Friday, April 16, 2010

Yr etholiad bach arall hwnnw.

Wedi treulio ychydig ddyddiau yng Ngogledd Iwerddon (Ballycastle, reit yn y gogledd ddwyrain - braf iawn - mi fyddwn yn ei argymell i unrhyw un sy'n hoffi cerdded a golygfeydd). Dyna pam bod y blog wedi bod mor ddistaw.

Mae yna etholiad yn y fan honno wrth gwrs - ond fel mae'r posteri isod yn ddangos mae yna rhywbeth hynod o am Mhrydeinig (os oes yna'r fath derm) amdani. Mae'r dalaith wedi ei phlastro gyda phosteri gyda llaw.

Mae themau'r etholiad hefyd yn gwbl estron - datganoli pwerau cyfiawnder, ymysodiadau terfysgol, ffrae rhwng yr SDLP a Sinn Fein ynglyn ag amharodrwydd y cyntaf i lunio cytundeb etholiadol, achos llys lle mae Jim Allister (TUV) yn mynd ag Ian Paisley jnr i'r llys oherwydd enllib honedig yn ei ohebiaeth etholiadol ac ysgyrnygu a rhincian dannedd go iawn gan bawb nad yw'n aelod o'r Eglwys Bresbetaraidd, oherwydd bod y trethdalwr yn gorfod dod o hyd i £200m i achub cynllun buddsoddi oedd ond yn agored i aelodau o'r eglwys honno.

Mi fyddai rhywun yn meddwl ei bod yn wlad wahanol oni bai bod y cyfryngau yn ein sicrhau nad yw fawr gwahanol i Cumberland.








Y Shinners fyddai'n ennill yr etholiad yn weddol hawdd petai posteri yn cael pleidleisio gyda llaw. Mae ganddynt fwy o bosteri i fyny nag ydynt yn debygol o gael i bleidleisio iddynt mewn ambell i etholaeth (megis East Antrim er enghraifft). Yn y llefydd trefol lle maent yn boblogaidd mewn gwirionedd, 'dydi hi ddim yn bosibl edrych i fyny unrhyw lon heb weld eu posteri.

No comments: