Thursday, September 30, 2010

Da iawn Paul

Mae'n dda iawn gennyf nodi i Blaid Cymru guro Llais Gwynedd yn ddi drafferth yn rownd ddiweddaraf yr ornest rhwng Plaid Cymru a Llais Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog.

Roedd y gyfradd pleidleisio yn deilwng iawn er i Lais Gwynedd wneud ymgais digon anarferol i argyhoeddi'r etholwyr bod yr is etholiad yn nechrau Hydref yn hytrach na diwedd Medi.

Canlyniad is etholiad Bowydd a Rhiw oedd:

Donna Morgan (Llais Gwynedd) 246

Paul Eurwel Thomas (Plaid Cymru) 338

Mi fydd y sioe yn symud i G'narfon wythnos i heddiw.

Tuesday, September 28, 2010

Llafur yn symud yn nes at y Blaid


Felly mae Llafur bellach o'r farn bod rhyfel Irac yn gamgymeriad, a ffioedd dysgu, ac addoli wrth allor bancwyr, a chadw cwmni efo'r cyfoethog yn hytrach na'r cyffredin a'r holl nonsens gwallgo o leoli eu hunain yn wleidyddol i'r Dde o'r canol.

Mae'n bechod braidd na wnaethant wrando ar yr hyn mae Plaid Cymru wedi bod yn ddweud wrthynt am dair blynedd ar ddeg a rhagor. Petaent wedi gwneud hynny, hwyrach y byddant wedi sgorio mwy na 29% yn yr Etholiad Cyffredinol eleni. Hefyd mae yna'r mater bach y byddai yna lawer o bobl sydd bellach wedi marw yn fyw heddiw.

Ychwaneger at hynny frwdfrydedd newydd y Blaid Lafur Cymreig tros ddatganoli pellach, eu diddordeb anisgwyl mewn diwigio fformiwla Barnett, a'u gwrthwynebiad llwyr i unrhyw doriadau yng nghyllideb S4C. Gwell hwyr na hwyrach am wn i.

Monday, September 27, 2010

Crefydd a'r Cymry

Rhestr a geir isod o hunaniaeth crefyddol pobl yn yr Alban, Cymru a Lloegr - hynny yw sut mae pobl yn diffinio eu hunain o ran crefydd.


Lloegr Cymru Yr Alban Y DU
Cristnogaeth 71.4 69 72.3 71.4
Bwdiaeth 0.4 0.3 0.2 0.4
Hindwiaeth 1.5 0.4 0.4 1.4
Iddewiaeth 0.6 0.1 0.1 0.5
Mwslemiaeth 4.7 1.2 1.2 4.2
Siciaeth 0.7 0.1 0.1 0.6
Arall 1.1 0.9 0.9 1.1
Di Grefydd 19.6 28 24.7 20.5

Yr hyn sy'n drawiadol ydi bod Cymru yn llai crefyddol, ac yn llai Cristnogol na'r gwledydd eraill. Dylid ychwanegu efallai bod y DU yn un o'r gwladwriaethau lleiaf crefyddol yn Ewrop - sy'n golygu bod Cymru yn un o wledydd lleiaf crefyddol Ewrop - os nad y Byd.

Mae hyn yn gryn newid o fewn cyfnod o ddwy genhedlaeth. Hyd 1960au'r ganrif ddiwethaf roedd Cymru ymysg y rhannau mwyaf crefyddol o Ewrop ar sawl cyfrif. Rydym wedi ceisio cynnig eglurhad am y newid syfrdanol yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sut mae eich rhan chi o Gymru yn cymharu a gweddill y wlad, gweler isod:


Crefyddol Di grefydd
Ynys Mon 77 23
Blaenau Gwent 67 33
Penybont 71 29
Caerffili 67 33
Caerdydd 71 29
Caerfyrddin 72 28
Ceredigion 77 23
Conwy 71 29
Dinbych 76 24
Fflint 81 19
Gwynedd 72 28
Merthyr Tydfil 75 25
Mynwy 77 23
Castell Nedd Port Talbot 68 32
Casnewydd 77 23
Penfro 73 27
Powys 72 28
Rhondda, Cynon, Taf 69 31
Abertawe 67 33
Torfaen 69 31
Bro Morgannwg 75 25
Wrecsam 71 29


Roedd rhaid i mi edrych ddwywaith o weld mai Fflint ydi'r ardal fwyaf crefyddol yn y wlad - ond erbyn meddwl, Fflint o bosibl ydi'r ardal fwyaf Seisnig yng Nghymru - ac mae'n dilyn felly bod eu canran nhw yn nes at un Lloegr nag ydyw at un Cymru.

Data i gyd o'r Integrated Household Survey.

