Thursday, April 21, 2011

Ysgolion dwyieithog

Oes yna unrhyw un all egluro i mi beth ydi ystyr y frawddeg ganlynol?

We will consider carefully

the success of schools that offer the

curriculum in both our national

languages and see how this model could

be expanded.
Y rheswm pam bod y mater o bwys ydi ei fod yn ymddangos yn maniffesto'r Blaid Lafur, ac mae'n debygol y bydd y blaid honno mewn grym mewn rhyw ffordd neu'i gilydd wedi Mai 5.

Mae yna sawl ffordd y gellir ei dehongli, ond un ffordd y gellir gwneud hynny ydi yng nghyd destun sefydlu cyfundrefn fyddai'n rhwystro twf ysgolion Cymraeg trwy sefydlu yn eu lle ysgolion gyda ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg. Efallai mai'r strategaeth Patel y dylid galw'r math yma o beth, ar ol Ramesh Patel - yr unig ddyn yng Nghymru sy'n meddwl bod ysgolion dwyieithog yn gweithio.

3 comments:

Adam Jones said...

Fel Myfyriwr yn Ysgol 'Dwyieithog' Dyffryn Aman fydd yn gadael ar y 13 o fai allai ond a gweud un peth, dwi methu aros cael gadael y mor o Seisnigrwydd sydd yn bodoli yno, Dyw ysgolion dwyieithog ddim yn gweithio does yr ots beth wedith neb, dyma ffordd llafur o beidio a chefnogi'r iaith mewn realiti ond ceisio ffugio eu bod yn. Ardal Dyffryn Aman wedi troi yn ardal Plaid Cymru yn ddiweddar ond roedd yn hen ardal Llafur i'r carn (nifer o'r hen bobl dal yn pleidleisio llafur achos dyna beth maent wedi arfer) pobl fel hyn sydd yn lladd yr iaith yn Nyffryn Aman. (Sori i droi hwn yn benodol ar ddyffryn Aman) ond mae ond yn profi bod y Blaid Lafur ddim yn gefnogol i ehangu'r Gymraeg ym maes addysg, shgwlwch ar Shir Gar, llafur a'r annibynnol yn rhedeg y cyngor mewn sir lle mae 75% yn derbyn eu haddysg Gynradd yn Gymraeg, dim ond rhyw 39% sydd yn derbyn addysg Uwchradd yn Gymraeg, sir yn amwys (llafur yn amwys) y Gymraeg wedyn yn colli tir.

Plaid Gwersyllt said...

Dyma ydy agwedd y Blaid Lafur yn Wrecsam hefyd, ysgolion dwyieithog a DDIM rhai Cymraeg.

Anonymous said...

ysgolion dwyieithog urdu a saesneg mae Mr Patel eisiau mae'n siwr