Monday, April 05, 2010

UKIP a'r BNP pa mor wahanol?






‘Dydi UKIP ddim at ddant llawer ohonom. Mewn ambell i ffordd maent hyd yn oed yn fwy anymunol na’r blaid adain dde arall honno – y BNP. Er gwaethaf yr hiliaeth sydd ymhlyg ym mhob agwedd o fodolaeth y blaid honno, a’r amrediad eang o bolisiau cyfangwbl dwlali maent yn eu coleddu (rhoi AK47 i bawb sydd eisiau un, neu godi trethi i gyd trwy drethu gwariant) o leiaf mae’r blaid fach anymunol yma yn cydnabod bodolaeth y gwledydd Celtaidd ac yn credu mewn datganoli. Erbyn meddwl roedd Hitler yn ffeind iawn efo’i gi hefyd yn ol pob son. Ta waeth, ‘dwi’n crwydro – stori arall ydi honno.

‘Dydi UKIP ddim hyd yn oed yn cydnabod bodolaeth y gwledydd Celtaidd, a phetaent yn ennill grym yn Llundain byddant yn mynd at i gael gwared o’r senedd dai datganoledig – er gwaethaf y ffaith bod pobl y gwledydd Celtaidd wedi pleidleisio trostynt. Ymddengys ein bod wedi cael ein twyllo i bleidleisio fel y gwnaethom gan Ewrop fel rhan o gynllwyn enfawr i ddifa cyfundrefn lywodraethol draddodiadol y cyfandir.

Ond mi rydan ni i gyd yn gwybod o’r gorau fod UKIP yn llawer mwy parchus na’r BNP – ‘does ganddyn nhw ddim problem efo hiliau eraill wrth gwrs – mae’r ynys yn rhy llawn i gymryd yr holl bobl ‘da chi’n gweld – ac mae mewnfudo yn rhan o’r hen gynllwyn Ewropiaidd ofnadwy ‘na. Dim byd i’w wneud efo hen hiliaeth dosbarth gweithiol y BNP. Dim o gwbl. Dim.

A dyna ni eu hymgeiswyr a’u haelodau wrth gwrs. Mae pawb mae’n debyg gen i yn sylweddoli bod aelodau ac ymgeiswyr UKIP yn hollol wahanol i’r casgliad rhyfeddol o bobl sy’n sefyll ar ran y BNP – pobl fel Nick Erikson, David Lucas a Joseph Owens er enghraifft.

Cymerer er enghraifft eu darpar ymgeisydd ar gyfer etholiadau San Steffan ym Merthyr a Rhymni, Adam Brown. Mae Adam, sy'n gynghorydd tros y Gurnos, bellach yn cael mynychu gemau pel droed wedi cyfnod o 2000 i 2003 pan gafodd ei wahardd o pob cae pel droed ym Mhrydain yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau tra anffodus yn ystod gem rhwng QPR a’r Blue Birds.

’Ifanc a naïf‘ oedd Adam yn ol ei dystiolaeth ei hun. Mor wahanol i’r Adam cyfredol sy’n cael ei roi gerbron etholwyr Merthyr a Rhymni. Y llynedd cafodd ei hun mewn mymryn o ddwr poeth oherwydd iddo lawnsio pol rhyngrwyd awgrymog iawn oedd yn ymwneud a’r llofruddwraig Americanaidd enwog Amanda Knox. Teitl y pol oedd Amanda Knox. Would you _ _ _?.

Mae Adam yn honni bod ganddo gyfaill arbennig iawn mae hefyd yn ei gyflogi o’r enw Mr Ninian ('does yna neb ond Adam yn gwybod pwy ydi Mr Ninian), ac mae Mr Ninian yn llawn syniadau gwreiddiol a diddorol ynglyn a sut i ennill etholiadau. Er enghraifft, mae’n tynnu sylw defnyddwyr y wefan cardiffcity.com at y posibiliadau o wneud ceiniog neu ddwy ar y We trwy fetio tros Adam yn yr etholiad ar yr 80/1 (crintachlyd braidd yn fy marn i) mae Paddy Power yn ei gynnig am fuddugoliaeth i Adam, ac wedyn mynd at i bleidleisio trosto ym mis Mai.

A dyna wrth gwrs sy’n gwneud UKIP mymryn yn fwy derbyniol na’r BNP – ansawdd uchel eu haelodau a'u hymgeisyddion.

2 comments:

Anonymous said...

Ydy'r BNP yn derbyn datganoli? Oeddwn i'n meddwl eu bod nhw hefyd yn ei erbyn o? Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau blaid oedd bod un yn trio cuddio eu bod yn hiliol a bod y llall yn rhy dwp i guddio'r ffaith.

Siôn

Cai Larsen said...

'Dwi'n credu bod BNP o blaid ffederaliaeth Brydeinig.