Sunday, September 26, 2010

Aelodaeth y Blaid Lafur yng Nghymru

Nid am y tro cyntaf na'r olaf 'dwi'n siwr mae fy niolch yn fawr i Syniadau am fy nghyfeirio at y ffaith bod yr etholiad am arweinydd y Blaid Lafur wedi dinoethi pa mor rhyfeddol o isel ydi eu haelodaeth yng Nghymru. Rhestraf y manylion yn ol etholaeth unigol isod:

Arfon 154
Aberconwy 168
Alyn a Glannau Dyfrdwy 305
Brycheiniog a Maesyfed 220
Pen y Bont 288
Caerffili 315
Gogledd Caerdydd 408
De Caerdydd 375
Canol Caerdydd 324
Gorllewin Caerdydd 454
Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr 203
Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro 207
De Clwyd 252
Gorllewin Clwyd 161
Dwyfor Meirion 89
Gwyr 383
Islwyn 275
Llanelli 276
Merthyr 317
Mynwy 329
Trefaldwyn 86
Castell Nedd 391
Dwyrain Casnewydd 250
Gorllewin Casnewydd 346
Pontypridd 333
Preseli Penfro 188
Y Rhondda 404
Dwyrain Abertawe 212
Gorllewin Abertawe 325
Torfaen 359
Ogwr 359
Bro Morgannwg 373
Ynys Mon 160
Wrecsam 209
Cwm Cynon 309
Delyn 269
Ceredigion 146
Blaenau Gwent 310
Dyffryn Clwyd 261
Aberafon 367

Saturday, September 25, 2010

Rhestr y Canolbarth a'r Gorllewin Plaid Cymru

Mae'r cyfri wedi dod i ben yma hefyd, ac mae rhestr wedi ei llunio. Am rhyw reswm 'dydi'r Blaid yno ddim eisiau i'r canlyniad gael ei gyhoeddi am dipyn - er y bydd pawb yn gwybod y canlyniad erbyn fory beth bynnag.

Ta waeth, mi barchaf y dymuniad, a gwneud dim byd mwy na nodi nad ydi'r canlyniad yn un anisgwyl. Mae'r drefn o fynnu bod merch yn gyntaf neu'n ail ar y rhestr wedi creu sefyllfa anffodus braidd yn yr achos hwn mae gen i ofn.

Diweddariad - mae'r canlyniad (neu o leiaf y rhestr) ar flog Alun Williams.

Tybed os ydi Rod wedi syrthio oddi ar y wagen?


Diolch i Syniadau am dynnu ein sylw at y ffaith i Rod Richards alw am ymddiswyddiad Archesgob Cymru, Barry Morgan oherwydd i hwnnw gyfaddef ei fod yn siarad Cymraeg efo Rowan Williams.

Gobeithio bod Rod yn teimlo'n iawn.

Rhestr y Gogledd Plaid Cymru

'Dwi'n deall mai ymgeisyddion rhestr y Gogledd ar ran y Blaid fydd:

1) Llyr Hughes Griffiths
2) Heledd Fychan
3) Dyfed Edwards
4) Liz Saville Roberts

'Dwi'n rhyw ddeall hefyd na fydd Gareth Jones yn sefyll yn etholaeth Aberconwy, felly mae'n bosibl y bydd rhai o'r ymgeiswyr na ddaeth ar frig y rhestr yn ystyried rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer ymgeisyddiaeth Aberconwy. Mae'n anodd (er nad yn amhosibl) gweld y Blaid yn ennill mwy nag un sedd restr yn y Gogledd.

Wednesday, September 22, 2010

Ysgol Treganna (am y tro olaf gobeithio)

Gan i hynt a helynt Ysgol Treganna fod yn rhywbeth o obsesiwn gan y blog yma, mae'n debyg y dylwn nodi bod cynllun diweddaraf Cyngor Caerdydd i godi ysgol newydd yn un i'w groesawu'n fawr.

Gan geisio peidio a swnio'n grintachlyd, mi fyddwn fodd bynnag yn nodi bod dwy broblem efo'r cynllun. Yn gyntaf mae'r ffaith y bydd Ysgol Radnor Road yn etifeddu adeilad gwag gan Ysgol Treganna am gynyddu'r llefydd gwag yn y sector cyfrwng Saesneg yn ardal Treganna - rhywbeth sydd am fod yn gostus i drethdalwyr Caerdydd am ddegawdau i ddod. Yn ail, 'dwi'n deall mai yn Sanatorium Road y bydd yr ysgol yn cael ei chodi. 'Dydi'r lleoliad ddim yn ddelfrydol - mae ymhell o galon Treganna, ac mae'n agos at ysgol cyfrwng Cymraeg arall - Ty Pwll Coch.

Ond wedi dweud hynny mae'r syniad o ysgol newydd sbon sydd a'r capasiti i dderbyn tri dosbarth gwahanol pob blwyddyn yn ddatblygiad cynhyrfus, sy'n gam bras i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin Caerdydd.

Dylid hefyd llongyfarch Cyngor Caerdydd am fod digon hirben i fynd am opsiwn uchelgeisiol - a drud. Mi fydd hi'n anodd iawn o dan yr amgylchiadau, i'r Cynulliad beidio ag ariannu talp sylweddol o'r cynllun £9m.

