Tuesday, February 15, 2011

True Wales yn pardduo Shane Williams, Alun Wyn Jones, Mike Phillips a Robin McBride

Yn ol Golwg360 'dydi True Wales ddim yn rhy hapus oherwydd i'r chwaraewyr rygbi Shane Williams, Alun Wyn Jones, Mike Phillips a Robin McBride ddatgan eu bod yn credu y dylai pobl bleidleisio tros ganiatau i'r Cynulliad ddeddfu ar faterion mae'n gyfrifol amdanynt.

Yn ol eu harfer, ymateb trwy bardduo mae True Wales - yn yr achos yma trwy awgrymu bod gan y pedwar gymhelliad ariannol tros fynegi eu barn. Eto, fel arfer, mae'n anodd deall yn iawn beth ydi eu dadl, ond mae'n debyg eu bod yn awgrymu bod cysylltiad rhwng barn y pedwar a grant o £1.7 mae'r WRU wedi ei dderbyn gan y Cynulliad tuag at brynu sgriniau i'w gosod yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Fel llawer o'r hyn sy'n cael ei gyflwyno ger ein bron gan True Wales mae'r ddadl yn chwerthinllyd os ydym yn meddwl amdani am fwy nag ychydig eiliadau. Ydyn nhw o ddifri yn awgrymu bod y pedwar yn fodlon ymddwyn mewn modd llwgr er mwyn cael offer telegyfathrebu yn rhad i'r stadiwm genedlaethol? Ydyn nhw'n honni o ddifri na ddylai neb sy'n gysylltiedig ag un o'r 293 clwb rygbi, neu un o'r pedwar tim rhanbarthol mae'r WRU yn gyfrifol amdanyn nhw fynegi barn am y mater gwleidyddol cyfredol pwysicaf, oherwydd i'r corff hwnnw dderbyn grant gan y Cynulliad i brynu dau sgrin?

Rydym eisoes wedi nodi bod True Wales yn cael anhawster delio efo'r cysyniad y gallai papur newydd fynegi barn sy'n groes i'w un nhw eu hunain. Ymgais i sgubo'r ddadl o dan y carped oedd eu penderfyniad bisar i beidio a chofrestru fel ymgyrch. Dylid edrych ar y nadu diweddaraf yn y cyd destun yma - 'dydi True Wales ddim yn hoffi gweld democratiaith ar waith - dydyn nhw ddim yn hoffi gweld unigolion a sefydliadau yn mynegi barn sy'n groes i'w barn nhw, dydyn nhw ddim yn hapus gweld dadl ddemocrataidd yn cael ei chynnal ar y cyfryngau. Yn wir maent yn fodlon bwlio a phardduo er mwyn ceisio rhoi taw ar bobl sydd eisiau cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Petai Blogmenai mor hysteraidd a True Wales, mae'n debyg y byddwn yn ei ddisgrifio fel mudiad ag iddo dueddiadau neo ffasgaidd.

No comments: