Sunday, June 27, 2010

Y polau diweddaraf a'r Lib Dems

Ymddengys bod dau bol piniwn sydd wedi eu cyhoeddi heddiw yn awgrymu bod cefnogaeth y Lib Dems wedi syrthio yn sylweddol tros yr wythnosau diwethaf. Mae'n gryn gyfnod ers iddynt bolio cyn ised a 16% - cwymp o tua thraean o gymharu a'r etholiad cyffredinol. Mae'n gynnar yn hanes y glymblaid wrth gwrs, a gall pethau newid, ond mae hefyd yn bosibl bod patrwm newydd wedi ei sefydlu. Os felly beth fydd yr effaith yn y tymor canolig ar wleidyddiaeth Cymru?

Y newyddion da i'r Lib Dems o safbwynt y Cynulliad ydi bod eu perfformiad ar lefel Cynulliad mor sal nes ei bod yn anodd i'w nifer aelodau gwympo rhyw lawer. Chwech aelod yn unig a gawsant ym mhob un o etholiadau'r Cynulliad hyd yn hyn, mae'n anodd dychmygu y byddai eu pleidlais yn cwympo i'r graddau y byddant yn methu ag ennill un sedd rhanbarthol ym mhob un o'r pum rhanbarth. Felly 'dwi ddim yn meddwl y bydd eu cynrychiolaeth yn cwympo i lai na phump.

Mae'n stori wahanol ar lefel cyngor. Mae gan y Lib Dems bresenoldeb sylweddol ym mhob un o bedair dinas fawr Cymru, byddai'r presenoldeb hwnnw yn cael ei leihau'n sylweddol pe byddent yn colli traean o'u pleidlais. Mae natur y gyfundrefn etholiadol yn y dinasoedd lle ceir wardiau aml aelod yn debygol o sicrhau y bydd y cwymp mewn cynghorwyr yn llawer iawn uwch na'r gwymp yn y bleidlais. Yn ol pob tebyg bydd y cyfnod o reolaeth rhannol y Lib Dems mewn llefydd fel Wrecsam a Chaerdydd yn dod i ben.

Mae tair blynedd braidd yn bell i ffwrdd, ond ni fydd hyn oll yn effeithio o gwbl ar etholiadau Ewrop - does gan y Lib Dems ddim aelod Ewrop fel mae pethau ar hyn o bryd, ac felly ni fydd unrhyw newid yno. Mae pum mlynedd hyd yn oed yn bellach i ffwrdd na thair blynedd, ond byddai cwymp o draean ym mhleidlais y Lib Dems ar lefel San Steffan yn arwain at sefyllfa lle mai'r unig aelod seneddol Lib Dems fyddai gydag unrhyw obaith o gwbl o gadw ei sedd fyddai'r di hafal Mark Williams.

1 comment:

Anonymous said...

Sai'n siwr am eich rhagolwg y bydd y Rhyddfrydwyr yn colli reolaeth o Gaerydd, Wrecsam, ac ati. Fel yn Abertawe, daeth buddugoliaethau 2004 a 2008 allan o unman, os mai canlyniadau etholiadau 2001, 2003, 2005, a 2007 yw'r unig dangosyddion. Mae yna fwy i wued am effeithiau lleol: ymgeiswyr ac argraff o rhedeg yr awdurdodau hyn. Yn yr un modd, a yw pobl yng Nghaerdydd neu Abertawe (neu ym Merthyr neu Cheredigon, am hynny) yn mynd i gefni ar cynrychiolwyr Rhyddfrydol am bod eu cyd-pleidwyr yn San Steffan wedi ymuno gyda Dave, tra bod yr hyn maent yn wneud ar stepen ddrws yn wahannol iawn (a mewn clymbleidiau gyda annibynnwyr, PC, ac ati...)?