Wednesday, March 24, 2010

Llafur angen pob pleidlais yn Llanelli

Nid fi sy’n dweud hynny ond Nia Griffiths – Aelod Seneddol Llanelli – and for me to be re elected as your Labour MP in Llanelli every vote counts.

Ar yr olwg gyntaf mae’n anodd gweld pam bod aelod gyda 20% o fwyafrif wedi cael ei hun yn y fath banic bod rhaid iddi anfon at pob etholwr unigol yn crefu am eu pleidlais ac yn dweud wrthynt bod pob pleidlais unigol o’r pwysigrwydd eithaf.


O graffu o dan yr wyneb fodd bynnag mae’n hawdd gweld pam. Ers perfformiad cryf Nia yn 2005 mae Llafur wedi wynebu tri etholiad gwirioneddol drychinebus yn Llanelli – etholiad y Cynulliad yn 2007, etholiadau cyngor yn 2008 ac etholiadau Ewrop yn 2009. Mae’r tri pherfformiad wedi bod yn waeth nag unrhyw berfformiad arall gan Lafur yn yr etholaeth ers canrif. Mae hefyd wedi bod ymhlith eu perfformiadau gwaethaf tros Gymru yn ystod cyfnod diweddar gwael iawn i Lafur. Mae trychinebau hyn oll wedi digwydd yn ystod cyfnod Nia fel y prif wleidydd Llafur yn yr etholaeth. O edrych ar bethau o’r cyfeiriad hwnnw ‘does ryfedd nad ydi Nia yn edrych ymlaen rhyw lawer i wynebu’r etholwyr.


Mae’r ohebiaeth yn codi nifer o gwestiynau eraill digon diddorol hefyd. Er enghraifft pryd cafodd Nia droedigaeth i fod o’r farn y dylid mynd ati i ddiwigio Barnett? Yn sicr roedd yn amddiffyn y gyfundrefn bresennol gwta flwyddyn yn ol ar CF99 mewn trafodaeth gydag Helen Mary Jones. Gallai’r gyfundrefn roedd yn ei hamddiffyn fod wedi costio hyd at £241 miliwn i etholaeth Llanelli tros gyfnod o ddegawd. Bellach ymddengys ei bod o’r farn mai dim ond Llafur all ddiwigio’r drefn.


Neu beth am hon? Mae’n rhestru gwahanol fudd daliadau sydd (meddai hi) o dan fygythiad os caiff y Toriaid eu hethol – ond dydi hi ddim yn son dim am Lwfans Byw i'r Anabl na Lwfans Gweini – mae yna gryn le i gredu y bydd Llafur yn cael gwared o’r ddwy lwfans os cant eu hail ethol, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn rhybuddio bod y newidiadau hyn ar y gweill ers tro. Ydi Nia yn anuniongyrchol yn cadarnhau hyn trwy eu gadael allan o’i rhestr?


Beth bynnag mae’r crefu am pob pleidlais a goslef hysteraidd rhannau o’r llythyr yn awgrymu bod Nia’n poeni'n ddirfawr. Gallai pethau fod yn ddiddorol yn Nhre’r Sosban tros yr wythnosau nesaf.



1 comment:

Anonymous said...

Pob Lwc i Myfanwy davies Weda i, Mae'n hyn bryd i gael wared a Nia Griffiths a llafur allan o Lanelli, Mae Llanelli wedi newid nid yw'n trefn diwydiannol y tin a'r haearn mwyach ond mae llafur yn dal i gadw'i hagwedd styfnig hen-ffasiwn sydd yn niweidio Llanelli, Plaid Cymru yr unig blaid i Gymru.