Monday, September 20, 2010

Trish Law yn gadael yr adeilad


Wel, dyna fo mae'n debyg - mae'r diwedd ar ddod i Lais y Bobl gydag ymadawiad Trish Law yn dilyn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mi fyddwch yn cofio mae'n debyg gen i i'r grwp gael ei ffurfio yn dilyn ethol gwr Trish, Peter yn AS yn 2005. Wedi marwolaeth Peter enillodd y grwp ddwy is etholiad, y naill i'r Cynulliad a'r llall i San Steffan yn 2006. Cadwodd Trish ei sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007, ond collodd Dai Davies ei sedd San Steffan i Lafur gyda gogwydd anferth yn ei erbyn eleni. Mae'n debyg y byddai'r un peth wedi digwydd i Trish y flwyddyn nesaf.

Mae'n anodd credu rhywsut mai pum mlynedd yn unig sydd wedi mynd rhagddynt ers ffurfio'r blaid, ac mae'n anodd gwybod yn iawn pa wers i'w chymryd o gyflymder ei dirywiad yn y diwedd. Efallai mai'r prif bwynt ydi ei bod yn anodd i grwp neu blaid nad oes iddi waelod syniadaethol oroesi am fwy nag ychydig flynyddoedd. Mae'n hawdd denu pobl at grwp yn y byr dymor oherwydd eu bod yn gwrthwynebu rhywbeth neu'i gilydd (y Blaid Lafur yn yr achos hwn), ond mae'n llawer anos eu cadw efo'i gilydd am gyfnod hir wedyn oni bai bod ganddynt syniadaeth greiddiol yn gyffredin.

1 comment:

Anonymous said...

Cytuno - mae'r un wers yn dal ar gyfer Cymru Ymlaen/Forward Wales hefyd. Adwaith yn hytrach na mudiad neu blaid positif oedd People's Voice. Oherwydd ceidwadaeth gor-rymus Llafur yn yr ardal, daeth protestwyr o bob lliw i uno dan faner y grwp heb unrhyw ideoleg cysylltiol i'w cadw nhw at ei gilydd.

Mae'r un yn wir am Llais Gwynedd - dwi'n amau na fydd hi'n 5 mlynedd cyn i hwnnw ddadfeilio.