Tuesday, September 21, 2010

S4C - tro trwstan arall

Ymddengys i flogmenai wneud cam ag Awdurdod S4C - mae'n edrych bellach i'r Awdurdod dynnu sylw'r llywodraeth yn Llundain at y ffaith y byddai lleihau ei chyllideb o £2m eleni yn gwbl groes i'r gyfraith. Daeth y wybodaeth yma i'r amlwg yn sgil rhyddhau gohebiaeth rhwng S4C ac Adran Ddiwylliant, Cyfryngau, Hamdden a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan mewn ymateb i gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan Rhodri Glyn Thomas.

Felly pan roedd yr Adran Diwylliant yn dweud wrthym bod y gostyngiad o £2m wedi ei gytuno gydag S4C roeddynt yn dweud rhywbeth nad yw'n wir.

Roedd David Davies ar y radio y bore 'ma yn awgrymu nad oedd hi'n fawr o ots os oedd y llywodraeth wedi torri'r gyfraith oherwydd y gallent newid y Ddeddf beth bynnag, ac y bydd rhaid i S4C gymryd y toriadau llawn (o thua chwarter eu cyllideb) fel pawb arall.

Mae hynny'n wir, ond mae'n weddol amlwg os ydi'r llywodraeth am wneud y toriadau y dylent newid y Ddeddf yn hytrach na cheisio dwyn y pres trwy fygwth a dweud celwydd. Mi fyddai hynny'n caniatau i'r mater gael ei drafod yn drylwyr ar lawr Ty'r Cyffredin, a byddai'n gorfodi Mark Williams, Roger Williams, Jenny Willott, Guto Bebb, David Jones, David Davies, Alun Cairns, Jonathan Evans, Stephen Crabb, Glyn Davies a Simon Hart i fynd trwy lobi yn Nhy'r Cyffredin i bleidleisio tros wanhau un o'r prif strwythurau sy'n cefnogi'r iaith Gymraeg, a dangos eu hunain am yr hyn ydynt mewn gwirionedd.

Methiant i ddeinasoriaid Wrecsam

Mae'n dda gan flogmenai nodi i ymdrech y Blaid Lafur yn Wrecsam i wrthod derbyn grant sylweddol gan y Cynulliad i godi ysgol Gymraeg yng Ngwersyllt fethu mewn cyfarfod o Fwrdd Cyngor Wrecsam y prynhawn yma. Amgaeaf ddatganiad i'r wasg ar y pwnc.gan y Blaid yn Wrecsam isod.

Plaid Cymru - The Party = of Wales. NO EMBARGO - Tuesday 21 = September 2010

Labour fails to block new Welsh-medium school in Wrexham


Labour attempts to derail plans for a new Welsh-medium school in Wrexham have failed.


Today's Wrexham Council executive board voted 8-2 in favour of pushing ahead with the proposed new school in Gwersyllt, where it will meet growing demand in that area for Welsh-medium education. The only two votes against the motion were the two Labour representatives.

Councillor Marc Jones, who leads the Plaid Cymru group on Wrexham Council, said the decision would mean more choice for parents in the borough: "It's an important step in meeting the demand for Welsh-medium education in the borough - just 9% of children currently get their education in Welsh-medium schools but a survey showed 44% of parents wanted it for their children.


"More immediately, this will be a huge relief for staff and parents at Ysgol Plas Coch, where currently there are 115 pupils being taught in mobile classrooms."


But he was furious with Labour opposition to the development: "The attempts to = derail this scheme by the Labour representatives - and risk a =£4.1m grant from the Welsh Government is nothing short of disgraceful. They know that nothing will be built without a full community consultation in the Gwersyllt area and meeting planning guidelines but they still tried to delay this move on the flimsiest of evidence. To vote against a new state-of-the-art school for our borough is scandalous."

Cllr Jones added: "Ysgol Plas Coch, which currently takes many children from the Gwersyllt area, is already bursting at the seams. By the time a new school opens, Plas Coch will effectively be double the size it was designed for. That's why it was so annoying to hear councillors bleating about conditions in English-medium schools when kids in Plas Coch have been taught in Porta cabins for the past three years.

"With a growing school-age = population in Wrexham, there is no threat to local English-medium primary schools or Bryn Alyn. That's another red herring used by Labour to try to block the new school. This will be a much-needed additional school - the first new Welsh-medium school for more than a decade.


"I'm very glad both officers and leading councillors have been able to secure this extra investment for Wrexham at a time when money is becoming so tight."


Monday, September 20, 2010

Newyddion drwg Kirsty mae gen i ofn


Felly mae Kirsty Williams bellach o blaid clymbleidio yn y Cynulliad ar ol chwarae rhan allweddol yn y digwyddiadau a sicrhaodd i'r Glymblaid Enfys farw yn y groth yn 2007.

