Sunday, April 25, 2010

Rali Aberystwyth







'Dwi wedi bod digon digywilydd i ddwyn lluniau rhai o fy nghyd flogwyr gan hyderu, neu o leiaf obeithio na fyddaf yn mynd i drafferth am dorri ar eu hawlfraint.

'Dydi raliau etholiadol heb fod yn rhy ffasiynol ers y llanast llwyr a wnaeth Neil Kinnock o flaen 10,000 o bobl yn ol yn 92 wrth gwrs. Serch hynny, mae'n rhaid canmol y Blaid am wneud yr hyn wnaethant - mae'n esiampl o sut mae'n bosibl pontio'r gagendor rhwng y ground war a'r air war yr oeddem yn son amdano yn y blog diwethaf, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi cyfle i'r frwydr ar lawr gwlad gael effaith ar y frwydr yn y cyfryngau.

Da iawn pawb oedd yn ymwneud a'r digwyddiad.

2 comments:

Anonymous said...

ti'n berffaith iawn. roedd yn ddigwyddiad bositif iawn ar ran y Blaid. Dwi'n amau ei fod yn ennill unrhyw bleidleiswyr newydd yn ei hun, ond mae'n rhoi hwb i'r 'trŵps' ac yn dangos fod Plaid yn rhedeg ymgyrch ar y strydoedd yn ogystal â'r teledu a'r we.

Cai Larsen said...

Ia - yr hyn mae pobl yn ei anghofio yn aml ydi mai hanner camp etholiad ydi cael dy bobl dy hun allan i bleidleisio - ac mae creu hwyl a chynwrf yn gwneud hynny'n haws.