2010

Y Cynghorydd Tew eto

Ymddengys bod gwirionedd yn y stori sydd wedi ei rhedeg ar y blog hwn a rhai eraill ynglyn ag ymddiswyddiad Dennis Tew o'r blaid Geidwadol - mae gwefan Ceidwadwyr Aberconwy yn cydnabod hynny bellach.

Dydi'r blaid yn lleol ddim yn cymryd y peth yn arbennig o dda - gan dyllu ar ol nifer o resymau pam nad ydi Mr Tew yn golled fawr, gan gynnwys ei ymddswyddiad anisgwyl o swydd Sion Corn Cyngor Tref Conwy, y ffaith ei fod yn costio seddi eraill i'r Ceidwadwyr a'i fod yn gwneud unreasonable demands in relation to his continued position as a Conservative candidate at the next council elections. beth bynnag ydi hynny yn ei olygu.

Mae'r straeon ei fod yn ymuno a Phlaid Cymru hefyd yn fater o dristwch i Geidwadwyr Aberconwy, yn wahanol i pan newidiodd Oscar ei got a throi at yn Dori. Yn wir mae'n dystiolaeth o pa mor ruthless ydi'r Blaid. yn gwneud i Mr Tew druan hyrwyddo socialist and independent Wales’.

Ond ta waeth, dydi'r holl ddigwyddiad ddim yn debygol o effeithio ar ganlyniad etholiad San Steffan yn yr etholaeth, ac mi'r rydan ni'n derbyn adroddiadau rheolaidd yn egluro i ni pa mor rhyfeddol o lwyddiannus ydi'r ymgyrch yn Aberconwy. Felly mae yna ddiwedd hapus i'r stori wedi'r cwbl.

Diolch byth am hynny.

2 comments:

Anonymous said...

Roedd y penawd wedi gwneud i mi feddwl bod diet er lles elusen aelod o Gyngor Gwynedd wedi mynd yn ffliwt...

Dyliwn fod wedi ddarllen gweddil y strori cyn dod i ganlyniad or fath!

;-)

Cai Larsen said...

Cweit.

Doeddwn i heb feddwl am ystyr Cymraeg y gair am rhyw reswm.