Mae'n fater o loes i mi orfod torri'r newyddion drwg iddi nad ydi hi'n debygol o fod mewn clymblaid o unrhyw fath wedi'r etholiad nesaf. Beth bynnag mae'r pleidiau yn dweud ar hyn o bryd am gadw eu opsiynau'n agored ac ati, mae'r tirewdd gwleidyddol wedi newid yn llwyr ers 2007.

Byddai clymbleidio efo'r Lib Dems yng Nghymru tra yn ymladd yn erbyn y toriadau y byddai'r blaid honno yn eu hanfon o San Steffan yn gymhlethdod na fydd Llafur Cymru yn debygol o'i chwenych. Mi fyddai hefyd yn anodd iawn i Blaid Cymru glymbleidio yn erbyn Llafur efo dwy blaid fyddai'n cael eu cysylltu'n agos a phroses o chwalu gwariant cyhoeddus yng Nghymru.

Neu i edrych ar y peth mewn ffordd ychydig yn wahanol, mae'r ffaith i Lib Dems Clegg neidio i'r gwely efo Toriaid Cameron yn dra thebygol o sicrhau mai gwely gwag fydd gan Lib Dems Kirsty am bedair blynedd arall. Mi fyddai'n wenwyn gwleidyddol i'r Blaid, neu i Lafur gysylltu eu hunain efo nhw, hheb son am rannu gwely.

Trish Law yn gadael yr adeilad


Wel, dyna fo mae'n debyg - mae'r diwedd ar ddod i Lais y Bobl gydag ymadawiad Trish Law yn dilyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mi fyddwch yn cofio mae'n debyg gen i i'r grwp gael ei ffurfio yn dilyn ethol gwr Trish, Peter yn AS yn 2005. Wedi marwolaeth Peter enillodd y grwp ddwy is etholiad, y naill i'r Cynulliad a'r llall i San Steffan yn 2006. Cadwodd Trish ei sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007, ond collodd Dai Davies ei sedd San Steffan i Lafur gyda gogwydd anferth yn ei erbyn eleni. Mae'n debyg y byddai'r un peth wedi digwydd i Trish y flwyddyn nesaf.

Mae'n anodd credu rhywsut mai pum mlynedd yn unig sydd wedi mynd rhagddynt ers ffurfio'r blaid, ac mae'n anodd gwybod yn iawn pa wers i'w chymryd o gyflymder ei dirywiad yn y diwedd. Efallai mai'r prif bwynt ydi ei bod yn anodd i grwp neu blaid nad oes iddi waelod syniadaethol oroesi am fwy nag ychydig flynyddoedd. Mae'n hawdd denu pobl at grwp yn y byr dymor oherwydd eu bod yn gwrthwynebu rhywbeth neu'i gilydd (y Blaid Lafur yn yr achos hwn), ond mae'n llawer anos eu cadw efo'i gilydd am gyfnod hir wedyn oni bai bod ganddynt syniadaeth greiddiol yn gyffredin.

Saturday, September 18, 2010

Y deinasoriaid yn dal yn fyw ac yn iach yng Ngwersyllt



Tybed pam ydi o bod Llafur yn tueddu i ddenu'r nytars mwyaf gwrth Gymreig yng Nghymru? Mae hyn ar ei amlycaf ym maes addysg. Cynghorau a reolir gan Lafur yn amlach na pheidio ydi'r gwaethaf am lusgo eu traed wrth ymateb i'r galw anferth yng Nghymru am addysg Gymraeg.

Esiampl diweddar o hyn ydi Ramesh Patel (a'i gyd gynghorwyr Llafur yn Nhreganna - Cerys Furlong a Richard Cook). Ymddengys nad ydi Ramesh yn credu yn y cysyniad o addysg Gymraeg o gwbl, ac mae'n ystyried cynlluniau Cyngor Caerdydd i ymateb i'r galw am addysg Gymraeg yn Nhreganna yn esiampl o buro ethnig - rhywbeth tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn Srebrenica neu Rwanda o bosibl.

Rhywsut mae Llafur wedi llwyddo i gynhyrchu cyflenwad di ddiwedd o grancs gwrth Gymreig a gwrth ddemocrataidd ar hyd y blynyddoedd, ac mae'r olyniaeth yn parhau i gael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf. Yr esiamplau diweddaraf ydi'r Cynghorwyr David Griffiths a Ted George o Wersyllt yn Wrecsam.

Mae cryn dystiolaeth o alw cynyddol am addysg Gymraeg yn Wrecsam, ond er gwaethaf hynny does yna ddim ysgol Gymraeg wedi agor yn y fwrdeisdref am ddegawd. Cymaint yw'r galw yng ngogledd y dref nes bod yr ysgol Gymraeg leol, Plas Coch yn llawn i'r ymylon. Ymateb Cyngor Wrecsam oedd ceisio diwallu rhywfaint o'r galw ac ymateb i broblem Plas Coch trwy wneud cais i'r Cynulliad am arian cyfalaf i godi ysgol Gymraeg newydd yng Ngwersyllt. Roedd y cais hwnnw yn llwyddiannus, a chafwyd grant sylweddol o £4.1m gan y Cynulliad tuag ato. Dim ond £1.7m ydi cyfraniad Wrecsam i'r fenter.

