Thursday, February 11, 2010

Ymddygad bygythiol yn y gweithle



Mae polticalbetting.com wedi bod yn adrodd ar nifer o lyfrau diweddar gan bobl sy'n honni eu bod yn gyfarwydd a sut mae llywodraeth Prydain yn gweithio o ddiwrnod i ddiwrnod, llyfrau sydd yn codi cwestiynau eithaf sylfaenol am arddull arwain Gordon Brown.


Mae'r hyn a ddisgrifir ganddynt mewn gwirionedd yn sefyllfa lle mae yna batrwm o fwlio digon anymunol yn digwydd yng nghalon llywodraeth Llundain, a lle mai'r prif weinidog sy'n gyfrifol am lawer o'r bwlio hwnnw.

Rwan, mae bwlio yn y gweithle yn fater difrifol. Mae hefyd yn fater y byddai disgwyl i'r sawl sy'n gyfrifol am weithle roi sylw iddo'n ddiymdroi os oes honiadau yn cael eu gwneud. Mae amddiffyn staff ymysg prif ddyletswyddau cyflogwr, a byddai bwlio staff yn fater y dylid ei archwilio a'i gyfeirio i strwythur disgyblu'r corff dan sylw os oes sail i'r amheuon.

Rhan o'r broblem yma ydi mai'r prif weinidog sy'n gyfrifol am lawer o'r bwlio (os ydi'r straeon i'w credu). Fyddai hy ddim yn broblem yn y rhan fwyaf o weithleoedd sector gyhoeddus - mae gweithrefnau mewn lle i ddelio efo ymddygiad bygythiol ac amhriodol - hyd yn oed os mai'r sawl sydd yn rheoli sy'n gyfrifol am yr ymddygiad hwnnw. Mae'r ffaith nad oes trefn i ddelio efo'r sefyllfa yn dangos mor bell oddi wrth weithleoedd normal ydi San Steffan ar hyn o bryd - ffaith a danlinellwyd yn hynod glir gan y diffyg rheolaeth ariannol a ddaeth i'r amlwg yn sgil y sgandal treuliau diweddar. Mae'n weddol amlwg bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd, cyn y bydd gweithdrefnau llywodraethol y DU yn dal i fyny efo gweddill y byd gwaith.

Mae yna gwestiwn arall yn codi wrth gwrs. Ydi undebau gweision sifil yn euog o beidio cymyd eu dyletswyddau o ddifri os oes gwybodaeth fel hyn yn gyhoeddus, ond eu bod yn dewis peidio edrych i mewn i'r mater? Mi dybiwn mai ateb cadarnhaol sydd i'r cwestiwn hwnnw.

1 comment:

Dyfed said...

Rhan o'r broblem yw fod prif weinidog y DG mor rymus - yn gallu penodi a diswyddo gweinidogion heb fawr o broblem. Y 'royal prerogative' sy'n gyfrifol am hyny, dwi'n credu.
Dyfed.