Friday, September 10, 2010

Is etholiadau Gwynedd

Mi fydd yna bedwar is etholiad yng Ngwynedd tros yr wythnosau nesaf - dau ar Gyngor Gwynedd a dau ar Gyngor Tref Caernarfon.

Mae'r cyntaf yn ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog ar Fedi 30.
  • Donna Morgan - Llais Gwynedd-The Voice of Gwynedd
  • Paul Eurwel Thomas - Plaid Cymru-The Party of Wales
Yna bydd tri arall yng Nghaernarfon ar Hydref 7 - un Cyngor Sir yn ward mwyaf poblog Gwynedd, Seiont:
  • James Endaf Cooke Llais Gwynedd
  • Gareth Edwards
  • Llinos Mai Thomas Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru
  • Menna Wyn Thomas Plaid Cymru
  • Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur
A dau ar y Cyngor Tref - un yn Seiont:

  • Glyn Thomas Plaid Cymru
  • Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur
Ac un yng Nghadnant:

  • Dylan William Jones Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru
  • Glyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur
  • Meilyr Hywel Tomos Plaid Cymru
Mi fyddaf yn edrych eto ar rhai o'r etholiadau tros y dyddiau nesaf, ond hoffwn wneud wneud un sylw bach cyn hynny. Mae gan y Blaid gyfle rhesymol ym mhob un o'r etholiadau. Petai yn ennill yr etholiad cyngor sir byddai pedair o bump sedd Caernarfon yn nwylo'r Blaid. 'Dydi hynny erioed wedi digwydd o'r blaen. Petai yn ennill un o'r ddau etholiad cyngor tref, byddai'r Blaid yn rheoli'r cyngor hwnnw - rhywbeth arall sydd erioed wedi digwydd o'r blaen. Mae yna gyfle hanesyddol i symud o safle cryf iawn yng ngwleidyddiaeth lleol y dref i un sydd hyd yn oed yn gryfach - ond mae gwaith i'w wneud cyn hynny.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Os ddaw Tecwyn neu Glyn acw i ymofyn pleidlais rhowch stîd iddynt am eu Cymraeg gac- Ymgeisydd Y Blaid Lafurnid Ymgeisydd Plaid Lafur sy'n gywir - damnia!

Cai Larsen said...

Gan fy mod i'n byw ym Menai, 'dydw i ddim yn debygol o weld y naill na'r llall. 'Dydw i ddim yn rhagweld y bydd Llafur yn cyflwyno ymgeisydd o flaen yr etholwyr yn y ward yma am gryn gyfnod.

Wedi dweud hynny, a bod yn deg, mae'r ddau yn gwneud ymagais i ddefnyddio'r term Cymraeg, a'r term Cymraeg yn unig.