Monday, December 13, 2010

Y Blaid Geidwadol Gymreig - gwleidyddiaeth unigryw?

Mae Welsh Ramblings yn gwneud pwynt diddorol pan mae'n nodi mor anarferol ydi'r Toriaid Cymreig - plaid adain Dde sydd a'i llefarwyr byth a hefyd yn galw am amddiffyn rhywbeth neu'i gilydd, cynyddu gwariant ar beth arall, arbed rhywbeth arall ac ati - a gwneud hynny mewn cyd destun lle mae eu plaid yn Llundain yn gorfodi toriadau enfawr ar yr holl sector gyhoeddus - a lle maen nhw eu hunain ar lefel strategol yng Nghaerdydd yn argymell toriadau i pob adran ond iechyd.

Mi fyddwn yn mynd gam ymhellach na Ramblings, a dweud mai plaid bopiwlistaidd ydi'r Toriaid yn y Cynulliad bellach, a bod hynny'n gwneud y berthynas rhyngddyn nhw, a'r Toriaid ar lefel San Steffan yn un sylfaenol dysfunctional - beth bynnag y gair Cymraeg am hynny.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

dysfunctional - beth bynnag y gair Cymraeg am hynny.
Camweithredol yn ol Cysgeir

Cai Larsen said...

Diolch Alwyn - mi gofiaf y tro nesaf.