Monday, June 21, 2010

Jonathan yn cymryd mantais o lyfdra Carwyn


Mae erthygl gwirioneddol warthus ar Waleshome.com gan Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, Jonathan Morgan yn dangos yn eithaf clir y cyfeiriad mae penderfyniad llwfr Carwyn Jones wedi ein gyrru ni iddo. Am y tro wna i ddim mynd ar ol yr awgrym ar ddiwedd yr erthygl y dylai awdurdodau lleol geisio cynyddu'r galw am addysg cyfrwng Saesneg.

Chwi gofiwch i Carwyn benderfynu peidio a chymeradwyo cynlluniau ail strwythuro ysgolion Cyngor Caerdydd yn Nhreganna ar y sail y byddai'r cynlluniau hynny ddim yn gwella safon addysg cyfrwng Saesneg yn yr ward. Mi gofiwch hefyd mai canlyniad hyn ydi sicrhau bod camau'r Cyngor i ymateb i gyfarwyddyd y Cynulliad ei hun i ddelio a phroblem llefeydd gweigion yn ysgolion Treganna ac i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg yno bellach yn deilchion.

Mae Simon Brooks yn mynegi'r farn ar waelod yr erthygl bod yr hyn a ddigwyddodd yng Ngorllewin Caerdydd yn creu rhagfarn sefydliadol yn erbyn pobl sydd am i'w plant dderbyn addysg Gymraeg. 'Dwi ddim yn amau bod gwirionedd yn hynny, ond ystyriaethau etholiadol oedd y prif gymhelliad y tu ol i benderfyniad Carwyn Jones, nid rhagfarnau ethnig / ieithyddol.

Gall Llafur yng Nghaerdydd deimlo yn eithaf bodlon efo eu perfformiad yn etholiadau eleni. Roeddynt wedi gweld eu canran o'r bleidlais yn y ddinas yn cwympo'n gyson ar pob lefel ers penllanw etholiadol mawr 1997, ac roeddynt wedi colli Canol Caerdydd ar lefel Cynulliad a lefel San Steffan, a Gogledd Caerdydd ar lefel Cynulliad. Roeddynt hefyd wedi colli eu rheolaeth o'r Cyngor. Erbyn etholiadau Ewrop y llynedd roedd eu pleidlais mor isel nes awgrymu bod pob un o'u tair sedd yn y ddinas mewn perygl ar lefel San Steffan. Pan ddaeth yr etholiadau San Steffan yn eu tro cadwyd y Gorllewin a'r De yn eithaf hawdd, cauwyd y bwlch rhyngddynt a'r Lib Dems yn y Canol ac er i'r Gogledd gael ei golli roedd y gogwydd yn llawer, llawer llai nag oedd neb yn meddwl - yn wir gwnaethant cystal yn y Gogledd a rhoi cyfle go iawn iddynt ad ennill y sedd ar lefel Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Aelod Cynulliad ar ran Gogledd Caerdydd ydi Jonathan Morgan wrth gwrs, ac yng nghyd destun etholiadol dinas Caerdydd y dylid gweld ei erthygl Waleshome.com. Beth bynnag y 'rhesymu' swyddogol, ymateb i bwysau gan Lafur Caerdydd i wneud pethau'n haws iddynt wrthsefyll ymosodiad deublyg gan Blaid Cymru ar y naill llaw a'r Toriaid ar y llall y flwyddyn nesaf yng Ngorllewin y ddinas oedd Carwyn Jones pan ddaeth i'w benderfyniad ynglyn a Threganna.

Mae ardal yr Eglwys Newydd mor bwysig i'r Toriaid yng Ngogledd Caerdydd nag ydi Treganna i Lafur yn y Gorllewin ar lefel lleol a Chynulliad. Mae pethau'n glos rhwng Llafur a'r Toriaid yn ward fawr boblog yr Eglwys Newydd. Defnyddio yr union 'resymeg' a ddefnyddwyd tros beidio a chau Landsdowne gan Carwyn Jones mae Jonathan Morgan wrth ddadlau yn erbyn cau Ysgol Eglwys Newydd er mwyn ehangu'r sector cyfrwng Cymraeg. Os ydi Leighton Andrews yn bod yn gyson a 'rhesymeg' Carwyn Jones ac yn atal y cynlluniau oherwydd nad ydynt yn gwella'r ddarpariaeth Saesneg, gall Jonathan Morgan hawlio mai fo gadwodd trwyn Leighton ar y maen. Os mai'r ffordd arall y bydd pethau'n mynd gall Jonathan Morgan elwa yn etholiadol o'r penderfyniad yn ogystal a dadlau bod y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd yn bod yn anghyson - gan weithredu un rheol i ward Llafur, ac un arall i ward Doriaidd.

A dyna ydi problem cymryd penderfyniadau sydd yn y bon yn rhai gweinyddol am resymau etholiadol - mae'r broses yn cael eu llygru mewn modd sy'n galluogi gwleidyddion plwyfol a di egwyddor fel Jonathan Morgan ddefnyddio addysg plant bach fel pel droed wleidyddol er ei les etholiadol ei hun

2 comments:

John Roberts said...

Rwyf hynod o siomedig hefo Carwyn Jones, a nawr hefyd hefo Jonathan Morgan. Be ddigwyddodd i polisi Iaith Pawb? Mae'r holl beth yn llanast go iawn.

Y drwg yw fod ar un llaw mae yna lefydd gwag yn ysgolion gyfrwng Saesneg ag y llaw arall mae yna tyfiant fawr yn addysg Gyrmaeg, dau mater sy arwahan i'w gilydd ond cael ei trin fel un. Dyna'r drwg, wedyn ddaru Llafur wedyn chwarae gemmau gweleidyddol yn anffodus.

Simon Brooks said...

Rwy'n cytuno hefyd gyda llaw fod buddiannau etholiadol yn ffactor bwysig yn hyn oll. Mae gen i erthygl fer am hyn yn y Guardian yng Nghaerdydd:

http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/jun/08/comment-playing-the-language-card