Mi fyddai rhywun yn cymryd bod hyn yn gryn lwyddiant i'r cyngor - ymateb i gyfarwyddiadau'r Cynulliad i asesu ac ymateb i'r galw am addysg Gymraeg, gwneud hynny yn effeithiol, a derbyn swm sylweddol o arian yn y fargen. Mi fyddai rhywun yn meddwl ymhellach y byddai cynghorwyr wrth eu boddau yn gweld y ffasiwn fuddsoddiad cyhoeddus yn eu rhan nhw o'r fwrdeisdref. Ond na, yn ol David Griffiths, bydd yr iaith wedi marw o fewn y ganrif beth bynnag, felly does dim pwynt cymryd unrhyw sylw o gais y llywodraeth (sy'n cael ei harwain gan ei blaid ei hun) i ymateb i'r galw am addysg Gymraeg.

'Dydi David Griffiths na Ted George ddim yn credu y dylai'r cyngor dderbyn y £4.1m gan y llywodraeth, ond yn hytrach credant y dylid gwrthod hwnnw a gwario'r £1.7m o gyfraniad y cyngor ar wella ysgolion cyfrwng Saesneg Gwersyllt. Mae yna lawer mwy o alw gan rieni am ysgol Gymraeg na sydd am drwsio landeri mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ond 'dydi hynny ddim botwm o ots gan David a Ted - y peth pwysig ydi bod addysg cyfrwng Cymraeg yn 'ddrwg' a dydi'r cyhoedd ddim am gael mynediad i addysg felly beth bynnag mae'r cyhoedd ei eisiau. Atalnod llawn.

Rydym wedi cyfeirio eisoes at Ramesh Patel, y cynghorydd dewr hwnnw sy'n sefyll rhwng Caerdydd a phroses o buro ethnig. Mae'r dyn (gyda phob cyfiawnhad) wedi cael ei lambastio am ei agwedd at addysg Gymraeg yn gyffredinol a'i sylwadau ymfflamychol ar y pwnc hwnnw yn benodol. Ond mae yna un peth o'i blaid - o leiaf roedd yn ceisio cadw ysgol ar agor - yn afresymegol fel mae'n digwydd - ond roedd yn ceisio gwneud hynny. Does yna ddim son am gau ysgol yng Ngwersyllt - ond mae David a Ted eisiau gwrthod buddsoddiad o bron i £6m yn eu hardal beth bynnag - buddsoddiad sy'n mynd i ymateb i alw taer gan eu hetholwyr a gwella'r is strwythur yn eu hardal.

Mi fyddwn yn awgrymu'n gynnil nad ydi cynghorydd sy'n gweithio yn erbyn buddiannau ei ardal ei hun, ac yn erbyn dymuniadau ei etholwyr ei hun, am resymau sy'n ymwneud a'i ragfarnau personol, yn addas i fod yn gynrychiolydd etholedig. Cynghorwyr felly ydi Ted George a David Griffiths mae gen i ofn.

O.N - a barnu o flogio (rhyfeddol o achlysurol) Ted George dydi'r addysg Saesneg mae wedi ei gael ddim wedi caniatau iddo 'sgwennu'r iaith yn arbennig o gywir.

Thursday, September 16, 2010

Fideos Gwleidyddol yr Haf 5

'Dwi'n gwybod bod yr haf wedi hen farw, ond 'fedra i ddim gwrthsefyll y demtasiwn i gyflwyno'r fideo bach yma ger eich bron.



Cefndir y fideo ydi i brif weinidog Iwerddon, Brian Cowen ymddangos am gyfweliad ar radio RTE yn fuan bore Mawrth yn amlwg wedi cael noson drom iawn. Mae cynhadledd ei blaid yn cael ei chynnal yn Galway ar hyn o bryd, ac mae cynadleddau Fianna Fail yn enwog am, ahem, ddiota rhyfeddol. Roedd Brian o gwmpas tafarnau'r ddinas hyd at tua 2:30 fore Mawrth. 'Dwi'n rhyw chwarter cydymdeimlo, mae tafarnau Galway ymysg y gorau yn Iwerddon - ac yn ddi amau, tafarnau Iwerddon ydi'r rhai gorau yn y Byd.

I ychwanegu at ei broblemau mae'r golffiwr Phil Walton yn cwyno'n groch bod Brian yn ei ddynwared yn gyhoeddus yn ystod y sesh enfawr. Mae gan Brian ddawn dynwared anarferol, ac mae gan Phil lais anarferol o uchel.

Y diweddaraf am S4C - o ddrwg i waeth

Ydw i'n methu rhywbeth tybed?

