Thursday, January 21, 2010

Ydi senedd grog yn bosibl?

Mae'r newyddion anisgwyl bod y Toriaid wedi cynnal trafodaethau efo'r ddwy brif blaid unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yn codi cwestiwn diddorol - ydi'r Toriaid yn poeni nad ydynt am gael mwyafrif llwyr yn etholiad eleni? 'Dydi o ddim yn syndod eu bod wedi trafod efo'r UUP/UCUNF, mae yna rhywbeth yn ymylu ar briodas rhwng y ddwy blaid, ond 'does yna erioed wedi bod fawr o gariad rhwng y DUP a'r Toriaid ac mae yna beryglon mewn ymddangos amgenach i ochri efo'r blaid honno. Ffelly mae'n anodd gweld beth yn union fyddai pwrpas y trafodaethau oni bai eu bod yn paratoi'r tir am gytundeb o rhyw fath wedi'r etholiad.

Pam felly y byddai'r Toriaid yn poeni os ydynt am lwyddo i gael mwyafrif ? - wedi'r cyfan maent ymhell ar y blaen yn y polau. Mae rhan o'r ateb yn dod o'r ffaith bod y gyfundrefn sydd ohoni yn anheg iawn efo'r Toriaid - mae yna lawer mwy o bobl yn byw mewn etholaethau Toriaidd na mewn rhai Llafur at ei gilydd, felly mewn ffordd, maent angen mwy o bleidleiswyr i ennill sedd.

O chwarae efo'r ffigyrau mae patrwm digon anisgwyl yn ymddangos. Petai'r Toriaid (dyweder) yn cael 39%, Llafur 30% a'r Lib Dems 20% byddai'r Toriaid 8 yn brin o fwyafrif tros bawb arall. Nid yw'r ffigyrau yma ymhell iawn oddi wrth rhai o'r polau diweddar.

Petai Llafur efo 39%, y Toriaid efo 30% a'r Lib Dems efo 20% (rhywbeth sydd ddim am ddigwydd wrth gwrs), yna byddai gan Lafur fwyafrif o 116 sedd.

Petai'r Toriaid yn cael 37% i 31% gan Lafur yna byddai cyfanswm seddau'r ddwy blaid yn debyg iawn gyda gwahaniaeth o efallai bymtheg sedd. Mae gan y pleidiau unoliaethol rhyngddyn nhw ddeg o seddi.

I fod yn siwr o fwyafrif mae'r Toriaid angen bod yn gyfforddus yn y pedwar degau, neu mae Llafur angen bod yn y dau ddegau. Mae llawer o'r polau yn awgrymu hynny, ond dydyn nhw i gyd ddim o bell ffordd - ac mae yna cryn dipyn o bolio preifat gan y pleidiau wrth gwrs.

Mi fyddwn i'n rhoi'r tebygrwydd o fwyafrif llwyr Toriaidd yn tua 70% - 30%. Mae'r ffaith bod y Toriaid mewn trafodaethau efo'r DUP yn awgrymu eu bod hwythau hefyd o'r farn bod eu gobeithion cryn dipyn yn is na 100%.

No comments: