Saturday, July 16, 2011

Ychydig mwy am gynllun 'di duedd' Peter Hain

Diolch i Dylan am dynnu fy sylw at y ffaith fy mod yn gwneud cam  efo Peter Hain trwy ddweud ei fod eisiau gostwng y nifer o aelodau cynulliad o 60 i 30.  Ymddengys mai ei gynllun ydi cael dau aelod wedi eu hethol trwy FPTP i pob etholaeth newydd - cynllun fyddai'n cadw'r nifer fel ag y mae ar hyn o bryd - sef 60.

Trefn debyg i hon a geir mewn etholiadau cyngor mewn rhannau trefol o Gymru.  Un o'i nodweddion ar y lefel honno ydi ei bod yn sobor o anheg - er enghraifft cafodd Llafur dair sedd allan o dair yn ward Treganna yn etholiadau Cyngor Caerdydd yn 2008 gyda llai na 40% o'r bleidlais.  Tros y ddinas cafodd y Lib Dems fwy na dwy waith cymaint o seddau na'r Toriaid a Llafur er i'r pleidiau hynny gael pleidlais digon tebyg.

Dydw i ddim yn gwneud cam a Peter fodd bynnag pan 'dwi'n dweud nad oes yna sail i'w honiad cwbl orffwyll ac anwybodus nad oes tystiolaeth' y byddai FPTP yn ffafrio Llafur yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth yn llethol.  Ystyrier, er enghraifft, etholiadau San Steffan yng Nghymru rhwng 1918 a 2010:


Etholiad Canran Llafur o'r pleidleisiau Canran Llafur o'r seddi
1918 21.20% 27.77%
1922 40.70% 50%
1923 41.99% 52.70%
1924 40.60% 45.70%
1929 43.80% 69.44%
1931 41.70% 41.66%
1935 45.40% 50%
1945 58.30% 69.44%
1950 58.10% 75%
1951 60.50% 75%
1955 57.60% 75%
1959 56.40% 75%
1964 57.80% 77.70%
1966 60.70% 88.80%
1970 51.60% 75%
1974 46.80% 66.60%
1974 49.50% 63.80%
1979 48.60% 61.10%
1983 37.50% 52.60%
1987 45.10% 63.10%
1992 49.50% 71%
1997 54.80% 85%
2001 48.60% 85%
2005 42.70% 72.50%
2010 36.20% 65%

O 25 etholiad llwyddodd Llafur i gael mwy o seddi na'u haeddiant ar 24 achlysur.  1931 oedd yr eithriad, a hyd yn oed bryd roedd eu canran o'r seddi yn cyfateb a'u canran o'r bleidlais fwy neu lai yn union.  Ar dri achlysur yn unig y cafwyd llai na hanner y seddi - ac 1931 oedd y tro diwethaf i hynny ddigwydd.  Felly cafodd Llafur fwy na hanner y seddi ar 22 achlysur er iddynt ond llwyddo i gael mwy na hanner y pleidleisiau 9 gwaith.

Pedwar etholiad Cynulliad a gafwyd ers 1999, ac mae'r patrwm o or wobreuo Llafur hyd yn oed yn fwy amlwg amlwg yma:


Etholiad Canran Llafur o'r pleidleisiau Canran Llafur o'r seddi uniongyrchol
1999 37.60% 67.50%
2003 40.00% 76%
2007 32.20% 60.00%
2010 42.30% 70.00%


Felly roedd Llafur yn cael llai o lawer na 50% o'r bleidlais, tra'n cymryd mwy o lawer na 50% o'r seddi FPTP ar pob achlysur.

Mae dyn yn cydnabod bod Peter Hain wedi ymladd yn ddewr yn erbyn sustem aparteid ei wlad gynhenid, ond mae'n anodd peidio meddwl weithiau iddo fethu cael gwared o'i wneuthuriad seicolegol  feddylfryd draddodiadol y wlad honno o fod eisiau trefn etholiadol sy'n rhoi grym i'r un plaid yn dilyn pob etholiad.

No comments: