Tuesday, March 15, 2011

Cyflogau Aelodau Cynulliad a'r Bib

Hmm - roedd yn ddiddorol gweld eitem y Bib ar Wales Today heno - eitem oedd yn ymwneud a'r ffaith bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cyflogau wedi rhewi am bedair blynedd. Aeth y rhaglen ati i holi tri o bobl - roedd dau ohonynt eisiau gweld cyflogau'r aelodau yn cael eu haneru. Byddai hyn yn golygu y byddai'r sawl sydd a'r gyfrifoldeb am lunio polisi a deddfau iechyd, addysg, a hybu'r economi yng Nghymru yn cael eu talu llai na thrydanwyr, plymars, gweithwyr carffosiaeth, pobl trwsio ffonau, ffitars, pysgotwyr, nyrsus, gofaint ac ati. Nid oes rhaid dweud na chafodd y ffwlbri yma ei herio gan y cyflwynydd (Tomos Dafydd), ond yn hytrach aeth ati i nodi'n wybodus bod aelodau'r Cynulliad gyda rhai o'r cyflogau gorau yng Nghymru - fel petai'n arferol i wleidyddion weithio'n wirfoddol mewn gwledydd eraill.

Wel, efallai bod cyflog o fwy na £50,000 yn uchel mewn termau Cymreig - ond mae yna ddigon o lwybrau eraill y gellir eu dilyn er mwyn cael gwell cyflog - gallai gyrfa yn y BBC fod yn lwybr hynod broffidiol er enghraifft. Yn ol y Telegraph yn 2010 roedd 300 o fiwrocratiaid y Bib yn ennill mwy na £100,000. Yn wir cafodd Mark Thompson, y Prif Weithredwr £664,000 ymhell, bell mwy nag unrhyw wleidydd ym Mhrydain. Mae cyflog Cyfarwyddwr BBC Cymru yn llawer uwch nag ydi cyflog Gweinidog Cyntaf Cymru - a chyflog David Cameron o ran hynny. Wnawn ni ddim son am rai o'r 'ser' sy'n ymddangos ar y sgrin - roedd un ohonyn nhw, hyd yn ddiweddar yn ennill bron cymaint a phob aelod Cynulliad gyda'i gilydd.

Rwan, dwi'n siwr bod yr holl bobl yma sy'n cael cyflogau enfawr ar draul y sawl sy'n gorfod talu am eu trwyddedau teledu efo pethau ofnadwy o bwysig i'w gwneud - llawer pwysicach na'r manion sy'n mynd ag amser aelodau'r Cynulliad. Ond - ag ystyried yr amgylchiadau - efallai y byddai mymryn o wyleidd-dra yn briodol ar ran y Bib pan maent yn rhedeg eitemau ar gyflogau pobl eraill.

7 comments:

Anonymous said...

Dybiwn fod llawer mwy o bobl yn ennill 50k neu fwy yn BBC Cymru nac sy yn y Cynulliad...

Alwyn ap Huw said...

Chware teg, Cai, byddai bod yn sponer newydd i Ffion yn llawer mwy cymleth nag arwain gwlad!

Cai Larsen said...

Anhysb - Dybiwn fod llawer mwy o bobl yn ennill 50k neu fwy yn BBC Cymru nac sy yn y Cynulliad...

O mi fetiwn i gryn dipyn bod hynny'n wir.

Alwyn - Chware teg, Cai, byddai bod yn sponer newydd i Ffion yn llawer mwy cymleth nag arwain gwlad!

Wnes i ddim edrych ar bethau o'r ongl yna mae'n rhaid cyfaddef!

Anonymous said...

Mae hyn yn nodweddiadol o'r BBC a daeth hi'n amlwg yn ystod y Refferendwm.

Mae rhyw cretin yn dweud fod gwleiddyion yn gwneud dim/cael gormod o arian/dylse nhw wneud gwaith gwirfoddol yn cael get away gyda dim herio o gwbl. Fel petai'n farn hollol dilys. Mae'n amser i'r BBC stopio nawddogi gwylwyr a dydy'r ffaith fod 'person cyffredin' yn siarad trwy ei din, ddim yn golygu fod rhaid derbyn y peth.

Pam na wnaeth Tomos Dafydd holi'r boi a gofyn ydych chi'n credu y dylai AC ddebryn llai o gyflog nag athro newydd mewn ysgol gynradd? Neu lai na nyrs. Neu rhywun sy'n band isel mewn gwasanaeth sifil?

Llwfrdra newyddiadurol unwaith eto ar ran BBC. Mae'r pandero i'r tueddiadau mwyaf isel o ran common losest denominator. A fyddai'n werth gofyn i'r 'person gyffredin' faint o gyflog mae nhw'n ei ennill?

Gwarthus. Mae'n tanseilio democractiaeth. Newyddiaduraeth slopi iawn gan y BBC.

Ond 'na ni, Cynulliad Cymru yw hi, ac mae Cymru'n crap yn tydi, a'n gwleidyddion yn second class, felly, dydy nhw ddim yn haeddu gwell nac ydyn.

M

Robin Huw said...

Dwi'n cofio cwpl o flynyddoedd yn dol yn ystod sgandal y treuliau rhyw wleidydd yn herio cyflwynydd BBC News faint oedd hi yn cael ei thalu.

(Gweler rhyw 5munud drwyodd)
http://www.youtube.com/watch?v=Y6AnZLm2Zvg

Y ffaith bod cryn gymaint o "anchors" newyddion BBC yn cael bron dwbl cyflog ACau (neu dwbl pres y cyhoedd) yn neud fi'n drist iawn.

Tydi £55k ddim yn swm enfawr hydnod yng Nghymru, i dalu y rhai sydd yn gorfod gwneud rhai o'r penderfyniadau pwysicaf iddom. Neu efallau ma rhai o'r bobl yn y voxpops eisiau mynd yn dol i'r drefn lle mond yr cyfoethocaf yn ein cymdeithas oedd yn gallu fforddio mynd yn wleidyddion llawn amser.

Anonymous said...

Clywech clywch - cytuno'n llwyr efo Cai a pawb sydd wedi cynnig sylwadau uchod. Ydi'r Beeb am ofyn barn y blydi "People's Assembly" crap na sydd gannddyn nhw?

Anonymous said...

Cais Rhyddig Gwybodaeth diddorol fe dybiwn ?