Yn ol y cyfryngau heddiw roedd yn anghyfreithlon i S4C ildio i fwlio'r Toriaid yn fuan wedi'r etholiad a rhoi £2m o'u pres iddynt. Yn fwy na hynny, roedd Awdurdod y sianel wedi cymryd cyngor cyfreithiol ynglyn a'r mater, roedd y cyngor hwnnw yn ddi amwys y byddai rhoi'r pres i'r llywodraeth yn anghyfreithlon, ond aethant ati i wneud hynny beth bynnag.

Mi wna i ailadrodd fy hun - roedd Awdurdod S4C yn gwybod bod y taliad i'r llywodraeth yn anghyfreithlon - ond gwnaed y taliad beth bynnag. Gwnaed penderfyniad gan yr Awdurdod oedd yn groes i fuddiannau'r gorfforaeth maent i fod yn gyfrifol amdani, a gwnaed y penderfyniad hwnnw mewn gwybodaeth lawn eu bod gweithredu mewn modd oedd yn eu gosod nhw eu hunain ar yr ochr anghywir i gyfraith gwlad.

Am unwaith yn fy mywyd, 'dydw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

Wednesday, September 15, 2010

Goblygiadau newid y drefn cofrestru etholwyr

Yn ol Politicalbetting.com mae cynlluniau ar y gweill i orfodi pawb i gofrestru yn unigol (yn hytrach na gadael i'r penteulu gofrestry pawb) ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau - er na fydd disgwyl i'r sawl sydd eisoes ar y gofrestr i wneud hynny tan ar ol etholiad San Steffan 2010. Mae'r stori yn un ddiddorol, ac mae arwyddocad pell gyrhaeddol i'r penderfyniad.

Yr hyn nad yw'n hysbys i lawer ydi bod ymarferiad tebyg wedi digwydd yn y DU yn y gorffennol cymharol agos. Tra roedd y Blaid Lafur yn ei gwneud yn chwerthinllyd o hawdd i gael pleidleisiau post (a thrwy hynny ei gwneud yn hawdd i dwyllo) yn y rhan fwyaf o'r DU, roedd twyll etholiadol yn stwmp ar eu stumogau bach yng Ngogledd Iwerddon, felly aethant ati i drefnu ymarferiad tebyg i'r un mae'r Toriaid yn ei threfnu ar hyn o bryd. Ychydig iawn, iawn o dystiolaeth o dwyll oedd yna yn y dalaith (llai na sydd yng ngweddill y DU gyda llaw), ond dyna'r unig eglurhad y gallai'r llywodraeth feddwl amdano am dwf y pleidiau mwy 'eithafol' - Sinn Fein a'r DUP. Felly gorfodwyd pawb i gofrestru yn unigol o 2002 ymlaen. Bu cwymp sylweddol yn y niferoedd o bobl ar y gofrestr etholiadol - ond y gwahaniaeth rhwng ardaloedd a chydrannau o'r boblogaeth oedd yr elfen fwyaf arwyddocaol. Collwyd mwy o bobl dlawd, a chollwyd mwy o Babyddion. Ond y gwahaniaeth rhwng ardaloedd gwledig a threfol oedd y gwahaniaeth mwyaf trawiadol. Collwyd llawer mwy o etholwyr trefol na rhai gwledig.

Er enghraifft yr etholaeth fwyaf trefol (a dosbarth gweithiol) yng Ngogledd Iwerddon ydi West Belfast. Collwyd 18.56% oddi ar y gofrestr bleidleisio rhwng 2001 a 2003, gyda 25.14% o golled yn y Lower Falls - yr ardal dlotaf a mwyaf trefol. Roedd y colledion yn North Belfast a South Belfast yn ddigon tebyg. Ar y llaw arall 7.26% yn unig o'r etholwyr a gollwyd ym Mid Ulster wledig gyda 3.29% yn unig yn cael eu colli yn ward hynod anghysbell Upperlands wrth Magharafelt. Roedd y colledion yn y ddwy etholaeth wledig fawr gyfagos, Fermanagh South Tyrone a West Tyrone yn debyg iawn i rhai Mid Ulster. Mae'r gwahaniaethau hyn yn rhai arwyddocaol iawn o safbwynt ystadegol.

Canlyniad hyn ydi bod bwlch sylweddol yng Ngogledd Iwerddon rhwng y nifer sydd a'r hawl i bleidleisio a'r nifer sydd ar y gofrestr - mae'r gwahaniaeth yn fwy nag ydyw yn unrhyw le arall yn y DU. Mae cyfran uchel o'r boblogaeth wedi colli'r hawl i bleidleisio i bob pwrpas.

Rwan, ag ystyried hyn dylai cip ar fap etholiadol Prydain ddangos beth sy'n debygol o ddigwydd - mae cefnogwyr Llafur yn tueddu i fyw mewn trefi a rhai'r Toriaid mewn llefydd mwy gwledig. Yn wir gallai'r gwahaniaeth rhwng ardaloedd o ran gostyngiad mewn etholwyr fod yn fwy yn y DU nag oedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae gwleidyddiaeth o fwy o ddiddordeb i bobl dosbarth gweithiol yng Ngogledd Iwerddon nag yw i'r dosbarth canol. Mae'r sefyllfa yn gwbl groes yn y DU. O ganlyniad, mae'n rhesymol cymryd y bydd y dosbarth gweithiol trefol yn llai tebygol i drafferthu i gofrestru na'u tebyg yng Ngogledd Iwerddon. Pe byddwn i yn strategydd etholiadol Llafur byddwn yn poeni llawer mwy am yr ymarferiad yma nag am y cynlluniau i newid ffiniau etholaethau.

Gyda llaw, yn anisgwyl braidd (i'r llywodraeth o leiaf) y prif wahaniaeth yng Ngogledd Iwerddon rhwng etholiadau Cynulliad 2003 a rhai San Steffan 2001 oedd i'r tir canol gwleidyddol chwalu yn yr ail etholiad. 'Doedd hyn ddim yn anisgwyl i'r DUP a Sinn Fein - roedd y rheiny yn gwybod o'r gorau y byddai eu peiriannau etholiadol sylweddol yn gallu delio efo'r sefyllfa newydd. Os oedd yr holl ymareferiad wedi gwneud unrhyw beth o safbwynt etholiadol, roedd wedi cryfhau'r eithafion a thanseilio'r canol.

Tuesday, September 14, 2010

Is etholiadau Gwynedd - etholiad Cyngor Gwynedd - Seiont

Mi edrychwn ni yn gyntaf ar yr etholiad cyngor sir yn ward Seiont. Mae'r ward yn ne orllewin tref Caernarfon - a 'dwi'n credu fy mod yn gywir i nodi mai dyma'r ward fwyaf poblog yng Ngwynedd, ac mae ymysg y Cymreiciaf o ran iaith yng Nghymru. Dim ond ei chymydog yn ne Caernarfon, Peblig a Phen y Groes (Gwynedd) sy'n Gymreiciach. Dau gynghorydd annibynnol oedd yn cynrychioli'r ward hyd yn ddiweddar, a galwyd yr is etholiad yn dilyn marwolaeth anisgwyl un o'r rheiny, Bob Anderson. Mi edrychwn ar yr ymgeiswyr fesul un.

James Endaf Cooke, Llais Gwynedd. Mae unrhyw un sy'n gweithio mewn siop brysur yn y ward mae'n sefyll i fynd yn gynghorydd arni mewn sefyllfa fanteisiol. Mae gweithio mewn siop sglodion sy'n gwneud sglodion blasus iawn yn fantais pellach am wn i. Yn ychwanegol at hynny, mae ganddo gefnogaeth rhai o'r bobl busnes sy'n cadw siopau yn agos at ei siop sglodion - ac mae gan y rheiny ffenestri da i roi posteri ynddynt. Serch hynny mae gan Endaf ambell i beth sy'n gweithio yn ei erbyn hefyd. Yn gyntaf nid yw'n byw yn yr ward - mae'n byw rhai milltiroedd i ffwrdd yn Llanllyfni. Mae'r ffaith ei fod yn treulio ei ddyddiau yn yr ward yn sicrhau nad yw hynny yn anfantais marwol, ond 'dydi o ddim yn help. Yn bwysicach efallai, gallai'r ffaith ei fod yn sefyll yn enw Llais Gwynedd brofi i fod yn gryn dramgwydd iddo.

Mae'r canfyddiad (ffug fel mae'n digwydd) bod gormod o bres cyhoeddus yn cael ei wario ar lannau'r Fenai yn greiddiol i ddealltwriaeth y meicrogrwp o'r Byd a'i bethau. A bod yn deg efo'r Llais, maent wedi gweithredu mewn modd cyson a'r camargraff hwn ers eu ffurfio. Maent o ganlyniad wedi gweithredu yn gyson mewn modd sy'n groes i fuddiannau Caernarfon - rhedeg at y papurau newydd pan gafodd Ysgol Syr Hugh Owen grant arbennig gan yr Awdurdod Addysg i'w cynorthwyo i ddod tros problemau ariannol, troi trwyn ar y cynllun i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol yr Hendre, mynegi'r farn mai trefi 'mawr' fel Caernarfon ddylai gynnig lloches i'r cwbl o'r di gartref, gwrthwynebu gwerthu adeilad y Goleuad, gwrthwynebu'r camau a arweiniodd at ddatblygu ardal Doc Fictoria, argymell sacio 600 o weithwyr y Cyngor (mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn byw yn ardal Caernarfon) ac ati.

Felly, o safbwynt ymgeisyddiaeth Endaf mae'n weddol bwysig iddo nad ydi record Llais Gwynedd parthed Caernarfon yn dod yn amlwg i drigolion Seiont. Y gwrthwyneb sy'n wir am yr ymgeiswyr eraill wrth gwrs.

Mae gan Llinos Mai Thomas, Ymgeisydd y Toriaid nifer o anfanteision hefyd. Y gwahaniaeth rhyngddi hi ac Endaf ydi ei bod yn anodd dod ar draws unrhyw ffactor o'i phlaid. Hyd y gwn i, dydi hi ddim yn un dda am wneud sglodion, mae'n byw yn Ynys Mon, ac mae'n gweithio ym Mangor. Mi fydd yna ganfyddiad - yn gam neu'n gymwys - ei bod ond yn sefyll er mwyn codi ei phroffeil ar gyfer ennill ymgeisyddiaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. 'Dydi'r blaid mae'n sefyll trosti ddim am helpu chwaith. Proffeil cymdeithasegol dosbarth gweithiol sydd i Seiont (er bod iddi rannau dosbarth canol). Roedd pleidlais y Toriaid ymhell, bell o dan 20% yno yn etholiadau San Steffan eleni - ac mewn etholiadau San Steffan y bydd y Toriaid yn gwneud orau gan amlaf.

Yn rhyfedd iawn, 'dydw i erioed wedi dod ar draws yr ymgeisydd annibynnol, Gareth Edwards er i'r ddau ohonom fyw yn yr un tref am flynyddoedd mawr. Mae'n ddyn busnes, a deallaf ei fod yn gyfrifol am y wefan, Caernarfon on Line. Mae ganddo'r fantais o fod yn berson o'r dref ac o fyw yn weddol agos at y ward. Safodd mewn etholiad cyngor tref rhai blynyddoedd yn ol, ond chafodd o fawr o lwyddiant. Bydd yn gobeithio am lawer iawn mwy o lwc y tro hwn.

Byddaf serch hynny yn dod ar draws yr ymgeisydd Llafur, Tecwyn Thomas yn weddol aml - yn ystod etholiadau pan mae'r ddau ohonom yn ymgyrchu i bleidiau gwahanol. Er gwaethaf hynny byddaf yn cael Tecwyn yn un parod iawn i sgwrsio, ac mae gwrando arno yn ddiddorol i unrhyw un sydd a diddordeb yn y Blaid Lafur - fel un o hoelion wyth y blaid yn Arfon, ac yn wir yng Nghymru, mae ganddo wybodaeth drylwyr am y blaid honno. Mae iddo'r fantais bod yna bleidlais greiddiol eithaf cryf i'w blaid yn y ward, bod Llafur efo hanes cymharol ddiweddar o ennill sedd yma, a'i fod o ei hun wedi cynrychioli'r ward ar y cyngor sir, a'r cyngor tref yn y gorffennol. Ond mae ganddo nifer o anfanteision i ymgodymu a nhw hefyd.

Yn gyntaf fe'i dewiswyd i gynrychioli'r Blaid Lafur o flaen cynghorydd Llafur ar y cyngor tref - Gerald Parry. Mae Seiont yn ward dau aelod, a bydd Gerald a Tecwyn yn cyd redeg yn aml. Mi fydd Gerald yn ddi eithriad yn gwneud yn well na Tecwyn. Yn wir etholwyd Gerald i'r cyngor tref yn 2008, tra daeth Tecwyn ar waelod y pol. Mae'r rheswm am hyn yn eithaf amlwg - 'does gan Tecwyn fawr o ddiddordeb yn ochr caib a rhaw bod yn gynghorydd - rhedeg negeseuon i'r etholwyr, tra'i fod efo mwy o ddiddordeb yn yr agweddau strategol a gwleidyddol i'r swydd. Mae gen i beth cydymdeimlad efo'r agwedd yma yn bersonol - ond ysywaeth 'dydi'r etholwyr ddim yn gweld pethau felly. Mae yna gwyno ar led ar hyn o bryd bod Llafur 'wedi dewis y boi rong'. Petai hynny'n datblygu i ganfyddiad bod Llafur wedi rhoi ei hystyriaethau ei hun o flaen rhai'r dref, byddai'n creu cryn niwed etholiadol iddynt mewn ardal sydd a chryn falchder lleol yn perthyn iddi.

Menna Thomas, Plaid Cymru ydi'r ymgeisydd sy'n weddill. Anhawster Menna ydi nad dyma'r ward orau i'r Blaid yng Nghaernarfon. Tra bod y Blaid yn cynrychioli wardiau eraill y dref ar y cyngor sir, mae'n gryn gyfnod ers iddi fod a chynghorydd sir yn y ward dwy sedd yma. Serch hynny mae Menna yn byw yn y ward (yn wahanol i'r gweddill) ac mae'n gynghorydd tref trosti. Daeth yn gyfforddus o flaen Tecwyn Thomas yn etholiadau 2008. Mae'n weithgar yn y ward, ac mae wedi cael sylw yn y wasg leol ers iddi gael ei hethol. Hefyd does yna ddim mymryd o amheuaeth bod buddiannau Caernarfon yn bwysig iddi hi a'i phlaid.